CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Basn Caersws

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Basn Caersws


ANHEDDU A DEFNYDD TIR

Datblygiad hanesyddol

Mae’r dopograffeg wedi dylanwadu’n amlwg ar batrymau defnydd tir ac anheddu hanesyddol yn ardal y dirwedd hanesyddol. Mae’r ardal yn ymestyn o gnewyllyn o gymerau afonydd yng Nghaersws, gyda dyffrynnoedd Afon Hafren, Afon Carno ac Afon Cerist/Afon Trannon yn gwahanu blociau amlwg o dir uwch o amgylch ymyl y basn. Ym mhob cyfnod, mae’n ymddangos bod anheddu yn gyffredinol wedi osgoi’r tir uchaf a’r tir isel ar hyd y prif afonydd, lle mae yna berygl cyfnodol o lifogydd. Ardal gymharol dlawd oedd Arwystli, gydag ardaloedd sylweddol o rostir yn rhan orllewinol y cantref. Felly, yn hanesyddol, mae tiroedd isel mwy ffrwythlon Basn Caersws wedi tueddu i ffurfio canolbwynt rhanbarthol pwysig ar gyfer anheddu a defnydd tir dwys.

Cynhanes cynharach

Fel y nodwyd mewn adran ar hanes amgylcheddol uchod, mae astudiaeth o ddyddodiad mawn ar waelod dyffryn ychydig i’r gorllewin o Gaersws yn awgrymu bod yr amgylchedd lleol wedi’i nodweddu gan brysg a choetiroedd llydan-ddeiliog yn y cyfnod Neolithig, tua 3500 CC. Derw, cyll, pisgwydd, pinwydd a pheth gwern a welwyd yn bennaf. Hyd yma, nid oes unrhyw dystiolaeth eglur o effaith ddynol sylweddol ar yr amgylchedd lleol yn y cyfnod hwn. Er hynny, mae yna dystiolaeth eglur o glirio ac anheddu ymhellach i lawr yr afon eisoes erbyn y cyfnod hwn, yn enwedig yn yr ardal rhwng Aberriw a Four Crosses. Mae’n debygol bod cymunedau a grwpiau dynol wedi dechrau manteisio ar adnoddau naturiol Basn Caersws, o leiaf yn dymhorol, o ddiwedd y cyfnod Mesolithig o leiaf, rhwng tua 8,000 a 4,000 CC ymlaen, er nad oes unrhyw dystiolaeth bendant o hyn wedi’i darganfod hyd yma.

Mae clwstwr o hapddarganfyddiadau tuag ochr orllewinol yr ardal, ar dir isel yn rhannau isaf dyffryn Cerist, dyffryn Trannon a dyffryn Carno, yn darparu’r dystiolaeth gynharaf o weithgaredd dynol. Mae’r rhain yn cynnwys darn o grochenwaith o’r cyfnod Neolithig cynnar a ddarganfuwyd ger Blackhall Cottages i’r de o Lanwnog, a bwyeill cerrig o’r cyfnod Neolithig a ddarganfuwyd ger Perth-eiryn, a ger Park. Gwyddys am ben brysgyll tyllog yn dyddio o’r cyfnod Neolithig neu o ddechrau’r Oes Efydd hefyd o Bontdolgoch.

Mae clwstwr o tua 5 ffos gylch yn cadarnhau gweithgaredd cynhanesyddol cynnar tebygol yn yr ardal hon o’r cyfnod Neolithig neu o ddechrau’r Oes Efydd. Gwyddys amdanynt o awyrluniau olion cnydau mewn ardal fach i’r gorllewin o Afon Carno ac i’r gogledd o Afon Cerist, ger Maesgwastad a Thyddyncanol, ar dir sydd ychydig uwchben llawr y dyffryn. Mae dwy ffos gylch arall wedi’u nodi yn yr ardal hon, i’r dwyrain o Afon Carno, yn yr ardal rhwng Blackhall Cottages a Llanwnog. Mae’n bosibl bod y ffosydd cylch yn cynrychioli henebion claddu, neu dai crwn o bosibl mewn rhai achosion, o gymunedau a oedd wedi ymgartrefu'n barhaol yn yr ardal ar ddiwedd y 3ydd neu ddechrau'r 2il fileniwm CC. Mae twmpathau llosg, o bosibl o’r Oes Efydd, wedi’u nodi yn agos at lan Afon Carno ger Maesteg, rhwng y ddau grŵp o ffosydd cylch. Mae safleoedd tebyg eraill, o bosibl yn cynrychioli gwahanol gymunedau eraill, eto wedi’u nodi o’r awyr mewn lleoliadau topograffig tebyg mewn mannau eraill yn ardal y dirwedd hanesyddol ym Masn Caersws, yn cynnwys clwstwr o dair ffos gylch fylchgrwn bosibl i’r gogledd o Fferm Porth, i’r de o Afon Hafren, a ffos gylch bosibl i’r de o fferm Red House.

Cynhanes diweddarach

Mae’n debygol i strwythur llwythol barhau i ddatblygu yn ystod Canol yr Oes Efydd ac yn ddiweddarach yn y cyfnod. Erbyn Oes yr Haearn, ymddengys mai’r Ordofigiaid oedd y prif lwyth yn y rhanbarth yn Oes yr Haearn cynhanesyddol diweddarach. Fel y gymdeithas Geltaidd ddiweddarach, mae’n debygol eu bod â threfniadaeth hierarchaidd, lle byddai penaethiaid llwythol y llwythau llai yn talu gwrogaeth i arweinwyr mwy pwerus uwch.

Ymddengys yn debygol yr adeiladwyd y fryngaer amlwg yng Nghefn Carnedd, i’r gogledd-orllewin o Landinam, fel anheddiad caerog ar yr ysbardun ucheldirol rhwng Afon Hafren ac Afon Cerist ar rhyw gyfnod yn ystod Oes yr Haearn. Mae ganddi sawl clawdd a ffos, sy’n amgylchynu ardal o fwy na 3 hectar, ac mae’n bosibl ei bod yn cynrychioli canolbwynt un o’r llwythau llai y byddai gan ei arweinydd bŵer ac awdurdod dros Fasn Caersws. Roedd y safleoedd caerog agosaf y gellid eu cymharu yn y cyfnod hwn rhwng 7 a 10 milltir i ffwrdd i'r naill gyfeiriad neu'r llall ar hyd dyffryn Hafren. Nid yw’r safle wedi’i gloddio, ond awgryma dystiolaeth o safleoedd tebyg mewn rhannau eraill o’r rhanbarth y gallai fod rhywun wedi byw yno yn ysbeidiol neu fwy neu lai yn barhaus yn ystod y cyfnod rhwng diwedd yr Oes Efydd, tua 700 i 800 CC, hyd at y goncwest Rufeinig yn y ganrif 1af OC. Byddai’r anheddiad ar ffurf pentref caerog, wedi’i ffurfio o nifer o dai crwn ac adeiladau a strwythurau eraill.

Gwyddys am grŵp o aneddiadau amddiffynedig llai, ar ffurf crwn sydd o bosibl yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol diweddarach, ar y tir uwch ar ochr ogledd-orllewin y basn. Gorwedda lloc Wyle Cop ar ochr nant i’r gogledd o Lanwnog, a gorwedda lloc Gwynfynydd ar dir llethrog i’r gogledd o Gaersws. Mae’r ddau yn amgylchynu ardal o tua 0.3 hectar. Mae lloc mwy, nad yw wedi’i orffen o bosibl, ac sy’n amgylchynu ardal o hyd at tua 4 hectar wedi’i nodi ychydig i’r dwyrain o Nant Manthrig, i’r gogledd-ddwyrain o bentref Caersws. Dangosodd dyddio radio carbon fod hwn yn dyddio o gyfnod 550-150 CC mae’n debyg.

Ychydig a wyddys am economi neu natur defnydd tir yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod natur a lleoliad y fryngaer gynhanesyddol ddiweddarach a llociau amddiffynedig llai, a phrinder tystiolaeth o anheddu ar lawr y dyffryn, yn awgrymu economi bugeiliol gan fwyaf. Byddai hyn yn ddibynnol ar fanteisio ar dir pori iseldirol yn ystod misoedd y gaeaf a thir pori ucheldirol yn ystod yr haf, ynghyd â pheth tyfu cnydau âr.

Y Cyfnod Rhufeinig

Er gwaethaf gwrthsafiad rhai o lwythau brodorol Prydain, cafodd llawer o dde a dwyrain Prydain ei goncro’n sydyn wedi i luoedd Rhufeinig lanio yn ne-ddwyrain Prydain yn 43 OC. O fewn ychydig o flynyddoedd, roedd Rhufain wedi sefydlu ffin wedi’i phlismona’n gref ar gyfer talaith newydd a gwerthfawr Britannia ar hyd ffin dros dro o leiaf, a oedd yn cau allan y tir a elwir yn Cymru a'r Alban heddiw. Mae’n ymddangos mai Caradog (a elwir hefyd yn Caratacus, Caractacus), a drefnodd y gwrthsafiad cynnar i’r fyddin Rufeinig. Tywysog brodorol oedd Caradog, a oedd wedi ffoi i Gymru o’i lwyth, y Catuvellauni, yn ne-ddwyrain Prydain. Mae’n debyg i’r fyddin Rufeinig ymgyrchu gyntaf i chwilio am Caradog dan raglawiaeth Ostorius Scapula, tua 51 OC. Dywed yr hanesydd Rhufeinig Tacitus wrthym am frwydr olaf a gynhaliwyd ar diriogaeth yr Ordofigiaid, pan roedd Caradog wedi ymgynnull byddin frodorol ar fryn serth, yr oedd modd mynd iddo ar draws afon beryglus. Ni wyddys lle roedd yr union leoliad, ond mae rhai o’r farn mai bryngaer Cefn Carnedd, o Oes yr Haearn, i’r gogledd-orllewin o Landinam oedd safle’r frwydr o bosibl. Gorchfygwyd y lluoedd brodorol gan fyddin o hyd at 20,000 o ddynion o sawl lleng Rufeinig ac amryw o unedau cynorthwyol, er i Caradog ei hun ffoi, a methodd y fyddin sicrhau rheolaeth ar y diriogaeth. Ymgymerwyd ag ymgyrchoedd pellach yn ystod y 50au a’r 60au, hyd nes y trechwyd tiriogaeth yr Ordofigiaid o’r diwedd erbyn tua’r flwyddyn 78 OC, yn ystod rhaglawiaeth Julius Agricola.

Mae rhwydwaith o ffyrdd milwrol a cheyrydd Rhufeinig, yn cynnwys y ddwy gaer ddilynol ar gyfer milwyr cynorthwyol Rhufeinig yng Nghaersws, canolfan ymgyrchu cynnar yn Llwyn-y-brain, ar lannau Afon Hafren, ychydig i’r gogledd-ddwyrain o’r pentref, a chaer ddiweddarach, fwy parhaol, ychydig i’r gogledd-orllewin o graidd y pentref, yn cynrychioli concwest tiriogaeth yr Ordofigiaid a’r plismona a fu ohoni o ganlyniad.

Mae’n debyg bod unedau’r marchoglu yn byw yn y gaer fwy parhaol yng Nghaersws, a oedd yn cwmpasu ardal o tua 3 hectar. I ddechrau, roedd yn gorwedd ar y blaen i amddiffynfa lengol yn Wroxeter, a chaer ganolraddol yng Nghaer Ffordun, cyn i’r ganolfan lengol gael ei symud i Gaer yn yr 80au. Mae’n debyg mai Mediomanum oedd yr enw ar Gaersws, sy’n ymddangos yn y Ravenna Cosmography, sef llawysgrif o’r 7fed ganrif sy’n seiliedig ar ffynonellau cynharach. Mae teils wedi’u stampio y daethpwyd o hyd iddynt yng Nghaersws yn awgrymu bod uned filwrol a godwyd yn nhalaith Rufeinig Iberia wedi garsiynu’r gaer ar un adeg.

Methodd trefi, sef canolfannau arferol gweinyddiaeth sifilaidd ledled y byd Rhufeinig, â datblygu yn y rhanbarth, ac mae’n bosibl bod y fyddin Rufeinig wedi parhau i weinyddu materion cyfreithiol ac ariannol trwy gydol y cyfnod Rhufeinig, rhwng diwedd y ganrif 1af a dechrau’r 5ed ganrif OC.

Datblygwyd anheddiad sifilaidd, a elwid vicus, ar ochrau deheuol a dwyreiniol y gaer Rufeinig yn y pentref yng Nghaersws, ac roedd masnachwyr a chrefftwyr o rannau eraill yr ymerodraeth Rufeinig yn byw yno. Mae’n ymddangos bod yr anheddiad wedi cwmpasu ardal o hyd at tua 8 hectar. Mae’n bosibl ei fod wedi cynnwys hyd at sawl can adeilad, y rhan fwyaf o bren mae’n debyg. Byddai’r fyddin Rufeinig wedi caniatáu’r anheddiad, ac roedd wedi’i osod ar grid o strydoedd a lonydd a oedd wedi’i gynllunio’n ofalus, gan ymestyn bron hyd at orlifdir Afon Hafren i'r de, a thu hwnt i Nant Manthrig i'r dwyrain.

Mae’n amlwg bod yr anheddiad sifilaidd yn ganolfan fasnachol a diwydiannol ffyniannus oedd yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r garsiwn. Mae gwaith cloddio wedi dangos y sefydlwyd poptai a thafarn neu dŷ gamblo, a bod gefeiliau a gweithdai wedi’u sefydlu ar gyfer cynhyrchu arfau haearn a gemwaith efydd. Adeiladwyd odyn teils ar gyfer cynhyrchu teils llawr. Adeiladwyd baddondy, a oedd mae'n debyg yn defnyddio dŵr o Afon Carno, i’r de o’r gaer, ac mae’n ymddangos bod mynwent hefyd wedi’i sefydlu yn yr ardal hon. Cafodd amrywiaeth eang o nwyddau egsotig eu mewnforio o’r ymerodraeth drwyddi draw, yn cynnwys gwydr a llestri bwrdd cain, breuanau ar gyfer malu ŷd, gwin, pigmentau ac olew coginio, gan greu cilfach fechan o ddinasyddion Rhufeinig, a allai fod wedi parhau yn ddiwylliannol wahanol i’r boblogaeth frodorol yn y cefn gwlad o amgylch.

Mae awyrluniau wedi dangos clwstwr o lociau bach petryal a lled-betryal ffos unigol neu ffos ddwbl, hyd at tua 0.3 hectar o faint, lai nag 1 i 2 cilometr o’r gaer Rufeinig yng Nghaersws. Mae rhai ohonynt yn gorwedd yn gymharol agos at linell y ffyrdd Rhufeinig i’r gogledd a’r gorllewin o’r gaer, ac efallai eu bod yn gysylltiedig â nhw. Gwyddys am enghreifftiau rhwng Henfryn a Gwynfynydd i’r gogledd o Gaersws, ger Maesgwastad i’r gorllewin, a ger Gelli-dywyll i’r de. Gwyddys am safleoedd llai ar lawr y dyffryn i’r de o Ddolhafren, ac ar dir sy’n codi rhywfaint i’r de o Neuadd Llandinam. Nid oes dyddiad ar y grŵp hwn o lociau, ac mae'n bosibl bod rhai yn gynharach neu'n hwyrach o lawer o ran dyddiad. Fodd bynnag, efallai eu bod yn cynrychioli rhan o batrwm mwy gwasgaredig o ffermydd Rhufeinig yn ardal Caersws.

Cafodd llawer o Fasn Caersws ei ffermio’n gymharol ddwys o bosibl yn ystod y cyfnod Rhufeinig, a byddai’r dolydd a’r tir âr mwy gwerthfawr ar y tir is eisoes wedi’u rhannu’n gaeau, gyda llethrau bryniau a oedd wedi’u gorchuddio ag olion coetiroedd hynafol yn eu hamgylchynu. Byddai’r tir uwch yn darparu porfa arw yn yr haf ar gyfer preiddiau o ddefaid a gwartheg.

Fodd bynnag, ymddengys mai cymharol fyrhoedlog oedd yr anheddiad sifilaidd yng Nghaersws, ac yn ôl pob golwg fe ddirywiodd yn sydyn ar ôl tua 120 OC, pan symudwyd y rhan fwyaf o garsiwn y gaer Rufeinig i helpu i ddiogelu ffin ogleddol y dalaith. Ymddengys bod y gaer yng Nghaersws wedi’i chynnal hyd o leiaf y 3ydd neu’r 4ydd ganrif, o bosibl fel canolfan weinyddol â garsiwn wedi’i leihau’n sylweddol.

Y cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol

Erbyn diwedd cyfnod rheolaeth y Rhufeiniaid ar ddechrau’r 5ed ganrif OC, mae’n ymddangos yn debygol bod ardaloedd iseldir Basn Caersws o leiaf yn cael eu ffermio’n weddol ddwys, â rhwydwaith gymharol glos o gaeau a ffermydd iseldirol efallai. Byddai economi ffermio cymysg yn manteisio ar y tiroedd âr gwell uwchben gorlifdir y prif afonydd, dolydd haf a thir pori gaeaf ar hyd min yr afon, ac adnoddau coetir a thir pori haf. Roedd tir y dolydd yn arbennig o werthfawr, gan fod nifer yr anifeiliaid a allai gael eu gaeafu yn dibynnu arno..

Ychydig a wyddys hyd yma am y sefydliadau gwleidyddol, crefyddol neu farnwrol a ddaeth i fodolaeth yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar, rhwng y 5ed ganrif a dechrau’r 11eg ganrif OC yn nheyrnas Arwystli a’i chymydau perthynol. Fodd bynnag, erbyn y Canol Oesoedd, fe ddatblygodd aneddiadau cnewylledig, ac roedd hyn, ynghyd â chasglu teyrngedau a’r ffaith i gymunedau cyfagos rannu tir comin, yn awgrymu bod hierarchaeth o arglwyddiaethau brodorol, llai â’r gallu a’r awdurdod i drefnu’r dirwedd, wedi dod i’r amlwg. Mae’n bosibl eu bod yn seiliedig ar batrwm esblygol o blwyfi a threfgorddau y gwyddys amdanynt o gyfnodau diweddarach.

Mae’n debygol bod elfennau o’r dirwedd bresennol o aneddiadau a phatrymau caeau hefyd wedi’u sefydlu yn y cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol. Mae’n debyg bod rhannau o’r ardal, yn benodol ar y tir sy’n codi o amgylch ymylon Basn Caersws, wedi parhau i gael eu ffermio o ffermydd gwasgaredig a oedd yn tarddu o’r cyfnod Rhufeinig, a chyda theuluoedd o ffermwyr rhydd-ddaliadol neu denantiaid stadau mwy yn ddeiliaid arnynt. Er nad oes hyd yma unrhyw dystiolaeth glir o ffurf na gwasgariad ffermydd y cyfnod hwn, mae’n debygol bod ffermydd heddiw yn cynrychioli rhai ohonynt. Mae’n debyg bod llawer o’r ffermydd hyn yn gysylltiedig â phatrymau o gaeau afreolaidd mawr neu fach, sy’n cynrychioli tirwedd a esblygodd dros sawl canrif trwy glirio a chau coetiroedd a phrysg yn raddol a phob yn dipyn o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ymlaen. Heddiw, mae gwrychoedd hynafol, yn cynnwys sawl rhywogaeth wahanol o goed a llwyni, yn aml yn ffinio’r caeau hyn. Ar y tir sy’n codi’n fwy serth, cânt eu cysylltu weithiau â glasleiniau, sy'n nodi lle roedd aredig ar gyfer cynhyrchu grawn yn fwy cyffredin ar un adeg. Roedd y tiroedd comin a oedd yn parhau heb eu cau neu’r ‘tir diffaith’, yn eiddo ar y cyd i rydd-ddeiliaid, a gellid eu defnyddio fel tir pori ar gyfer da byw megis gwartheg, defaid a merlod ac, fel y gwelwyd mewn cyfnodau diweddarach, fel ffynhonnell cerrig adeiladu, tanwydd a gwasarn anifeiliaid.

Mae’r aneddiadau eglwysig cnewylledig bychan yn Llandinam i’r de a Llanwnog i’r gogledd o’r afon yn cynrychioli patrwm gwahanol o anheddu a defnydd tir sy’n tarddu o’r cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol. Mae’r ddau, i raddau amrywiol, yn gysylltiedig â phatrymau gweddol amlwg o batrymau caeau hir tebyg i leiniau. Mae’r rhain yn fwy amlwg yn achos Llanwnog. Yn gyffredinol, gwrychoedd oedd yn eu ffinio ac mae’n ymddangos fel pe baent wedi tarddu o gau caeau âr, agored gynt, a fyddai’n cael eu trin ar y cyd. Mae rhai ohonynt yn parhau i fod yn gysylltiedig ag olion sy’n goroesi o dirwedd cefnen a rhych llydan. Awgryma hyn y gallai’r aneddiadau cnewylledig fod wedi codi o esblygiad canolfannau maenorol a chanolfannau eglwysig cysylltiedig, y gallai tai a bythynnod fod naill ai wedi’u denu atynt, neu fod wedi’u creu’n fwriadol gan orfodi gwacau a chreu caeau agored.

Mae’n bosibl bod arwyddocâd i’r ffaith fod canolbwynt gweinyddol yr ardal wedi symud o Gaersws erbyn dechrau’r cyfnod canoloesol, pan ymddengys yn bosibl bod y ddau anheddiad eglwysig newydd yn Llandinam i’r de a Llanwnog i’r gogledd o’r afon wedi dod i fodolaeth. Efallai fod y rhain hyd yn oed wedi deillio o batrymau perchnogaeth oedd eisoes wedi dod i’r amlwg yn ystod diwedd y cyfnod Rhufeinig. Nodir ymhellach diflaniad y ganolfan weinyddol filwrol gynt yng Nghaersws gan ddatgymalu amddiffynfeydd yr hen gaer Rhufeinig yno. Tybir bod y blociau sgwâr o dywodfaen coch sy’n ffurfio rhan o’r deunydd hynaf sydd wedi goroesi yn eglwys Llanwnog yn cynrychioli’r broses hon.

Ymddengys fod y ddau gastell pridd yn ardal y dirwedd hanesyddol, mwnt a beili Bronfelin a Moat Farm ar y tir sy’n codi i’r de o Afon Hafren, yn gysylltiedig â chyfnod y goncwest Eingl-Normanaidd tua diwedd yr 11eg ganrif. Er mai arwyddocâd milwrol byrhoedlog a gawsant o bosibl, ymddengys eu bod wedi parhau, fel canolfannau maenorol o bosibl, hyd ddiwedd y cyfnod canoloesol. Roedd canolfannau maenorol bychain eraill wedi datblygu yn Park (Pen-prys) erbyn diwedd y 13eg ganrif, ac erbyn dechrau’r 14eg ganrif, roedd rhan o blwyf Llanwnog yn ffurfio maenor eglwysig a ddaliwyd gan esgob Bangor.

Mae yna awgrymiadau bod arglwyddi Arwystli neu Powys wedi ymdrechu, o bosibl yn ystod y 13eg ganrif neu’r 14eg ganrif, i sefydlu bwrdeistref â marchnadoedd wythnosol yng Nghaersws, rhwng y rhai a grëwyd ymhellach i fyny’r afon yn Llanidloes ac ymhellach i lawr yr afon yn y Drenewydd. Erbyn yr 16eg ganrif, fodd bynnag, pentrefan bach ydoedd yn unig, yn y drefgordd leiaf ym mhlwyf Llanwnog a oedd, yn syml, wedi methu â datblygu.

Gellir cael ychydig o wybodaeth am fywyd cymdeithasol ac economaidd Arwystli yn y Canol Oesoedd o’r ddogfennaeth brin sy’n ymwneud â nifer o’r daliadau mwy. Roedd yn amlwg bod y cantref yn gymharol dlawd, ac yn ardal o ffermio cymysg fel y rhan fwyaf o Gymru. Er hynny, roedd rhai ardaloedd yn addas fel porfa arw yn unig ym misoedd yr haf. Byddai tenantiaid esgob Bangor ar ddechrau’r 14eg ganrif yn Llanwnog yn talu rhent mewn arian parod. Roedd hyn wedi disodli rhoi ceirch wedi’u malu a gwasanaethau medi. Yn yr un modd, byddai tenantiaid arglwydd y faenor yn Park ar ddechrau'r 13eg ganrif yn talu rhent mewn arian parod, a oedd wedi disodli rhoi llaeth, dofednod, blawd a cheirch wedi’u malu, gwasanaethau medi a chwynnu a lluestu ar gyfer gwŷr hela a chŵn hela’r arglwydd. Roedd hyn yn dangos bod Park yn ganolfan parc hela yn y Canol Oesoedd. Caniatawyd i genfeiniau o foch, a oedd yn eiddo i ganonau Awstinaidd Abaty Haughmond yn Swydd Amwythig, bori yng nghoed Pen-prys. Mae’n debygol bod magu da byw yn elfen bwysig o economi’r ardal yn ystod y Canol Oesoedd. Fodd bynnag, er ei bod yn amlwg erbyn dechrau’r 16eg ganrif o’r degwm eglwysig a oedd yn ddyledus i reithoriaid cydgyfranedig Llandinam bod y cynnyrch yn cynnwys ŷd, ŵyn, pren a llaeth, nid oes yna sôn uniongyrchol am wartheg.

Mae’n debygol bod rhyfela rhwng dwy o deyrnasoedd Cymru, sef Gwynedd a Phowys yn ystod y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, plâu’r 14eg ganrif a gwrthryfel Glyndŵr ar ddechrau’r 15fed ganrif, oll wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygiad anheddu a defnydd tir yn ardal y dirwedd hanesyddol, ac mae’n debygol bod hyn wedi arwain at newidiadau amlwg mewn patrymau defnydd tir a phatrymau deiliadol arferol.

Y cyfnod ôl-ganoloesol a’r cyfnod modern

Fel y nodir isod yn yr adran ar adeiladau, mae'n ymddangos bod adeiladu clwstwr o ffermdai iseldirol mawr, a chanolfannau stadau neu ganolfannau maenorol â statws uchel yn Neuadd Llandinam, Maes-mawr, Perth-eiryn, Park, Carneddau a Llwyn-y-brain, yn cynrychioli atgyfodiad yn yr economi wledig yn yr 16eg ganrif hyd ddechrau’r 17eg ganrif. Mae gwasgariad yr adeiladau hyn, yn enwedig yn y tiroedd isel ar hyd dyffryn Hafren, dyffryn Carno, dyffryn Cerist a dyffryn Trannon, yn awgrymu newidiadau eang o ran patrymau perchnogaeth. Roedd hyn yn ymwneud â chau tir yn barciau a chau tir mewn ardaloedd cymharol helaeth o ddolydd comin iseldirol ar gyfer magu da byw, ac yn gysylltiedig â ffermydd a wnaeth yn amlwg ddatblygu economïau amaethyddol arbenigol.

Mae taliadau tenantiaid y faenor yn Park ar ddechrau’r 13eg ganrif, sylwch uchod, yn ei gwneud yn eglur mai parc hela oedd hwn yn y Canol Oesoedd. Mae’n debygol mai dyma oedd un o’r rhesymau pam y daeth yn stablau ceffylau brenhinol erbyn diwedd yr 16eg ganrif, yn ystod teyrnasiad Elizabeth I. Rhoddwyd pob demên, tiroedd a dôl yn ‘Park Penprise’ i ieirll Penfro ym 1562. Mae’n debygol ei fod yn arwyddocaol bod William, iarll Penfro a Robert, iarll Caerlŷr, sef stiward ac arglwydd Arwystli yn eu tro, ill dau wedi bod yn Feistr Ceffylau’r Frenhines hefyd yn y cyfnod hwn. Bu Powys yn ganolfan nodedig o ran bridio ceffylau ers y Canol Oesoedd, gyda Gerallt Gymro yn tybio y gellid olrhain y ceffylau o waed pur ar ddiwedd y 12fed ganrif yn ôl i geffylau Sbaen, a fewnforiwyd gan iarll Amwythig ar ddiwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 12fed ganrif.

Mae’n debygol mai anghydfodau ynghylch cau dolydd comin yr iseldir ym Masn Caersws oedd sail cwynion, yn ystod teyrnasiad Edward VI o bosibl, bod ‘parkes of Caersouse [Caersws]' wedi eu ‘given awaie ... from the burgesses to keep the king’s breeding mares’ yn Park. Mae arwyddion hefyd bod clirio a chau coetiroedd wedi parhau o amgylch ymyl y basn yn y cyfnod hwn. Tua’r adeg hon, ar ddiwedd yr 16eg ganrif, dywedwyd bod ‘Park Penprise’ yn rhan o ‘the forest of Fryth called Frith Penryse’. Mae’r term ffridd yn awgrymu tir wedi’i gau ar ymyl yr ucheldiroedd, ac mae’n debygol ei fod yn gysylltiedig â’r tir sy’n codi i’r gogledd o Park, sef ymyl gogledd-orllewin y basn, yn ardal hen goedwig Pen-prys, lle roedd canoniaid Haughmond yn dal hawliau mesobr i’w moch. Ceir cyfeiriad penodol at lechfeddiannau ar dir diffaith Arwystli, uwchdiroedd a oedd gynt heb eu cau, a thir comin yr iseldir o bosibl, mewn arolwg o arglwyddiaeth Arwystli a baratowyd ar ran iarll Caerlŷr ym 1574.

Yn ystod diwedd yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, parhaodd llawer o’r canolfannau stadau a’r ffermydd mwy a grëwyd yn ystod y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif i ddod i amlygrwydd trwy brynu a chyfuno daliadau, a thrwy gydbriodasau. O ganlyniad, erbyn diwedd yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif, llond dwrn yn unig o deuluoedd yr uchelwyr oedd yn berchen ar gyfran anghymesur o’r tir amaethyddol gorau ym Masn Caersws. Ymysg y teuluoedd amlwg erbyn y cyfnod hwn roedd y teulu Pierce o Lwyn-y-brain, y teulu Price o Park, y teulu Davies o Neuadd Maes-mawr, y teulu Glyn o Fferm Maes-mawr, y teulu Jones o Drewythen, a’r teulu Read o Landinam.

Byddai amrywiaeth o newidiadau radical i batrymau anheddu a defnydd tir yn dilyn yn sgil y newidiadau mewn arferion amaethyddol a thrafnidiaeth ffyrdd a wnaeth ysgubo’r wlad ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Etifeddodd Syr Watkin Williams Wynn o Wynnstay hawliau maenorol Arwystli. Roedd yn dirfeddiannwr amlwg o ogledd Cymru a oedd yn frwd dros wella’i diroedd. Cafodd y teitl answyddogol ‘Tywysog Cymru’, ac roedd yn hybu cau tir comin a thir diffaith y cantref, y dywedwyd eu bod ‘o ychydig werth yn eu cyflwr presennol'. Byddai cau tir yn caniatáu buddsoddi mewn clirio, ffensio a draenio, a fyddai’n gwella cynhyrchiant y tir, yn caniatáu tyfu cnydau porthiant i helpu â gaeafu stoc, ac yn chwarae rôl bwysig mewn rhaglenni rheoli bridio. Caewyd tir Arwystli o ganlyniad i Ddeddf Seneddol a basiwyd ym 1816, ac a daeth i rym yn llawn yn y 1820au.

Fe effeithiodd y ddeddf cau tir ar ardal o bron i 6 cilomedr sgwâr, sef ychydig yn llai nag 20 y cant o gyfanswm arwynebedd ardal y dirwedd hanesyddol. Tir pori garw oedd y rhan fwyaf o’r tir oedd wedi’i gau, ac roedd rhydd-ddeiliaid wedi’i ddefnyddio ar gyfer eu defaid a’u gwartheg. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oedd eu ffiniau wedi’u mapio na’u diffinio o’r blaen. Dan dermau’r ddeddf cau tir, roeddent bellach wedi’u rhannu rhwng arglwydd y faenor a’r tirfeddianwyr a oedd â hawliau pori. Roedd yn cynnwys rhan o’r tir uwch i’r gorllewin o Bontdolgoch, ardal o dir sy’n codi ger Gwynfynydd i’r gogledd-ddwyrain o Gaersws, y sbardun o dir uwch yn amgylchynu Cefn Carnedd i’r gogledd-orllewin o Landinam, ardal sylweddol o’r tir uwch rhwng Moel Iart a Bryn Penstrowed ar hyd ymyl deheuol Basn Caersws, ond roedd hefyd yn cynnwys ardaloedd sylweddol o ddolydd iseldirol ym mhentref Caersws ac o’i amgylch, rhan isaf Afon Carno ger ei chymer ag Afon Hafren a rhan isaf Nant Manthrig, ychydig i’r gogledd o Gaersws. Crëwyd tirwedd caeau neilltuol o ganlyniad i’r symudiad cau tir, a nodweddir gan gaeau bach, mawr a mawr iawn ag iddynt ochrau syth, neu lociau rhostirol, y mae gwrychoedd un rhywogaeth neu ffensys pyst-a -gwifrau yn eu diffinio’n aml. Roedd rhai ardaloedd cymharol fach o ffriddoedd (ardaloedd o dir pori garw) yn Llandinam, rhan o Foel Iart, yn parhau yn dir comin agored. Arweiniodd y dosbarthu a fu o’r dirwedd at well rheolaeth ar dda byw, a dirywiad ym mhwysigrwydd ffaldau anifeiliaid o’r math a fu unwaith yn Pound, gerllaw ardal o dir nad oedd wedi’i gau gynt, ar y ffordd sy’n rhedeg i’r gogledd o Gaersws.

Sefydlwyd planhigfeydd coetiroedd yn ystod y 19eg ganrif mewn rhai ardaloedd a gafodd eu cau o ganlyniad i ddeddf cau tir Arwystli, yn enwedig ar y bryniau i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o Landinam. Cafodd ardaloedd eraill o goetir eu plannu yn yr 20fed ganrif fel coetir conwydd Alltwnnog, a blannwyd ym 1954, er enghraifft.

Gwnaeth deddf cau tir Arwystli ddarpariaeth ar gyfer talu iawndal i lechfeddiannau bythynnod. Daeth yr holl lechfeddiannau a wnaed mwy nag 20 mlynedd ynghynt ac na thalwyd rhent na dirwyon ar eu cyfer, yn eiddo i’r deiliaid, ond nid oedd ganddynt hawl i unrhyw gyfran o’r tir comin. Yn achos llechfeddiannau a wnaed llai nag 20 mlynedd ynghynt neu y talwyd rhent amdanynt, byddent yn cael eu hystyried yn eiddo i’r sawl a fyddai’n derbyn y rhent. Fodd bynnag, roedd y bythynnod neu’r llechfeddiannau ‘anghyfreithlon’ hyn yn gymwys ar gyfer iawndal os oedd eu preswylwyr yn dlawd. Ymddengys bod clystyrau o fythynnod yn ardal Little London, ar y bryniau i’r gogledd-ddwyrain o Landinam, ac ym mhentref Caersws ac o’i amgylch, yn cynrychioli llechfeddiannau 20 oed a hŷn, yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif neu’n gynharach, ac a gyfreithlonwyd gan ddeddf cau tir 1816. Fe ddaeth rhai o’r bythynnod hyn yn anghynaladwy, a bellach mae yna nifer o safleoedd tai wedi’u gadael (ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif mae’n debyg) mewn rhai ardaloedd ffiniol, fel ger Little London a Bryn Belan, er enghraifft.

Mae gwelliannau i’r tir er mwyn cynyddu cynhyrchiant amaethyddol yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif wedi gadael eu hôl mewn rhai ardaloedd ffiniol ucheldirol ac iseldirol. Roedd cynlluniau draenio a oedd yn ymwneud â ffosydd draenio a draeniau ceramig wedi’u claddu yn cael eu cynnal o ddechrau’r 19eg ganrif ymlaen mae’n debyg. Roedd hyn yn cynnwys systemau helaeth ar dir a oedd yn ddirlawn yn dymhorol o amgylch Llwyn-y-brain i’r gogledd-ddwyrain o Gaersws, ar dir ger Nant Manthrig i’r gogledd o Gaersws, ac yn rhan isaf dyffryn Cerist a dyffryn Trannon i’r gorllewin o Gaersws. Mae’n debygol i dirwedd cefnen a rhych cul gael ei chreu hefyd i wella draenio mewn rhai ardaloedd, fel er enghraifft ger Fferm Gwynfynydd i’r gogledd o Gaersws. Mae carneddi carega’n darparu tystiolaeth weledol o glirio tir a gwella tir pori ucheldirol mewn rhai ardaloedd, fel ar Foel Iart, er enghraifft.

Parhaodd pentref Llanwnog, pentref Llandinam a phentrefan Caersws i ddatblygu ac ehangu bob yn dipyn, gan yn raddol gronni swyddogaethau lled-drefol. Sefydlwyd ysgol yn Llandinam yn ystod cyfnod y Frenhines Elisabeth dan nawddogaeth tirfeddianwyr lleol, ac yn ddiweddarach yn Llanwnog a Chaersws. Daeth llysoedd maenorol, sef y pentreflysoedd lle y daethpwyd i gytundeb ar anghydfodau lleol amrywiol, i gael eu cynnal ddwy waith y flwyddyn yn Llandinam a Chaersws bob yn ail. Adeiladwyd tafarndai yn y ddwy ganolfan hyn ac yn Llanwnog o ganlyniad i welliannau i rwydwaith y ffyrdd ac adeiladu pontydd newydd neu rai gwell o ganlyniad i’r ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.

Mae’n bosibl i’r pentrefan ym Mhontdolgoch ddechrau datblygu yn y Canol Oesoedd, yng nghyffiniau melin flawd a bwerwyd gan ddŵr, a oedd yn harneisio pŵer Afon Carno. Rhwng yr 17eg ganrif a diwedd y 19eg ganrif, fe ehangodd yn raddol, i gynnwys melin lifio, melin flawd a melin wlân, gyda tai melin a bythynnod gweithwyr cysylltiedig. Cafodd dyfodiad y rheilffyrdd ar ddechrau’r 1860au ychydig o effaith ar ddatblygiad Pontdolgoch a Llandinam, er mai ar Gaersws y bu’r effaith fwyaf nodedig, ger cyffordd llinell y Cambrian a llinell Canolbarth Cymru, ac o ddechrau’r 1870au, cyffordd Rheilffordd y Fan a oedd yn gwasanaethu’r mwyngloddiau plwm a barytes i’r gogledd o Lanidloes. Ychwanegodd dirywiad y diwydiant gwlân ar ddechrau’r 19eg ganrif at y broblem tlodi gwledig, ac roedd yn ffactor a gyfrannodd at adeiladu Tloty Undeb Deddf y Tlodion Caersws a’r Drenewydd ar gyrion dwyreiniol Caersws yn y 1830au. Ar ei anterth, roedd yn gartref i 258 o dlodion, llawer ohonynt o'r diwydiant gwlân.

Mae ffermydd gwasgaredig o feintiau amrywiol yn nodweddu’r dirwedd wledig fodern. Y prif ddefnydd tir ledled yr ardal bellach yw glaswelltir parhaol ar y tir gwell a phorfa arw ar dir y bryniau. Cynhelir peth ffermio llaeth o hyd ar y tir is, gan aeafu gwartheg dan do yn ystod misoedd y gaeaf. Cynhyrchir gwartheg yn bennaf ar gyfer lloi i’r farchnad stôr, gan aeafu’r mwyafrif o wartheg mewn buarthau a staliau rhyddion. Ym misoedd yr haf yn unig y defnyddir porfeydd rhostirol, yn bennaf ar gyfer cynhyrchu defaid. Bydd pesgi ac wyna’n digwydd yn bennaf ar diroedd is yn ystod misoedd y gaeaf. Ychydig o gnydau âr a dyfir bellach, os o gwbl. Ar un adeg, roedd ffermio moch ar raddfa fechan yn bwysicach, yn ôl y cutiau moch sydd wedi goroesi o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, mewn nifer o ffermydd a thyddynnod, ond mae hyn yn anghyffredin bellach. Gwerthwyd llawer o ffermydd a oedd yn wreiddiol yn rhan o stadau mwy yn ystod y 1920au i denantiaid cyfredol a barhaodd â mentrau teuluol, er bod llawer o ffermydd bellach yn cael eu rhedeg gan un ffermwr. Arweiniodd y dwysáu mewn ffermio ar ddiwedd yr 20fed ganrif at gyfuno ffermydd, y rhai llai yn arbennig, i greu unedau mwy dichonadwy. Mae’r helfeydd ffesantod ar y stadau a’r pysgota brithyll yn ardal Llandinam yn ychwanegu at yr incwm gwledig.

Adeiladau yn y dirwedd: cymeriad aneddiadau

Mae i’r tri anheddiad cnewylledig yn Llanwnog, Caersws a Llandinam gymeriad gwahanol iawn. Yr eglwys ganoloesol yw canolbwynt Llanwnog, ac mae’n cynnwys o leiaf un adeilad sy’n dyddio o’r 17eg ganrif. Mae cyfres o ffermydd yn amlwg yn y pentref, ac mae’r adeiladau fferm sydd wedi’u cadw yn cyfrannu llawer at ei gymeriad. Er ei wreiddiau Rhufeinig, mae gan Gaersws gymeriad pentref ar ochr y ffordd a ddatblygodd ger croesfan afon bwysig, cyffordd a hen gyffordd rheilffordd. Er bod yna o leiaf un adeilad cynhenid traddodiadol yn y pentref, mae ei gymeriad yn llawer mwy trefol a diwydiannol na gwledig, mewn sawl agwedd, er ar raddfa fechan iawn. Felly mae datblygiad yn cynnwys cyfres o resi tai, ac un ohonynt â thri llawr, yn dyddio yn ôl pob tebyg o ddechrau’r 19eg, ac sy’n atgof o’r rhesi sy’n gysylltiedig â’r diwydiant gwlân ym Mhenygloddfa, y Drenewydd. Mae llawer o’r gweddill yn amlwg yn ddiweddarach na’r rheilffordd, ac mae yna nifer o unedau bach diwydiant ysgafn. Mae’n ymddangos bod rhan hynaf Llandinam yn tarddu o gyfnod cynnar, gyda nifer o adeiladau’n goroesi o’r 17eg ganrif, ac mae yna sawl adeilad bach brodorol wedi’u clystyru mewn patrwm anffurfiol sy’n atgof o sgwatio. Mae Stad Dinam wedi ychwanegu gorchudd o ddatblygiad wedi’i gynllunio at yr anheddiad anffurfiol hwn, ac mae canolbwynt adeiladu diweddarach wedi symud at y briffordd.

Traddodiadau adeiladu

Mae’r adeiladau sydd wedi goroesi ym Masn Caersws yn cyfrannu’n sylweddol at gymeriad a chydlyniad ardal y dirwedd hanesyddol, lle gellir adnabod nifer o themâu pensaernïol arwyddocaol. Mae’r ardal yn nodedig am ei chronoleg hir o adeiladu, gyda deunydd canoloesol wedi goroesi yn yr eglwysi yn Llandinam a Llanwnog, a chyda nifer o dai yn dyddio o’r 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif o leiaf, rhai ohonynt yn awgrymu cyfnod cymharol lewyrchus ar yr adeg hon. Fodd bynnag, mae’n ddiddorol bod rhai adeiladau cymharol fach wedi goroesi o’r 17eg ganrif. Mae yna rai adeiladau da o’r 18fed ganrif, ond mae’n amlwg y bu cyfnod o weithgarwch adeiladu yn ystod y 19eg ganrif, yn gysylltiedig â gwella’r rhwydwaith o ffyrdd tyrpeg, datblygu nifer o’r stadau mawr a dyfodiad y rheilffyrdd. Er bod tyddynnod o’r cyfnod hwn yn parhau’n gadarn yn y traddodiad brodorol, daw llawer o’r ffermdai ac adeiladau eraill o draddodiadau pensaernïol gwâr. Mae adeiladu’r 20fed ganrif yn cynnwys mudiad tyddynnod y cyngor sir, adeiladu parhaus ar stad Plas Dinam, a pheth adeiladu tai cyngor. Mae datblygu preifat sylweddol hefyd wedi bod yng nghefn gwlad, yn enwedig yn y bloc o dir i'r gogledd-ddwyrain o Lanwnog yn yr 20fed ganrif.

Deunyddiau adeiladu

Mae’r ardal gyfan yn hynod o amrywiol o ran ei defnydd o ddeunyddiau adeiladu. Defnyddiwyd fframiau pren yn yr adeiladau cynharaf, ond ymddengys fod hyn wedi parhau yn hirach yn achos y rhai o statws is. Awgryma’r ffaith fod nifer o adeiladau nenfforch wedi goroesi yn yr ardal fodolaeth traddodiad cynharach. Gwnaeth y ffermdy yn Llwyn-y-brain, i’r dwyrain o Gaersws, a Phorth-gwibedyn, ar ochr ddeheuol y dyffryn i’r de-ddwyrain o Gaersws, ddechrau fel tai neuadd â nenfforch yn y 15fed ganrif neu ddechrau’r 16eg ganrif yn ôl pob tebyg. Mae bwthyn ym Mhontdolgoch yn cynnwys cyplau ffrâm bocs a chyplau nenfforch.

Gwyddys am ysguboriau nenfforch sydd efallai yn dyddio o’r 16eg ganrif ym Mherthddu, ychydig y tu hwnt i ffiniau de-orllewinol ardal y dirwedd hanesyddol. Collwyd adeilad o’r math hwn, sef ysgubor nenfforch â waliau â fframiau pren yn Nhre-gastell, tuag Aberhafesp yn gymharol ddiweddar, pan gafodd ei ddymchwel yn yr 1980au. Yn ddiamau, mae llawer o adeiladau eraill a oedd yn perthyn i'r traddodiad hwn wedi diflannu o'r ardal heb gofnod.

Mae nifer o dai bonedd arunig yr iseldir wedi goroesi yn yr ardal, megis Neuadd Llandinam a Neuadd Maes-mawr, ychydig uwchben gorlifdir Afon Hafren a Pherth-eiryn ger Llanwnog, sy’n dangos y defnydd amlwg o bren yn parhau yn yr 16eg ganrif a thrwy gydol yr 17eg ganrif ar gyfer fframio bocs â physt cynhaliol yn agos at ei gilydd. Mae hyn yn arwydd penodol o statws uchel. Daeth Neuadd Llandinam i feddiant John Read, uchel siryf o’r teulu Herbert o Lanffynhonwen yng nghanol yr 17eg ganrif. Cartref Griffith Lloyd, uchel siryf yn y 1570au oedd Maes-mawr (sydd bellach yn westy). Bu’n gartref eto i uchel siryfion yn y 1660au, yn ystod y Rhyfel Cartref. Strwythurau â fframiau pren oedd nifer o dai a ffermdai amlwg eraill hefyd i ddechrau, ac mae’n debyg bod ganddynt oll doi gwellt yn wreiddiol. Adeiladwyd tŷ a oedd yn eiddo i’r teulu Herbert yn Park, Pen-prys gynt, ger cymer Afon Carno ac Afon Trannon mewn modd tebyg, â phren â physt cynhaliol yn agos at ei gilydd, tua diwedd yr 17eg ganrif. Roedd Carnedd, rhwng Afon Cerist ac Afon Hafren, eto â ffrâm bren yn wreiddiol. Ychwanegwyd asgell groes ffrâm bren at y neuadd gynharach â nenfforch yn ffermdy Llwyn-y-brain yn y cyfnod hwn.

Mae’n debygol i dechneg adeiladu â fframiau pren barhau i gael ei defnyddio’n gyffredin ar gyfer adeiladau llai yn yr 17eg ganrif ac wedi hynny. Mae’n debygol bod Little House, i’r gogledd-orllewin o Landinam, sy’n dyddio o 1692, yn enghraifft brin sydd wedi goroesi o adeilad bach gwledig unllawr â ffrâm bren, a oedd ar un adeg yn fwy cyffredin o lawer yn yr ardal. Mae yna sawl bwthyn, yn cynnwys ym mhentref Llandinam er enghraifft, ac ar ochr y ffordd i’r de o’r pentref, sydd â’r coed hirfain sy’n nodweddiadol o draddodiadau fframio pren diweddarach mor ddiweddar â’r 18fed ganrif neu hyd yn oed ddechrau’r 19eg ganrif. Gwelir estyll tywydd ar bron iawn yr holl adeiladau amaethyddol â fframiau pren, tra bod adeiladau domestig yn nodweddiadol yn 'ddu a gwyn', â phaneli wedi’u plastro yn mewnlenwi fframiau bocs.

Dechreuwyd defnyddio carreg yn gynnar ar gyfer adeiladu’r eglwysi canoloesol yn Llanwnog a Llandinam, lle mae yna ychydig o ddeunydd carreg canoloesol wedi goroesi o’r 13eg ganrif i’r 15fed ganrif. Yn achos Llanwnog o leiaf, ystyrir ei fod yn cynnwys peth tywodfaen cochlyd o amddiffynfeydd y gaer Rufeinig ym mhentref Caersws. Defnyddiwyd carreg yn helaeth ar gyfer adeiladau domestig, adeiladau amaethyddol ac adeiladau bach diwydiannol, o ddechrau’r 17eg ganrif ymlaen mae’n debyg. Mae yna amrywiadau amlwg yn y ffordd y’i defnyddiwyd, yn amrywio o rwbel garw i flociau sgwâr a phatrymog. Mae’n debygol bod nifer o chwareli bach sydd wedi’u gwasgaru ledled yr ardal yn ffynonellau cynnar o garreg ar gyfer adeiladu. Fodd bynnag, o ddechrau’r 19eg ganrif, ac yn gynharach mae’n debyg, roedd y chwarel gerrig fasnachol oedd eisoes ym Mhenstrowed, ychydig y tu hwnt i ffin de-ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol, yn cynhyrchu. Mae’r amrywiadau hyn yn adlewyrchu statws cymdeithasol a threfniadaeth gwaith adeiladu, cymaint â chronolegau adeiladu.

Defnyddiwyd brics mewn nifer o dai o statws uwch yn y 18fed ganrif, a daethant i gael eu defnyddio'n fwy helaeth yn ystod y 19eg ganrif, wrth iddynt barhau'n aml i gael eu dewis fel y deunydd ar gyfer adeiladau o statws cymharol uchel. Hyd at tua hanner cyntaf y 19eg ganrif, ymddengys y cynhyrchid brics yn lleol, gan ddefnyddio dyddodion rhewlifol o glai brics da, sydd i’w gweld mewn band sy’n rhedeg o ddyffryn Cerist a dyffryn Trannon, i’r gogledd o Afon Hafren, i’r ardal i’r gogledd ac i’r gogledd-orllewin o Gaersws. Gwyddys am odynau teils Rhufeinig ym mhentref Caersws ei hun. Mae yna dŷ sy’n dyddio o’r 18fed ganrif ym mhentref Llandinam, sy’n defnyddio brics er mwyn addurno, mewn modd sy’n awgrymu hyder sylweddol yn y deunydd, ac mae’n arwydd o’i statws. Mae ffrynt o frics sy’n dyddio o’r 18fed ganrif gan Perth-eiryn, tŷ ffrâm bren statws uchel o’r 17eg ganrif ym Mhontdolgoch. Adeiladwyd hen Dloty Undeb Deddf y Tlodion Caersws a’r Drenewydd yng Nghaersws (Ysbyty Llys Maldwyn yn ddiweddarach, ac mae wedi’i drosi’n llety preswyl yn ddiweddar), rhwng 1837-40. Roedd hyn yn rhannol mewn brics a gynhyrchwyd mewn gweithfeydd brics a sefydlwyd yn y caeau ychydig i’r gogledd-ddwyrain, ac yn rhannol mewn cerrig o chwarel Penstrowed. Ymddengys bod brics lleol wedi’u gwneud â llaw wedi’u defnyddio hefyd ar gyfer adeiladu casgliadau o adeiladau fferm yn yr ardal, fel yng Ngharnedd a Threwythen-fawr.

Tua diwedd y 19eg ganrif, daeth defnyddio brics lliw i fod yn ffasiynol, ochr yn ochr â’r coch mwy traddodiadol. Roedd y defnydd hwn o sawl lliw o bosibl yn awgrymu cynhyrchu lleol, er yr ystyrir weithiau mai nodwedd o’r cyfnod ar ôl dyfodiad y rheilffyrdd oedd hyn, pan ddaeth cludiant yn haws. Ystyrir bod defnyddio brics lliw yn gysylltiedig â nawddogaeth stad yn aml hefyd, megis Church House Farm, sef y fferm fwyaf yn Llanwnog, sydd â nifer o nodweddion yn cynnwys simneiau ar ongl groeslinol sy’n awgrymu cymeriad stad. Roedd nifer o weithfeydd brics masnachol wedi’u sefydlu yn y gymdogaeth erbyn ail hanner y 19eg ganrif, yn cynnwys gweithfeydd brics Parry a Jones, ychydig i’r gogledd o Afon Hafren yn y Drenewydd. Mae amryw o adeiladau yng Nghaersws a Llanwnog yn dangos amrywiaeth arbennig o dda o liwiau a mathau o frics ar gyfer tai ac adeiladau eraill, yn cynnwys defnyddio brics melyn ar gyfer sied peiriannau Rheilffordd y Fan a adeiladwyd ym 1871.

Deunydd arall sy’n fwy amlwg yn ddiwydiannol yw haearn rhychog. Dechreuwyd ei ddefnyddio’n helaeth o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif ar gyfer siediau a chytiau fferm, megis y rhai sy’n gysylltiedig â melin Tŷ Coch ym Mhontdolgoch, ac yn enwedig ysguboriau gwair. Mae hefyd i’w weld weithiau fel cladin ar gyfer talcennau bregus tai.

Er bod yna, yn gyffredinol, ddilyniant o ddeunyddiau adeiladu o bren i garreg i frics, mae cysylltiad agos hefyd rhwng y deunyddiau a ddefnyddir a statws cymdeithasol, a defnyddiwyd pren ar gyfer adeiladau llai ymhell wedi i garreg neu frics gael eu defnyddio ar gyfer tai o statws uwch. Gwelir yn glir y dilyniant o ddeunyddiau a ddefnyddiwyd yn yr adeiladau a ailadeiladwyd neu a ailadeiladwyd yn rhannol gyda deunydd ‘newydd’, ond gellid defnyddio cyfuniad o ddeunyddiau hefyd, ac mae yna enghreifftiau o adeiladau sy’n defnyddio fframiau pren rhwng talcennau o garreg: gellir gweld y rhain fel camau yn natblygiad technegau adeiladu, ond mae’n bosibl bod defnyddio deunydd ‘newydd’ hefyd yn nodi statws. Gwelid llechi Gogledd Cymru fel deunydd ar gyfer toi ar bron bob adeilad, o’r 19eg ganrif.

Mathau o adeiladau a hanes cymdeithasol ac economaidd

Mae nifer o dai heb dir yng Nghaersws a Llandinam, ond y tu hwnt i’r aneddiadau hyn, mae gan y mwyafrif o adeiladau gysylltiad amlwg ag amaeth, boed hynny fel ffermydd neu fel tyddynnod. Mae yna amrywiadau clir ym meintiau ffermydd, yn cynnwys sawl fferm fawr i’r gorllewin o Afon Hafren, ond ceir cyfres hefyd o dyddynnod llai o lawer yn yr ardal hon ac mewn ardaloedd eraill, yn cynnwys rhai â fawr ddim o adeiladau allan amaethyddol. Mae yna rai bythynnod ffermydd wedi’u gwasgaru ledled yr ardal o hyd, a nifer ohonynt yn dyddio o’r 17eg ganrif.

Gellir gwahaniaethu o bosibl rhwng ffermydd ucheldirol llai (yn nodweddiadol ag adeiladau wedi’u hadeiladu mewn rhes), a’r ffermydd iseldirol mwy, lle mae’r adeiladau ar wahân. Yn aml, mae rhai o’r tyddynnod llai yn edrych fel llechfeddiannau, ond mae llawer o’r ffermydd mwy yn edrych fel ffermydd stad, oherwydd cymeriad pensaernïol y ffermdai a ffurf a gosodiad yr adeiladau fferm eu hunain. Maent yn cynnwys nifer o enghreifftiau o adeiladau o’r 19eg ganrif sydd wedi’u cynllunio’n dda ac wedi’u hadeiladu o frics, er enghraifft yng Ngharneddau a Threwythen-fawr, fel y crybwyllwyd uchod. Yn gyffredinol, mae’n ymddangos mai lletya stoc oedd eu diben, ac maent weithiau yn ychwanegiad at adeiladau fferm â fframiau pren ag estyll tywydd cynharach o lawer, a oedd hefyd, mae’n debyg, yn gysylltiedig â stoc. Mae’n ymddangos bod y casgliadau hyn o adeiladau’n cynrychioli effaith gwelliannau fferm a roddwyd ar waith gan nifer o’r stadau mwy yn ystod y 19eg ganrif, megis y teulu Read a’r teulu Crewe-Read o Neuadd Llandinam a Phlas Dinam a’r teulu Williams Wynn o Wynnstay.

Mae’n ymddangos bod ysguboriau haearn rhychog yn nodwedd o ffermydd stad yn benodol, ac maent yn cynrychioli cyfnod pellach o fuddsoddi tua diwedd y 19eg ganrif ac i mewn i’r 20fed ganrif, gan bwysleisio pwysigrwydd parhaus magu stoc yn yr economi amaethyddol. Mae yna hefyd gyfres bwysig o dyddynnod cyngor sir cynnar yn yr ardal, yn cynnwys, er enghraifft, Maesteg, Lôn Wig, Caersws.

Cymeriad pensaernïol

Roedd nifer o’r ffermydd a’r tai mwy yn yr ardal, megis Neuadd Llandinam, Neuadd Maes-mawr a Park wedi’u ffurfio fel canolfannau stad o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif. Fodd bynnag, mae’n ymddangos mai ychydig o ddylanwad a gafodd y cyfnod cynharach hwn o stadau, y tu hwnt i gyfoeth uniongyrchol y prif dŷ ei hun. Yn y 19eg ganrif, daeth dylanwad y stadau ar gymeriad yr adeiladau yn ardal nodwedd y dirwedd hanesyddol yn fwyfwy amlwg. Iaith bensaernïol aruchel Broneirion, yn y dull Eidalaidd (bellach mae’n ganolfan gynadledda a hyfforddi breswyl ar gyfer mudiad y Guides), â’i borthy Gothig ac adeiladau eraill cysylltiedig (Fron Haul a Bryn-Hafren) sy’n rhoi’r arwydd cyntaf o hyn. Adeiladwyd y casgliad o adeiladau, sy’n gorwedd ychydig uwchben y gorlifdir wrth odre’r bryniau i’r gorllewin o Landinam, ar gyfer y diwydiannwr amlwg David Davies ym 1864-65. David Walker o Poundley a Walker oedd yn gyfrifol am y cynllun. Mae Plas Dinam yn blasty hynod o gain, ac adeiladwyd cyfres o swyddfeydd cysylltiedig i’r dwyrain o’r tŷ. W. E. Nesfield a gynlluniodd y tŷ, yn yr arddull frodorol ganoloesol Seisnig. Fe’i adeiladwyd ar safle newydd ym 1873-74 ar gyfer Capten J. O. Crewe-Read o Neuadd Llandinam, yna bu disgynyddion David Davies yn byw yno.

Mae arwyddion o nawddogaeth stad hefyd ym mhentref Llandinam, yn y gyfres o fythynnod ar hyd ochr y ffordd i’r gogledd o’r pentref, sydd â ffurfiau Celf a Chrefft amlwg gyda’u waliau plastr garw gwyn, a’u ffenestri casment â phaenau bach, ond hefyd yn institiwt y pentref, yr ysgol, a’r capel sydd â chryn waddol. Mewn mannau eraill, mae graddfa a chymeriad adeiladau fferm hefyd yn awgrymu gwaith a noddwyd gan y stadau, ac mae yna rai ffermdai a gafodd eu hailadeiladu, mae’n debygol, trwy nawddogaeth stad, yn cynnwys Middle Gwern-eirin i’r gorllewin o Froneirion, a Chaetwp i’r gogledd-ddwyrain o Blas Dinam. Mae’r ddau yn enghreifftiau o adeiladu mewn arddull Gothig ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae Neuadd Lwyd, i’r de o’r pentref, yn perthyn i genhedlaeth gynharach, tua 1830-40, ond mae'n bosibl bod ei chymeriad Sioraidd gwâr a’r to talcennog yn arwyddion o nawddogaeth stad. Ar y cyfan, fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y stad wedi tyfu dros gyfnod yn ystod y 19eg ganrif. Mae ei hadeiladau wedi’u codi ar safleoedd ffermydd ffyniannus eraill a sefydlwyd yn gynharach neu wedi ychwanegu atynt mewn cyfnod amlwg o welliant. Mae’n ymddangos bod hanes tebyg i bentref Llandinam, lle cafodd y pentref ei ehangu dan nawdd y stad.

Mae’n bosibl i stadau eraill hefyd chwarae rhan mewn llunio’r dirwedd. Yng Nghaersws, er enghraifft, tŷ sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif yw Dolaethnen, a chanddo gymeriad pensaernïol gwâr. Mae'n gysylltiedig â stad Williams Wynn. Mae’n bosibl i’r tŷ stad tal o garreg sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif ym Mhen-y-borfa-fawr, ar y briffordd i’r gogledd-orllewin o bentref Caersws, eto gael ei adeiladu ar gyfer yr un stad.

Yn achos cyfnodau cynharach, er bod yr holl waith adeiladu’n perthyn i draddodiad brodorol, mae yna ystod amlwg o feintiau tai, a soffistigeiddrwydd mewn cynllunio ac adeiladu. Felly mae Neuadd Llandinam a Neuadd Maes-mawr yn nodweddiadol nid yn unig am eu maint sylweddol a’u defnydd helaeth o ddeunyddiau, ond hefyd am eu cynllunio rhanbarthol. Mae ganddynt gynllun mynedfa drwy lobi sy’n nodweddiadol o Ddyffryn Hafren ar ddechrau’r 17eg ganrif. Roedd llawer o adeiladau eraill o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif yn fwy syml o lawer o ran eu hadeiladu a’u cynllunio, ond yn y 19eg ganrif, bu hwrdd arall o weithgarwch adeiladu, pan welwyd yr adeiladau mwyaf dinod yn unig yn glynu at y traddodiadau brodorol. Mae hyn wedi’i nodi yn gyntaf gan gyflwyno brics, yna gan ddefnyddio ffurfiau Sioraidd wâr. Yn ddiweddarach, fel y nodwyd uchod, cyflwynwyd arddulliau eraill, yn cynnwys arddull Eidalaidd a Gothig ym Mroneirion, ac arddull frodorol ganoloesol Seisnig ym Mhlas Dinam.

(yn ôl i’r brig)