CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Lluest-y-dduallt
Cymuned Trefeglwys, Powys
(HLCA 1191)


CPAT PHOTO 06-C-174

Ymylon y bryniau a chopaon amlwg y bryniau o bobtu ochr ogleddol Cronfa Ddŵr Clywedog. Mae’n cynnwys bryngaer fawr gynhanesyddol Dinas, sy’n dyddio o gyfnod diweddarach, a chaeau sy’n cynrychioli’n bennaf cau tir comin gynt yn y 19eg ganrif. Mae yno rai aneddiadau cynharach, tymhorol o bosibl, a llechfeddiannau sydd wedi arwain at ffermydd gwasgaredig iawn.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Esgeiriaeth ym mhlwyf degwm Trefeglwys, Sir Drefaldwyn a threfgordd faenorol Brithdir ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Ardal o ymylon bryniau a’u copaon o bobtu ochrau gogleddol a dwyreiniol Cronfa Ddŵr Clywedog sydd yma. Ceir dyffrynnoedd ag ochrau serth y nentydd byrion sy’n bwydo Afon Clywedog yn torri ar ei thraws. Mae’r ardal ar uchder o 290-445 metr uwchben lefel y môr. Yn bennaf, ceir priddoedd mân lomog neu siltiog, wedi’u draenio’n dda, dros graig. Yn hanesyddol, plannu coetir a magu da byw oedd yn gwneud orau yma. Mae nifer o flociau bach amlwg ar wahân o blanhigfeydd conwydd yr 20fed ganrif yn yr ardal.

Mae nifer o enwau lleoedd yn yr ardal nodwedd yn cynnwys elfennau sy’n rhoi peth tystiolaeth o batrymau anheddu hanesyddol. Awgryma’r elfen ‘lluest’ yn Lluest-y-fedw a Lluest-y-dduallt eu bod yn deillio o drigfannau dros dro neu fach eu maint. Ceir yr elfen ‘hwrdd’ ym Mryn yr Hwrdd sy’n awgrymu cysylltiad traddodiadol â magu defaid.

Mae bryngaer Dinas, ar gopa bryn amlwg a oedd gynt o fewn dolen Afon Clywedog, yn awgrymu anheddu a defnyddio tir yn y cyfnod cynnar. Bellach mae’n tremio dros Gronfa Ddŵr Clywedog. Mae’r fryngaer yn cwmpasu ardal sylweddol o fwy na 14 hectar. Er ei bod yn ymddangos na gwblhawyd ei hamddiffynfeydd, mae’n debygol ei bod yn cynrychioli canolfan lwythol o bwys ar ddiwedd cyfnod cynhanesyddol yr Oes Haearn. Mae’n bosibl ei bod yn gysylltiedig ag ecsploetio porfeydd ucheldirol helaeth o amgylch blaenddyfroedd Afon Clywedog.

Tybir bod llwybr tebygol y ffordd Rufeinig o Gaersws i’r gaer fechan ym Mhenycrocbren yn rhedeg trwy ran ogleddol yr ardal. Mae’n bosibl bod y ffordd fodern yn Gwartew yn dilyn ei chwrs.

Gwelir amrywiaeth o batrymau caeau cymysg yn cael eu cynrychioli yr ardal. Mae’n debyg bod caeau bach afreolaidd o amgylch rhai o’r ffermydd yn cynrychioli llechfeddiannau ar dir pori oedd gynt yn agored. Mae’n bosibl bod rhai ohonynt wedi deillio o drigfannau tymhorol yn yr ucheldir yn ystod y cyfnod canoloesol neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn ddiweddarach fe ddaethant yn rhan o batrymau caeau mawr ag ochrau syth sy’n cynrychioli prosesau cau tir mwy ffurfiol. Roedd peth o’r tir yn rhan ganol yr ardal, i’r de ac i’r dwyrain o Luest-y-dduallt, yn destun deddf seneddol o ran cau tir ar ddechrau’r 19eg ganrif. Goroesodd ardaloedd sylweddol o dir comin heb eu cau ar y pryd, i’r gogledd o Luest-y-dduallt tuag at Wartew a Gamallt. Fe’i caewyd yn y 1880au.

Mae’n debyg bod cyfres o chwareli bychan ar ochr y ffordd, a gofnodwyd ar hyd rhan ddwyreiniol ffordd y B4518, yn gysylltiedig â gwelliannau i ffordd dyrpeg Llanidloes i Fachynlleth ar ddechrau’r 19eg ganrif. Mae rhan orllewinol y ffordd, o ychydig y tu hwnt i Ddinas hyd at Benffordd-las yn dyddio’n bennaf o’r 20fed ganrif, gan ddisodli’r ffordd fach ymhellach i’r dwyrain.

Bu melin wlân ynghynt ar ymylon gorllewinol yr ardal yn Factory–isaf, gydag Afon Clywedog yn ei phweru.

Ffermydd gwasgaredig iawn sy’n cynrychioli anheddu modern. Mae’n debygol eu bod yn deillio o ddiwedd y cyfnod canoloesol neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol ac mai trigfannau tymhorol neu lechfeddiannau ar dir comin a fu gynt yn dir agored oeddent. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys nifer o ffermydd gadawedig ac anghyfannedd sy’n deillio o’r canol oesoedd neu’n fuan wedi hynny, yn ôl pob tebyg. Mae Lluest-y-fedw, a grëwyd trwy gyfuno ffermydd yn ystod yr 20fed ganrif, yn enghraifft o hyn.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Barton 1997; Hamer 1879; Hemp 1929; Hogg 1979; Comisiwn Brenhinol Henebion 1911; Richards 1969; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Spurgeon 1972

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.