CPAT logo
Cymraeg / English
Y Fflint
Rhagarweiniad
Lleoliad yn y dirwedd
Y Fflint yn y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol cynnar
Y castell canoloesol, y dref a chefn gwlad
Y Fflint rhwng 1500 a 1700
Ehangu diwydiannol yn y Fflint rhwng 1700 a 1950

Eich Gymuned - Y Fflint

Archaeoleg a hanes cynnar y dref


Fflint rhwng 1500 a 1700


Y Fflint o’r de. Yn ystod y 18fed ganrif, harbwr bach oedd y gilfach lydan yng ngheg nant Swinchiard, yn rhan uchaf y llun ar y chwith. Gerllaw oedd y gwaith mwyndoddi plwm a ddatblygodd ar ddiwedd yr 17eg ganrif, gan gael budd o dechnoleg newydd yn defnyddio ffwrneisi glo. Roedd yna bwll glo gerllaw ac un arall i’r de o’r dref. Roedd angen dybryd am adfer y Fflint ers o leiaf y Rhyfel Cartref tua 50 mlynedd yn gynharach, pan oedd y castell dan warchae a phan gadawyd y dref wedi’i difrodi. Llun: CPAT 08-c-202.

Wrth i dref y Fflint bellhau’n raddol oddi wrth amaethyddiaeth, ac wrth i arwyddocâd milwrol ei chastell leihau, roedd efallai peth amheuaeth o ran bodolaeth barhaus y dref. Ond roedd yn benderfynol o ddal at ei statws fel bwrdeistref a thref sirol ac fel canolfan farnwrol ar gylchdaith Caer, er nad oedd y boblogaeth ond hyd at 35 o ddynion dros 16 oed erbyn diwedd y 1530au. Fel nifer fawr o gestyll eraill Cymru, nid oedd Castell y Fflint yn cael ei gynnal a’i gadw fel strwythur amddiffynnol o ganol yr 16eg ganrif ymlaen. Yn ei ddrama Richard II, a ysgrifennwyd tua 1595 ond yn disgrifio digwyddiadau 1399, mae Shakespeare yn gamamserol yn rhoi’r geiriau ‘this castle’s tatter’d battlements’ yng ngheg Henry Bolingbroke. Roedd Shakespeare wedi seilio’i ddrama ar groniclau Holinshed a gyhoeddwyd yn yr 1520au, a Froissart a gyhoeddwyd yn yr 1580au, sy’n awgrymu bod cyflwr adfeiliedig y castell eisoes yn adnabyddus erbyn diwedd yr 16eg ganrif.

Erbyn y 14eg ganrif a’r 15fed ganrif, roedd hanes tref y Fflint a’r castell a’u rôl yng nghoncwest Edward o Gymru fwy neu lai wedi mynd yn angof ym meddyliau’r cyhoedd. Arhosodd ar goll hyd nes i haneswyr gasglu’r stori ynghyd yn raddol ar ddiwedd y 19eg ganrif ac yn yr 20fed ganrif, trwy astudio siarteri brenhinol, ordinhadau a chyfrifon gwariant. Fodd bynnag, o oes Oleuedig Elisabeth ymlaen, datblygodd diddordeb a phryder ynghylch creiriau’r gorffennol y gellid eu gweld yn y dirwedd, fel sylwadau John Dee ar Atiscros ym 1574 ac Edward Lhuyd ym 1699 y’u nodwyd uchod.

Mewn modd tebyg, roedd John Speed yn bwriadu i’w gynlluniau o’r dref ym 1610, a oedd yn dangos y castell a chynllun neilltuol ac anarferol y dref yn eglur iawn, fod yn gofnod o olion hanesyddol y dref cymaint ag yr oeddent yn gofnod o sut olwg oedd arni yn negawd cyntaf yr 17eg ganrif. Fel Thomas Pennant yn y 1790au, roedd Speed efallai’n amau bod cynllun rheolaidd y dref, fel Caer (a ymddangosodd ar ei fap o Swydd Gaer), yn dangos tarddiad o gyfnod y Rhufeiniaid. Ganed Speed, a oedd yn hanesydd yn ogystal ag yn wneuthurwr mapiau enwog, yn Farndon, ychydig i’r de o Gaer, ac roedd yn gyfarwydd iawn â gwreiddiau hynafol yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel ‘that most ancient citie’. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd stori tarddiad y Fflint o gyfnod y Rhufeiniaid wedi hen ennill ei phlwyf, fel y gwelir yn Topographical Dictionary of Wales gan Samuel Lewis a gyhoeddwyd ym 1833. ‘The origin of the town, though undoubtedly remote, is involved in the greatest obscurity. Although it cannot be identified with any Roman station mentioned in the Itineraries, it was nevertheless either of Roman or Roman-British origin, as is proved by the circumstance of its even now occupying a rectangular intrenched area, like that of a Roman place of defence, and by the discovery, at various times, both here and in the neighbourhood, of a vast quantity of Roman coins, fibulæ [brooches], &c.’.

Dengys lluniad maes Speed o’r Fflint ym 1607 tua 100 o adeiladau y tu mewn i’r amddiffynfeydd, gan gynnwys neuadd y dref a’r eglwys, gyda nifer o adeiladau’n sefyll ar lonydd llai yn union y tu ôl i’r rhagfur mewnol. Ar y cyfan, roedd y dref yn parhau i fod y tu mewn i’r amddiffynfeydd canoloesol, ond dengys tua 15 o adeiladau eraill yn union y tu allan i’r amddiffynfeydd, rhai ohonynt ar lonydd yn rhedeg wrth ymyl y rhagfur allanol ond yn bennaf yn agos at y tri phrif fynediad oedd yn arwain allan o’r dref. Symbol masnach yw croes y farchnad, a welir yn y sgwâr ar y canol, a symbol cyfiawnder yw’r cyffion yn sgwâr y dref a’r grocbren i’r gogledd-orllewin, yn agos at y draethlin yn ôl pob tebyg, yn yr ardal lle mae Ystâd Ddiwydiannol Parc y Castell bellach. Ymhlith cysylltiadau barnwrol eraill mae’r Tŷ Sesiwn yn Stryd yr Eglwys, a adeiladwyd yn gyntaf yn ôl pob tebyg ar ddechrau'r 17eg ganrif, a’r hen garchar, hefyd yn Stryd yr Eglwys, y cyfeirir ato fel ‘an ancient loathsome place of confinement’ ar garreg gysegru hen garchar Sir y Fflint yn ward allanol y castell a’i disodlodd ym 1785. Mae darluniad o tua 1800 o eglwys y Santes Fair, sef eglwys ganoloesol o garreg nad oedd ganddi hi blwyf, yn awgrymu ei bod wedi’i hail-lunio’n helaeth ar ddiwedd y Canol Oesoedd. Roedd wedi parhau yno hyd nes adeiladwyd eglwys arall ar yr un safle yng nghanol y 19eg ganrif. Yn yr un modd, disodlwyd neuadd y dref neu neuadd y farchnad a oedd yn dyddio o bosibl o ddiwedd y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif gan adeilad ar safle newydd ym 1840. Fel arall, mae’r dref yn parhau i edrych fel pentref gwledig, gydag ond ychydig o adeiladau dinesig neu ddiwydiannol amlwg a chyda chaeau, gerddi a pherllannau ar tua hanner y tir adeiladu posibl i bob golwg.

Nododd arolwg o gyflwr y cestyll brenhinol yng Nghymru rhwng 1618 a 1624 fod tri o dyrrau Castell y Fflint yn adfeilion, ac nad oedd to’r Tŵr Mawr, sef y ‘Thieves’ Tower’ erbyn hynny, yn cadw’r glaw allan. Roedd y castell a’r dref wedi dioddef o ysbeilio llawer gwaith yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr yn y 1640au. Roedd y castell wedi’i garsiynu dros y Brenhinwyr dan awdurdod Syr Roger Mostyn ac, er gwaethaf ei gyflwr, dywedwyd mewn disgrifiad bod gan y castell ‘exceeding great strength’: bu dan warchae am nifer o fisoedd ym 1646, cyn ildio o’r diwedd i’r Seneddwyr, a oedd yn cael eu harwain gan y Cadfridog Thomas Mytton. Dan awdurdod y Senedd fe ddifrododd y castell ym 1647, ar wahân i’r Tŵr Mawr a oedd i’w gadw fel carchar. Awgryma gwarant am benodiad cwnstabl y castell a cheidwad y carchar ar y cyd ym 1705 eu bod yn parhau i ddefnyddio’r tŵr fel carchar yn negawd cyntaf y 18fed ganrif o leiaf. Mae John Taylor yn rhoi darlun digalon ar ddechrau’r 1650au yn sgil y rhyfel, gan nodi ‘surely war hath made it miserable; the sometimes famous castle . . . is now almost buried in its own ruins, and the town so spoiled that it may truly be said of it, that they never had any market (in the memory of man). They have no sadler, taylor, weaver, brewer, baker, botcher, or button maker; they have not so much as a signe of an alehouse’.

Er nad oes unrhyw adeiladau pren wedi goroesi hyd heddiw, mae’n debygol iawn yn ôl pob golwg mai tref o dai ffrâm bren oedd y Fflint yn ei hanfod, fel sawl tref arall yn y gororau, hyd nes i ddefnyddio carreg ddod yn fwy cyffredin yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Gwnaed sylw am hyn uchod. Mae’n bosibl mai un o’r adeiladau ffrâm bren olaf oedd neuadd y dref neu neuadd y farchnad a ddangoswyd gan Speed, ond a ddisodlwyd gan adeilad a godwyd ar safle newydd ym 1840. Mae mwyafrif yr adeiladau ffrâm bren o’r cyfnod hwn wedi diflannu hefyd o gefn gwlad cyffiniau’r Fflint, er bod ambell un prin i’w weld o hyd, fel Ffermdy Oakenholt, sydd wedi datblygu o adeilad nenfforch yn dyddio o bosibl o’r 16eg ganrif neu’r 17eg ganrif. Byddai’r galw am bren ar gyfer adeiladu a diwydiant wedi parhau i effeithio ar y coetiroedd lleol a oedd ar ôl, a mynegwyd pryder mor gynnar â’r 1570au am y prinder coed yn y rhan hon o Sir y Fflint.

(yn ôl i’r brig)