CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Basn Caersws: Moel Iart – Bryn Penstrowed
Cymunedau Llandinam a Mochdre, Powys
(HLCA 1186)


CPAT PHOTO 06-C-122

Rhostir caeedig ar y bryniau o amgylch ymylon deheuol a dwyreiniol Basn Caersws. Cafodd rhannau sylweddol ohono eu cau o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau'r 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn ffurfio rhan o drefgorddau maenorol Maes-mawr a Llandinam ym mhlwyf degwm Llandinam, Sir Drefaldwyn a threfgordd Penstrowed ym mhlwyf degwm Penstrowed.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Tir tonnog ar gopaon y bryniau yn rhedeg hyd ochr ddeheuol dyffryn Hafren, ar uchder rhwng 190 metr a 430 metr. Ar y cyfan, mae’r priddoedd yn fân, yn lomog ac yn siltiog ac yn draenio’n dda, yn denau mewn mannau ac yn gorwedd ar ben creigwely siâl. Yn hanesyddol, magu da byw ar borfeydd yr ucheldir oedd yn gwneud orau yma, gyda phorfeydd garw a choetir ar y llethrau mwyaf serth. Mae ardal fechan, weddilliol o Dir Comin cofrestredig wedi goroesi ym mhen deheuol yr ardal, ar ochr ddeheuol Moel Iart. Mae’n ymddangos bod rhannau bach o’r ardal, yn arbennig ardal o gaeau bychain afreolaidd ger The Forest ac sy’n arwain i fyny i Foeliart, wedi’u cau erbyn diwedd y 18fed ganrif o bosibl, efallai drwy broses o lechfeddiannu’r tir comin gynt. Mae’n nodweddiadol mai llociau mawr a bach ag ochrau syth a llociau mawr afreolaidd â ffensys pyst-a-gwifrau sy’n cynrychioli gweddill yr ardal. Cafodd y rhain eu cau dan ddeddf seneddol ar ddechrau'r 19eg ganrif. Ceir coetir llydan-ddeiliog lled-naturiol a pheth coetir hynafol a ailblannwyd ar lethrau mwy serth Allt y Gaer i’r de a'r dwyrain o Neuadd Bronfelin a The Moat.

Ychydig dystiolaeth yn unig mae enwau lleoedd yn ei chynnig o ran awgrymu defnydd tir hanesyddol, er bod yr enw Moeliart, sy’n deillio o'r elfennau moel a garth yn arwyddocaol. Ni cheir esboniad am arwyddocâd yr enw Cefn Lladron, ar ochr ogleddol Bryn Penstrowed tuag at ben gogleddol yr ardal, ond mae’n bur debyg ei fod yn cyfeirio at gysylltiad hanesyddol neu draddodiadol lladron â’r ardal hon sy’n tremio dros y bwlch cul ar hyd dyffryn Hafren.

Mae tomenni hel cerrig gwasgaredig yn cynrychioli gwella glaswelltir, ond mae'r dyddiad yn anhysbys.

Ychydig o anheddu sydd yn yr ardal heddiw.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Ellis 1935; Jones 1983; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.