CPAT logo
Cymraeg / English
Eich Gymunydd
Y Fflint
Rhagarweiniad
Lleoliad yn y dirwedd
Y Fflint yn y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol cynnar
Y castell canoloesol, y dref a chefn gwlad
Y Fflint rhwng 1500 a 1700
Ehangu diwydiannol yn y Fflint rhwng 1700 a 1950

Eich Gymuned - Y Fflint

Archaeoleg a hanes cynnar y dref



Rhagarweiniad

Bellach, naws fodern gref sydd i dref y Fflint, yn cuddio’i gorffennol hynod a dramatig fel anheddiad diwydiannol Rhufeinig yn y cyfnod o’r ganrif 1af i’r 3ydd ganrif, fel y cyntaf o’r cestyll a’r trefi newydd a greodd y Brenin Edward yng Nghymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, ac fel un o’r porthladdoedd a’r trefi diwydiannol pwysig a ddaeth i’r amlwg adeg y Chwyldro Diwydiannol o ddechrau’r 18fed ganrif. Bu hanes cyfoethog y dref yn destun balchder ers canrifoedd lawer, fel y dengys ysgrifau haneswyr lleol fel Thomas Pennant ar ddiwedd y 18fed ganrif, hyd y rheiny sy’n ysgrifennu heddiw ar wefannau ac mewn cyfnodolion lleol. Fodd bynnag, mae gallu rhyfeddol y Fflint i ailddyfeisio’i hun wedi golygu y bu tueddiad ym mhob cenhedlaeth i ysgubo popeth o’r neilltu’n feiddgar, gan adael ond ychydig gliwiau cynnil am yr hyn a ddigwyddodd ynghynt yn y drefwedd fodern.

Cynhaliwyd yr astudiaeth hon, a ariannwyd yn annibynnol gan Cadw, yn 2008 fel cyfraniad at gais Cyngor Sir y Fflint i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am gynllun Menter Treftadaeth Trefluniau yn y dref. Y bwriad oedd adeiladu ar gynlluniau adfywio a oedd eisoes yn y dref, â’r nod o wella’r dref yn ffisegol, denu ymwelwyr a darparu symbyliad ar gyfer buddsoddi pellach a chreu swyddi newydd.

Mae’r astudiaeth bresennol yn adolygu hanes a datblygiad y dref ers y cyfnodau cynharaf, ac yn edrych ar gyfraniad archaeoleg i fywyd y gymuned heddiw. Mae’n canolbwyntio ar archaeoleg a hanes y dref cyn ei hadfywio yn y 1960au, ac yn ceisio deall sut daeth i fodolaeth a sut mae wedi datblygu o ran topograffeg, gan nodi’r ffactorau pwysig yn ei hanes sy’n ei gwneud y lle ydyw heddiw. Mae’r astudiaeth hefyd yn edrych yn gryno ar gyfleoedd archaeolegol a hanesyddol, gan ddwyn sylw at rai o’r nodweddion sydd i’w gweld yn y dirwedd sy’n dweud wrthym am ei hanes, pethau sydd bellach wedi’u claddu yn y ddaear sy’n gallu ychwanegu at y stori ac, yn olaf, rhai o themâu allweddol hanes y dref, sydd o bosibl yn werthfawr wrth helpu i ddod â’r gorffennol yn fyw. Ar y diwedd, ceir rhestr o rai o’r ffynonellau a fu’n gymorth yn yr astudiaeth hon. Yn cyd-fynd â’r astudiaeth, ceir nifer o awyrluniau o’r dref i ‘glicio arnynt’, wedi’u tynnu gan Nigel Jones o CPAT yn 2009. Mae hanes diweddarach y dref a’r adeiladau sydd wedi goroesi yn cael eu hystyried yn fanylach yn Flint: Understanding Urban Character (2009), ar gael gan Cadw.

Mae ardal yr astudiaeth yn cynnwys ymyl yr anheddiad modern ac ardaloedd a fwriedir ar gyfer tai a diwydiannau’r dyfodol. Fe’i hestynnwyd hefyd i’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain i gynnwys Castell y Fflint ac ardaloedd cyfagos aber afon Dyfrdwy yn hanes y dref. Ystyriwyd hefyd i ryw raddau y ffermio a’r hanes diwydiannol mewn ardal ychydig yn ehangach o amgylch yr anheddiad, sy’n cyd-fynd yn gyffredinol â chwmpas hanesyddol y fwrdeistref.