Cymraeg / English
|
|
Ymddiriedolaethau Archaeolegol CymruSefydlwyd y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru yng nghanol yr 1970au i ymateb i ofynion prysur gynyddol archaeoleg achubol ac i ddarparu gwasanaeth archaeolegol leol unffurf ar draws Cymru gyfan. Mae'r Ymddiriedolaethau, a seiliwyd ar ardal siroedd Clwyd-Powys, Dyfed, Morgannwg-Gwent a Gwynedd, bellach yn darparu amrediad eang o wasanaethau archaeoleg a threftadaeth yn eu priod ardaloedd - o gynnal y Cofnodion o Safleoedd a Henebion a darparu cyngor rheoli archaeolegol a gwasanaethau addysgol i arolygon maes, cloddiadau a dehongli'r dreftadaeth. Mae'r pedair Ymddiriedolaeth yn gwmnau cyfyngedig annibynnol gyda statws elusennau, ac maent yn cyflogi staff archaeolegol proffesiynol gydag amrywiaeth eang o arbenigedd, ac yn derbyn cefnogaeth ariannol gan lywodraeth leol a chenedlaethol, gwaith cytundeb masnachol a hyd yn oed roddion preifat.
De: yr ardaloedd a drinnir gan y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru Manylion cysylltu:Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys7a Stryd yr Eglwys, Y Trallwng, Powys, SY21 7DL Ffôn: 01938 553670 Ffacs: 01938 552179 E-bost: trust@cpat.org.uk www.cpat.org.uk Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
|