CPAT logo
Cymraeg / English
Y Fflint
Rhagarweiniad
Lleoliad yn y dirwedd
Y Fflint yn y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol cynnar
Y castell canoloesol, y dref a chefn gwlad
Y Fflint rhwng 1500 a 1700
Ehangu diwydiannol yn y Fflint rhwng 1700 a 1950

Eich Gymuned - Y Fflint

Archaeoleg a hanes cynnar y dref



Y Fflint yn ei thirwedd, o’r de-orllewin. Gellir gweld y dref yn ymestyn dros y llain arfordirol wrth lannau aber afon Dyfrdwy, gyda Chilgwri y tu hwnt iddi. Yn y tu blaen, gellir gweld patrwm yn adlewyrchu’r llain-gaeau canoloesol yn codi ar ymyl Mynydd y Fflint. Llun: CPAT 08-c-209.

Lleoliad yn y dirwedd

Saif y dref bresennol ar lethrau graddol hyd at 50 metr uwchben lefel y môr ar lan ddeheuol aber lanwol afon Dyfrdwy. Yn rhannol, tir wedi’i adennill y mae argloddiau’n ei amddiffyn sy’n ffurfio glannau’r afon, ynghyd â morfeydd heli sydd wedi bod yn ymestyn o ganlyniad i’r codiad graddol yn lefel y tir o’i chymharu â lefel y môr ers diwedd y rhewlifiant diwethaf. Grut Melinfaen a Chalchfaen Carbonifferaidd, gyda llinellau ffawtiau llawn mwyn plwm sy’n ffurfio tarren Mynydd y Fflint a Mynydd Helygain, 2﷓3 cilomedr i’r de o’r dref. Yng nghyffiniau’r Fflint, gorwedda gwythiennau o lo, tywodfeini a siâl meddalach ar oleddf tua’r dwyrain sy’n rhedeg i lawr dros y calchfaen at afon Dyfrdwy.

Ar y cyfan, mae clog-glai yn ogystal â llifwaddod afonydd ar hyd ymyl yr aber ei hun yn eu gorchuddio. Priddoedd cleiog a lomog mân, cochlyd, sydd gan amlaf yn ddwrlawn yn dymhorol ac yn tarddu i raddau helaeth o’r clog-glai yw’r priddoedd yn bennaf ac, yn hanesyddol, roeddent yn gweddu orau i gnydau grawn a phorfa. Mae nifer o’r nentydd bach sy’n llifo i lawr o’r darren galchfaen wedi torri dyffrynnoedd bas trwy’r creigiau meddalach hyn, gan gyfateb yn fras i linellau ffawtiau daearegol. Mae’r nentydd hyn yn mynd i mewn i’r aber trwy sianeli a morgeinciau bas, gan gynnwys nant Swinchiard ar ochr orllewinol y dref a nant dienw ym Mhentre Ffwrndan tua’r dwyrain. Mae dwy nant sy’n draenio o Fynydd Helygain, sef nant y Fflint ac afon Conwy, yn bwydo nant Swinchiard, a elwid gynt yn nant y Fflint weithiau hefyd.