CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Gwasanaethau

Hynafiaethau Cludadwy a'r Ddeddf Drysor


Portable Antiquities Scheme

Portable Antiquity scheme regions in England and Wales

Cynllun Cofnodi Hynafiaethau Cludadwy yng Nghymru

Bob blwyddyn ym Mhrydain mae miloedd lawer o wrthrychau archaeolegol yn cael eu darganfod, y rhan fwyaf gan bobl yn defnyddio synwyryddion metel ond hefyd gan bobl sy'n mynd am dro neu'n cloddio yn yr ardd neu'n gweithio. Ac eto dim ond cyfran fechan o'r darganfyddiadau hyn a welir byth gan amgueddfeydd neu gan archaeolegwyr maes, sydd yn golygu bod llawer o wybodaeth am ein gorffennol a allai fod o bwys yn cael ei cholli. Er mwyn ceisio ateb y broblem hon mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno nifer o gynlluniau lleol i hybu rhoi gwybod am Hynafiaethau Cludadwy. Yn dilyn llwyddiant pum cynllun yn Lloegr lansiwyd cynllun peilot ar gyfer Cymru gyfan ym mis Mawrth 1999, gyda'r nod o annog pobl i roi gwybod am a chofnodi'n wirfoddol gynifer o ddarganfyddiadau archaeolegol â phosibl er lles treftadaeth genedlaethol Cymru.

Dyma amcanion y cynllun

  • amcangyfrif faint o wrthrychau sy'n cael eu darganfod ar draws Cymru, a pha adnoddau y byddai eu hangen er mwyn eu cofnodi i gyd
  • sefydlu system ar gyfer cofnodi daganfyddiadau archaeolegol
  • annog a hybu arferion cofnodi da ymhlith darganfyddwyr
  • cryfhau cysylltiadau rhwng defnyddwyr synwyryddion metel ac archaeolegwyr
  • gwella ein gwybodaeth o hanes ac archaeoleg Cymru

I gyflawni hyn, mae'r cynllun yn bwriadu cofnodi pob gwrthrych, ni waeth o beth y'i gwnaed, a ddarganfyddir gan aelod o'r cyhoedd yn unrhywle yng Nghymru - nid yn unig wrthrychau metel a ddarganfyddir gan ddefnyddwyr.

Pwy sy'n gysylltiedig â'r cynllun?
Rheolir y cynllun peilot yng Nghymru gan Gyngor Amgueddfeydd Cymru ac fe'i trefnir yn genedlaethol gan Gydlynydd Darganfyddiadau yn Amgueddfeydd & Orielau Cenedlaethol Cymru gyda chymorth rhanbarthol y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol gyda rhwydwaith o amgueddfeydd a swyddfeydd cofnodi'n gweithredu fel canolfannau cofnodi lleol. Rhyngddynt bydd y cyrff hyn yn casglu, dadansoddi a dosbarthu gwybodaeth am bob darganfyddiad y rhoddir gwybod iddynt amdanynt dros gyfnod o ddeunaw mis.

Isod rhoddir amlinelliad o'r ffordd y bydd y cynllun yn gweithio yn ardal Clwyd-Powys.

Beth ddylwn i wneud os deuaf o hyd i rywbeth?
Ewch â'ch darganfyddiad i un o'r canolfannau adrodd dynodedig a restrir isod a byddant yn ei archwilio. Bydd gan bob un o'r canolfannau hyn fynediad i rywun a ddylai fedru dweud wrthych beth yw'r darganfyddiad a pha mor bwysig ydyw. Bydd y ganolfan adrodd hefyd eisiau cofnodi manylion penodol amdanoch chi a'ch darganfyddiad.

Map of reporting centres

Dyma'r canolfannau adrodd yn ardal Clwyd-Powys area:

Canolfannau adrodd lleol

  • Ann Williams, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Swyddfeydd Dinesig,Bae Colwyn , LL29 8AR Tel. 01492 575371
  • Rose McMahon, Swyddfa Gofnodion Sirol Sir Ddinbych, 46 Clwyd Street, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1HP Tel. 01824 708223
  • Stephen Grenter, Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Adeiladau'r Goron, Regent Street, Wrecsam, LL11 1RB Tel. 01978 358916
  • Eva Bredsdorff, Powysland, The Canal Wharf, Trallwng, Powys, SY21 7AQ Tel. 01938 554656
  • Rachel Sholl, Amgueddfa Sir Faesyfed, Temple Street, Llandrindod , Powys, LD1 5DL Tel. 01597 824513
  • David Moore, Amgueddfa Sir Frycheiniog, Captain's Walk, Aberhonddu, Powys, LD3 7DW Tel. 01874 624121

Cydlynydd Rhanbarthol,

  • Phil Copleston, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys, 7a Stryd yr Eglwys, Trallwng, Powys, SY21 7DL Tel. 01938 553670, ffacs 01938 552179, e-bostphilc@cpat.demon.co.uk

Cydlynydd cenedlaethol,

  • Philip Macdonald, Cydlynydd Darganfyddiadau Cymru, Adran Archaeoleg & Niwmismateg, Amgueddfeydd & Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF1 3NP Ffôn. 01222/02920 573226.

Os na fedrwch gysylltu ag un o'r canolfannau hyn neu os nad ydych yn sicr beth ddylech ei wneud, bydd Swyddog Rheoli Treftadaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn falch o'ch cynghori.

Bone point

Pa fath o ddarganfyddiadau y dylwn i roi gwybod amdanynt?
Yn y lle cyntaf, fe hoffem wybod am bopeth rydych chi wedi ei ddarganfod - nid yn unig wrthrychau metel neu bethau 'a allai fod yn ddiddorol'. Ymhen amser, mae'n debyg y byddwn yn peidio â chofnodi gwrthrychau modern ond fe hoffem wybod am bopeth yn y lle cyntaf, er mwyn medru amcangyfrif faint o wrthrychau sy'n cael eu darganfod yng Nghymru. Hoffem erfyn arnoch i adael i staff y canolfannau adrodd benderfynu a yw gwrthrych yn bwysig, yn enwedig os nad ydych yn sicr beth ydyw. Er enghraifft, fe allai eich tamaid o fetel diddim fod yn rhan o ingot o'r Oes Efydd a gallai fod o bwys archaeolegol. Mae darganfyddiadau eraill, fel fflintiau, crochenwaith a gwydr triniedig hefyd yn archaeolegol bwysig ac felly dylid eu dangos i staff y ganolfan.

Ers i'r Ddeddf Drysor gael ei chyflwyno ym 1997 (gweler isod), dylech gofio hefyd y byddwch yn torri'r gyfraith os na fyddwch yn rhoi gwybod am ddarganfod bron unrhyw wrthrych a wnaed o fetel gwerthfawr (gan gynnwys llawer math o ddarn arian) felly os ydych yn ansicr o gwbl... rhowch wybod amdano!

Sut bydd fy narganfyddiad yn cael ei gofnodi?
Mae'n bwysig bod y ganolfan adrodd yn cofnodi disgrifiad cryno o'r gwrthrychau a ddarganfuwyd gennych. Byddant hefyd yn gobeithio cofnodi ble y darganfuwyd hwy mewn modd mor fanwl â phosibl fel bod modd dysgu mwy am y cyd-destun archaeolegol.

Spindle whorl

Efallai y bydd yn bosibl i'r ganolfan adrodd adnabod a chofnodi eich gwrthrychau yn y fan a'r lle, ac wedyn gellwch fynd â nhw gyda chi. Ond, gyda'ch caniatâd chi, mae'n bosibl y bydd y ganolfan adrodd eisiau tynnu ffotograff neu wneud darlun ohonynt neu geisio barn rhywun arall, ac felly byddant yn gofyn i chi adael y darganfyddiadau gyda hwy tra byddant yn gwneud hyn. Fe roddant dderbynneb i chi am unrhyw beth a adewir gennych.

Bydd yr holl wybodaeth a gesglir gan y ganolfan adrodd yn cael ei throsglwyddo i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys a fydd yn ei chynnwys mewn data-bas a ddefnyddir gan gydlynwyr y cynllun. Bydd CPAT hefyd yn copïo peth o'r wybodaeth hon i'r Cofnod o Safleoedd a Henebion. Fel arfer, ni fydd gwybodaeth fanwl am leoliad y darganfyddiadau ar gael ond i gydlynydd y cynllun (Swyddog Cydlynu Darganfyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru), Cofnod o Safleoedd a Henebion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys a chyrff statudol eraill fel Cadw: Welsh Historic Monuments a'r Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru, ac er ei bod yn bosibl y bydd unrhyw un o'r rhain eisiau defnyddio'r data o fewn eu cyrff eu hunain, ni fyddant yn gadael i unrhyw wybodaeth amdanoch chi nac am eich darganfyddiad fod ar gael i'r cyhoedd os nad ydych yn dymuno iddynt wneud hynny.

Bronze axe heads

Y bwriad yw cyhoeddi gwybodaeth gryno am ddarganfyddiadau a mannau darganfod ar y Rhyngrwyd (gweler 'Cynllun Hynafiaethau Cludadwy' ar ein tudalen Cysylltiadau page), ond ar hyn o bryd ni roddir mwy o wybodaeth am y mannau darganfod gwrthrychau na dweud ym mha gymuned y darganfuwyd hwy. Gellir rhoi cyfeirnod grid pedwar ffigwr neu fanylion cyffredinol tebyg i ymchwilwyr academaidd a fyddai'n hoffi cael gwybodaeth fwy manwl. Yn y man, mae'n bosibl y bydd staff amgueddfeydd a'r Ymddiriedolaeth eisiau cyhoeddi gwybodaeth am ddarganfyddiadau pwysicach neu fwy anarferol y rhoddwyd gwybod amdanynt dan y cynllun, ond trafodir hyn yn llawn gyda'r darganfyddwyr/perchnogion yn gyntaf.

Y nod yw sicrhau bod cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl ar gael, gan ddiogelu safleoedd archaeolegol rhag difrod ar yr un pryd. Diogelir eich gwybodaeth bersonol dan y Ddeddf Diogelu Data (1984).

Mae taflen wybodaeth Recording Our Past (arweiniad i flaengaredd y Llywodraeth i hybu cofnodi darganfyddiadau archaeolegol yn wirfoddol yn Lloegr a Chymru) a Portable Antiquities: Annual Report 1997-98 yn egluro hyn yn fwy manwl. Gellir cael y ddau hyn a gwybodaeth bellach am y cynllun oddi wrth Philip Macdonald, Cydlynydd Darganfyddiadau Cymru, Adran Archaeoleg & Niwmismateg, Amgueddfeydd & Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF1 3NP Ffôn. 01222/02920 573226 neu'r Department for Culture, Media and Sport, 2-4 Cockspur Street, Llundain, SW1Y 5DH.

Y Ddeddf Drysor (1996)

Gold bracelets

Mae'r Cynllun Cofnodi Hynafiaethau Cludadwy a drafodwyd uchod yn gynllun hollol wirfoddol sy'n annog pobl i roi gwybod am eu darganfyddiadau. Fodd bynnag, dan Ddeddf Drysor 1996 mae'r gyfraith yn mynnu bod rhaid i bawb roi gwybod am Drysor neu'r hyn a allai fod yn Drysor yn eu barn hwy. Daeth y Ddeddf i rym ar 24 Medi 1997 gan ddisodli deddf gyffredin Trysor Darganfyddedig. Llundain

Isod ceir crynodeb anniffiniadol o'r Ddeddf Drysor a luniwyd gan CPAT ac nid oes iddo rym cyfreithiol - gellir cael gwybodaeth am Drysor a Thrysor Darganfyddedig gan Adran Archaeoleg & Niwmismateg, Amgueddfeydd & Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF1 3NP Ffôn. 01222/02920 573226 neu'r Department for Culture, Media and Sport, 2-4 Cockspur Street, Llundain, SW1Y 5DH.

Dan y Ddeddf diffinnir 'Trysor' fel a ganlyn:

  1. Nid darnau arian. Pob gwrthrych sy'n cynnwys o leiaf 10% o aur neu arian ac sydd o leiaf 300 mlwydd oed pan darganfyddir ef.
  2. Darnau arian. Pob darn arian o'r un darganfyddiad ar yr amod eu bod o leiaf 300 mlwydd oed pan ddarganfyddir hwy (ond os bydd y darnau'n cynnwys llai na 10% o aur neu arian mae'n rhaid bod o leiaf 10 ohonynt).
  3. Gwrthrychau cysylltiedig. Unrhyw wrthrych, ni waeth o beth y'i gwnaed, a ddarganfyddir yn yr un lle neu a fu unwaith gyda gwrthrych arall sy'n drysor.
  4. Gwrthrychau a fyddai wedi bod yn drysor darganfyddedig. Unrhyw wrthrych a fyddai wedi bod yn 'drysor darganfyddedig' o'r blaen ond nad yw'n perthyn i unrhyw un o'r categorïau penodol a roddwyd uchod. Rhaid bod y gwrthrychau hyn wedi eu gwneud i raddau helaeth o aur neu arian, mae'n rhaid iddynt fod wedi eu claddu gyda'r bwriad o gael eu hadennill ac ni ellir olrhain eu perchennog na'u hetifeddion.

Mae gwrthrych neu ddarn arian yn rhan o'r un darganfyddiad â gwrthrych neu ddarn arian arall os deuir o hyd iddo yn yr un lle â gwrthrych arall neu os gadawyd ef gyda gwrthrych arall. Mae'n bosibl y bydd darganfyddiadau wedi eu gwasgaru ers iddynt gael eu gadael yn y ddaear yn wreiddiol. Fodd bynnag, nid yw darnau arian unigol a ddarganfyddir ar eu pennau eu hunain yn drysor. Dim ond y grwpiau canlynol o ddarnau arian a ystyrir fel rhai sydd wedi dod o'r 'un darganfyddiad':

  • celciau a guddiwyd yn fwriadol
  • grwpiau llai o ddarnau arian, fel cynnwys pwrs, y gellid bod wedi eu gollwng neu eu colli
  • celc-offrwm neu gelc defodol

Nid yw'r canlynol yn Drysor:

  • gwrthrychau y gellir olrhain eu perchnogion
  • gwrthrychau naturiol nas triniwyd, hyd yn oed os darganfuwyd hwy gyda thrysor
  • gwrthrychau o'r blaen traeth a ddiffinnir yn gyfreithiol fel 'drylliad'

Os nad ydych yn sicr, y peth diogelaf mae'n debyg fyddai rhoi gwybod am eich darganfyddiad. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r crwner dosbarth am bob Trysor a ddarganfyddir yn y dosbarth lle darganfyddir ef un ai o fewn 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y daethoch o hyd iddo neu o fewn 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y bu i chi sylweddoli y gallai fod yn drysor (er enghraifft, o ganlyniad i gael gwybod beth ydyw gan rywun arall). Ni fyddwch yn torri'r gyfraith trwy beidio â rhoi gwybod am ddarganfyddiad oherwydd nad ydych yn sylweddoli i ddechrau y gallai fod yn drysor, ond fe allech fod yn torii'r gyfraith os na rowch wybod amdano unwaith i chi gael gwybod mai trysor ydyw.

Mae'r rhwymedigaeth i roi gwybod am ddarganfyddiadau'n berthnasol i bawb. Gall methu rhoi gwybod am ddarganfyddiadau o'r fath, heb reswm da, arwain at garchar am hyd at dri mis neu ddirwy (£5000 ar hyn o bryd), neu'r ddau.

Gellwch roi gwybod am eich darganfyddiad i'r crwner yn bersonol, trwy lythyr, dros y ffôn neu drwy ffacs. Bydd y crwner yn anfon cydnabyddiath atoch ac fel arfer bydd yn dweud wrthych am fynd â'ch darganfyddiad i amgueddfa leol (ceir rhestr isod) neu gorff archaeolegol lleol (sef CPAT fel arfer yn ardal Clwyd-Powys). Bydd y corff sy'n derbyn yn rhoi derbynneb i chi. Er y byddant eisiau gwybod ble y daethoch o hyd i'r gwrthrych a manylion eraill amdanoch chi, bydd y wybodaeth hon yn gyfrinachol os dyna'ch dymuniad chi a'r tirfeddiannwr. Rhoddir gwybod i Gofnod o Safleoedd a Henebion Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys cyn gynted â phosibl, fel bod modd archwilio'r safle lle gwnaed y darganfyddiad gan archaeolegwyr os oes angen.

Os bydd un ai Amgueddfeydd & Orielau Cenedlaethol Cymru neu amgueddfa leol yn dymuno caffael y gwrthrych, bydd y crwner yn cynnal cwêst i benderfynu ai Trysor ydyw. Bydd y crwner yn rhoi gwybod am y cwêst i'r darganfyddwr ac i unrhyw berson cysylltiedig arall, a bydd ganddynt hawl i fod yn bresennol ac i holi tystion. Os penderfynir bod y darganfyddiad yn Drysor, rhoddir pris arno ar ran y Department of Culture Media and Sport (DCMS), gan bwyllgor o dystion annibynnol. Os nad oes gwrthwynebiad i'r pris a roddir, bydd y DCMS yn anfon anfoneb at yr amgueddfa sydd am gaffael y gwrthrych a phan dderbynnir y taliad fe delir gwobr i'r darganfyddwr. Pennir lefel y wobr hon gan y crwner ond ni bydd yn fwy na'r pris a roddir gan yr arbenigwyr annibynnol.

Os penderfynir nad yw'r darganfyddiad yn drysor, neu os nad oes ar unrhyw amgueddfa eisiau ei gaffael, yna fe'i diarddelir. Yna bydd y crwner yn rhoi gwybod i bawb sy'n gysylltiedig, fel perchennog y tir lle darganfuwyd y gwrthrych, am ei fwriad i ddychwelyd y darganfyddiad i'r darganfyddwr. Os na bydd gwrthwynebiad i hyn, fe ddychwelir y darganfyddiad.

Mae'n bosibl y bydd amgueddfeydd yn dal am gaffael gwrthrychau a ddychwelir i ddarganfyddwyr oherwydd eu bod o ddiddordeb lleol neu genedlaethol, ac efallai y byddant yn cysylltu â hwy gyda hyn mewn golwg; nid yw hyn o fewn amodau'r Ddeddf.

Map of coroners and reporting centres

Crwneriaid lleol ardal Clwyd-Powys:

  • J B Hughes, Coroner, Gittins McDonald, Marbel Ho, Overton Arc, Stryd Fawr, Wrecsam, LL13 8LL Ffôn. 01978 357775 Ffacs. 01978 368000 (ar ran Bwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
  • G U Williams, Coroner, Jefferys and Powell, 4 Lion Street, Brecon, Powys, LD3 7AU Ffôn. 01874 622106 (ar ran Powys)

Canolfannau adrodd ardal Clwyd-Powys:

  • Amgueddfa Llandudno, 17-19 Gloddaeth Street, Llandudno, Conwy, LL30 2DD Tel. 01492 876517
  • Llyfrgell, Amgueddfa & Chanolfan Gelf y Rhyl, Church Street, Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 3AA. Ffôn 01745 353814
  • Llyfrgell, Amgueddfa & Oriel Sir Ddinbych, Hall Square, Dinbych , LL16 3NU Ffôn. 01745 816313
  • Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Adeiladau'r Sir, Regent Street, Wrecsam, LL11 1RB Ffôn. 01978 358916
  • Amgueddfa Powysland, The Canal Wharf, Trallwng, Powys, SY21 7AQ Ffôn. 01938 554656
  • Amgueddfa Sir Faesyfed, Temple Street, Llandrindod , LD1 5DL Ffôn. 01597 824513
  • Amgueddfa Sir Frycheiniog, , Captain's Walk, Aberhonddu, Powys, LD3 7DW Ffôn. 01874 624121

I gael gwybodaeth bellach dylech ymgynghori â'r canlynol:
Y Ddeddf Drysor: Gwybodaeth i ddarganfyddwyr trysor (maint A4, taflen tudalennau plyg)
Deddf Drysor 1996: Cod Ymarfer - Lloegr a Chymru (78 tudalen, llyfryn maint A5)

Mae'r ddau ar gael am ddim, yn Gymraeg a Saesneg, gan Amgueddfeydd & Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF1 3NP neu'r Department for Culture, Media and Sport, 2-4 Cockspur Street, Llundain, SW1Y 5DH.

I gael gwybodaeth bellach a chyngor cysylltwch â Phil Copleston os gwelwch yn dda yn y cyfeiriad hwn.