CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Gwasanaethau

TIR GOFAL:
y cynllun amaethyddol-amgylcheddol i Gymru


Beth yw Tir Gofal?

Tir Gofal yw'r cynllun cyntaf yng Nghymru ac, yn wir, yn Ewrop, a anelir at hybu cadwraeth a rheolaeth fferm-gyfan. Mae'n wahanol i gynlluniau blaenorol gan ei fod yn dod â ffermio a chadwraeth i lefel wahanol o bartneriaeth.

CS0016

Mae Tir Gofal yn cefnogi ffermwyr wrth ddiogelu'r dreftadaeth archaeolegol a'r amgylchedd naturiol mewn un cynllun. Mae i Dir Gofal bedwar prif nod sef: Diogelu Cynefinoedd (annog bioamrywiaeth), Rheoli'r Tirwedd (diogelu nodweddion gwledig lleol), Nodweddion Hanesyddol ac Archaeolegol (diogelu safleoedd archaeolegol, adeiladau fferm traddodiadol a therfynau caeau, a nodweddion hanesyddol eraill) a Mynediad (mynediad y cyhoedd i lwybrau ar draws tir).

Mae Tir Gofal hefyd yn rhan o ddiwygiadau Agenda 2000 ar Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Y cynlluniau a'i rhagflaenodd yng Nghymru oedd Tir Cymen, Ardaloedd Amgylcheddol Sensitif, y cynlluniau Cynefinoedd, Rhostiroedd a Mynediad i'r Cefn Gwlad, y cynllun Grant Ffermydd a Chadwraeth ac eraill. Nid oedd yr un o'r rhain ar gael yn gyffredinol, roeddent yn eithrio llawer o ffermwyr ac nid oeddent yn cynnwys yr amgylchedd hanesyddol.

CS0015

Bydd y cynllun Cymorth Organig yn dal i weithredu ac efallai y cyfunir ef â'r cynllun Tir Gofal yn y dyfodol. Mae'n bosibl y bydd cytundebau dan gynlluniau rhan-fferm presennol, fel y cynlluniau Cynefinoedd a Rhostiroedd, yn dirwyn i ben ar unrhyw adeg ar yr amod bod cais llwyddiannus i ymuno â Thir Gofal yn cael ei wneud. Mewn cynlluniau â chymal torri, fel yr ESAau, terfynir y cytundebau pan ddaw'r amser torri er mwyn ymuno â Thir Gofal. Cysylltir y cynllun Grant Coetiroedd â Thir Gofal a bydd ei Swyddogion Prosiect yn medru cynnwys cynigion WGS yn y cynllun fferm-gyfan.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, datblygwyd cynlluniau o'r fath i gefnogi'r gymuned ffermio fel ceidwaid treftadaeth hanesyddol, ddiwylliannol a bywyd gwyllt amrywiol Cymru, a'u helpu i gynnal ffabrig y cefn gwlad ac adlewyrchu uchelgeision y cyhoedd o ran manteision amgylcheddol a gwell cyfleoedd i fwynhau'r cefn gwlad.

Pwy sy'n rheoli'r cynllun?

Gweinyddir Tir Gofal gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) mewn partneriaeth â'r Farming and Rural Conservation Agency (FRCA) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda chefnogaeth yr Awdurdod Coedwigoedd a Cadw. Mae adran Rheoli Treftadaeth CPAT yn cynghori CCGC ar y ffordd orau i reoli cydrannau archaeolegol o fewn y cynllun. Mae gan y cyrff hyn rhyngddynt flynyddoedd lawer o brofiad mewn gwahanol agweddau ar reoli'r cefn gwlad.

Pwy all wneud cais?

Mae Tir Gofal ar gael i'r rhai sydd yn gyfrifol am dir a ffermir, sef ffermwyr, deiliaid tir, tenantiaid neu berchnogion. Rhaid cynnwys y 'fferm gyfan', h.y. y busnes cyfan, a rhaid iddi fod yn dri hectar mewn maint o leiaf.

I beth rydw i'n cytuno?

Os derbynnir ef i'r cynllun, mae'n rhaid i berchennog y tir arwyddo cytundeb deng mlynedd (gyda chymal torri pum mlynedd) a chytuno i bedair elfen:

Rheolaeth Tir - ufudd-dod mandadol i'r adran fferm-gyfan a rheoli cynefinoedd allweddol, ac adfer neu greu'n opsiynol gynefinoedd neu nodweddion arbennig. Bydd gofyn i chi gynnal pob terfyn presennol, pob coeden, diogelu pob safle hanesyddol/archaeolegol, cadw pob adeilad traddodiadol yn ddiddos, peidio â symud brigiad creigiog, cadw'r fferm yn rhydd oddi wrth sbwriel, diogelu afonydd rhag draeniad, cadw hawliau tramwy ar agor, cytuno i derfynau ar stoc yr anifeiliaid, peidio â chyflwyno planhigion anfrodorol, a dilyn canllawiau arfer da NAWAD ar gyfer dwr/awyr/pridd.

Hefyd, mae opsiynau gwirfoddol, y gellwch eu cynnwys yn eich cynllun rheoli. Bydd arian ychwanegol ar gael i greu ac adfer cynefinoedd, mynediad newydd i dir a gaewyd, a gwella'r nodweddion tirwedd a hanesyddol, fel safleoedd archaeolegol, pyllau, pontydd ac adeiladau traddodiadol, ac yn y blaen.

Creu mynediad caniataol newydd - mae opsiynau gwirfoddol ar gael ar gyfer llwybrau mynediad unionlin newydd, mynediad caniataol i ardaloedd newydd neu i ddarparu mynediad i ddibenion addysgiadol.

Gwaith cyfalaf - bydd taliadau ar gyfer gwaith ychwanegol i ddiogelu a rheoli cynefinoedd a nodweddion ac i gefnogi darparu mynediad newydd.

Hyfforddiant i ffermwyr - bydd taliadau ar gyfer cyrsiau ar reoli cynefinoedd penodol fel tir gwlyb a choetir, a sgiliau ymarferol fel codi waliau sychion a phlannu gwrychoedd.

Beth yw'r weithdrefn ddewis?

Dewisir ceisiadau yn ôl faint o fudd amgylcheddol a gynigir ganddynt. Dyfeisiwyd gweithdrefn sydd yn ystyried nodweddion amgylcheddol presennol y fferm, a'r manteision a allai ddeillio o ddefnyddio opsiynau gwirfoddol i adfer neu greu cynefinoedd neu nodweddion. Cynlluniwyd y weithdrefn er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cynnig gwerth am arian a'i fod yn gweithredu'n deg ar draws Cymru gyfan. Bydd nifer y cytundebau newydd yn dibynnu ar faint o arian fydd ar gael.

Cyn cychwyn ar y cynllun, rhaid i ymgeiswyr posibl beidio ag ymgymryd ag unrhyw waith sy'n niweidiol i werth amgylcheddol y tir fel symud gwrychoedd, aredig neu wrteithio glaswelltir nas gwellwyd neu fewnlenwi ffosydd. Gallai gwaith o'r fath beri i'r cais gael ei wrthod.

Ym mha ffordd y cyflenwir y cynllun?

Bydd Swyddog Prosiect yn ymweld ag ymgeiswyr a ddewisir a bydd y Swyddog yn helpu i lunio cynllun penodol ar gyfer rheoli'r fferm gyfan o fewn y cynllun cyffredinol. Bydd y cynllun penodol hwn yn rhan o gytundeb rhwng CCGC a'r ymgeisydd. Gwneir taliadau rheoli bob chwe mis yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun ac yna'n flynyddol.

Swnio'n grêt! Sut mae gwneud cais?

Cysylltwch â CCGC am cyfarwyddyd a 'Pecyn i Ymgeiswyr':
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru - Prif Swyddfa, Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2LQ, Ffôn. 01248 385500.

    Neu ewch i Wefan CCGC

Yn ail, darllenwch drwy eich pecyn cais Tir Gofal, a ddylai gynnwys Llawlyfr y Ffermwyr, canllaw i wneud cais, nodiadau am dalu, a ffurflen gais. Gofalwch eich bod yn llenwi'r ffurflen gyda chymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl a'i hanfon cyn y dyddiad cau! Ar sail y wybodaeth a gynhwysir gennych, bydd CCGC yn medru rhoi sgôr i'ch fferm chi yn ôl meini prawf a osodir allan yn glir (ac a eglurir yn llawnach yn y Pecyn i Ymgeiswyr) i benderfynu a fyddwch yn cael eich derbyn i'r cynllun Tir Gofal.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os byddwch yn llwyddiannus, bydd CCGC yn rhoi gwybod i chi ac yna gellwch ddisgwyl ymweliadau oddi wrth eu Swyddogion Prosiect Tir Gofal ac archaeolegwyr CPAT i fapio gwahanol agweddau ar eich fferm. Dylai hyn arwain at gynllun penodol ar gyfer rheoli'r fferm gyfan o fewn y cynllun cyffredinol.

Alla' i gael help i adnabod y nodweddion hanesyddol ar fy nhir?

CS003

Gellwch. Bydd CPAT yn falch o roi cyngor i chi ar y nodweddion amgylcheddol hanesyddol a allai fod yn eich daliadaeth, a sut y dylid eu dosbarthu, CYN i chi lenwi'r ffurflen gais ar gyfer Tir Gofal. Cofiwch, mae hyn yn cynnwys nid yn unig y mathau adnabyddus o safle archaeolegol neu henebion maes ond eich holl adeiladau fferm traddodiadol, waliau caeau a mân nodweddion eraill hefyd. Mae gennym gofnodion helaeth o dros 36,000 o safleoedd archaeolegol, mapiau a chynlluniau, awyrluniau a ffynonellau cyfeiriol ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru. Gallwn eich cynghori chi hefyd ar beth a olygir wrth "draddodiadol" yn y cyd-destun hwn. Gallai gwneud ymholiad i CPAT cyn i chi wneud cais gryfhau eich cais i'r cynllun Tir Gofal.

Dylid anfon MAP O'R FFERM gyda'ch ymholiad cyn i chi wneud cais, gan ddangos yn glir pa gaeau ac adeiladau ac yn y blaen sydd i'w cynnwys yn eich cais (a pha rannau nas cynhwysir). Yna gallwn gymharu terfynau eich caeau â'r safleoedd archaeolegol hysbys yn ein cofnodion. Gellir anfon ymholiadau a mapiau drwy'r post, ffacs neu ebost.

Nid yw ein cofnodion yn rhestru pob safle archaeolegol, dim ond y rhai hynny y gwyddwn amdanynt oherwydd gwaith maes ac ati yn y gorffennol. Os gwyddoch chi am nodweddion archaeolegol neu adeiladau 'traddodiadol' eraill neu rai posibl - rhowch wybod i ni amdanynt os gwelwch yn dda.

Pob hwyl gyda'ch cais!

I gael gwybodaeth a chyngor pellach cysylltwch os gwelwch yn dda â Swyddog Rheoli'r Ymddiriedolaeth yn y cyfeiriad hwn.