CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Basn Caersws: Maes-mawr
Cymunedau Caersws, Llandinam, Aberhafesb a Mochdre, Powys
(HLCA 1183)


CPAT PHOTO 06-C-08

Tirwedd caeau yn cynnwys caeau mawr afreolaidd yn bennaf, ar hyd gorlifdir Afon Hafren a’i ymylon. Ymddengys fod rhai ohonynt yn cynrychioli cau dolydd sy’n gysylltiedig â grŵp o ganolfannau stadau uchel eu statws a ddaeth i fodolaeth yn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o drefgorddau maenorol Escob a Castle, Surnant, Wig a Chaersws ym mhlwyf degwm Llanwnog, trefgorddau Carnedd, Gwernerin a Llandinam ym mhlwyf Llandinam a threfgordd Penstrowed ym mhlwyf Penstrowed.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Ceir yma lawr dyffryn a gorlifdir isel a chymharol wastad Afon Hafren rhwng Llandinam a Phenstrowed, ar uchder o rhwng 120 metr a 130 metr, ac yn cynnwys rhan isaf Afon Cerist, Afon Carno a Nant Manthrig a’u cymer ag Afon Hafren. Mae dyddodion drifft ffrwd-rewlifol yn cuddio’r ddaeareg soled ledled yr ardal nodwedd. Ceir nifer o ddrymlinau rhewlifol a dyddodion Clai Clogfaen ar y tir sy’n codi i’r dwyrain a’r gogledd-ddwyrain o Gaersws, yn ardal Llwyn-y-brain. Mae cyfres o gerlannau afon, palaeosianeli a bwâu llifwaddod yn ffurfio prif lawr y dyffryn. Mae gwaddodion llifwaddodol siltiog wedi’u dyddodi gan yr afon dros ei horlifdir, gyda rhai barau o gerrig gro o ganlyniad i ailddodi gro cynharach. Mae rhannau o brif sianel yr afon yn tueddu i orlifo’n aml, ac mae yna ystumiau afon bywiog ac ystumllynnoedd. Bu peth addasu ar sianel yr afon islaw Llandinam yr un pryd ag adeiladu'r rheilffyrdd rhwng y 1860au a'r 1890au. Sythwyd darn o’r afon, mwy nag 1 cilomedr o hyd, ger Neuadd Llandinam hefyd, rhwng 1840 a 1886 mae’n debyg. Ers hynny, mae wedi dychwelyd i fod yn batrwm afreolaidd o ystumiau. Mae’r priddoedd yn y gorlifdir yn ddwfn ac yn siltiog. Yn economaidd, maent yn gweddu orau i ffermio llaeth a magu da byw ar laswelltir parhaol a thymor byr, yn ogystal â pheth cynhyrchu grawn lle mae’r perygl o lifogydd yn isel. Mewn ardal i’r gogledd-orllewin o Gaersws, ar hyd rhan isaf Nant Manthrig, mae draeniad yn cael ei rwystro. Ceir yma ddyddodiad mawn iseldirol cynhanesyddol lleol, hyd at 2 fetr o ddyfnder a sawl can metr o led, yn cwmpasu ffin gogledd-orllewin yr ardal nodwedd, yn agos at gymer Afon Carno ac Afon Hafren.

Mae patrwm nodweddiadol o gaeau mawr afreolaidd ger yr afon y mae sianeli troellog afonydd sy’n bodoli, a sianeli cynharach, wedi dylanwadu’n fawr arnynt. Mae’n debyg iddynt ddatblygu’n bennaf o ganlyniad i broses raddol o gau tir yn ystod diwedd y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Caeau afreolaidd mawr a bach sydd i’w gweld yn bennaf yn y dirwedd caeau ar y tir sy’n codi o boptu’r gorlifdir. Eto, mae’n debyg bod y rhain yn cynrychioli proses raddol o glirio a chau tir gan ffermydd rhydd-ddaliadol o’r cyfnod canoloesol neu gynharach. Ymddengys fod patrymau amlwg o gaeau mwy rheolaidd ag ochrau syth yn ardal Fferm Maes-mawr a Neuadd Maes-mawr, rhwng Llwyn-y-brain a Gwyn-fynydd ac i’r dwyrain o Garnedd, yn cynrychioli ad-drefnu tirwedd yn gysylltiedig â datblygu nifer o stadau tua diwedd y cyfnod canoloesol i ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol o bosibl. Caewyd nifer o diroedd comin bach iseldirol yn ardal Caersws o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif, sef Gwern Wyon ar hyd Nant Manthrig i’r gogledd o’r pentref, Upper Green, y mae ei enw wedi’i gadw fel The Green, a oedd yn gorwedd ar orlifdir Afon Carno i’r gorllewin o’r pentref, a Lower Green, a oedd yn gorwedd ar orlifdir Afon Hafren i’r de a’r dwyrain. Roedd bythynnod wedi llechfeddiannu’r holl diroedd hyn erbyn hynny. Cafwyd clystyrau o gaeau ag ochrau syth o ganlyniad i ad-drefnu’r dirwedd yn gysylltiedig ag adeiladu’r rheilffyrdd rhwng y 1860au a’r 1890au. Ymddengys fod amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd Afon Carno ac Afon Hafren wedi’u hadeiladu yng Nghaersws tua diwedd y 19eg ganrif, yn rhannol ar y cyd ag adeiladu’r rheilffyrdd, ac yn ystod yr 20fed ganrif.

Mae mwyafrif yr enwau lleoedd yn ymwneud â nodweddion cysylltiadau ac anheddu cymharol ddiweddar. Er hynny, ceir awgrymiadau o ddefnydd tir traddodiadol hefyd, fel yn achos yr elfen maes yn yr enw Maes-mawr, sy’n awgrymu cae mawr agored o bosibl, yr elfen dol yn Dolhafren, sy’n awgrymu dolydd, a’r elfen llwyn yn Llwyn-y-brain, sy’n awgrymu coetir ysgafn.

Mae clwstwr o ffosydd cylch bylchgrwn yn awgrymu defnydd tir ac anheddu cynhanesyddol yn yr ardal, uwchben gorlifdir Afon Hafren. Daeth y rhain i’r amlwg mewn awyrluniau ger Moat Lane, i’r gogledd o Fferm Porth, ac enghraifft unigol posibl i’r de o Fferm Tŷ Coch, a allai gynrychioli naill ai safleoedd tai neu hen domenni claddu. Mae lloc â ffos posibl heb ei orffen, sy’n amgáu ardal o hyd at tua 4 hectar, yn awgrymu defnydd tir ac anheddu Oes yr Haearn. Mae hwn wedi’i nodi yn union i’r dwyrain o Nant Manthrig, i’r gogledd-ddwyrain o bentref Caersws.

Mae caer Rufeinig gynharach ar lan serth yn tremio dros afon Hafren yn Llwyn-y-brain, yn union i’r dwyrain o Gaersws, yn cynrychioli cyfnod y goncwest Rufeinig, rhwng tua 50 OC a 78 OC. Daeth i’r amlwg mewn awyrluniau, ac fe’i disodlwyd gan y gaer fwy parhaol ychydig i’r gogledd o bentref modern Caersws.

Mae awyrluniau wedi dangos clwstwr o lociau bach ar ffurf petryal a lled-betryal, â ffos unigol neu ffos ddwbl, sydd o bosibl yn cynrychioli ffermydd Rhufeinig ar y tir isel uwchben y gorlifdir o amgylch Caersws. Awgryma hyn fod yr ardal wedi’i ffermio’n gymharol ddwys yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Mae enghraifft o un o’r ffermydd Rhufeinig posibl hyn wedi’i nodi yn yr ardal rhwng Henfryn a Gwyn-fynydd i’r gogledd o Gaersws a ger Dolhafren, i’r de o’r afon. Ymddengys fod canolbwynt gweinyddol yr ardal wedi symud i’r aneddiadau eglwysig cnewylledig yn Llandinam i’r de o Afon Hafren, ac yn Llanwnog i’r gogledd yn dilyn cyfnod y Rhufeiniaid. Er mai ychydig o dystiolaeth sydd o natur defnydd tir ac anheddu trwy gydol y cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol ei hun, ymddengys y gall llawer o’r ardal nodwedd, yn arbennig ar hyd gorlifdir Afon Hafren, fod wedi goroesi fel tir pori heb ei gau trwy gydol y cyfnod hwn.

Ymddengys y cafwyd datblygiad cyflym yn y tiroedd cefn gwlad yng nghyffiniau Caersws yn ystod y 16eg a’r 17eg ganrif, gyda chodi nifer o ffermydd a neuaddau uchel eu statws wedi’u gwasgaru’n eang ar ymyl y gorlifdir, fel sydd i’w gweld yn Neuadd Maes-mawr, Neuadd Llandinam, Llwyn-y-brain a Charnedd. Daeth rhai o’r tai hyn yn ganolbwynt ystadau â thir, ac efallai eu bod yn gysylltiedig â chau dolydd comin gynt ar hyd Afon Hafren a’i llednentydd. Fodd bynnag, goroesodd rhai ardaloedd o dir comin yr iseldir ym mhentref Caersws ac o’i amgylch, ac yn rhan isaf Nant Manthrig hyd ddechrau’r 19eg ganrif. Bryd hynny, roeddent yn destun deddf cau tir Arwystli.

Daeth newidiadau i’r dirwedd gyda’r gwelliannau i’r rhwydwaith ffyrdd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, a chydag adeiladu’r rheilffyrdd tua diwedd y 19eg ganrif. Roedd y ffordd dyrpeg gynharach i’r gorllewin o’r Drenewydd yn dilyn y llwybr i’r gogledd o’r afon, trwy Aberhafesb, er bod y rhan fwyaf o draffig yn ddiweddarach yn dilyn y llwybr newydd i’r de o’r afon ar hyd y darn syth, a adwaenir fel Long Length, a’r bont gerrig dros Afon Hafren yng Nghaersws. Adeiladwyd hon i gymryd lle pont bren gynharach ar ddechrau'r 1820au. Adeiladwyd llwybr y rheilffyrdd o Lanidloes i’r Drenewydd ac o’r Drenewydd i Fachynlleth, ac o Gaersws i fwyngloddiau Van i’r gogledd o Lanidloes ar draws rhannau o’r ardal nodwedd yn y 1860au a’r 1870au.

Gwnaed newidiadau artiffisial i sianel Afon Hafren i lawr yr afon o Landinam ym 1859, pan adeiladwyd y rheilffordd i Lanidloes. Cafodd sianel yr afon hefyd ei sythu gyda sianel 1 cilomedr o hyd ger Neuadd Llandinam, rhwng 1840 a 1886 yn ôl pob tebyg. Ers hynny, fodd bynnag, mae’r afon wedi dychwelyd i hynt droellog. Adeiladwyd amddiffynfeydd rhag llifogydd i’r de ac i'r gorllewin o Gaersws, ac mae’n bosibl bod y rhain yn gysylltiedig ag adeiladu’r rheilffyrdd tua diwedd y 19eg ganrif.

Ffermydd gwasgaredig iawn sydd i’w gweld fwyaf yn y patrwm anheddu presennol, yn cynnwys y rhai ym Maes-mawr, Fferm Maes-Mawr, Dolhafren, Tŷ Coch a Thŷ Mawr. Mae’n bosibl bod y rhain wedi datblygu fel ffermydd stad yn y 19eg ganrif, a bod adeiladau ychwanegol wedi’u hychwanegu atynt yn ystod yr 20fed ganrif. O’r ffermydd a’r neuaddau o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif yn yr ardal, datblygwyd Neuadd Llandinam, Llwyn-y-brain a Charnedd yn yr un modd i fod yn ffermydd gweithredol yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, a throswyd Neuadd Maes-mawr yn westy yn yr 20fed ganrif.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anthony 1995; Barker 1991; Barker 1993; Barker 1997; Barton 1997; Baughan 1980; Collens 1988; Colt Hoare 1806; Conway Davies 1943-44, 1945-46; Cozens 1953; Cozens et al. 2004; Davies 1829; Davies 1977; Davies a Jones 2006; Evans 1949-50; Foster-Smith 1978; Gater, Gaffney a Gater 1990; Gater ac Ovenden 1991; Gibson 1998; Grant 2003; Hooke, Horton, Moore a Taylor 1994; Howell 1875; Jones 1961; Jones 1983; Jones 1985; Jones 1987; Jones 1993; Lea 1975; Lewin 1987; Mass, Brewer a Macklin 2001; Morris 1979; Owen 1990; Owen 1993; Peate 1940; Pennant 1783; Pritchard 1962; Pryce 1886b; Putnam 1961-62; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Spurgeon 1966; Thomas 1955-56; Toller 1997

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.