Cymraeg / English
|
Cofnod yr Amgylchedd HanesyddolHawl y Cyhoedd i Weld a Chyfleusterau ChwilioHawl y Cyhoedd i WeldRydym yn croesawu ymholiadau ynghylch amgylchedd hanesyddol gogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru. Gallwch wneud hyn drwy lythyr, dros y ffôn, dros y ffacs neu drwy e-bost. Gofynnir i bawb sy'n gwneud ymholiadau lenwi ffurflen gais ar gyfer ein cofnodion, ac mae'r rhain ar gael ar gais. Neu gallwch wneud cais am wybodaeth trwy lenwi'r ffurflen ymholiadau ar dudalen Ffurflen Ymholiadau Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol. At ddibenion gweinyddol, ac er mwyn atal camddefnyddio gwybodaeth, gofynnwn i bob defnyddiwr ddweud wrthym pam eu bod yn gwneud ymholiadau, a chytuno ar ein hamodau a thelerau hawl i weld (gwelwch Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru Canllawiau ar gyfer Hawl i Weld a Chodi Tal). Pan fydd yr ymholwr yn ffacsio ffurflen gais i'r HER, fe ddylai hefyd ffonio i gadarnhau bod y ffacs wedi'i dderbyn. Unwaith y bydd y wybodaeth wedi'i dwyn ynghyd, fe fydd yn cael ei throsglwyddo i'r ymholwr trwy'r cyfrwng mwyaf addas, naill ai yn electronig trwy e-bost, neu drwy'r post. Gellir casglu deunydd o swyddfeydd CPAT os gwneir trefniadau ymlaen llaw. Cyfeiriad Post - Ffôn - 01938 553670 Ffacs - 01938 552179 E-bost - ffurflen ymholiadau Wefan - tudalen Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Unwaith y bydd y wybodaeth wedi'i dwyn ynghyd, fe fydd yn cael ei throsglwyddo i'r ymholwr trwy'r cyfrwng mwyaf addas, naill ai yn electronig trwy e-bost, neu drwy'r post. Gellir casglu deunydd o swyddfeydd CPAT os gwneir trefniadau ymlaen llaw. Oriau agoriadol - Dydd Llun i Dydd Gwener 10yb i 12yp a 2yp i 4yp. Deddf Diogelu Data (1998) - Cyfleusterau Chwilio Gallwch ddefnyddio'r llyfrgell a'r ystafell gyfarfodydd yn 7a Stryd yr Eglwys i astudio amrywiaeth o lyfrau, cylchgronau, ffotograffau, mapiau, lluniadau a dogfennau printiedig sy'n ymwneud ag archaeoleg a hanes. Mae yna gyfleusterau llungopïo a sganio ar gael. Mae yna gyfleusterau toiled ar gael. Mynediad i'r Anabl |