CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Penffordd-las
Cymuned Trefeglwys, Powys
(HLCA 1188)


CPAT PHOTO 06-C-184

Basn ucheldirol ym mlaen Afon Clywedog, gyda chlwstwr o henebion claddu cynhanesyddol cynharach. Roedd yr ardal yn rhan o faenor fynachaidd ganoloesol. Gwelir peth tystiolaeth o anheddu tymhorol sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol hyd ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol ar yr ucheldir, ynghyd â chlwstwr llac o ffermydd ucheldirol, capeli anghydffurfiol, eglwys a mynwent gynnar y Crynwyr. Daeth y rhain i’r amlwg ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ar hen ffordd y porthmyn a’r ffordd dyrpeg rhwng Llanidloes a Machynlleth. Adeiladwyd pentref coedwigol ym 1949/50 pan blannwyd Coedwig Hafren.

Cefndir Hanesyddol

Mae’n ymddangos bod rhan ogleddol yr ardal o fewn tiroedd pori Bothreiswall a Phannaubacho y rhoddodd Gwenwynwyn, tywysog de Powys, i abaty Sistersaidd Ystrad Marchell ger y Trallwng, ym 1187. Mae’n ymddangos bod rhan ddeheuol yr ardal yn rhan o’r tiroedd pori rhwng Afon Clywedog ac Afon Lwyd y rhoddodd Cadwaladr ap Hywel, sef mab arweinydd Arwystli, i Ystrad Marchell tua 1195-96. Mae cadarnhad o’r ail rodd, ym 1207, yn cyfeirio’n benodol at gae y tu hwnt i Afon Lwyd a elwid yn Llanerch Cwmllwyd. Mae’n debygol mai dyma oedd y caeau amgaeedig yn y Dolydd, sef yr unig gaeau a gofnodwyd i’r de o Afon Lwyd. Mae’n debyg mai’r abaty oedd deiliad y tiroedd tan ei ddiddymu yng nghanol yr 16eg ganrif, pan oedd yn rhan o faenor Talerddig. Roedd yr ardal yn rhan o drefgorddau maenorol Esgeiriaeth a Glyntrefnant ym mhlwyf degwm Trefeglwys, Sir Drefaldwyn y 19eg ganrif, ac yn rhan o drefgordd faenorol Penegoes Uwch-y-coed ym mhlwyf degwm Penegoes, Sir Drefaldwyn.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Basn bas ucheldirol a llethrau ymylon y bryniau o’i amgylch, ar uchder o tua 300-450 metr uwchben lefel y môr ym mlaenddyfroedd Afon Clywedog a’i llednentydd, sef Nant yr Hafod, Nantcriafol ac Afon Bachog. Ceir priddoedd mân lomog neu siltiog wedi’u draenio’n dda dros graig ar lethrau bryniau yma. Ceir hefyd briddoedd ucheldirol sy’n araf athraidd ond yn rhannol ddirlawn yn dymhorol, â haenlinau mawnog ar yr wyneb ar ddyddodion drifft o garreg llaid a siâl ar y tir isel. Yn hanesyddol, magu stoc ar rostir a rhywfaint o borfa barhaol o werth pori cymedrol a rhywfaint o blannu coetir conwydd oedd yn gwneud orau yma. Plannwyd y coetir conwydd yn Llwyn-y-gog yn y 1940au a’r 1950au, yn rhannol yn llain gysgodi ar gyfer y stad dai gyfagos.

Mae enwau lleoedd yn darparu peth tystiolaeth o batrymau hanesyddol defnydd tir ac anheddu yn yr ardal. Mae nifer sylweddol o’r enwau hyn yn ardal y dirwedd hanesyddol yn dangos cysylltiad hanesyddol â phori a magu stoc. Mae enw’r fferm Gwartew (Gwairtew gynt) yn deillio o’r elfennau ‘gwair’ a ‘tew’. Mae Dolbachog, Dolydd Llwydion a Dol-Gwyddel-uchaf yn cynnwys yr elfen ‘dôl’ / ‘dolydd’. Awgrymir pori ymhellach gan yr enw Pen-y-ffridd sy’n cynnwys yr elfen ‘ffridd’ a Rhos Goch sy’n cynnwys yr elfen ‘rhos’. Mae enw’r nant a fferm Nant-yr-hafod yn cynnwys yr elfen ‘hafod’ sy’n awgrymu bod rhai trigfannau wedi deillio o aneddiadau ucheldirol tymhorol. Mae’n ymddangos bod yr enw Saesneg Staylittle (sef Penffordd-las) a gofnodwyd yn gyntaf fel Stay-a-little, yn dyddio o ddegawd gyntaf y 19eg ganrif. Mae’n deillio o enw hen dafarn ar ffordd y porthmyn ac, yn ddiweddarach, y ffordd dyrpeg rhwng Llanidloes a Machynlleth.

Mae tystiolaeth arwyddocaol o ddefnydd tir cynnar ac, o bosibl, anheddu yn yr ardal hon ym mlaen Afon Clywedog. Darganfuwyd sgrafell o fflint ger Nant-yr-hafod a chlwstwr o 6-7 twmpath claddu o’r Oes Efydd ger blaen Afon Clywedog a’i llednentydd ger Llwyn-y-gog, dros ardal o 1.5 cilomedr ar draws. O bosibl, gellir cysylltu’r rhain ag ecsploetio porfeydd ucheldirol yn ystod misoedd yr haf, sy’n cydymffurfio â phatrwm tymhorol o ddefnydd tir a awgrymwyd gan dystiolaeth o gyfnodau diweddarach.

Mae defnydd tir ac anheddu cynnar, o bosibl yn deillio o anheddu ucheldirol tymhorol rhwng y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, yn cael ei gynrychioli gan glwstwr o lwyfannau tai creiriol a chan batrwm gwaelodol o ffermydd bach gwasgaredig, rhai ohonynt yn dal i fodoli ac eraill wedi mynd. Mae Hirnant, Dolbachog, Dolydd, Llwyn-y-gog, Pant-y-chwarel a Phant-y-rhedyn yn enghreifftiau. Cysylltir y ffermydd â phatrymau caeau bach afreolaidd, sy’n edrych fel llechfeddiannau ar wahân ar dir pori ucheldirol oedd gynt yn dir agored. Mae’n bosibl iddynt ddeillio o hafodydd neu dai a oedd yn gartrefi tymhorol. Caewyd rhan ogledd-ddwyrain yr ardal o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Gwelir yno glytwaith o gaeau gweddol fach ag ochrau syth rhwng Rock Villa a Phant-y-chwarel. Roedd darn helaeth o’r ardaloedd rhwng y ffermydd gwasgaredig yn ffurfio rhan o faenor Talerddig. Nid oedd wedi’i chynnwys yn y ddeddf seneddol o ran cau tir, ond mae’n ymddangos iddi gael ei rhannu’n gyffredinol yn gaeau mawr ag ochrau syth ers y 1880au.

Mae llinellau trafnidiaeth hanesyddol o bwys oedd yn croesi canolbarth Cymru yn rhannu’r ardal. Mae hyn yn cynnwys llwybr posibl ffordd Rufeinig o Gaersws i’r gaer fechan ym Mhenycrocbren; tybir ei bod yn croesi rhan ogleddol yr ardal ac mae’n bosibl bod llinell ceuffordd ger fferm Hirnant ac, yn ddiweddarach, ffordd y porthmyn a’r ffordd dyrpeg rhwng Machynlleth a Llanidloes, yn dilyn ei hynt. Cyn adeiladu Cronfa Clywedog yn y 1960au, byddai’r briffordd (B4518) tua’r de o Benffordd-las yn dilyn hynt llai uniongyrchol i gyfeiriad Dinas, trwy Gwartew. Cofnodir bod hen felin flawd pŵer dŵr yn Felin-newydd yn gweithredu ar ddiwedd y 19eg ganrif. Daeth y dŵr trwy lifddor a dyfrffos o Afon Clywedog.

Roedd yr anheddiad gwasgaredig ym Mhenffordd-las yn bodoli erbyn diwedd yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif oherwydd, mae’n debyg, ei leoliad ar fin tir comin heb ei gau tua hanner ffordd rhwng Llanidloes, Machynlleth a Llanbrynmair. Mae’n debyg bod nifer o chwareli bach gwasgaredig yn cynrychioli ffynonellau carreg adeiladu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Daeth fferm Esgair-goch yn ganolbwynt pwysig i’r Crynwyr yn Sir Drefaldwyn ar ddechrau’r 18fed ganrif ac roedd yno Dŷ Cwrdd a mynwent gysylltiedig, sef Quakers’ Garden. Er nad pentref mwyngloddio mo hwn, byddai tai yma ac mewn mannau eraill yn ôl pob tebyg yn darparu llety ar gyfer mwyngloddwyr oedd yn gweithio ym mwyngloddiau Dylife i’r gogledd-orllewin a Dyfngwm i’r gorllewin yn y 19eg ganrif. Daeth hefyd yn ganolfan wledig o bwys o ran addoli anghydffurfiol ar gyfer y cymunedau ffermio a mwyngloddio lleol. Roedd yno gapel Methodistiaid, oedd gynt yn Rock Villa, a sefydlwyd ym 1806 ac a ailadeiladwyd ym 1875, a chapel y Bedyddwyr a adeiladwyd gyntaf ym 1805 ac a gafodd ei ehangu ym 1859. Adeiladwyd ysgol newydd a’i hagor ym 1874. Gyda diboblogi gwledig o ganlyniad i ddiwedd y diwydiant mwyngloddio a chyfuno ffermydd yn ystod yr 20fed ganrif, gadawyd y ffermydd, y bythynnod bychain a’r capeli. Adnewyddwyd rhai ohonynt yn ail gartrefi.

Creodd y Comisiwn Coedwigaeth stad fach yn Llwyn-y-gog fel pentref coedwigol rhwng 1949 a 1951 i ddarparu tai ar gyfer gweithwyr oedd eu hangen i weithio yng Nghoedwig Hafren, a oedd newydd ei phlannu. Fe’i cynlluniwyd yn wreiddiol fel pentref o 80 o dai gyda siop, ysgol a neuadd bentref, ond dim ond 20 o dai gweithwyr a adeiladwyd ynghyd â neuadd bentref dros dro a thŷ rheolwr coedwig. Ymhen amser, gwerthodd y Comisiwn Coedwigaeth hwy.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; Disgrifiadau Adeiladau Rhestredig Cadw; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Barton 1997; Burnham 1995; Carr 1992; Davies 1973; Edlin 1952; Godwin a Toulson 1977; Hamer 1879; Jones 1983; Moore-Colyer 2002; Comisiwn Brenhinol Henebion 1911; Richards 1969; Silvester 1992; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Taylor 1989; Thomas 1997; Thomas 1955-56; Thomas 1997; Williams 1990

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.