CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Basn Caersws: Caersws
Cymunedau Caersws, Llandinam, Aberhafesb a Mochdre, Powys
(HLCA 1182)


CPAT PHOTO 06-C-024

Pentref modern, sef bwrdeistref ganoloesol yn wreiddiol, ac wedi’i adeiladu dros anheddiad sifilaidd Rhufeinig gerllaw caer Rufeinig. Mae safle’r pentref ar y rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif wedi cyfrannu ar y dechrau at ei ddatblygiad. Yn ddiweddarach, datblygodd yn bentref noswylio ar gyfer y Drenewydd.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn ffurfio rhannau o drefgordd faenorol Caersws ym mhlwyf degwm Llanwnog

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Dyma lawr dyffryn isel a chymharol wastad, ychydig uwchben gorlifdir Afon Hafren gan fwyaf, ar uchder o rhwng 120 a 130 metr. Ymddengys fod amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd Afon Carno ac Afon Hafren wedi’u hadeiladu’n rhannol tua diwedd y 19eg ganrif, ar y cyd ag adeiladu’r rheilffyrdd, ac yn rhannol yn ystod yr 20fed ganrif.

Caewyd nifer o diroedd comin bach iseldirol ym mhentref Caersws ac o’i amgylch o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Adeiladwyd y gaer Rufeinig yn yr ongl rhwng Afon Hafren ac Afon Carno tua diwedd y ganrif 1af, yn dilyn cyfnod y goncwest. Mae ei hamddiffynfeydd yn goroesi hyd heddiw fel cloddweithiau ychydig i’r gogledd o ganol y pentref modern. Roedd y gaer yn cynnwys casgliad o adeiladau pren a charreg, ac roedd waliau cerrig a phorthdyrau’n ei hamddiffyn. Safai ger canolbwynt rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig, yn cysylltu â chaer a thref Wroxeter i’r dwyrain, â chaer yn ardal y Bala i’r gogledd yn ôl pob tebyg, â’r gaer fechan ym Mhenycrocbren a’r gaer ym Mhennal i’r gorllewin mae’n debyg, ac â’r gaer yng Nghastell Collen ger Llandrindod i’r de. Tyfodd anheddiad sifilaidd dros ardal o o leiaf 8 hectar ar ochrau deheuol a dwyreiniol y gaer Rufeinig. Mae llawer ohono bellach o dan y pentref modern. Ffurfiwyd ef o adeiladau pren, wedi’u gosod ar grid o strydoedd a lonydd, lle roedd masnachwyr a chrefftwyr oedd yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r fyddin Rufeinig yn byw. Ymhlith y diwydiannau oedd yn mynd rhagddynt yma roedd odynnau’n cynhyrchu teils llawr yn seiliedig ar ddyddodion clai lleol, yn ogystal â gweithfeydd haearn a chastio efydd. Adeiladwyd baddondy ychydig i’r de-orllewin o’r gaer. Mae’n debyg mai dŵr a gludwyd mewn dyfrffos o Afon Carno oedd yn ei gyflenwi. Mae awgrymiadau bod yna fynwent Rufeinig wedi’i sefydlu yn yr ardal hon o bosibl hefyd. Ymddengys fod pobl wedi dechrau gadael y gaer a’r anheddiad sifilaidd cysylltiedig yn gyflym yn hanner cyntaf yr 2il ganrif OC, er bod yna arwyddion bod y gaer yng Nghaersws wedi’i chynnal fel canolfan weinyddol o bosibl hyd y 3edd ganrif neu’r 4edd ganrif o leiaf.

Ymddengys fod canolbwynt gweinyddol yr ardal wedi symud i’r aneddiadau eglwysig cnewylledig yn Llandinam, i’r de o Afon Hafren ac i Lanwnog i’r gogledd yn ystod y cyfnod ôl-Rufeinig. Ymddengys fod arglwyddi Arwystli neu Bowys wedi ymdrechu i sefydlu bwrdeistref â marchnad bob wythnos yng Nghaersws, rhwng y marchnadoedd a grëwyd ymhellach i fyny'r afon yn Llanidloes, ac i lawr yr afon yn y Drenewydd. Yn amlwg, methwyd yn hyn o beth, ac erbyn yr 16eg ganrif, nid oedd yn fwy na phentrefan bychan. Ystyrir bod yr enw Caersws, a gofnodwyd am y tro cyntaf yn y 1470au, yn cyfuno caer, sef cyfeiriad at y gaer Rufeinig, ac enw personol, Swys o bosibl.

Goroesodd ardaloedd o dir comin yr iseldir ym mhentref Caersws ac o’i amgylch, ac yn rhan isaf Nant Manthrig hyd ddechrau’r 19eg ganrif. Bryd hynny, roeddent yn destun deddf cau tir Arwystli.

Daeth prif gyfnod datblygu Caersws gyda gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ac o ganlyniad, mae ganddo gymeriad pentref ar ymyl y ffordd a ddatblygodd ar gyffordd a chroesfan bwysig ar draws afon. Er bod yna o leiaf un adeilad cynhenid traddodiadol yn y pentref, mae ei gymeriad yn llawer mwy trefol a diwydiannol na gwledig mewn sawl agwedd (er ar raddfa fach iawn). Mae’r datblygiad hwn yn cynnwys cyfres o derasau, un ohonynt yn deras trillawr, yn dyddio yn ôl pob tebyg o ddechrau’r 19eg ganrif. Mae’n atgof o’r rhesi sy’n gysylltiedig â’r diwydiant gwlân ym Mhenygloddfa, y Drenewydd. Mae llawer o’r gweddill yn amlwg yn ddiweddarach na’r rheilffordd.

Adeiladwyd sawl tafarn i wasanaethu teithwyr oedd yn mynd trwy’r pentref, ac mae’r pentref hefyd yn cynnwys Dolaethnen, sef tŷ wyneb carreg o ganol y 19eg ganrif, sy’n gysylltiedig â stad Williams Wynn. Adeiladwyd Tloty Caersws ar ochr ddwyreiniol y pentref yn y 1830au, i ddarparu cartref ar gyfer hyd at 350 o dlodion. Adeiladwyd ef yn rhannol o frics o glai lleol a gloddiwyd ac a thaniwyd mewn odynnau i’r gogledd-ddwyrain o ganol y pentref. Yn ddiweddarach, daeth yn Ysbyty Llys Maldwyn, ac mae wedi’i drosi yn ddiweddar at ddibenion eraill. Ehangodd y pentref ymhellach gyda dyfodiad y rheilffyrdd yn y 1860au a’r 1870au. Bryd hynny, darparwyd gorsaf unllawr yng Nghaersws, gyda thŷ deulawr i’r orsaf-feistr, a chaban signalau ar wahân. Roedd Caersws hefyd yn gyffordd y brif lein â Rheilffordd y Fan, sef y llinell fwynau a oedd yn gwasanaethu’r mwyngloddiau plwm i’r gogledd o Lanidloes. Darparwyd swyddfa a sied injans ar ei chyfer ar ochr orllewinol y pentref. Mae’r sied injans sydd wedi’i hadeiladu o frics melyn â ffenestri haearn bwrw wedi goroesi, a hefyd adeilad gorsaf bach o frics coch sydd wedi’i addasu cryn dipyn, sy’n sefyll ar y platfform gwreiddiol. Adeiladwyd tai a siopau i weithwyr yng Nghaersws, yn ogystal ag eglwys a dau gapel anghydffurfiol yn ystod y 19eg ganrif. Ynghyd ag adeiladau eraill, maent yn dangos amrywiaeth arbennig o dda o liwiau a mathau o frics, yn cynnwys brics melyn nodedig. Yn ystod yr 20fed ganrif, adeiladwyd tai mewnlenwi yng nghraidd y pentref, ond y stadau tai a’r ysgol i’r dwyrain o ganol y pentref, y tu hwnt i Nant Manthrig oedd yr ehangiad mwyaf amlwg. Mae amrywiaeth adeiladu, swyddogaethau adeiladau a deunyddiau adeiladu oll yn gyfraniadau o bwys i gymeriad unigryw craidd pentref Caersws.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anthony 1995; Baughan 1980; Bosanquet 1909; Britnell 1989; Burnham 1995; Colt Hoare 1806; Cozens 1953; Cozens et al. 2004; Daniels, Jones a Putnam 1966, 1968, 1970; Davies 1829; Davies 1943-44, 1945-46; Davies 1943-44, 1945-46; Davies 1943-44, 1945-46; Davies a Jones 2006; Hankinson a Jones 2003; Haslam 1979; Howell 1875; Jarrett 1969; Jarrett 1994; Jones 1961; Jones 1983; Jones 1985; Jones 1987; Jones 1993; Lewis 1833; Morgan 2001; Owen 1990; Owen 1993; Pennant 1783; Pritchard 1962; Pryce 1940; Pryce 1931; Putnam 1961-62; Rivet a Smith 1979; Silvester 1992; Soulsby 1983; Stephens 1986; Thomas 1955-56

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.