CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Y Berwyn


CPAT PHOTO 86-C-50

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Lleolir y tirwedd mynyddig anghysbell hwn ar lethrau gorllewinol Mynyddoedd y Berwyn sy’n rhannu Gogledd Cymru oddi wrth y Canolbarth yn ffisegol ac yn weledol. Mae’r ardal yn cynnwys lleiniau o diroedd pori rhostir tonnog i’r de ddwyrain o ddyffryn Dyfrdwy, sy’n edrych dros Landrillo a massif Eryri draw yn y gorllewin.Ar ochr ddwyreiniol yr ardal,mae esgair ganol Mynyddoedd y Berwyn yn cyrraedd 827m o uchder uwchben SO yng nghopaon Cader Berwyn a Moel Sych,ond tua’r gorllewin mae’r tir yn graddol ddisgyn mewn cyfres o esgeiriau i tua 350–450m uwchben SO, cyn disgyn yn serth i Gwm Pennant sy’n ffinio â’r ardal i’r gorllewin.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf,mae cyfuniad o ffotograffau o’r awyr a gwaith maes archaeolegol wedi datguddio olion tirwedd amaethyddol hanesyddol mewn cyflwr da,sy’n cynnwys ardaloedd eang o gyfundrefnau caeau sy’n ymestyn am fwy na 3km uwchben Cwm Pennant.Credir bod cloddiau, ffosydd,amgaeadau ac aneddiadau y cyfundrefnau caeau hyn yn tarddu o’r cyfnod cynhanesyddol a’r Canol Oesoedd.Yn raddol, mae gwaith maes yn datguddio patrwm cymhleth o aneddiad a ffermio a gellir gweld nifer o derasau llwyfan,sy’n aml yn digwydd mewn parau ac sydd â gweddillion sylfeini cerrig, sy’n cynrychioli’r ‘tyˆ a’r beudy’ fwy na thebyg,ar derfynau caeau a marchgaeau cysylltiedig.Efallai bod pob cymhlethfa yn cynrychioli fferm fach deuluol o’r oesoedd canol.Gosodwyd y patrwm hwn dros olion cyfnod cynharach o ddefnydd tir, a gynrychiolwyd gan garneddau carreg a sylfeini cytiau cerrig crwn,sydd yn perthyn i Oes yr Efydd fwy na thebyg.Er y credir bod y patrwm yma eto yn cynrychioli ffermydd bach teuluol,gwahenir y ddau gyfnod gan o leiaf 2000 o flynyddoedd o hanes.Mae’r tir pori wedi’i wella yn yr ardal hon yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf gan guddio rhai o’r nodweddion,ond mae sawl ffin gyfoes yn dilyn llinellau eu rhagflaenwyr. Mae’r amrywiaeth eang o waith cloddiog a strwythurau cerrig a oroeswyd yn gwneud y tirwedd hwn yn ffynhonnell archaeolegol bwysig ar gyfer astudiaeth bellach.

Yng nghanol yr ardal,yn esgair Cefn Penagored sy’n ymestyn i’r dwyrain rhwng Nant Cwm Tywyll a Nant Esgeiriau,ceir olion cyn-gyfundrefnau caeau cynhanesyddol, sy’n cynnwys cloddiau cerrig isel ynghyd â sawl cylch cwt.

Mae’r ardal hon yn cynnwys tirwedd o gaeau,cytiau a aneddiadau eraill o Oes yr Efydd sy’n hynod o gyflawn.Mae’r ardal hefyd yn cynnwys elfennau o dirwedd cynhanesyddol ysbrydol gan ei fod yn cynnwys cylch bychan o gerrig a nifer o garneddau claddu a meini hirion.Ceir grwˆ p llai,ond sydd yr un mor bwysig, o garneddau claddu ar ymylon gogleddol yr ardal ym Moel Tyˆ Uchaf,tra ceir grwpiau eraill mewn safleoedd amlwg ar gopaon lleol ac ar hyd brig yr esgair ganol i’r dwyrain. Mae un ardal fechan rhwng dwy nant,Nant Cwm Tywyll a Chlochant wedi llwyddo i osgoi gwelliannau diweddar. Mae Ffridd Camen yn ardal yn y tirwedd o lethrau graddol sy’n cynnwys tystiolaeth wedi’i gadw’n dda o amaethu canoloesol yr ardal.Mae olion clawdd sylweddol,sydd â wyneb carreg mewn mannau,yn rhannu’r tir caregog i’r dwyrain a’r tir amaeth i’r gorllewin a gliriwyd o gerrig ac a rannwyd yn stribedi. Y tu ôl i’r clawdd ceir olion dau dyˆ hir a ffald gerrig. Ymddengys felly bod Ffridd Camen wedi cynnal fferm hunangynhwysol yn ystod y Canol Oesoedd:ceid caeau a gliriwyd o gerrig ar y llethrau is ac yn ôl pob tebyg adeiladwyd y clawdd mawr i gadw stoc rhag crwydro i’r ardal a amaethwyd, gyda’r ffermdy yn edrych dros y cyfan.Mae’n debygol bod yr enghraifft hon yn cynrychioli’r patrwm cyffredinol o’r defnydd o dir ar lethrau gorllewinol Mynyddoedd y Berwyn yn ystod y Canol Oesoedd.Gellir gweld olion hen stribedi a amaethwyd,sy’n gorgyffwrdd â’r rhostir mynyddig,o fewn yr ardal gyffredinol o hyd.Amlinellir y rhain gan gloddiau isel o bridd a cherrig a cheir nifer o garneddau clirio arnynt.

Er bod y gwelliannau modern wedi lleihau’r nifer o elfennau hanesddyddol sydd wedi goroesi ar dirwedd Mynyddoedd y Berwyn yn sylweddol,mae’r ardal hon yn dal i gynrychioli un o’r tirweddau cadwedig gorau o’i fath yng Nghanolbarth Cymru.Mae’r nifer hynod uchel o nodweddion cynhanesyddol sy’n deillio o weithgareddau ffermio a defodol,ynghyd â goroesiad tystiolaeth o ffermio ac aneddiad diweddarach, sydd yr un mor drawiadol,yn yr ardal gymharol fechan hon yn ei gwneud yn enghraifft brin a phwysig o dirwedd hanesyddol Cymru.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.