CPAT logo
Cymraeg / English
Adref
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd


Y DIRWEDD WEINYDDOL

Mae ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd yn cwmpasu'r cymunedau canlynol yn gyfan gwbl neu'n rhannol: Aberchwiler, Bodfari, Dinbych, Efenechtyd, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llandyrnog, Llanelidan, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llangynhafal, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Llanynys, Rhuthun (pob un yn Sir Dinbych), a rhannau llai o Ysceifiog, Nannerch, Cilcain a Llanarmon-yn-Iâl yn Sir y Fflint.

Yn y cyfnod hanesyddol cynharach roedd Dyffryn Clwyd ar y ffin rhwng teyrnas bwerus Gwynedd yn y gorllewin a'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd yn y dwyrain ac o ganlyniad i hyn efallai ni lwyddodd i ddatblygu ei hunaniaeth wleidyddol gref ei hunan. Pwysleisir hyn gan y ffaith bod y tiroedd Cymreig i'r dwyrain o Afon Conwy, y lleolid y dyffryn o'u mewn, yn cael eu hadnabod erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif fel Perferddwlad, y 'wlad ganol' a oedd efallai'n dynodi'r tir rhwng Gwynedd a theyrnas Powys i'r de a'r de-ddwyrain. Daeth yr ardal i'r dwyrain o Afon Clwyd o dan ddylanwad Normanaidd yn yr unfed ganrif ar ddeg hwyr, ac roedd Bodfari, o fewn y dyffryn, yn un o'r aneddiadau brodorol a restrwyd yn Llyfr Domesday 1086.

Yn dilyn ehangu teyrnas Gwynedd yn ystod y ddeuddegfed ganrif, aeth y dyffryn i feddiant teyrnas Gwynedd Is-Conwy, a orchfygwyd gan frenin Lloegr, Harri III yn y 1240au, yn dilyn marwolaeth Llywelyn Fawr. Ailfeddiannwyd y tir gan ŵyr Llywelyn, Llywelyn ap Gruffydd, yn y 1260au, ar ôl i'r tir, erbyn hynny, fod dan reolaeth mab Harri, Edward, a oedd wedi'i wneud yn arglwydd ar diroedd y goron yng Nghymru. Yn dilyn esgyniad Edward i'r orsedd ym 1272, ailfeddiannwyd pedwar cantref Perfeddwlad - Rhos a Thegeingl yn y gogledd a Rhufoniog a Dyffryn Clwyd yn y de - gan goron Lloegr, ac yn y cyfnod rhwng 1277 a 1282 rheolwyd y ddau gantref gogleddol gan goron Lloegr a'r ddau gantref deheuol gan Ddafydd, brawd Llywelyn, a oedd wedi ochri gydag Edward.

Yn dilyn gwrthryfel Dafydd a Llywelyn ym 1282-3, gorchfygwyd Cymru, Rhos a Rhufoniog o'r diwedd yn gyfan gwbl gan Edward, a ffurfiwyd Arglwyddiaeth newydd y Gororau yn Ninbych a gyflwynwyd i Henry de Lacy, Iarll Lincoln, a daeth cantref Dyffryn Clwyd yn arglwyddiaeth Rhuthun a ddyfarnwyd i Reginald de Grey, yr Arglwydd Grey a gynorthwyodd Edward i orchfygu Cymru. At ddibenion gweinyddol isrannwyd cantrefi Rhufoniog a Dyffryn Clwyd yn dri chwmwd - arglwyddiaeth Rhuthun, er enghraifft, rhwng y 13eg ganrif a'r 17eg ganrif a weinyddwyd fel bwrdeistref Rhuthun a thri chwmwd Coelion, Dogfeilyn a Llannerch. Yn Neddf Uno 1536, unwyd y ddwy arglwyddiaeth, ynghyd ag arglwyddiaeth Maelor, Iâl a'r Waun i greu Sir Ddinbych. Trosglwyddwyd Sir Ddinbych i Sir newydd Clwyd adeg ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ac yn dilyn newidiadau i'r ffiniau fe'i trosglwyddwyd yn ôl i Sir Ddinbych yn ad-drefniant 1996.

Yn ystod y cyfnod canoloesol, am resymau sydd bellach yn niwlog, aeth y plwyfi eglwysig yn arglwyddiaeth Dinbych yn rhan o Esgobaeth Llanelwy, tra aeth y rhai hynny yn Nyffryn Clwyd, er bod Esgobaeth Llanelwy yn eu hamgylchynu'n gyfan gwbl, yn rhan o Esgobaeth Bangor. O'r diwedd, trosglwyddwyd deoniaeth Llanfair Dyffryn Clwyd, yn cynnwys plwyfi Efenechtyd, Llanbedr, Llandyrnog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanfwrog, Llangynhafal, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Llanrhudd (yn cynnwys Rhuthun), Llanychan a Llanynys i Lanelwy ym 1859.