CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Aberchwiler, Bodfari and Aberwheeler, Sir Ddinbych
(HLCA 1053)


812.17

Diwydiannau gwledig ac adeileddau a gysylltir â ffyrdd tyrpeg a rheilffyrdd arosod ar dirwedd o ffermydd mawr gwasgaredig mewn ardal o ddolydd a gaewyd wedi'r canol oesoedd

Cefndir hanesyddol

Y dystiolaeth gyntaf o weithgaredd yw mynwent gorfflosgi, ychydig i'r gogledd o Bontruffydd Hall, o ddyddiau'r Rhufeiniaid mwy na thebyg, ond hyd yn hyn nid oes unrhyw dystiolaeth o anheddiad o'r cyfnod hwn yn yr ardal. Daw'r ardal o fewn plwyf eglwysig canoloesol Bodfari a thua gogledd cwmwd Dogfeilyn yng nghantref hynafol Dyffryn Clwyd

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Tir gwastad neu ag ychydig o lethr ar hyd dyffryn cul Afon Chwiler, lle rhed drwy fryniau Clwyd a thir mwy agored y dyffryn ger Fferm Pontruffydd Hall, ar gymerau Afonydd Clwyd a Chwiler, yn codi'n raddol o tua 25m uwch lefel y môr yn y gorllewin i tua 60m uwch lefel y môr yn y dwyrain. Disgrifiodd Pennant ddyffryn Aberchwiler fel 'narrow, fertile, diversified with groves, and watered by the crystal Wheeler' (Pennant 1783, 27). Mae rhan ddwyreiniol yr ardal yn ffurfio rhan o AHNE Bryniau Clwyd.

Mae'r dystiolaeth o anheddiad cynnar wedi ei chyfyngu i Bontruffydd Hall, cafodd un o nifer o blastai mwyaf diweddar ar yr iseldir mewn ardal gyfagos, adeiledd 16eg ganrif gynt, ei ailosod gan dy span style dull gothig wedi ei rendro yn y 19eg ganrif, ynghyd ag amrywiol nodweddion gothig eraill gan gynnwys bwa gothig a phorthordy addurnol, gardd â wal friciau, bloc o stablau a thai allan eraill, wedi eu rendro neu o friciau. Disgrifiodd Pennant (1783,31) y fferm gysylltiedig fel 'pretty ferme ornèe' (1783, 31), ynghyd ag elfennau o fferm fodel. Mae'r ffermdai a'r tai allan ar y ffermydd llai cyfagos, megis Fferm Geinas, o friciau'n bennaf, er bod rhai adeiladau cynharach o gerrig yn parhau ar ffermydd Geinas Glan-Clwyd. Cyfyngir yr anheddiad yn y dyffryn cul i'r dwyrain i adeiladau 18fed a 19eg ganrif a adeiladwyd ar hyd y ffordd dyrpeg, gan gynnwys tafarndai ar ochr y ffordd, melinau dwr a gefail gof ar ochr yr Afon Chwiler, ac adeileddau eraill a gysylltir â rheilffordd Yr Wyddgrug a Dinbych. Ymddengys mai anheddiad cnewyllol 19eg ganrif yw Waen Aberchwiler, sydd wedi ei ehangu gan dai 20fed ganrif, codwyd Capel Presbyteraidd Calfinaidd Cymru yng nghanol y pentrefan yn 1822 ac fe'i hailgodwyd ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.

Nodweddir defnydd y tir gan gaeau pori canolig i fawr, gyda thir gwlypach yn is i lawr ar hyd glannau'r afon Clwyd ac Afon Chwiler yn cael ei ddraenio gan ffosydd, er y mae rhai mannau ar yr ochr ddeheuol yn parhau i orlifo yn ôl y tymor. Diffinnir y caeau'n gyffredinol gan ffensys pyst a gwifren neu â gwrychoedd draenen wen. Ychydig o goedlannau collddail a chonifferaidd i'r de o Bontruffydd, a gwern, helyg a phoplys talach gwasgaredig ar hyd lannau'r Afon Chwiler. Peth tir â nodweddion parcdir o gwmpas Pontruffydd Hall. Yn ôl pob tebyg adlewyrcha'r tirwedd ddraeniad ac amgáu canoloesol dolydd yr iseldir.

Wrth iddi dorri trwy ganol bryniau Clwyd o ddyddiau cynnar ffurfiodd dyffryn yr Afon Chwiler linell gysylltu bwysig rhwng y dyffryn a'r ardaloedd i'r dwyrain, sef y llwybr a gymerodd y ffordd dyrpeg yn y 18fed ganrif a'r rheilffordd rhwng Dinbych a'r Wyddgrug yn y 19eg ganrif, y ddwy'n croesi'r Afon Clwyd ar bontydd cerrig ger Pontruffydd. Roedd Rheilffordd Cyffordd yr Wyddgrug a Dinbych yn rhedeg rhwng 1869-1968, gyda gorsaf ym Modfari a seidins ar gyfer Cwmni Partington Steel & Iron ym Modfari yn 1924 (Baughan 1991, 76-9). Yn yr un modd â'r ffordd dyrpeg mae'r hen reilffordd yn parhau i lunio rhan bwysig o dirwedd yr ardal, ond o dipyn i beth mae coed gwern a bedw arian yn tyfu arni.

Harneisiwyd pwer y dwr o Afon Chwiler yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, os nad ynghynt, ac fe'i gwelir hyd heddiw fel y cyn-felin feillion o gerrig (ar gyfer echdynnu hadau meillion) a elwir yn Candy Mill a'r felin yd o friciau yn Ngheinas, y ddwy'n cael eu bwydo gan ffrydiau melinau o'r afon. Ymddengys bod dwr wedi ei ddefnyddio ar gyfer gefail gof ar fferm Forge Farm hefyd ac ar gyfer peiriannau fferm efallai ar Fferm Pontryffydd Hall, lle gellir gweld dyfrffosydd. Ymddengys mai i dy-injan i yrru peiriannau fferm y perthyn y simnai friciau ar fferm Geinas.

Gwaith diwydiannol mwyaf nodedig yr ardal oedd Gwaith Cannu Lleweni gan yr Anrhydeddus Thomas Fitzmaurice yn 1785, ar gyfer trin lliain a gynhyrchwyd ar ei stadau Gwyddelig, ac wedi ei ddymchwel, yn ôl pob tebyg, gyda Lleweni Hall rhwng 1816-18 gan fab y Parch Edward Hughes o Ginmel, (darpar Arglwydd Dinorben) a gafodd yr ystad yn 1810. Disgrifia Thomas Pennant (1783)yr adeilad hynod hwn fel a ganlyn:

The building, in which the operations are carried on, is in form of a crecent: a beautiful arcade four hundred feet in extent, with a loggio in the center, graces the front; each end finishes with a pavillion. The drying loft is an hundred and eighty feet long; the brown warehouse and lapping room each ninety feet; and before it are five fountains, a prettiness very venial, as it ornaments a building of Dutch extraction. But this is without parallel, whether the magnitude, the ingenuity of the machinery, or the size of the bleaching ground is to be considered. The greatest part of the linnen bleached here is sent from the tenantry of his great estates in Ireland, in payment of rent. Much also is sent by private persons from the neighboring counties for the mere purpose of whitening.

The vast extent to which Mr. Fitzmaurice carries this business, is most sensibly felt in this neighborhood. May the utility of his life effectually awaken in our gentry a sense of his merit, and the benefits resulting from his labors, and induce them to promote every design of his, calculated for the public good.

Gwelir safle'r adeiladau Paladaidd anghyffredin hyn, 'one of the very grandest of C18 industrial buildings' (Hubbard 1986, 80), fel gwrthgloddiau yng Nghoed y Plain, ac yn ôl pob tebyg gellid mynd atynt ar hyd sarn Hen Ffos, i'r dwyrain o Aberchwiler. Gwyddys am ddau ddarlun cyfoesol o'r gwaith cannu, sef dyfrlliw gan Moses Griffiths oddeutu 1790, ac ysgythriad llinell gan W. Watts ar ôl T. Sandby (y pensaer) gyda'r teitl 'Bleach Works at Llewenni, as at first intended to be built'.

Ffynonellau

Hubbard 1986
Moore, n.d.
Nash 1990
Nash 1998
Pennant 1783
Richards 1969

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.