CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Basn Caersws


DIWYDIANT

Cynrychiolir y diwydiannau echdynnu gan chwareli bychain ar gyfer cerrig adeiladu yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn ôl pob tebyg. Fe’i cofnodwyd yn rhannau mwy bryniog ardal y dirwedd hanesyddol, i’r de, i’r gogledd-orllewin ac i'r gogledd-ddwyrain. Roedd y chwarel fwyaf, sef chwarel gerrig fasnachol ym Mhenstrowed ychydig y tu allan i ffin de-ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol, ar waith erbyn dechrau'r 19eg ganrif o leiaf.

Mae'n hysbys bod dyddodion rhewlifol o glai yn ardal Caersws wedi'u cloddio ar gyfer cyflenwi odynau a oedd yn cynhyrchu teils yn y cyfnod Rhufeinig ac ar gyfer cynhyrchu brics i adeiladu'r wyrcws yng Nghaersws yn y 1830au.

Ceir cofnodion o siafftiau neu lefelau mwynglawdd arbrofol ger Little London (ar y bryniau i’r gogledd-ddwyrain o Landinam), yng Nghoedwig Mwynglawdd Carnedd (i’r gogledd-orllewin o Landinam), ac ym Mwthyn Llwyn-y-brain (i’r gogledd-ddwyrain o Gaersws). Ychydig o hanes y mentrau hyn sydd wedi'i olrhain, er ei bod yn ymddangos yn debygol eu bod wedi’u cloddio ar ddiwedd y 19eg ganrif mewn ymgais i olrhain estyniad i gyfeiriad y dwyrain o’r wythïen llawn plwm a oedd yn cael ei hecsploetio ar y pryd yn y Fan, i'r gogledd o Lanidloes.

Roedd pŵer dŵr yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o leoliadau yn y dirwedd hanesyddol, o leiaf ers y cyfnod canoloesol i'r cyfnod modern yn ôl pob tebyg, ac roedd yn cefnogi nifer o ddiwydiannau prosesu. Ceir tystiolaeth ddogfennol o bandy a melin ŷd ym mhentrefan Pontdolgoch i’r gogledd o Gaersws erbyn y 1670au, ond erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd yno hefyd felin lifio, a phob un yn manteisio ar afon Carno a oedd yn llifo'n gyflym. Mae melin ŷd Pontdolgoch, neu Melin Pont y Ddol Goch gynt, bellach yn segur, ond mae adeilad melin o garreg â thri llawr gydag odyn sychu a thŷ melin cyfagos a adeiladwyd o frics yn dystiolaeth ohoni. Cafodd y felin ei hailwampio yn y 1880au ac, ar un adeg, roedd ganddi ddwy olwyn dros y rhod. Adeilad ffrâm bren oedd y pandy gynt , ac mae bellach wedi’i drosi’n dŷ. Walk Mill yw’r enw arno nawr (enw Saesneg ar bandy), ond Pandy y Ddol Goch oedd yr enw arno ar un adeg. Sefydlwyd melin lifio Pontdolgoch, a bwerwyd gan ddŵr ac sy’n dal ar agor, ym 1913 gan ddisodli melin ddŵr gynharach. Mae pwll llifio yn Fferm Henblas, i'r dwyrain o Bontdolgoch, yn cynrychioli gwaith prosesu coed cynharach, a gofnodwyd yn y 1880au. Ymhlith y nodweddion eraill sy’n dal i fodoli ac sy’n gysylltiedig â defnyddio pŵer dŵr mae ffrwd felin a oedd yn mynd â dŵr o Afon Carno, ymhellach i fyny'r afon o Bontdolgoch, a llyn melin sydd rhwng yr afon a’r ffordd ym Mhontdolgoch.

Ychydig ymhellach i lawr yr afon roedd Afon Carno hefyd yn cael ei harneisio i weithredu melin wlân ym Maesteg ger Pont Wig. Gelwid y felin gynt yn Gwig Manufactory a Weeg Woollen Factory, ac mae hi bellach wedi'i dymchwel er bod olion y ffrwd felin i'w gweld. Mae enwau lleoedd yn awgrymu bod nifer o bandai eraill wedi bod yn ardal y dirwedd hanesyddol gynt, enwau sy’n cynnwys Pandy Rhos a Pandy Bach yng nghymuned Llanwnog, a Waulk Mill ar nant Ffinnant, ychydig i’r gogledd o Landinam (mae 'waulk’ yn ffurf arall ar y gair Saesneg ‘walk’). Ar ddechrau’r 19eg ganrif, ‘Upper Mill’ oedd yr enw arni.

Roedd ardal Llandinam yn weithredol o ran cynhyrchu golosg ar ddiwedd yr 17eg a dechrau’r 18fed ganrif. Dywedid ei bod wedi cyflenwi gefeiliau gwaith dur y teulu Lloyd o Ddolobran, ger Meifod yn nyffryn Efyrnwy tua 20 milltir i’r gogledd, ond hyd yn hyn nid oes cofnod o unrhyw dystiolaeth o’r diwydiant hwn wedi goroesi.

Mae’n hysbys bod dwy hen efail gof o'r 19eg ganrif, a chynharach o bosibl, ym Mhontdolgoch: dangosir un ohonynt ar fapiau’r Arolwg Ordnans o'r 1880au ac mae'r llall yn cael ei nodi yn enw'r tŷ Efail Troed-y-rhiw. Yn yr un modd, cofnodir gefeiliau eraill yng Nghaersws a Llandinam.

(yn ôl i’r brig)