Cymraeg / English
|
Cofnod yr Amgylchedd HanesyddolBeth yw'r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol?Data-bas ac archif o wybodaeth am safleoedd a prosiectau o ddiddordeb archaeolegol a hanesyddol o fewn ardal Clwyd-Powys yw Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol (HER) Rhanbarthol CPAT. Mae gennym gofnodion o safleoedd archaeolegol o bob cyfnod gan amrywio o'r anheddau dynol cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru hyd at nodweddion cymharol ddiweddar fel adeileddau milwrol yr Ail Ryfel Byd. Mae gennym wybodaeth am Adeiladau Rhestredig ac adeileddau rhestredig, Henebion Cofrestredig, mannau darganfyddiadau unigol, a nodweddion archaeolegol eraill, o safleoedd adnabyddus yr ymwelir â hwy'n aml i nodweddion tirwedd llai amlwg fel cloddiau caeau ac olion amaethu.
De: Dangosir yr ardal a gynhwysir yng Nghofnod yr Amgylchedd Hanesyddol CPAT mewn gwyrdd ar y map hwn o Gymru Mae cyfoeth o hanes ac archaeoleg yn yr ardal a gynhwysir yn yr HER. Ar hyn o bryd, mae ein data-bas yn cynnwys cofnodion o ychydig dros 100,000 safleoedd a prosiectau, ond nid yw'n gyflawn o bell ffordd. Mae gwaith maes ac ymchwil yn darganfod safleoedd newydd yn rheolaidd, yn ogystal â gwybodaeth newydd am yr adnodd archaeolegol hysbys. Cyflogir swyddog HER amser-llawn i geisio diweddaru'r cofnodion gymaint â phosibl. Cefnogir y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol gan y Comisiwn Brenhinol Henebion yng Nghymru (RCAHMW) a chan Cadw ac fe'i mabwysiadwyd gan bob un o'n hawdurdodau lleol fel eu Cofnod o Safleoedd a Henebion Sirol. Data-bas o safleoedd ar gyfrifiadur yw rhan o'r HER. Ar gyfer pob safle cofnodir gwybodaeth allweddol fel ei enw, lleoliad, math o safle, cyfnod a statws cyfreithiol. Cofnodir disgrifiad cryno o'r olion hefyd, ac rydym yn cadw rhestr o adnoddau llyfryddiaethol a darganfyddiadau sy'n gysylltiedig â phob safle. Mae partneriaethau ag awdurdodau lleol yn golygu y gall yr HER ddefnyddio data digidol yr Ordnance Survey ar gyfer y rhan fwyaf o ardal Clwyd-Powys, ac felly gallwn ddefnyddio'r hyn a elwir yn 'Geographic Information System' (GIS) i weld ac i ddadansoddi'r cofnodion yn erbyn map digidol. Rydym yn cofnodi gwybodaeth arall yn y GIS, fel terfynau Henebion Cofrestredig a'r faint a'r manylion perthnasol o cloddiadau ac tirfesuriadau a wneud.
Mae bellach yn bosibl cyrchu Cofnodion o Amgylchedd Hanesyddol (CAH) Cymru ar-lein o gysur eich cartref eich hun! Archwilio yw’r system ar-lein i gyrchu Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Fe’i datblygwyd trwy bartneriaeth rhwng pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru i ddarparu mynediad cyhoeddus ehangach i’r adnodd gwerthfawr hwn. Gellir dod o hyd i fanylion safleoedd tra hysbys a rhai llai hysbys yma, yn ogystal â chofnodion a gynhyrchir trwy brosiectau archaeolegol. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwilio i’ch ardal leol, neu ddarganfod mwy am gyfnod hanesyddol penodol, mae hwn yn lle da i ddechrau. RHYBUDD! Lluniwyd Archwilio er mwyn i’r data gael eu defnyddio at ddibenion gwybodaeth ac ymchwil yn unig, ac ni cheir eu defnyddio at ddibenion rheoli datblygiad neu fel rhan o brosiect masnachol. Dylid cyfeirio ymholiadau o'r fath yn uniongyrchol at Swyddog y Cofnod o'r Amgylchedd Hanesyddol yn CPAT trwy lenwi ein ffurflen ymholi CAH (fformat Word) a'i hanfon mewn e-bost at Jeff Spencer, neu drwy ffonio neu anfon llythyr – mae'r manylion i'w cael yma. I gyd-fynd â'r HER cyfrifiaduredig mae gennym nifer sylweddol o archifau papur, mapiau a rhagor o wybodaeth ategol. Un peth sy'n werth ei grybwyll yw ein casgliad helaeth o awyrluniau ar osgo sy'n dangos olion archaeolegol a'r tirwedd o'u cwmpas dros y 30 mlynedd diwethaf. Beth yw ei swyddogaeth?Mae'r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i unrhyw un sydd â diddordeb yn archaeoleg a hanes gogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru, boed yn berson lleol, ymwelydd â'r ardal, neu'n fyfyriwr, a beth bynnag yw lefel eu diddordeb. Mae gan yr HER lawer o botensial fel ffynhonnell o ddata crai ar gyfer ymchwil a dadansoddi. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn mewn cynorthwyo gyda rheoli a chyflwyno'r tirwedd hanesyddol ac fe'i defnyddir yn ddyddiol gan unigolion, cyrff ac awdurdodau lleol i asesu goblygiadau archaeolegol datblygiadau arfaethedig yn yr ardal.
De: Castell Tinboeth, Powys - Castell o'r 13eg ganrif o fewn rhagfuriau bryngaer o'r Oes Haearn. © CPAT 88-C-87 Sut y gallwn eich helpu chiRydym yn gobeithio y gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth rydych yn chwilio amdani am archaeoleg ardal Clwyd-Powys trwy Archwilio, ond os nad yw’n ateb pob un o’ch cwestiynau’n llawn, rydym yn croesawu ymholiadau dilynol. Lawrlwythwch ein ffurflen ymholi CAH (fformat Word), ei llenwi a’i hanfon mewn e-bost at Jeff Spencer, neu cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy llythyr ac esbonio’r hyn yr hoffech gael gwybodaeth amdano. Mae’r manylion i’w cael yma. Os hoffech holi am safle neu ardal benodol, byddai rhoi Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yn help. Unwaith y byddwch wedi cysylltu â ni, gallwn roi unrhyw wybodaeth berthnasol i chi o'r data-bas o'r Amgylchedd Hanesyddol a byddwn yn medru asesu a yw'n werth i chi ymweld â ni i edrych ar adroddiadau, awyrluniau a chofnodion papur eraill. Gellir archebu copi o unrhyw un o'n awyrluniau os bydd angen.Fel arfer rhoddir gwybodaeth o'r Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol am ddim (yn unol â pholisi Mynediad a Chodi Tâl Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru) ond fel elusen gofrestredig buasem yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad y dymunwch ei wneud tuag at gostau ein gwaith.
Sut y gellwch chi'n helpu niRydym yn ymdrechu i ofalu fod y wybodaeth ddiweddaraf bosibl yn y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol a'i fod mor gyflawn a chywir â phosibl, ond mewn ardal mor eang gyda chynifer o safleoedd nid tasg hawdd mo hyn. Felly, rydym yn annog pawb i'n helpu i gyflawni hyn. Os ydym wedi anfon data atoch ac os nad yw'r wybodaeth yn gywir, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda. Os ydych yn gwneud gwaith ymchwil i unrhyw agwedd ar archaeoleg yr ardal hon, buasem yn ddiolchgar pe gallech adael i ni weld eich canlyniadau er mwyn i ni fedru cywiro'n cofnodion. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn cael gwybod am ddarganfyddiadau newydd yn yr ardal hon. Os dewch chi o hyd i arteffact neu safle nad ydych yn meddwl ein bod yn gwybod amdanynt, buasem wrth ein bodd pe baech yn cysylltu â ni. Chwith: Banc cerrig/terfyn cae orthostatig yn Rhaeadr Gwy, Powys. © CPAT CS90-13-23
|