CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Banc y Groes
Cymuned Llanidloes Allanol, Powys
(HLCA 1192)


CPAT PHOTO 06-C-191

Llwyfandir ucheldirol ac ymylon bryniau i’r de a’r gorllewin o Gronfa Ddŵr Clywedog. Mae yno ffermydd gwasgaredig iawn yn dyddio o bosibl o’r cyfnod canoloesol neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Maent yn gysylltiedig â chaeau afreolaidd ac â chau tir comin oedd yn bodoli ar y pryd ac ar gyfnod cynharach yn helaeth yn y 19eg ganrif. Mae yno dirweddau mwyngloddio ar wahân.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal ar y cyfan yn rhan o drefgordd faenorol Ystradhynod ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Llwyfandir ucheldirol ac ymylon bryniau i’r de a’r gorllewin o Gronfa Ddŵr Clywedog yw’r ardal hon. Yn gyffredinol, mae ar uchder o 290-460 metr uwchben lefel y môr. Mae nifer o ddyffrynnoedd nentydd, yn cynnwys Nant Gwestyn, Nant Pen-y-banc, Nant Croes, Nant Felen, ac Afon Biga yn torri ar draws yr ardal. Yn bennaf, ceir priddoedd mân lomog neu siltiog, wedi’u draenio’n dda, dros graig. Yn hanesyddol, plannu coetir a magu da byw oedd yn gwneud orau yma. Mae’r ardal yn cynnwys nifer o blanhigfeydd conwydd a lleiniau cysgodol bach yr 20fed ganrif. Ceir hefyd sawl ardal fechan weddilliol, droellog ei ffurf, o brysg a choetiroedd llydan-ddeiliog, lled-naturiol a hynafol. Gwelir y rhain ar rannau is dyffrynnoedd ag ochrau serth Nant Pen-y-banc a Nant Gwestyn.

Mae’r enwau lleoedd sydd wedi’u cofnodi yn ardal y dirwedd hanesyddol yn dopograffig eu naws yn bennaf. Ni ddaw llawer o dystiolaeth ohonynt o ran defnydd tir hanesyddol na hanes anheddu.

Mae hapddarganfyddiad bwyell forthwyl o garreg yn dyddio o’r Oes Efydd ger Fferm Pen-y-banc, a ger twmpath claddu ar ben bryn ym Mhen-y-cerrig, yn awgrym o ddefnyddio tir ac anheddu cynhanesyddol cynnar. Ceir lloc amddiffynnol bychan gyda rhagfur o gerrig ar ben bryn sy’n tremio dros argae Clywedog, ym Mhen-y-gaer sydd, mae’n debyg, yn cynrychioli cyfnod anheddu a defnyddio tir sy’n cael ei gysylltu ag ecsbloetio porfeydd ucheldirol ar ddiwedd Oes yr Haearn cynhanesyddol.

Gwelir cymysgedd o fathau o gaeau yn yr ardal. Mae’n cynnwys, yn nodedig, patrymau afreolaidd o gaeau llai o amgylch ffermydd ar dir is dyffrynnoedd y nentydd, megis Pen-y-rhynau, Foel Pen-y-banc, Deildre-fawr, Deildre-fach, a Gwestyn. Mae’n ymddangos bod tarddiad y rhain yn cynrychioli cyn drigfannau tymhorol neu lechfeddiannau mewn ardaloedd o borfeydd agored mwy helaeth yn ystod y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Caewyd ardaloedd helaeth o’r tir uchel yn yr ardal nodwedd drwyddi draw o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Gwelir canlyniadau hyn, sef caeau mawr a bach gydag ochrau syth, ar wahân i ardaloedd sylweddol o Fynydd y Groes a Bryn Mawr yn rhan orllewinol yr ardal. Mae’r rhain yn parhau i fod yn Dir Comin cofrestredig, er eu bod wedi’u rhannu’n gaeau mawr ag ochrau syth.

Mae olion mwyngloddio metel, sy’n dyddio’n bennaf o ganol y 19eg ganrif neu’n ddiweddarach yn y ganrif honno, yn goroesi mewn nifer o ardaloedd. Gwelir, yn arbennig, ceuffordd ddraenio debygol yn nyffryn Nant Felen yn Nant-y-Gwrdu, islaw mwynglawdd Nantmelin; sawl siafft yn nyffryn Gwestyn, sy’n gysylltiedig â mwynglawdd Aberdaunant; a’r olion mwy eang yng Ngwestyn, uwchben dyffryn Nant Gwestyn. Roedd y rhain i gyd yn ecsbloetio’r gwythiennau mwyn a rannwyd gan fwyngloddiau Bryntail, Penyclun a Van tua’r gogledd-ddwyrain. Echdynnwyd copr a phlwm yno. Mae’r olion mwyngloddio yng Ngwestyn wedi goroesi dros ardal o 3 hectar ar y grib ucheldirol lydan yng Ngwestyn. Bellach, tiroedd pori wedi’u gwella’n rhannol ac yn dyddio’n bennaf o’r cyfnod rhwng y 1850au a’r 1870au sydd yno. Mae olion gweledol yn cynnwys rhediad o siafftiau, cloddion arbrofol a gweithfeydd wedi dymchwel ar hyd y wythïen, tomenni gwastraff, cylch dyfais troi ac, o bosibl, cylch capstan, a cheuffordd ddraenio â leinin cerrig yn is i lawr y bryn, ger Nant Gwestyn. Ger sylfeini hen adeiladau’r mwynglawdd, oedd yn cynnwys peiriandy gynt, gwelir arfdy ar gyfer y ffrwydron a swyddfa’r mwynglawdd. Fodd bynnag, mae’n ymddangos mai ychydig o brosesu a wnaed ar y safle. Roedd olwyn ddŵr roedd dŵr o Afon Gwestyn yn ei gyrru hefyd yn rhoi pŵer ar gyfer draenio. Dengys nifer o gronfeydd cloddwaith a ffrydiau eu bod yn defnyddio pŵer dŵr.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Burnham 1975; Hamer 1873; Jones 1983; Jones, Walters a Frost 2004; Moore-Colyer 2002; Spurgeon 1972; Comisiwn Brenhinol Henebion 1911; Richards 1969; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Thomas 1955-56; Walters 1994; Williams 1990; Williams 1997

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.