CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Basn Caersws: Llanwnog
Cymuned Caersws, Powys
(HLCA 1179)


CPAT PHOTO 06-C-043

Peth tystiolaeth o ddefnyddio tir ac anheddu cynhanesyddol cynnar. Llwybr y ffordd Rufeinig i’r gogledd o’r gaer Rufeinig yng Nghaersws. Tirwedd o gaeau cymysg yn cynrychioli clirio a chau tir bob yn dipyn, a chau tebygol hen gaeau agored canoloesol, sy’n gysylltiedig â’r anheddiad cnewylledig sy’n tarddu o’r cyfnod canoloesol cynnar neu’r cyfnod canoloesol yn Llanwnog. Pentrefan diwydiannol yn manteisio ar bŵer dŵr ym Mhontdôlgoch, a nodweddion sy’n gysylltiedig â datblygu’r ffordd dyrpeg a’r rhwydweithiau rheilffyrdd yn y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Escob a Castle, Wig a Surnant ym mhlwyf degwm Llanwnog, Sir Drefaldwyn. Cofnodwyd yr enw Llanwnog gyntaf ar ddiwedd y 12fed ganrif, a’i ystyr yw ‘eglwys Gwynnog’. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwynnog, ac felly hefyd eglwys Aberhafesb gerllaw. Roedd gan esgob Bangor diroedd yn y plwyf ar ddechrau’r 14eg ganrif.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Tirwedd gymysg o gaeau iseldirol ar lawr y dyffryn, a llethrau isaf bryniau rhan isaf dyffryn Afon Carno, ar uchder o rhwng 130 metr a 240 metr, a sawl bryncyn isel yn yr ardal rhwng Llanwnog a Chaersws, sef drymlinau rhewlifol, sydd wedi effeithio ar batrymau draenio lleol. Mae yna beth amrywiaeth o ran mathau o bridd yn yr ardal. Yn hanesyddol, cafodd y rhain effaith ar botensial economaidd. Ar lannau Afon Carno, mae priddoedd llifwaddodol dwfn sy’n siltiog, yn athraidd a heb gerrig, yn gweddu i ffermio llaeth a magu da byw ar rawnfwydydd a glaswelltir parhaol a thymor byr. O gwmpas Llanwnog, mae ardal o briddoedd siltiog a lomog mân wedi’u draenio’n dda, dros ddyddodion ffrwd-rewlifol neu greigwely siâl, yn gweddu i ffermio llaeth a thyfu grawn. Ar hyd rhan isaf Nant Manthrig, rhwng Llanwnog a Chaersws, mae priddoedd mân llifwaddodol, dwfn a heb gerrig, sy’n gleiog neu’n siltiog y mae dirlawnder yn effeithio arnynt, sy’n gweddu orau i ffermio llaeth a magu stoc ar borfa barhaol. Mae tirwedd y caeau’n cynnwys yn bennaf caeau afreolaidd mawr a bach sydd, mae’n debyg, yn cynrychioli clirio a chau tir bob yn dipyn o gyfnodau canoloesol neu gynharach, er bod yna batrymau neilltuol a chymharol helaeth o gaeau llain i’r gorllewin ac i’r de o bentref Llanwnog. Ymddengys fod y rhain yn cynrychioli caeau agored canoloesol a oedd, o bosibl, wedi'u cau tua diwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae’n amlwg bod peth ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fach wedi digwydd i’r de o Bontdôlgoch pan adeiladwyd y rheilffordd o’r Drenewydd i Fachynlleth tua diwedd y 1850au.

Mae’r mwyafrif o’r enwau lleoedd yn gysylltiedig ag anheddu, diwydiant a chyfathrebu. Yn eu plith ceir yr elfen gefail yn Rhiw-yr-efail, plas yn Henblas, pont yn Pontdôlgoch ac wtra yn Ty’n-yr-wtra er enghraifft. Mae’r elfen dôl ym Mhontdôlgoch yn awgrymu dolydd, ac mae’r elfen gwig yn Wig, a gofnodwyd yn gyntaf tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, tuag ochr orllewinol yr ardal, yn awgrymu coetiroedd. Awgrymir daliad tir eglwysig gan yr elfen esgob ym Mharc-yr-Esgob ychydig i’r gogledd o Lanwnog. Mae’n debyg mai Esgob Bangor oedd yn berchen ar y tir hwn. Cofnodwyd hwn am y tro cyntaf tua chanol yr unfed ganrif ar bymtheg, ac roedd yn ffurfio elfen o enw trefgordd Escob a Castle ym mhlwyf Llanwnog.

Mae hapddarganfyddiadau gwasgaredig ar hyd Afon Carno yn darparu tystiolaeth arwyddocaol o ddefnyddio tir ac anheddu cynhanesyddol cynnar. Mae hyn yn cynnwys pen brysgyll tyllog a ddarganfuwyd ym Mhontdôlgoch, darn o grochenwaith Neolithig cynnar o gerllaw Blackhall Cottages, ac o bosibl dwy ffos gylch yn cynrychioli henebion claddu yn yr ardal rhwng Blackhall Cottages a Llanwnog. Mae’n bosibl bod twmpath llosg sydd wedi’i gladdu yn agos i lan afon Carno ychydig i’r gorllewin o bont Wig yn dyddio o’r Oes Efydd.

Tybir bod llwybr y ffordd Rufeinig sy’n arwain o borth gogleddol y gaer Rufeinig yn rhedeg ar hyd dyffryn Carno, fwy neu lai ar hyd llinell yr A470. Nid yw’n glir hyd yma lle mae’n croesi’r ardal nodwedd.

Daeth yr anheddiad cnewylledig bach yn Llanwnog i fodolaeth yn y cyfnod canoloesol cynnar neu’r cyfnod canoloesol. Ynghyd â Llandinam i’r de o Afon Hafren, fe ddisodlodd ganolfan weinyddol gynharach y rhanbarth, a oedd yn canolbwyntio ar y gaer Rufeinig yng Nghaersws. Er nad yw ei wreiddiau yn eglur hyd yma, mae’n bosibl bod yr awgrym o ffermio tir âr ar gaeau agored yn y gorffennol, yn arbennig i’r gorllewin ac i’r de o ganol y pentref, a’i gysylltiad ag eglwys ganoloesol, yn awgrymu y gallai fod wedi dod i ffurfio canolfan faenorol gynnar. Awgrymir caeau agored gan batrymau cymharol benodol o batrymau caeau hir, hirgul, tebyg i leiniau, ac mae rhai ohonynt yn parhau i gael eu cysylltu ag olion creiriol tirwedd cefnen a rhych llydan. Mae’r cofnod dogfennol cyntaf o’r eglwys, sydd wedi’i chysegru i Sant Gwynnog, yn dyddio o ganol y 13eg ganrif. Saif mewn mynwent gromliniol ac awgryma hyn, ynghyd â’r elfen llan yn yr enw lle, ei bod wedi’i sefydlu rhwng yr 8fed a’r 9fed ganrif o bosibl. Mae rhywfaint o’r adeiladwaith canoloesol sydd wedi goroesi yn yr eglwys wedi’i adeiladu o flociau tywodfaen wedi’u sgwario. Tybir bod y rhain wedi’u cymryd o amddiffynfeydd y gaer Rufeinig yng Nghaersws. Mae’r llofft a’r groglen ganoloesol wych a darnau o wydr ffenestr canoloesol, gan cynnwys delwedd o Sant Gwynnog, yn awgrymu rhyw ffurf ar nawddogaeth.

Mae’n debyg bod y mwyafrif o adeiladau cynnar hyd at ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol wedi’u hadeiladu’n rhannol o ffrâm bren. Ymhlith yr adeiladau llai sy’n dyddio o’r 17eg ganrif ac sydd wedi goroesi yn yr ardal, mae’r bwthyn ym mhentref Llanwnog, dyddiedig 1664, a bwthyn ym Mhontdôlgoch. Mae’r tŷ pren mwy ei faint ac uwch ei statws ym Mherth-eiryn, ychydig i’r de o Bontdôlgoch, yr ychwanegwyd tu blaen brics ato yn y 18fed ganrif, yn un o nifer o dai bonedd arunig yr iseldir yn ardal y dirwedd hanesyddol. Ymddengys fod y rhain yn arwydd o ddatblygu canolfannau stadau yn y cefn gwlad agored yn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, mewn cysylltiad o bosibl â chau dolydd comin yr iseldir o amgylch Afon Hafren a’i phrif lednentydd yn y cyfnod hwn.

Parhaodd pentref Llanwnog i ddatblygu bob yn dipyn yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Dylanwadwyd llawer iawn ar ei gymeriad gan bresenoldeb cyfres o ffermydd sy’n pwysleisio’i wreiddiau amaethyddol. Dylanwadwyd arno hefyd gan ddatblygiad y rhwydwaith ffyrdd tyrpeg tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, pan adeiladwyd pontydd newydd ar draws Afon Carno yn Wig ac ym Mhontdôlgoch. Ehangodd yr ardal i’r gogledd-ddwyrain o’r pentref, gyda datblygu tai modern a thai gwledig ar ochr y ffordd yn yr 20fed ganrif. Ehangodd y pentrefan ym Mhontdôlgoch, a allai fod wedi’i wreiddio yn y Canol Oesoedd, gyda datblygu pŵer Afon Carno rhwng yr 17eg ganrif a’r 19eg ganrif, pan adeiladwyd melin lifio, melin ŷd a melin wlân, yn gysylltiedig â dyfrffosydd melin, pyllau melin, tai melin a bythynnod gweithwyr. Roedd gefail, tafarn ar ochr y ffordd a chapel anghydffurfiol wedi’u hychwanegu at yr anheddiad erbyn canol y 19eg ganrif. Mae’r felin lifio sy’n cael ei gyrru â dŵr yn parhau i weithio. Adeiladwyd melin wlân arall, nad yw wedi goroesi, ymhellach i lawr yr afon ger Bont Wig. Adeiladwyd pontydd rheilffordd dros y ffordd a’r afon ym Mhontdôlgoch gyda dyfodiad y rheilffordd ar ddechrau’r 1860au. Mae’r rheilffordd yn parhau i redeg, ond mae’r hen orsaf a hen dŷ’r gorsaf-feistr ym Mhontdôlgoch bellach wedi’u trosi’n gartrefi.

Parhaodd peth datblygu ffermydd gwledig i’r 20fed ganrif, dan ddylanwad nifer o’r ystadau mawr, mae’n debyg. Mae yna hefyd gyfres bwysig o dyddynnod cynnar y cyngor sir yn yr ardal, fel sydd ym Maesteg, Lôn Wig, Caersws.

Dywedir bod bomiau wedi’u gollwng yn anfwriadol ar ran o bentref Llanwnog, o ganlyniad i weithgarwch y gelyn yn ystod yr ail ryfel byd.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anthony 1995; Barker 1997; Barton 1997; Barton 2003; Baughan 1980; Crossley a Ridgway 1947; Davies 1810; Davies 1829; Dempsey 1997; Eisel 1986; Ellis 1838; Gibson 1997; Gibson 1998; Haslam 1979; Howell 1875; Jenkins 1969; Lewis 1833; Lunt 1986; Owen 1957-58; Morgan 2001; Parry 1998; Pennant 1783; Price 1998; Pryce 1886; Putnam 1961-62; CBHC 1911; Silvester 1992; Silvester 2003; Silvester 2004; Silvester a Hankinson 2002; Silvester a Hankinson 2003; Silvester ac Owen 2004; Smith 1975; Stephenson 2005; Walker 1871

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.