CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd
Map o'r ardal cymeriad hon

Disgrifio Nodweddion y Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd:
Bodfari, Sir Ddinbych
(HLCA 1054)


812.16

Bryn anghysbell gyda choed ar ran ohono yn codi'n sydyn o anheddiad cnewyllol o gwmpas eglwys ganoloesol y fryngaer Oes Haearn sy'n uwch i fyny, gyda thai gwasgaredig a gweddillion diwydiannol yn parhau.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal yn ffurfio rhan o blwyf eglwysig canoloesol Bodfari. Yn weinyddol, roedd yn ffurfio rhan o gwmwd Rhuddlan yng nghantref hynafol Tegeingl. I nifer o hynafiaethwyr cynnar awgryma rhan olaf enw Bodfari ei fod i'w adnabod fel safle'r Varis Rhufeinig, ond bellach teimlir bod hwn yn ardal Llanelwy (Blockley 1991, 117). Awgryma nifer o ganfyddiadau hap o ddyddiau'r Oes Efydd a'r Oes Rufeinig, yn ac o gwmpas y pentref, bod gweithgaredd dynol cynnar yn yr ardal. Y fryngaer ar ben allt Moel y Gaer, i ogledd-orllewin Bodfari yw'r dystiolaeth bendant gynharaf o anheddiad dynol. Dyma un o'r bryngaerau lleiaf ac isaf o gadwyn o fryngaerau ar hyd bryniau Clwyd, gydag un mynediad i'r goledd ac yn dibynnu'n helaeth ar y llethr naturiol ar yr ochr ddwyreiniol i'w amddiffyn. Mwy na thebyg bod y fryngaer yn dyddio o'r Oes Haearn, ond nid oes unrhyw dystiolaeth bendant am bryd y'i codwyd, pa un a oedd rhywun yn byw yno trwy gydol yr amser a pha bryd y'i gadawyd. Gan ei bod yn gymharol hawdd ei chyrraedd o'r dyffryn islaw soniodd nifer o hynafiaethwyr cynnar, fel Edward Llwyd a Thomas Pennant, amdani o'r 17eg ganrif ymlaen. Mae'n bosibl bod cyfeiriad at eglwys ym Modfari, fel Boteuuarul yn Llyfr Dydd y Farn 1086, a soniwyd am Batavari yn 1093, ond roedd yn bendant mewn bodolaeth erbyn y 13eg ganrif. Mae'n bosibl bod safle ffynnon o ddechrau'r canol oesoedd, a enwyd ar ôl St Deifer, nawddsant cynnar yr eglwys, yn y diffeithdir sydd bellach i'r de-orllewin o'r eglwys. Mae'n bosibl mai tua phedwar adeilad yn agos i'r eglwys yn unig oedd yn y pentref yn y 18fed ganrif, ac mai ychydig ydoedd wedi ehangu erbyn arolwg degwm 1845.

Yn ystod cwrs y 18fed a'r 19eg ganrif ehangodd yr anheddiad ar hyd y ffordd dyrpeg i'r dwyrain o'r eglwys ganoloesol. Sefydlwyd chwarel Coed-y-llan, nifer o odynau calch a chapel Methodist ac ysgol yma, ynghyd â nifer o fythynnod ar lethrau serth Moel y Gaer. Roedd mwynglawdd hematit i'r gogledd o'r pentref rhwng 1877-1909, mae ei olion yn parhau yma ar ffurf adeiladau addasedig gan gynnwys ty a gweithdai'r cyn-asiant yn ogystal â siafft cloddfa, gydag winsh ceffyl efallai, sydd bellach o'r golwg yn y coed. Roedd gorsaf yn gwasanaethu Bodfari ar Reilffordd Cyffordd yr Wyddgrug a Dinbych a oedd ar agor rhwng 1869- 1968, ac er bod y cloddio a'r mwyngloddio wedi darfod yn nechrau'r 20fed ganrif, parhaodd y gwaith diwydiannol gyda chwmni Partington Steel & Iron ac adeiladwyd seidins rheilffordd yn 1924, gellir gweld eu gweddillion yno o hyd (Baughan 1991, 76-9). Ystad dai 20fed ganrif.

Prif nodweddion tirwedd hanesyddol

Y rhan o'r ucheldir sydd wedi ei wahanu'n rhannol yn ffurfio rhan o fryniau Clwyd i'r gogledd o ddyffryn Aberchwiler, yn amrywio o ran uchder o 50m uwch lefel y môr i ben Moel y Gaer ar uchder o 206m uwch lefel y môr. Daw rhan o'r ardal o fewn AHNE Bryniau Clwyd.

Mae'r deunyddiau adeiladu yn y pentref yn cynnwys calchfaen wedi ei gloddio fel a geir yn nhwr yr eglwys ganoloesol (ailadeiladwyd gweddill yr eglwys yn ystod y 19eg ganrif), mae'r dafarn 17eg ganrif, drws nesaf i'r eglwys a'r sgubor 18fed ganrif ? wedi eu rendro'n rhannol. Olion o adeilad ffrâm focs o ddiwedd y canol oesoedd ym Mhistyll, bellach wedi ei lenwi â briciau, ffermdy briciau 19eg ganrif a thy a gweithdy cerrig asiant y mwynglawdd o ddiwedd y 19eg ganrif, y cyfan i ogledd Bodfari. Ysgol o friciau coch gyda cherrig nadd o'r 19eg ganrif. Mae cryn bellter rhwng yr adeiladau yn y bryniau, gan gynnwys ffermdy llechfaen isel yn Adwy-wynt gyda thai allan o gerrig a buarth â wal gerrig, a nifer o fythynnod cyfoes ac addasedig, bythynnod a rendrwyd.

Mae coedlannau collddail o dderi, ynn, celyn, masarnwydd a bedw, a ystyrir yn goedlannau lled-naturiol hynafol, yn gorchuddio llawer o'r llethrau dwyreiniol, megis Coed-y-llan yn union uwchben Bodfari. Mae tir pori wedi ei wella'n rhannol o siâp afreolaidd a gymerwyd fesul tipyn o'r coetir ar y tir llai llethrog gyda gwrychoedd aml-rywogaeth gan gynnwys y ddraenen wen, ynn a chelyn. Cynrychiolir rhai gwrychoedd sydd wedi tyfu allan gan goed a llwyni gwasgaredig, a rhai linsiedi a chloddiau fel ffiniau i'r caeau a adawyd. Cynhwysa Moel-y-Gaer, i'r de o'r fryngaer, blanhigfa gonifferaidd tra bo'r Warren yn cynnwys ychydig o blannu addurniadol o gwmpas ty mawr 19eg ganrif Warren House. Standiau caniau llaeth nas defnyddir bellach.

Lonydd troellog serth i fyny ochrau gorllewinol a dwyreiniol y bryn, rhai'n anaddas ar gyfer cerbydau modur, yn aml yn rhedeg mewn ceuffyrdd, rhai wedi eu rhagfurio â waliau sychion o siâl.

Ardal fechan â nodweddion cyn-barcdir o gwmpas Grove Hall..

Ffynonellau

Forde-Johnston 1965
Morgan (ed.) 1978
Richards 1969
Walker & Richardson 1989

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad , hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk.