CPAT logo
Cymraeg / English
Y Fflint
Rhagarweiniad
Lleoliad yn y dirwedd
Y Fflint yn y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol cynnar
Y castell canoloesol, y dref a chefn gwlad
Y Fflint rhwng 1500 a 1700
Ehangu diwydiannol yn y Fflint rhwng 1700 a 1950

Eich Gymuned - Y Fflint

Archaeoleg a hanes cynnar y dref


Y castell canoloesol, y dref a chefn gwlad


Tref a chastell y Fflint o’r de, gydag aber afon Dyfrdwy yn y cefndir. Gellir prin adnabod cynllun ffurf petryal y dref ganoloesol yng nghanol y llun, gyda Stryd yr Eglwys, mor llydan, yn arwain yn union at Gastell y Fflint. Roedd gan y castell ddyfrffos yn wreiddiol, wedi’i chysylltu â dyfroedd llanwol yr aber. Mae tai diweddarach wedi’u codi ar y rhan fwyaf o’r dref ganoloesol. Llun: CPAT 08-c-200.

Olynodd Edward I ei dad, Harri’r III i ddod yn frenin Lloegr ym 1274. Cafodd digwyddiadau gwleidyddol ar ddechrau ei deyrnasiad effaith ddofn ar hanes y Fflint ac, yn wir, ar Gymru gyfan.

Un o’r pethau cyntaf i Edward roi ei sylw iddo oedd ailgoncro tiroedd yng Nghymru a oedd yn eiddo gynt i’r Goron ac arglwyddi’r Mers, ond a oedd wedi’u hadennill gan y Cymry yn ystod teyrnasiad ei dad a’i ragflaenwyr. Yn ystod ymgyrchoedd milwrol ym 1276-1277, bu Edward yn llwyddiannus wrth ailgoncro llawer o’r tiroedd hyn, ond rhoddodd ganiatâd trwy gytundeb i’r tywysog o Gymro, Llywelyn ap Gruffudd, gadw tiriogaeth graidd Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru.

I ddechrau, ymddengys mai prif reswm Edward dros greu castell a thref ar safle newydd ar ymyl aber afon Dyfrdwy yn y Fflint ym 1277 oedd cael safle ymgyrchu ar gyfer ailgoncro Perfeddwlad – sef tiriogaeth ar hyd arfordir gogledd Cymru a oedd yn eiddo preifat i’r brenin. Fel dyn ifanc, roedd Edward eisoes wedi dal y diriogaeth, ac yn wir wedi ymweld â hi yn ystod teyrnasiad ei dad, cyn ei cholli i Llywelyn ym 1256, ychydig dros ugain mlynedd ynghynt. Mae digwyddiadau 1277 yn bwysig, nid yn unig i hanes diweddarach y Fflint, ond oherwydd iddynt beri concwest Cymru gyfan yn y pen draw.

Aeth y fyddin frenhinol ymlaen o Gaer ac roeddent wedi ymsefydlu yn y Fflint erbyn 21 Gorffennaf 1277. Cafodd Rhuddlan ei hadennill erbyn diwedd mis Awst ac, yn y diwedd, daeth y rhyfel i ben fis Tachwedd 1277. Dan delerau’r cytundeb a luniwyd wedyn, roedd Llywelyn yn parhau i reoli i’r gorllewin o afon Conwy ond unwaith eto, cafodd y tiroedd i’r dwyrain eu hildio i goron Lloegr. Rhoddwyd ardaloedd mewndirol Perfeddwlad i Dafydd, brawd Llywelyn, fel gwobr am ei gefnogaeth yn ystod y rhyfel. Cadwodd brenin Lloegr ardaloedd arfordirol Perfeddwlad, a allai fod o arwyddocâd strategol a masnachol mwy ac, am y pum mlynedd nesaf, aeth ati i ddatblygu’r tiriogaethau roedd wedi’u hadennill, yn enwedig yn Nhegeingl. Yma, roedd adeiladu dau gastell Brenhinol newydd yn y Fflint ac yn Rhuddlan wedi dechrau erbyn hydref 1277, ac mae tystiolaeth bod eu bwrdeistrefi caerog cysylltiedig eisoes yn bodoli erbyn gwanwyn y flwyddyn ganlynol pan ddyrannwyd tir i fewnfudwyr, o Loegr yn bennaf, a oedd yn cael eu hannog i ddod â setlo yn y dref. Amcanion milwrol a masnachol oedd yn y parth rhagod hwn rhwng teyrnas Cymru a theyrnas Lloegr. O’r dechrau, roedd yn amlwg mai bwriad strategaeth Edward oedd adennill y diriogaeth a dal ei afael arni trwy gestyll, gyda threfi marchnad caerog i gynhyrchu incwm trwy drethi. Rhaid oedd gallu eu cyrraedd o’r môr ac o’r tir, er mwyn diogelwch a hybu masnach.

Gorfododd gwrthryfel y Cymry, a ddeilliodd o’r dicter a’r anghyfiawnderau a dyfodd yn sgil gorfodi cyfraith ac arferion Lloegr, newid dramatig i gynllun Edward. Dechreuodd y gwrthryfel ar Sul y Blodau ym 1282 gydag ymosodiad Dafydd a Llywelyn ar Gastell Penarlâg. O ganlyniad i hyn, penderfynodd Edward ddod ag annibyniaeth Cymru i ben unwaith ac am byth, a thros y tair blynedd ar ddeg nesaf fe sefydlodd gestyll a bwrdeistrefi yng Nghonwy, Caernarfon, Harlech a Beaumaris, gan afael yn dynn yn nheyrnas Gwynedd gynt. Roedd canolbwynt buddiannau a gwariant milwrol a gweinyddol Lloegr yng ngogledd Cymru bellach wedi symud yn ddi-droi’n ôl tua’r gorllewin. Roedd y Fflint a Rhuddlan bellach wedi colli eu harwyddocâd milwrol, ac felly nid oedd galw yno am yr amddiffyniadau tref cymhleth o garreg a welwyd o amgylch bwrdeistrefi brenhinol Gwynedd. Cadwyd Tegeingl fel rhan o diroedd y brenin ac, ym mis Mawrth 1284, daeth y Fflint yn dref sirol y sir a gafodd ei chreu o’r newydd, sef Sir y Fflint. Ym 1301, cyflwynwyd tref a chastell y Fflint i fab Edward I, sef Edward o Gaernarfon, Tywysog Cymru, fel rhan o’i iarllaeth Caer.

Roedd y safle a ddewiswyd ar gyfer y castell a’r dref yn y Fflint yn ddarn o dir lle nad oedd llawer yn byw o bosibl, ar ymyl yr aber ym mhlwyf hynafol Llaneurgain ac ardal weinyddol hynafol Cwnsyllt. Roedd y safle’n un delfrydol mewn sawl ffordd: safai hanner ffordd rhwng Caer a Rhuddlan a dim mwy na thaith diwrnod o’r naill na’r llall, ar y tir neu ar y môr. Roedd penrhyn creigiog ar ei ben ei hun yn ymwthio allan o lan ddeheuol aber afon Dyfrdwy, a oedd fel arall yn ddinodwedd, gan roi sylfaen ddiogel i’r castell. Y brigiad creigiog yw tarddiad enw’r dref (a luniwyd o bosibl ym 1277) sydd i’w weld gyntaf ar ffurf le Flynt neu le Flynd; mae’n debyg ei fod yn deillio o’r gair Saesneg flint sef, yn syml, carreg galed neu graig. Yn hwyr ym mlwyddyn y goncwest, rhoddwyd yr enw hefyd mewn dogfennau fel le Cayllou neu le Chaylou, o’r gair Ffrangeg caillou am garreg neu gerigyn. Yn ôl pob tebyg, damwain hanesyddol yn unig a berodd i’r dref beidio â chael enw Ffrangeg, fel a ddigwyddodd yn achos Beaumaris, sef un arall o drefi castell newydd Edward yng ngogledd Cymru.

Rhoddodd gwaith cloddio yn y castell rai cliwiau am ffurf yr arfordir yn y Fflint adeg concwest Edward. Adeiladwyd y castell ar frigiad o dywodfaen a siâl dan glai rhewlifol a oedd, erbyn y 13eg ganrif, wedi’i gysylltu â’r tir mawr. Ond mae tafod gul o lifwaddod rhwng y castell a’r dref yn awgrymu mai ynys lanwol isel hyd at tua 4 metr uwchben lefel y môr oedd yno mewn cyfnod cynharach. Adeiladwyd chwarter gogledd-ddwyrain y dref ganoloesol – o tua llinell y rheilffordd – ar lifwaddod, ac mae’r gweddill wedi’i osod ar deras graddol o glog-glai rhewlifol a gro a oedd yn codi hyd at uchder o tua 5 metr i 14 metr uwchben lefel y môr ymhellach i mewn i’r tir.

Yn aml, rhoddir cynllun integredig y dref a'r castell canoloesol yn esiampl glasurol o gynllunio canoloesol. Nid oedd y safle cymharol wastad hwn, nad oedd wedi’i ddatblygu, yn gosod rhyw lawer o gyfyngiadau ac felly roedd y cynllun a ddaeth i’r fei yn un arloesol ac arbrofol. Mae hefyd yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol i’r hyn oedd ym meddyliau’r strategydd milwrol a’r cynlluniwr tref canoloesol a oedd yn gyfrifol am y gwaith. Bu rhaid i’r brenin wario’n sylweddol i gwblhau’r fenter uchelgeisiol hon. O ganlyniad, fel llawer o’r gweithgareddau adeiladu brenhinol, cedwid cofnodion ariannol manwl sy’n dweud wrthym yn eithaf manwl am y deunyddiau adeiladu yr oedd eu hangen, am eu tarddiad, am y gweithwyr a gyflogwyd i’w hadeiladu ac am sut codwyd yr arian i dalu am y gwaith. Maent hefyd yn rhoi amcan i ni o’r logisteg a'r drefniadaeth oedd ynghlwm.

Roedd angen symud llawer iawn o bridd i drawsnewid y penrhyn creigiog isel yn safle addas ar gyfer y castell, sef safle y gellid ei amddiffyn. Mae tyrrau crwn yn nhair cornel ward fewnol sgwâr y castell, ac mae afon Dyfrdwy yn ei amddiffyn i’r gogledd, y gorllewin a’r dwyrain. Yn y de-ddwyrain, mae gorthwr mawr crwn a oedd, yn ôl pob tebyg, wedi’i gysylltu trwy bont y gellid ei symud, dros y ddyfrffos fewnol. Gellid mynd i mewn i’r ward fewnol trwy borthdy bach sgwâr â phont godi. Roedd yna bont bren sefydlog i gyrraedd y porthdy, yn rhedeg rhan o’r ffordd dros y ddyfrffos fewnol a oedd yn rhannol wedi’i thorri trwy graig. Roedd hon yn gwahanu’r ward fewnol oddi wrth y ward allanol, a chodai cysylltfur y ward fewnol o waelod y ddyfrffos fewnol. Dyfrffos allanol enfawr dros 350 metr o hyd a dorrwyd trwy graig oedd yn gwahanu’r ward allanol oddi wrth y dref, ac roedd gan ran ohoni hefyd arwyneb carreg. Mae angen astudio ymhellach i olrhain union lwybr yr arfordir canoloesol, yn enwedig i’r gorllewin o’r castell lle bu adennill tir ar gyfer diwydiant ac adeiladu glanfeydd ers diwedd yr 17eg ganrif. Dangosodd cloddio archaeolegol fod yno gaglau môr ar ochrau’r ddyfrffos allanol sy’n dangos ei bod wedi'i thurio i fod yn agored i ddyfroedd llanwol yr aber. Mae gwahaniaeth mawr rhwng penllanw a distyll aber afon Dyfrdwy, yn amrywio o 10 metr ar y llanw mawr i 6 metr ar y llanw bach.

Cyn pen mis o ddyfodiad y fyddin fis Gorffennaf 1277, roedd y gweithlu wedi chwyddo i bron iawn 2,300, gan gynnwys ffoswyr profiadol o’r Ffens. Roedd yn rhaid gweithio’n gyflym yn yr wythnosau a’r misoedd cynnar er mwyn sicrhau y byddai’r safle’n ddiogel cyn dechrau'r gaeaf, a thalwyd bonws i’r rheiny oedd yn gweithio’u berfau galetaf. Yn ogystal ag at ddibenion amddiffyn, roedd angen sianeli mordwyol a glanfeydd ar gyfer y rafftiau a gludai carreg a deunyddiau adeiladu eraill ar draws yr aber o Gilgwri, gan fod y garreg leol yn anaddas ar gyfer adeiladu. Roedd angen symiau helaeth o bren, ac ymddengys y cafwyd y rhan fwyaf o hwn o’r coetiroedd brodorol a ymestynnai i’r mewndir ac ar hyd yr aber i gyfeiriad Ewlo, gan helpu i glirio’r tir at ddibenion amaethyddol wrth wneud hynny. Ar y cychwyn, mae’n debyg fod ardal y dref ganoloesol yn lletya garsiwn y fyddin a’r gweithlu, ond cyn pen mis roedd mwyafrif y milwyr wedi symud ymlaen i’r ganolfan flaen yn Rhuddlan. Daeth honno’n ganolbwynt gweithgareddau adeiladu am y ddau neu dri thymor nesaf. Wedi hyn, yn raddol arafodd y gwaith ar y castell yn y Fflint, ond fe barhaodd yn ysbeidiol am yr ugain mlynedd nesaf. Er gwaethaf lleihau arwyddocâd strategol y cestyll yn y Fflint a Rhuddlan yn dilyn concwest Edward o Gymru, mae tystiolaeth eu bod wedi parhau fel arosfannau diogel ar y ffordd i’r cestyll brenhinol ymhellach i’r gorllewin ac ar y daith dros dir a môr i Iwerddon, lle roedd Edward hefyd yn dal stadau helaeth.

Yn raddol yn y castell, cafodd palisadau pren a waliau cynnal dros dro o dywyrch eu disodli gan garreg ac, wrth i waliau a thyrrau gael eu cwblhau, roedd seiri coed, gofaint a phlymwyr wrthi’n gorffen toeau, ffenestri a drysau ac yn adeiladu pont rhwng y castell a’r dref. Y gwariant mawr olaf, rhwng 1301 a 1303, yn rhychwantu diwedd teyrnasiad Edward a dechrau teyrnasiad ei olynydd, oedd ychwanegu llawr uwch o bren, ‘noble and beautiful’, ar ben y gorthwr mawr crwn. Ystyrir y Tŵr Mawr yn ‘one of the most puzzling features of any of the Welsh castles’ ac mae wedi’i gymharu â thŵr ar wahân Tour de Constance yn nhref gaerog ganoloesol Aigues Mortes, sef porthladd gynt ar Fôr y Canoldir. Oddi yno hwyliodd Edward i'r croesgadau ym 1270, ac oddi yno y dychwelodd i ddod i orsedd Lloegr ym 1272. Ceir tystiolaeth bod y rhai a fu’n ymwneud ag adeiladu’r castell yn falch iawn o’r hyn roeddent wedi’i gyflawni. Yn yr ardd ganoloesol â ffos yn Belgrave Moat yn Eccleston ger Caer, a grëwyd yn yr 1280au neu’r 1290au gan Richard o Gaer – un o’r peirianwyr milwrol mwyaf blaengar a fu’n gweithio yn y Fflint ym 1277 – gwelir cynllun ward fewnol y castell a’i gorthwr mawr ar wahân wedi’i ailgynhyrchu ar raddfa lai.

Y dref ganoloesol oedd y fwyaf cymesur o drefi newydd y Brydain ganoloesol, a dywedir ei bod ‘the town which most writers on urban geography and history use to demonstrate the classic features of a castle town’. Gellir esgusodi Thomas Pennant am ei gamgymeriad, sef ‘conjecture of the probability of its having been a Roman station’ pan oedd yn ysgrifennu amdani ar ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd cynllun rheolaidd y dref ac, yn ddi-os, cyfosodiad yr afon, y castell canoloesol a’r gaer Rufeinig, a oedd yn debyg i’r hyn a welir ar afon Dyfrdwy yng Nghaer, wedi’i gamarwain. Dangosodd gwaith arolwg diweddar y geometreg symbolaidd hynod sy’n gynhenid yng nghynllun y dref a’r castell: saif y Tŵr Mawr, yr eglwys a’r neuadd farchnad ganoloesol – sy’n cynrychioli yn eu tro y Goron, yr Eglwys a’r awdurdodau dinesig – yn arwyddocaol ar linell sy’n torri’r dref ganoloesol yn ei hanner.

Gwyddys am gynllun y dref ganoloesol yn rhannol o gynlluniau hwyr ac yn rhannol o ychydig o waith cloddio archaeolegol. Ond fe’i dangosir yn fwyaf eglur ar fapiau John Speed o’r dref, sef lluniad maes o 1607 a gedwir yng Ngholeg Merton, Rhydychen; map mwy sy’n cyd-fynd â’i fap o Sir y Fflint a ymddangosodd yn ei Theatre of the Empire of Great Britaine a gyhoeddwyd ym 1610/11; ac un llai sy’n ymddangos fel cartouche ar ymyl ei fap o Gymru yn y gyfrol honno. Yn ffodus, mae’r cynllun strydoedd canoloesol wedi parhau fwy neu lai yn gyfan trwy’r cyfnod o ehangu diwydiannol yn y 19eg ganrif, er iddo gael ei guddio rhywfaint pan adfywiwyd canol y dref yn ail hanner yr 20fed ganrif.

Mae ffurf yr amddiffyniadau’n unigryw i’r Fflint a Rhuddlan ac, yn arwyddocaol, fe ddechreuwyd arnynt o fewn ychydig wythnosau i’w gilydd ym 1277. Ffurf betryal oedd i’r Fflint, gyda chorneli crwn a chloddiau dwbl yn ei hamgylchynu o bob tu i ffos enfawr yn amgáu ardal o tua 225 metr wrth 420 metr o led, yn cynrychioli tua 9.5 hectar, o’i gymharu â’r 10 hectar yr amcangyfrifir yn Rhuddlan. Mae’r unig gofnod pendant o wariant ar amddiffynfeydd y dref yn cynnwys taliadau i durwyr a fu’n gweithio ar ffos y dref rhwng 1281 a 1283 a rhwng 1284 a 1286, sy’n awgrymu nad adeiladwyd holl amddiffynfeydd y dref yng nghyfnod cyntaf y gwaith. Disgrifir peth o’r gwaith hwn fel ‘after the war’, ac felly gall o bosibl gynrychioli trwsio difrod a achoswyd gan wrthryfel Dafydd a Llywelyn ym 1282–83, sef gwrthryfel a arweiniodd at benderfyniad Edward i ddarostwng Cymru gyfan. Serch hynny, ni chofnodir unrhyw farwolaethau ac, fel arall, dau gyhuddiad o ddwyn a llosgi nifer o dai yn unig a gofnodir.

Dangosodd un rhan o amddiffynfeydd y dref, a gloddiwyd yn ardal Duke Walk a Swan Walk tua phen de- orllewin Duke Street dan amodau brys cyn ailddatblygu’r rhan hon o’r dref ar ddechrau’r 1970au, fod ffos y dref tua 16 metr o led a 3 metr o ddyfnder. Nid oedd unrhyw ran o’r clawdd allanol wedi goroesi yn y man hwn ond roedd gwaelod y clawdd mewnol, a oedd yn dal i fod yn 0.75 metr o uchder, wedi bod tua 17 metr o led, ac mae’n debygol bod ganddo wyneb serth o dywyrch ar yr ochr allan. Mwy na thebyg, byddai palisâd o bren ar ei gopa wedi amddiffyn y clawdd mewnol, i ddiogelu yn erbyn saethau, sef y ffurf fwyaf nerthol ar ymosod yn y cyfnod hwn. Roedd dyfnder cyffredinol yr amddiffynfeydd tua 30 metr i 40 metr. Hyd yma, nid yw’n hysbys p’un a oedd ffos y dref yn parhau ar draws y tri mynediad, i’w chroesi gan bontydd, a ph’un a oedd yno gatiau yn unig er amddiffyn, ynteu a adeiladwyd porthdai o bren fel yn achos Rhuddlan mae’n debyg. Mae diffyg unrhyw dystiolaeth o aredig o dan ran y clawdd mewnol a gloddiwyd yn tueddu i gadarnhau’r syniad fod y dref wedi’i chynllunio ar lain o dir a oedd fwy neu lai yn wag gerllaw traethlin yr aber.

Mae angen mwy o waith cloddio i gadarnhau union berthynas amddiffynfeydd y castell a’r dref yn yr ardal sydd bellach o dan Castle Dyke Street. Nid yw Speed yn rhoi unrhyw arwydd eglur o ddyfrffos allanol y castell, gan mai dangos y clawdd mewnol a’r clawdd allanol yn cyfuno’n un ar ochr y môr o’r dref y mae, sydd braidd yn amwys. Fodd bynnag, mae’n bosibl mai dangos cloddiau’r dref mewn persbectif yn unig sydd yma, a oedd yn arferiad lluniadu a ddefnyddiai o dro i dro, gan fod tystiolaeth arall bod ffos y dref yn parhau ar draws yr ochr hon o’r dref. Mae cynllun mwy Speed a gyhoeddwyd hefyd yn dangos clawdd dwbl ychwanegol yn ymestyn tuag at yr aber o gloddiau’r dref i dde-ddwyrain dyfrffos allanol y castell. Ymddengys eu bod yn cynrychioli llinell o gloddweithiau na chafodd eu cofnodi fel arall, yn amddiffyn harbwr gerllaw Tŵr Mawr y castell a gynlluniwyd, mae’n debyg, i dremio dros y ward allanol a’r harbwr yn ogystal â thremio dros fynediad y ward fewnol. Mae gwaith cloddio wedi awgrymu bod rhan o’r ddyfrffos allanol i’r de o’r Tŵr Mawr wedi’i defnyddio fel glanfa’r castell. Dengys lluniad maes Speed o’r Fflint, a’r cynllun llai o’r dref a gyhoeddwyd yn ei Theatre of the Empire of Great Britaine, fwlch ychwanegol yn amddiffynfeydd y dref yn y man hwn, sy’n awgrymu ail lanfa ar ochr allanol dyfrffos y castell sydd o bosibl yn tarddu o’r canol oesoedd ac y gellid ei chyrraedd yn uniongyrchol o’r dref. Gorwedda’n fras yn yr hyn sydd bellach yn faes chwarae a maes parcio ym mhen dwyreiniol Castle Dyke Street. Ymddengys fod y nwyddau a gludwyd i’r dref ac oddi yno ar y môr yn niferus ac yn amrywiol yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys, er enghraifft, cargo o fara ffres o Gaer a gollwyd yn y môr ym 1283 a 140 tunnell o blwm a anfonwyd ar y môr i Gonwy ym 1286.

Mae patrwm strydoedd canoloesol cymesur yn y dref yn amlwg ar fap Speed, sy’n dangos y brif ffordd ar hyd yr arfordir – sy’n cyfateb i ffyrdd modern Ffordd Treffynnon a Ffordd Caer – yn cael ei chroesi ar onglau sgwâr gan grid o bedair ffordd gyfochrog, dwy o bob tu i’r llinell ganol sy’n mynd trwy ganol Tŵr Mawr y castell. Ymddengys y cynhaliwyd arolwg manwl gywir ar y ffyrdd, mwy na thebyg yn defnyddio’r unedau mesur fel rhodenni, cadwynfeddi ac ystadenni a ddefnyddiwyd ar y pryd. Roedd un o’r pedair ffordd gyfochrog, sy’n cyfateb â Stryd yr Eglwys heddiw, wedi’i halinio ar borthdai wardiau mewnol ac allanol y castell yn un pen, ac ar y briffordd i’r de o’r dref yn y pen arall. Roedd yn rhaid mynd trwy’r dref i gyrraedd y castell, a roddai haen arall o amddiffyniad iddo. Dengys cynllun Speed nifer o ffyrdd a lonydd eraill, yn bennaf yn rhedeg ychydig y tu mewn i’r clawdd mewnol ac ychydig y tu allan i’r clawdd allanol. Mae’r gwaith cloddi ar adran ar draws yr amddiffynfeydd yn y 1970au, y soniwyd amdano uchod, yn awgrymu bod y rhain yn gorwedd yn rhannol dros y cloddiau canoloesol ac felly eu bod o ddyddiad diweddarach, ond mae angen mwy o gloddio i gadarnhau hyn.

Mae gan dystiolaeth sy’n parhau i fod wedi’i chladdu yn y ddaear hefyd lawer i ddweud wrthym am sut le oedd y dref, am y mathau o adeiladau a oedd yn bodoli ac am ffordd o fyw’r trigolion. Mae eglwys y dref a neuadd y dref yn elfennau mwy pendant o’r dref ganoloesol. Roedd yr eglwys wedi’i chysegru i’r Santes Fair, ac fe wnaeth barhau yn gapel dibynnol eglwys Llaneurgain am ganrifoedd lawer i ddod ar yr un safle ag eglwys heddiw. Roedd neuadd y dref wrth ymyl y farchnad, lle adeiladwyd neuadd y dref heddiw yn ddiweddarach. Yn amlwg, roedd y dref yn bodoli erbyn dechrau 1278, pan gyhoeddwyd marchnad wythnosol a ffair flynyddol a phan benodwyd asiantau i rentu lleiniau o dir i’r rheiny a fynnai fod yn drigolion, hyd yn oed os nad oedd yr amddiffynfeydd wedi’u cwblhau. Cafodd y dref ei siarter frenhinol gyntaf ym 1284, gan roi breintiau bwrdeistref llawn a hawliau tir iddi. Rhoddodd ail siarter yn yr un flwyddyn hawliau i gwympo coed a phori yng nghoedwigoedd Llaneurgain, Leadbrook, Kelsterton, Gwepra a Sychdyn, yn ymestyn rhwng 3 a 4 milltir arall tua’r de a’r dwyrain. Yn unol â’r arfer mewn mannau eraill, cwnstabl y castell oedd hefyd yn faer y dref. Hyd tan efallai’r 17eg ganrif neu ddechrau’r 18fed ganrif, mae’n debygol bod mwyafrif yr adeiladau yn y dref, ar wahân o bosibl i’r eglwys, ar ffurf adeiladau ffrâm bren gyda phaneli mewnlenwol o blethwaith a dwb a thoeau o wellt neu frwyn.

Ceir cipolwg gwerthfawr i darddiad a gwaith y setlwyr cynnar mewn dogfennau’n dyddio o’r 1290au sy’n rhestru enwau a gwaith rhwng 70 a 80 o ddeiliaid tai. O’r rheiny, ymddengys fod pob un namyn pump yn fewnfudwyr o Loegr, a gellid adnabod o leiaf chwarter ohonynt fel masnachwyr neu grefftwyr a fu’n gweithio ar ryw adeg neu’i gilydd ar weithfeydd y brenin yn y Fflint ac mewn mannau eraill. Ymhlith yr enwau mae clerc, sawl teiliwr, sawl barcer, cigydd, crydd, seiri maen, llyfnwr pridd, seiri a llifwyr, gofaint, plastrwr, gyrrwr, masnachwr haearn a dur, mwyngloddiwr, gweithiwr plwm, sawl melinydd, llosgwr calch, gwydrwr a gwneuthurwr halen. Ond fel oedd yn arferol yn y cyfnod hwn, nid oes rhestr o enwau'r menywod a oedd yn chwarae rhan hollbwysig ym mywyd ac economi'r gymuned. Cawsant eu denu i’r Fflint, weithiau fesul un ac weithiau nifer o frodyr gyda’i gilydd, o ardal eang o Loegr gan gynnwys Swydd Gaer, Glannau Merswy, Swydd Stafford, Swydd Hertford, Swydd Bedford, Henffordd a Llundain, a hefyd yn fwy lleol o Gwnsyllt er gwaethaf gwrthdaro parhaus rhwng y cymunedau cynhenid a’r mewnfudwyr yn yr ardal. Fodd bynnag, nid oedd anoddefiad wedi’i gyfyngu i’r Saeson a’r Cymry; fel y mwyafrif o siarteri trefol a gyhoeddwyd yn y cyfnod hwn, roedd Iddewon wedi’u gwahardd rhag dod yno i fyw.

Ymddengys mai araf oedd y broses o gymryd tenantiaethau fodd bynnag, gan fod asiantau wedi cael caniatâd ym 1282 i rentu lleiniau yn y dref yn rhad ac am ddim am ddeng mlynedd, ac ar gyfradd ostyngol wedi hynny. Nid oes sicrwydd ynghylch faint o adeiladu a wnaed yn y Fflint yn y cyfnod canoloesol. Dengys map Speed o’r dref ym 1610 lawer o leiniau gwag yn y dref, ond nid oes sicrwydd p’un a yw hyn yn golygu iddynt gael eu gadael ynteu a fu methiant i’w datblygu o’r cychwyn cyntaf. Dengys mapiau’r Arolwg Ordnans o’r dref yn y 19eg ganrif ei bod wedi’i hisrannu yn fwy o lawer o ffiniau eiddo nag a ddangoswyd gan Speed, ond unwaith eto nid yw’n amlwg i ba raddau y gallai’r rhain adlewyrchu bwrdeisiaethau canoloesol neu broses isrannu ddiweddarach o lawer. Er bod crefftwyr a masnachwyr yn bwysig i fywoliaeth y dref, roedd mwyafrif y trigolion â’u gwreiddiau’n dwfn yn yr economi amaethyddol: daeth y lleiniau rhad ac am ddim a gynigiwyd ym 1282 gyda 40 erw o dir amaethyddol ynghlwm. Nid yw lleoliad llawer o’r diwydiannau cynnar a awgrymwyd gan waith y trigolion yn hysbys, er bod melin ddŵr yn Atiscros (Adescrossmulne) ym 1358.

Bu bron i drychineb daro’r dref ym mis Medi 1294, ddeng mlynedd yn unig wedi’i siarter gyntaf, pan roddwyd hi ar dân yn fwriadol ar orchymyn cwnstabl y castell yn ystod gwrthryfel y Cymry yng ngogledd Cymru. Madog ap Llywelyn oedd arweinydd y gwrthryfel, mewn ymateb i drethi annheg ac anghyfiawnderau canfyddedig. Bwriad y cwnstabl oedd amddiffyn y castell a rhwystro’r Cymry rhag ei roi dan warchae, ac er ei fod yn fesur enbyd nid dyma’r unig enghraifft o fesur o’r fath. Ymddengys fod 73 neu fwy o adeiladau wedi’u dinistrio o’r herwydd, pob adeilad yn y dref o bosibl, ar wahân efallai i'r eglwys, lle’r ymddengys y storiwyd rhywfaint o eiddo personol. Cafodd y trefolion eu digolledu am eu colledion ac ailadeiladwyd tai, er mae’n sicr na wnaeth y digwyddiad ryw lawer i annog llu o fewnfudwyr i ddod i setlo yn y dref. Yn ogystal â’r colledion a hawliwyd gan nifer o grefftwyr, fel celfi gwaith barciwr, roedd llawer o’r nwyddau y rhoddwyd tâl digolledu amdanynt yn arwyddocaol yn amaethyddol eu natur, gan gynnwys ŷd, gwair a da byw amrywiol fel buchod, ychen, ceffylau, defaid, ieir a moch. Deliwyd â gwrthryfel Madog yn llym trwy fesurau a gyfyngodd ymhellach ar gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd y Cymry yn y fwrdeistref a’i chyffiniau. Parhau wnaeth y tensiynau hiliol ymhell i’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac er i Edward III roi swyddi cwnstabl y castell a siryf i ddau Gymro ym 1350, roedd hyn dim ond ar yr amod y byddai Sais yn cael ei gadw fel is-gwnstabl ‘because we will that the same castle be kept by none other than an Englishman’.

Roedd terfynau bwrdeistref ganoloesol y Fflint yn cynnwys yr hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn blwyf y Fflint, ynghyd â threfgordd Coleshill Fawr ym mhlwyf Treffynnon, ardal o dir yn ymestyn at Oakenholt tua’r dwyrain, Mynydd y Fflint tua’r de a Gadlys yn y gorllewin. Mae tystiolaeth dda bod coed wedi’u cwympo a’r tir wedi’i glirio a’i droi yn gaeau agored yn systematig ar ddiwedd y 13eg ganrif mewn rhan sylweddol o’r ardal er mwyn darparu tir amaethyddol ar gyfer y trefolion yn y cyfnod pan sefydlwyd y dref. Nodir yr awdurdod i gynnal y gwaith hwn yn eglur yn siarter y dref a roddwyd gan Edward I sy’n nodi ‘all the lands now assigned to the borough should be entirely diswarrened and deforested’. Rhoddodd siarter bellach gan Edward yr hawl benodol i gwympo coed ar gyfer mwyndoddi mwyn plwm ac i bori anifeiliaid.

Dengys map Degwm y Fflint ym 1839 fod y dref yn y 19eg ganrif wedi’i hamgylchynu tua’r tir gan batrwm neilltuol tebyg i grid o gaeau hirgul sy’n bennaf yn mynd i fyny ac i lawr llethrau'r bryn, ac sy’n amlwg wedi’u cynllunio mewn perthynas â’r dref ganoloesol. Yn amlwg, cafodd y caeau hyn eu creu o ganlyniad i gyfnod cyflym o ad-drefnu'r dirwedd yng nghyfnod concwest Edward, ac maent yn hollol wahanol i’r patrymau caeau mwy afreolaidd o’u hamgylch. Adeiladwyd ar ben llawer o’r dirwedd caeau hon wrth i’r dref ddatblygu fel anheddiad diwydiannol yn ystod cyfnodau diweddarach y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, gan bellhau fwyfwy oddi wrth ei chyd-destun gwledig gwreiddiol. Fodd bynnag, mae rhywfaint o’r patrwm caeau gwreiddiol yn parhau yn y ‘rhwystr glas’ i’r de o’r dref sydd wedi’i ddynodi yng Nghynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint. Mae hefyd i’w weld mewn ambell fan glas ac ym mhatrwm llwybrau troed a ffyrdd fel Ffordd Coed Onn/Lôn Allt Goch sydd wedi ffosileiddio’r patrwm o fewn terfynau’r anheddiad modern.

Daeth y patrwm neilltuol o gaeau, gyda lonydd a llwybrau troed yn plethu rhyngddynt, o ganlyniad i gyfuno a chau yn raddol yr hen gaeau agored canoloesol y byddai trefolion canoloesol yn eu gweithio yn ystod y cyfnod rhwng y 15fed ganrif a’r 17eg ganrif yn ôl pob tebyg. Yn wreiddiol, roedd y caeau hyn yn gulach o lawer ac yn lleiniau a fyddai’n cael eu gweithio gan unigolion. Byddent tua ystaden o hyd (220 llathen = 201 metr) ac yn aml yn llai na rhoden o led (16.5 troedfedd = 5 metr) gyda balciau syml heb eu haredig yn eu gwahanu. Yn ddiddorol, mae’r siarter a gyhoeddodd Edward III yn y 1360au yn diffinio rhan o ffin y fwrdeistref yn y cyfnod hwnnw wrth gyfeirio at selions (llain-gaeau agored canoloesol) a thalarau yn ardal Leadbrook i’r dwyrain o’r dref. Mewn mannau, mae olion y caeau unigol hyn wedi goroesi ar ffurf cefnen a rhych, a oedd efallai yn fwy cyffredin o lawer ar un adeg, a nododd sylwebyddion amaethyddol fod lleiniau cytal (sef enw arall ar gefnen a rhych) yn gyffredin yn ardal y Fflint yn negawd cyntaf y 19eg ganrif. Ymhlith nodweddion neilltuol eraill y dirwedd hon, a fu gynt yn amaethyddol, mae amlinelliad S o chwith nodweddiadol y caeau a’r talarau ar hyd y gyfuchlin ar ben ac ar waelod cyfres o gaeau (yn aml, roedd lonydd i’w cael yma’n ddiweddarach), lle roedd y timau aredig yn troi. Heddiw, porfa barhaol yw cyfran fawr o’r caeau o amgylch y dref, ond mae’n amlwg o fap Degwm 1837 fod yno ar un adeg ganran uwch o lawer o dir âr yn agos iawn at y dref.

Gellir gweld cyfanswm arwynebedd o tua 440 hectar (1090 erw) o hen gaeau agored yng nghyffiniau’r Fflint ar y Map Degwm. Wrth gyfrifo’n fras y 40 erw i bob aelwyd a gynigiwyd ym 1282, ceir awgrym bod poblogaeth y dref ar ddiwedd y 13eg ganrif yn cynnwys hyd at 30 o deuluoedd o ffermwyr. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y lleiniau unigol yn cael eu neilltuo ar hap o dymor i dymor, fel oedd yr arfer mewn pentrefi yn Lloegr yn ystod y Canol Oesoedd, oherwydd mae’n fwy tebygol wrth ystyried natur yr anheddiad fod y fwrdeistref yn gosod y caeau ar rent ac ar brydles o’r cychwyn cyntaf.

Mae topograffeg ac enwau caeau’n helpu i ail-greu elfennau pellach cefn gwlad gynt o amgylch y dref ganoloesol. Mae dosbarthiad lleiniau unigol yn awgrymu y gallent fod wedi’u hisrannu yn o leiaf dau gae agored a allai fod wedi’u ffermio ar sail cylchdro – un i’r de a’r dwyrain o’r dref yn nhrefgordd y Fflint, a’r llall i’r gorllewin a’r de-orllewin o’r dref yn nhrefgordd Coleshill Fawr. Mae nifer o gaeau i’r dwyrain o’r dref yn ymddangos ar y map Degwm, gyda’r enw ‘Maes y dre’ yn awgrymu enw un o’r caeau agored. Ymhlith enwau caeau eraill sy’n awgrymu tarddiad o gae agored mae’r elfen Gymraeg ‘maes’ a’r geiriau Saesneg accar a quillet. Safurlum oedd yr enw ar grŵp o gaeau ger yr arfordir, sef o bosibl sea furlong. Mae’r patrwm o gaeau agored yn osgoi’r llain braidd yn doredig o dir o bob tu i nant Swinchiard sy’n rhedeg tua’r de o’r dref ganoloesol ac yn cyfateb yn fras â’r ongl rhwng Ffordd Helygain a Ffordd Llaneurgain. Mae’n debyg iddo oroesi fel tir comin heb ei gau yn ystod y cyfnod canoloesol, gan ddarparu porfa fras i anifeiliaid a hefyd mynediad rhydd i’r bryniau ymhellach i’r de. Yma mae casgliad gwahanol o enwau caeau ar Arolwg y Degwm, gan gynnwys elfennau’n tarddu o ‘gweirglodd’ a ‘coed’ yn Gymraeg a green yn Saesneg, sydd rhyngddynt yn dynodi dôl, coetir wedi’i goloneiddio’n ddiweddar a thir comin heb ei gau. Mae’n debygol bod arwyddocâd hefyd i’r ffaith bod enw’r nant ei hun yn cynnwys yr elfen Saesneg swin yn golygu ‘moch’. Yn ddiamau, roedd ardaloedd o borfa comin hefyd yn cael eu hecsbloetio ar y tir is ym Morfa’r Fflint ychydig i’r gorllewin o’r dref ac ar hyd y morfeydd heli ar ymyl yr aber cyn i adennill a chau ar raddfa helaeth gychwyn ar ddechrau’r 18fed ganrif.

Ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, y Fflint oedd y dref fwyaf ffyniannus yn Sir y Fflint ond, am amryw o resymau, dirywio’n raddol wnaeth ei ffortiwn dros y ddwy neu dair canrif nesaf. Dyma gyfnod y mae pytiau o wybodaeth yn rhoi llun cyffredinol o’r dref a’i thrigolion. Cafodd y plâu a ysgubodd trwy’r wlad ym 1349, ac ar nifer o adegau eraill yn ystod ail hanner y 14eg ganrif, effaith gyffredinol yma fel mewn mannau eraill. Cafwyd llai o gynhyrchiant a thwf, ac roedd gweithlu a oedd yn lleihau yn cael effaith anochel ar drefniadaeth gymdeithasol, ddiwydiannol ac amaethyddol. Yn y cefn gwlad o amgylch y dref, mae’n debygol fod y pwysau hyn wedi arwain at gyfuno graddol y selions yr oedd unigolion yn eu trin, gan ddod â’r system caeau agored a ddechreuwyd ar ddiwedd y 14eg ganrif a'r 15fed ganrif i ben wrth i dir gael ei werthu i berchnogion preifat, ac efallai fwyfwy i ffermwyr a oedd yn byw y tu allan i’r dref. Mae canran yr enwau caeau Cymraeg yn uwch yn y Fflint nag yn llawer o'r plwyfi yn nwyrain Sir y Fflint, ac er ei bod yn is na’r rheiny yn y gorllewin, mae'n awgrymu bod newid graddol yng nghydbwysedd perchnogaeth tir yn mynd rhagddo, o’r rheiny a siaradai Saesneg yn unig i siaradwyr Cymraeg brodorol.

Yn ogystal â’r gynhaliaeth roedd ffermio’n ei darparu, roedd ychydig o incwm yn parhau i ddod i mewn am waith trwsio ar y castell, sy’n ymddangos yn rheolaidd yn y cyfrifon brenhinol ar gyfer y blynyddoedd 1328–52 a 1422–37. Adeiladwyd neuadd newydd ym 1382-83 ‘within the castle, of Flint in which pleas may be heard by the king’s justices’. Gwnaeth y castell barhau i fod â rôl fel arhosfan ar deithiau dros dir a môr i Iwerddon, sef rôl sydd ynghlwm â nifer o ddigwyddiadau hanesyddol nodedig yn ymwneud â brenhinoedd anffodus Lloegr yn ystod y 14eg ganrif. Ymhlith y rhain mae’r cyfarfod yn y castell rhwng Edward II a’i gyfaill, ac o bosibl ei gariad, Piers Gaveston ym 1311 a phresenoldeb Richard II yma ym 1399, ychydig cyn iddo gael ei orfodi i ildio’r orsedd i’r dyn a ddaeth yn Harri’r IV.

Roedd y Fflint yn un o’r trefi Seisnig hynny yng ngogledd-ddwyrain Cymru yr ymosododd cefnogwyr Owain Glyndŵr arnynt ym mis Medi 1400, gan roi gwarchae ar y cestyll yn y Fflint, Rhuddlan a Phenarlâg ar ddechrau mis Awst 1403. Roedd Castell y Fflint yn dal yn ddigonol i allu rhoi lloches i’r trefolion y dywedwyd ‘dared not linger outside the castle’. Ni ddinistriwyd y dref ei hun er i felin yn y Fflint gael ei dinistrio, a dywedwyd y gorweddai caeau’r trefolion heb eu trin. Ceir tystiolaeth mai araf iawn oedd adferiad y dref ac o’r herwydd ni chasglwyd unrhyw renti ym 1407 a 1409 ‘because of the depredations they had suffered and the poverty of the burgesses’. Ond gwnaed y trwsio, a daeth gweithfeydd adeiladu newydd yn y pen draw: ailgodwyd y felin a ddinistriwyd ym 1412, ac ym 1452 adeiladwyd siambr a neuadd newydd yn y castell. Roedd cynnal a chadw’r castell a ffosydd y dref yn anodd heb weithlu mawr o fewn cyrraedd, a daw tystiolaeth o waith cloddio yn y castell i siltio ddod yn broblem ddifrifol. Mae’n debyg fod y ddyfrffos fewnol wedi dechrau sychu erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac erbyn y 15fed ganrif ni allai dyfroedd llanwol gyrraedd y ddyfrffos allanol.

Mae cerdd Ieuan ap Tudur Penllyn, a ysgrifennwyd tua 1480, yn rhoi cipolwg prin ar fywyd diwylliannol y Fflint ar ddiwedd oll y Canol Oesoedd. Ynddi mae’n dychanu neithior Seisnig yn gyffredinol, a chwaraewr pibgod Lloegr yn arbennig, gan ddangos efallai rai o’r tensiynau hiliol a oedd yn parhau o hyd, mwy na dwy ganrif ar ôl y goncwest. Gwelir ambell fanylyn am dopograffeg ac economi’r dref yn y gerdd. Gelwir y lle’n watwarus yn ‘dre ddwbl, gaergwbl-gwyrgam’; mae’n gwawdio gwesteion y neithior fel ‘porthmyn haidd ac ŷd’; ac mae croeso i’r dref gadw ‘ei ffwrn’.

(yn ôl i’r brig)