CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Fron-gelyn, Llandyrnog ac Aberwheeler, Sir Ddinbych
(HLCA 1045)


CPAT PHOTO 812.08

Tirwedd o gaeau afreolaidd cymharol fychan gyda gwrychoedd yn eu ffinio ar lethrau gorllewinol bryniau Clwyd.

Cefndir hanesyddol

Daw'r ardal o fewn plwyf eglwysig canoloesol Llandyrnog ac yn rhannol ym mhlwyf Bodfari, a thua gogledd cwmwd Dogfeilyn, yng nghantref hynafol Dyffryn Clwyd. Cadfwyell gynhanesyddol a ddarganfuwyd mewn wal yn Fron-vox rydd y dystiolaeth gynharaf o weithgaredd dynol yn yr ardal.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Rhed yr ardal ar hyd llethrau isaf bryniau Clwyd, gan godi o uchder oddeutu 100m uwch lefel y môr, ychydig uwch na'r iseldir ar lawr y dyffryn, i uchder o dros 300m ar hyd ymyl y rhostir, gyda rhan ddwyreiniol yr ardal yn ran o AHNE Bryniau Clwyd. Weithiau rhennir yr ardal gan afonydd sydd wedi torri'n ddwfn i'r tir â choed gwern, ynn a deri ar eu hymyl. .

Cyfyngir yr anheddiad i ffermydd gwasgaredig a bythynnod ar fin y ffordd ar y darddlin ger ymyl y rhostir ac eraill ar hanner y llethr, yn aml mae waliau ffordd o gerrig sych i'r ffermydd ar fin y ffordd. Mae'r esiamplau o ddeunydd adeiladu traddodiadol a ddefnyddiwyd yn cynnwys y tai allan presennol ar fferm Fron-vox â ffrâm bren wedi eu mewnlenwi â briciau, a llechfaen wedi ei gloddio'n lleol yn yr is-dy canoloesol yn y Gelli a'r ffermdai, tai a thai allan 18fed-dechrau'r19eg ganrif neu gynt yn Fron-vox, Fron-gelyn, Castell a Thy Newydd, er bod ty allan yn Nhregoch Uchaf wedi ei adeiladu o glogfeini crwn a gafwyd wrth glirio'r caeau yn ôl pob tebyg. Yn nodweddiadol mae adeiladau diwedd y 19eg ac 20fed ganrif wedi eu rendro a'u haddurno â briciau ac yn achos y ffermdai yn Nhregoch Ucha a Bwlch Isaf. Gadawyd rhai ffermydd a ffermdai ac maent bellach yn adfail, e.e. ger Aifft, lle mae grwp bychan o dai a ffermydd bychain, gan gynnwys cyn-gapel bychan o friciau, wedi eu clystyru o gwmpas dyffryn nant sy'n rhoi mynediad i fryniau Clwyd.

Caeau petryalog afreolaidd cymharol fychan a rennir gan wrychoedd aml-rywogaeth sy'n cynnwys ynn, draenen wen, celyn, ac yn aml wedi eu gosod ar linsiedi, a choed ynn a deri mwy wedi eu gwasgaru. Mae llawer o'r gwrychoedd yn uchel ac wedi gordyfu allan a bellach mae nifer o gaeau'n rhedeg yn un. Rhai hen ffiniau a gynrychiolir gan linsiedi. Rhai clogfeini rhewlifol mawr mewn caeau neu wedi eu symud i gloddiau caeau. Mae nifer o fannau coediog sy'n cael eu hystyried yn goetir lled-naturiol hynafol ar hyd rhai o'r llethrau mwyaf ac i lawr rhai o'r nentydd ag ochrau serth, gan gynnwys Coed Nant Simon, Coed Pen-llwyn a Choed y Gelli, gydag ardal sy'n cael ei hystyried yn goetir hynafol wedi ei hailblannu yn Wern-fawr. Adlewyrcha nifer o enwau lleoedd bod coetir neu brysgoed yno yn y gorffennol: Fron Banadl, Fron-gelyn, Gelli, Pen Llwyn. Tuag ymylon gogleddol yr ardal, ar ochr y rhostir, ymddengys bod nifer o ardaloedd wedi eu cau a'u llechfeddiannu yn y gorffennol, gyda linsiedi a chloddiau caeau mawr, rhai â gwrychoedd wedi tyfu allan a gynrychiolir bellach gan goed a phrysgwydd mawr gwasgaredig. O'r tirwedd gellir tybied bod cyfuniad o glirio coed a chau tir is fesul tipyn yn ystod diwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, a llechfeddiannu'r ucheldir comin yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif efallai.

Mae ffordd sy'n rhedeg ar hyd cyfuchlin yr allt yn cyfarfod â nifer o lonydd sy'n rhedeg i fyny'n serth mewn ceuffyrdd dyfnion, rhai ohonynt wedi'u rhagfurio â cherrig, mae'r cyn-afonydd a fyddai wedi dilyn y ceuffyrdd yn y gorffennol bellach wedi'u sianelu o dan y ffordd. Mae'r lonydd a'r llwybrau troed i fryniau Clwyd naill ai'n manteisio ar ddyffrynnoedd y nentydd neu'n torri ar draws y cyfuchliniau.

Awgryma'r chwarel a'r siafft ger Pen-llwyn ymgais i ddod o hyd i blwm neu ychydig o gloddio yn y 19eg ganrif.

Ymddengys mai'r unig adeilad eglwysig yw Castell Capel, capel 19eg ganrif o friciau a newidiwyd yn dy bellach.

Ffynonellau

Walker & Richardson 1989

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.