CPAT logo
Cymraeg / English
Adref
Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Clwyd

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clwyd


TIRWEDDAU A AMDDIFFYNNWYD

Mae tirweddau a amddiffynnwyd yn Nyffryn Clwyd yn ymrannu’n grwpiau ar wahân heb unrhyw gysylltiad â’i gilydd - y grŵp o fryngaerydd cynhanesyddol ar hyd copa bryniau Clwyd ar y naill law a chestyll canoloesol Rhuthun a Dinbych ar y llaw arall, ac mae’r holl safleoedd yn henebion cofrestredig.

Mae pump o’r gadwyn hynod o chwe bryngaer ar hyd bryniau Clwyd o fewn ardal o dirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd - Foel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr Dyffryn Clwyd), Moel Arthur, Penycloddiau a Moel y Gaer (Bodfari) - a dyma’r grŵp amlycaf ac eto mwyaf enigmatig o henebion archeolegol yn yr ardal. Mae dau safle - Foel Fenlli a Phenycloddiau - yn eang; mae Penycloddiau’n amgáu ardal o tua 21 hectar, ac yn un o’r bryngaerydd mwyaf yng Nghymru gyfan. Gwnaed peth gwaith cloddio ar raddfa fechan yn Foel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr) a Moel Arthur ym 1849 ac ym Moel y Gaer (Bodfari) ym 1908, ond eto i gyd ychydig sy’n hysbys amdanynt, ar wahân i’r ffaith iddynt gael eu cychwyn, fwy na thebyg, yn ystod yr Oes Haearn cyn-Rhufeinig, a’u bod yn amlwg wedi’u bwriadu i gyflawni rôl amddiffynnol.

Mae gan bob un o’r henebion lethrau a ffosydd niferus o’u hamgylch o leiaf yn rhannol, a cheir tystiolaeth ym mhob safle i’r amddiffynfeydd gael eu codi yn ystod mwy nag un cyfnod. Mae llwyfannau ceugrwn ar nifer o safleoedd fwy na thebyg yn dynodi safle’r tai crwn pren neu adeiladau storio, ond testun damcaniaeth yn unig yw a fu rhywrai’n preswylio ynddynt yn barhaol neu’n dymhorol, a thros ba gyfnod. Mae pob un o’r safleoedd yn cynrychioli camp beirianyddol aruthrol, er nad ydym yn gwybod llawer am eu swyddogaeth mae maint y cloddweithiau’n darparu peth tystiolaeth ynghylch y gymdeithas a’u creodd; roedd y boblogaeth gyfoes yn amlwg o gryn faint ac mae’n rhaid ei bod wedi’i threfnu mewn modd oedd yn caniatáu gweithredu ar y cyd. Mae’r henebion eu hunain yn fynegiant o gymdeithas ar waith ac mae ganddynt berthynas agos â’r dirwedd y canfuwyd hwynt ynddi. Yn ôl pob tebyg byddai pob bryngaer yn ganolbwynt tiriogaeth lwythol a ddiffiniwyd yn glir ac a ymestynnai ar draws yr iseldir o fewn y dyffryn islaw, gyda phob un yn rheoli mynediad i amrywiaeth tebyg o adnoddau naturiol.

Mae gan y tirweddau a amddiffynnwyd ac a gynrychiolir gan y cestyll canoloesol yn Rhuthun a Dinbych wreiddiau a swyddogaeth hollol wahanol. Dewiswyd brigiadau amlwg ar gyfer y ddau fath ond yn achos Rhuthun a Dinbych lleolwyd y safleoedd o fewn y dyffryn ac roeddent yn llawer llai o faint ac wedi’u cynllunio i letya llu milwrol mwy cywasgedig. Dechreuwyd ar y gwaith o godi castell Rhuthun fel rhan o gynllun adeiladu brenhinol ym 1277, yn ystod teyrnasiad Edward I, ac fe’i cynlluniwyd i ddiogelu cantref Dyffryn Clwyd, a oedd bryd hynny yng ngofal Dafydd yn enw’r goron, yn erbyn y bygythiad o gyrch gan ei frawd, Llywelyn ap Gruffydd. Ar ôl gwrthryfel Dafydd ym 1282, rhoddwyd y cantref i Edward de Grey, ac ailgydiwyd yn y gwaith adeiladu ar y castell. Gyda’i gilydd y castell a’r dref oedd prifddinas arglwyddiaeth newydd y mers yn Rhuthun, ac roedd yn fodd i amddiffyn, gweinyddu, a manteisio ar yr arglwyddiaeth. Niweidiwyd adfeilion y castell canoloesol sy’n rhedeg gyda chrib y bryn ar ochr ddeheuol y dref yn ddifrifol yn ystod y Rhyfel Cartref. Yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif yr adeiladwyd yr adeiladau castellog presennol, sydd bellach yn westy.

Mae gan Ddinbych hanes tebyg. Roedd Dinbych hefyd, prifddinas cartref Rhufoniog, o dan ofal Dafydd cyn ei wrthryfel ym 1282. Ar ôl goresgyniad Edward fe’i rhoddwyd i Henry de Lacy, ac fel yn achos Rhuthun dechreuodd y gwaith o adeiladu’r castell yn fuan wedyn, y tro hwn er mwyn diogelu a manteisio i’r eithaf ar arglwyddiaeth newydd Dinbych. Yn yr achos hwn adeiladwyd muriau tref sylweddol o gwmpas y dref gynnar.