CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Dylife
Cymunedau Llanbrynmair a Threfeglwys, Powys
(HLCA 1187)


CPAT PHOTO 06-C-214

Llwyfandir ucheldirol â nentydd yn torri ar ei draws. Roedd ar un adeg yn rhan o faenor fynachaidd ganoloesol. Ceir llechfeddiannau cynnar, o bosibl yn deillio o aneddiadau tymhorol. Caewyd rhannau ohono o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Mae’n bosibl bod olion mwyngloddio metel o gyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol yno, ynghyd ag olion mwy helaeth o fwyngloddio metel yn y 19eg ganrif, a thystiolaeth o aneddiadau cysylltiedig.

Cefndir Hanesyddol

Llwyfandir ucheldirol, yn gyffredinol rhwng 380-520 metr uwchben lefel y môr sydd yma. Mae dyffrynnoedd nentydd a llednentydd rhan uchaf Afon Clywedog yn ei dorri cyn llifo i Gronfa Clywedog tua’r de-ddwyrain. Felly hefyd nentydd Nant Bryn-moel, Nant Dropyns a Nant yr Iâr, sydd oll yn llifo i Afon Twymyn ac i’r gogledd-ddwyrain, i geunant 200 metr o ddyfnder sy’n ymestyn i mewn i’r ardal nodwedd. Priddoedd ucheldirol athraidd lomog dros graig, gyda haenlinau mawnaidd, sydd yma’n bennaf. Ceir rhostir a glaswelltir sy’n borfa gymedrol ac, yn hanesyddol, magu stoc a phlannu coetir conwydd oedd yn gwneud orau yma, gyda pheth ffermio llaeth ar dir oedd wedi’i wella. Mae'r ardal yn cynnwys nifer o blanhigfeydd conwydd bychan a blannwyd yn yr 20fed ganrif.

Mae enwau lleoedd a gofnodwyd yn yr ardal yn bennaf yn dopograffig eu natur. Er hynny, mae Ty’n-y-fuches, fferm gynt yn nyffryn Clywedog a Fuches, sy’n berthnasol i’r ardal helaeth o borfa i’r gogledd o ddyffryn Clywedog yn cynnwys yr elfen ‘buches’, sy’n awgrymu cysylltiad hanesyddol â phori ucheldirol. Mae’r enw Dylife yn deillio o ‘dylif’ ac fe’i cofnodir am y tro cyntaf yn y 1640au pan welir y cyfeiriadau cyntaf mewn dogfennau at fwyngloddio yn yr ardal.

Mae’n bosibl bod aneddiadau a defnydd tir cynnar wedi dechrau fel aneddiadau ucheldirol tymhorol yn y cyfnodau canoloesol i ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol ac fe’i cynrychiolir gan glwstwr o lwyfannau tai creiriol a ffermydd bychain ar hyd ochr ogleddol dyffryn Clywedog ac yn nyffryn Afon Twymyn. Mae rhai ohonynt, megis Dyfngwm-isaf a Thy’n-y-fuches wedi’u gadael ers hynny. Ymddengys fod y rhain yn cynrychioli llechfeddiannu tir pori ucheldirol oedd gynt yn dir agored. Mae llawer o’r patrwm modern o gaeau mawr ag ochrau syth, yn enwedig ar dir uchel, yn cynrychioli patrymau cau tir a wnaed ers y 1880au.

Olion y diwydiant mwyngloddio yw’r rhan fwyaf o’r olion archeolegol sydd i’w gweld, o ddigon, er bod yno dystiolaeth o amaeth cynnar. Awgrymir gweithgarwch mwyngloddio metel cynnar gan gaer Rufeinig fechan Penycrocbren ar y gefnen ucheldirol rhwng dyffryn Clywedog i’r de, a Nant Dropyns ac Afon Twymyn i’r gogledd. Mae’r gaer fechan wedi darparu tystiolaeth o weithgarwch yn ystod yr 2il ganrif OC. Mae’n bosibl ei bod wedi chwarae rhan mewn plismona gweithgarwch mwyngloddio yn yr ardal yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Tybir bod y trac i’r gogledd o’r gaer fechan yn dilyn llinell ffordd Rufeinig o’r gaer Rufeinig yng Nghaersws, ar hyd Dyffryn Trannon. Cafwyd awgrym y gallai’r ffordd fod wedi parhau tua’r gorllewin tuag at y gaer Rufeinig ym Mhennal, ond nid oes tystiolaeth o hyn hyd yma. Tybir bod cloddfeydd agored, lefelau, cloddfeydd arbrofol a siafftiau ar lethrau gogledd-orllewin Pen Dylife, gyferbyn â bythynnod Rhanc-y-mynydd, yn cynrychioli gweithfeydd cynnar, o bosibl yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid. Mae mwy o weithfeydd cynnar, eto o bosibl yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid, ymhellach i’r de yn Nyfngwm.

Cynrychiolir mwy o fwyngloddio metel a’i brosesu yn y cyfnod rhwng tua 1640, yn ysbeidiol hyd at y 1930au, gan dirwedd greiriol mwyngloddio helaeth gwasgaredig mewn ardal o tua 75 hectar, yn ymestyn o Ddylife yn nyffryn Nant Dropyns, i’r gogledd, ar draws y gefnen ucheldirol agored ym Mhen Dylife ac ymlaen i’r mwyngloddiau yn Nyfngwm yn nyffryn Clywedog i’r de. Roedd y mwyngloddiau’n ecsbloetio tair prif wythïen a elwid yn wythiennau Esgair-galed, Llechwedd Du a Dylife neu Ddyfngwm, ac yn cynhyrchu mwynau plwm, arian, sinc a chopr.

Cloddfeydd agored, lefelau, cloddfeydd arbrofol a siafftiau oedd gweithfeydd cynharaf Dylife. Fe’i disodlwyd gan gyfres o bum prif siafft. Byddai’r mwyn yn cael ei gludo oddi yno ar nifer o draciau i ardaloedd prosesu ar waelodion dyffrynnoedd Afon Twymyn a Nant Dropyns, a barhaodd i weithredu hyd y 1920au. Yn y pen draw, turiwyd un o’r siafftiau hyd ddyfnder o 167 gwrhyd, gan ei wneud yr un dyfnaf yng nghanolbarth Cymru. Roedd cronfeydd dŵr a grëwyd ar y nentydd ym Mhwll Rhyd-y-porthmyn ac ar Nant Dropyns yn cludo dŵr mewn cyfres o ffrydiau a landeri a oedd yn darparu pŵer dŵr a ddefnyddiwyd i yrru peiriannau weindio a phwmpio yn y prif siafftiau ac i yrru mathrwyr cerrig, gogrwyr a cherwyni. Mae yna olion gweladwy o’r rhan fwyaf o’r prosesau mwyngloddio a gweithio er nad yw’r ardaloedd prosesu bellach mewn cyflwr da.

Mae gweithfeydd mwynglawdd Pen Dylife’n ymestyn tua chilomedr ar hyd y gefnen ucheldirol agored i’r de o Ddylife ac yn cwmpasu ardal o tua 30 hectar, tua 400-450 metr uwchben lefel y môr. Mae’n cynnwys caer Rufeinig fechan Penycrocbren ac mae ei gwrthgloddiau a’i hunig fynedfa i’w gweld yn eglur o hyd. Ar wahân i darddiad Rhufeinig posibl yr hen drac i’r gogledd o’r gaer fechan, mae’n nodi llinell yr hen ffordd dyrpeg rhwng Llanidloes a Machynlleth. Mae’n debygol bod clawdd sylweddol i’r de yn dynodi’r ffin rhwng mwyngloddiau Pen Dylife a Dyfngwm. Mae’r olion mwyngloddio ym Mhen Dylife mewn cyflwr da. Uwchben, mae rhes o bydewau bach a siafftiau mwy a oedd yn ecsbloetio’r wythïen fwynol sy’n rhedeg ar hyd y gefnen ac sy’n uno tua’r gorllewin â gweithfeydd brig sylweddol mwynglawdd Dyfngwm. Cynrychiolir gweithgarwch mwyngloddio cynharach, yn dyddio’n bennaf, mae’n debyg, o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, gan y siafftiau llai yn y gyfres hon. Hefyd, ceir cloddweithiau sy’n cynrychioli rhwydwaith o ffrydiau a chronfeydd bach sy’n awgrymu y defnyddiwyd y broses mwyngloddio brig â dŵr. Cynyddodd graddfa’r gweithgareddau mwyngloddio’n ddramatig o ganol y 19eg ganrif. Ar yr un pryd, suddwyd siafft newydd ac adeiladwyd peiriandy wedi’i yrru gan ager, yr uchaf i’w osod yng Nghymru. Gellir gweld ei safle hyd heddiw. Nid oes yno domenni gwastraff mawr, fel y rhai sy’n nodweddiadol o weithfeydd y 19eg ganrif mewn mannau eraill, oherwydd nad oedd y mwyn a gloddiwyd ym Mhen Dylife yn cael ei brosesu yno. Yn hytrach, fe’i proseswyd naill ai yn Nylife, neu yn ddiweddarach yn Nyfngwm. Cysylltwyd mwynglawdd Dylife i’r geuffordd ddofn yn Nyfngwm ym 1865. Fe greodd hyn dramwyfa tua chilomedr o hyd o dan y mynydd.

Mae olion mwynglawdd Dyfngwm i’w gweld o hyd yn nyffryn Clywedog. Maent yn cynnwys gweithfeydd brig sylweddol ar ochr ogleddol y dyffryn, lle byddai mwynau metel wedi dod i wyneb y graig yn naturiol, a cheuffordd ddofn oedd yn cysylltu â dau siafft sylweddol ymhellach i fyny’r bryn, yn gyfagos i fwynglawdd Pen Dylife, yn ogystal â chloddion arbrofol niferus ar wasgar. Mae gweithfeydd cynnar, yn dyddio efallai o gyfnod y Rhufeiniaid neu’r canol oesoedd, i’w gweld mewn cloddfeydd agored, ceuffyrdd a gweithfeydd bas fel twmpathau siafftiau. Mae rhai o’r rhain wedi cynhyrchu tystiolaeth o drin â llaw, ar ffurf cerrig morter wedi’u claddu yn y tomenni. Mae olion gweledol sy’n gysylltiedig â’r siafftiau mwy yn cynnwys cylchoedd dyfais troi, inclein gyda sylfaen drwm weindio a chloddiau lloc mawr sgwâr a ddefnyddiwyd o bosibl i ffaldio ceffylau oedd yn gweithio yn y mwynglawdd. Gwelir enghreifftiau tebyg mewn nifer o safleoedd mwyngloddio eraill yng nghanolbarth Cymru. Yn nyffryn Clywedog islaw, gwelir olion sylweddol prosesu mwynau, yn cynnwys olion tŷ mathru a melin brosesu mewn cyflwr gwael, tomenni gwastraff helaeth, llwyfan gogrwr posibl ynghyd â’i wastraff, a chyfres o bydewau llaid wedi’u cysylltu â’i gilydd ar hyd glan ddeheuol Afon Clywedog. Harneisiwyd pŵer dŵr ar gyfer echdynnu a phrosesu mwynau, yn ogystal â defnyddio pŵer ager. Cymerwyd y dŵr o ffrwd a dynnwyd o Afon Clywedog ymhellach i fyny’r afon. Parhaodd y gwaith tan 1935.

Mae boncyn bychan i'r gorllewin o gaer Rufeinig fechan Penycrocbren yn nodi safle hen grocbren, y tybir ei fod yn dyddio o tua 1700. Cloddiwyd y safle ym 1938 a chafodd haearnau crogi a phenglog dynol eu darganfod. Maent bellach yn cael eu cadw yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Cawn hanes Siôn y Gof (oedd yn gweithio’n lleol) a’r grocbren mewn llên gwerin. Roedd yn byw yn Felin-newydd a dywedir ei fod wedi llofruddio’i deulu a thaflu eu cyrff i lawr siafft cloddfa. Yn ddiweddarach, fe’i gorfodwyd i ofannu ei haearnau crogi ei hun.

Patrwm o ffermydd bach gwasgaredig sy’n cynrychioli anheddu heddiw. Mae’n debygol bod rhai ohonynt wedi dechrau fel aneddiadau tymhorol neu lechfeddiannau ar ardaloedd a fu’n borfa agored a thir comin ucheldirol, yn y cyfnod canoloesol ac ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn ddiweddarach, yn bennaf ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif, daeth y gymuned fwyngloddio wasgaredig yn Nylife i anheddu yno. Mae hynny’n cynnwys rhes o tua 20 o fythynnod y mwynwyr yn Rhanc-y-mynydd. Roedd rhandiroedd bach ar gyfer tyfu llysiau ynghlwm â’r rhain. Ceir hefyd rhes fyrrach o fythynnod ym Mryn-golau a thai a rhesi byrion gwasgaredig eraill a allai hefyd fod yn gysylltiedig â’r diwydiant mwyngloddio. Ar un adeg, roedd yr anheddiad hefyd yn cynnwys capeli Annibynwyr, Bedyddwyr a Methodistiaid Calfinaidd, Eglwys Dewi Sant a ficerdy, a’r ysgol. Roedd y rhain i gyd yn bodoli erbyn y 1850au. Roedd yna hefyd gefail a sawl tafarn, gan gynnwys tafarn y Star sydd yma o hyd. Daeth diwedd i’r diwydiant mwyngloddio ac, yn sgil hynny, aeth yr anheddiad ar drai yn raddol. Gwelwyd yr ysgol yn cau ym 1925 ac Eglwys Dewi Sant yn dadfeilio ar ddechrau’r 20fed ganrif. Dymchwelwyd yr eglwys ym 1962 ac yn ddiweddar, troswyd dau o’r capeli yn dai.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Barton 1999; Bick 1975; Bick 1977; Bick 1985; Bick 1990; Brown 2005; Burnham 1995; Davies a Jones 2006; Foster-Smith 1978; George 1970; Gregory 1997; Jarrett 1969; Jones 1922; Jones 1961; Jones 1994; Jones et al 2004; Jones a Moreton 1977; Moore-Colyer 2002; Morgan 2001; Putnam 1961-62; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Thomas 1977; Timberlake 1996; Walters 1994; Williams 1990; Williams 2002; Williams a Bick 1992

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.