CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Faidre
Cymuned Trefeglwys, Powys
(HLCA 1193)


CPAT PHOTO 06-C-163

Llwyfandir ucheldirol, ymylon bryniau a dyffrynnoedd nentydd coediog, gyda ffermydd gwasgaredig yn tarddu o’r canol oesoedd. Maent wedi’u cysylltu â phatrymau caeau afreolaidd ynghyd ag ardaloedd o batrymau caeau mwy rheolaidd yn cynrychioli cau tir comin gynt yn y 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd rhan o’r ardal yn ffurfio maerdref neu anheddiad taeog. Roedd yr anheddiad wedi’i gysylltu â phrif lys cwmwd Arwystli Uwchcoed yn Nhalgarth, tua 4 cilomedr i’r dwyrain, yn nyffryn Afon Trannon ger Trefeglwys. Yno y gorweddai prif diroedd âr yr arglwydd. Disgrifiwyd rhannau o’r ardal yn yr 17eg ganrif fel ‘pentref’ Y Faerdref a rhannau fel Tir Bwrdd, yn dynodi tiroedd oedd yn eiddo i ddemên yr arglwydd. Cofnodwyd yr anheddiad, sydd efallai’n cael ei gynrychioli gan glwstwr o ffermydd, am y tro cyntaf yn y 1290au. Roedd yn un o’r ychydig faerdrefi ucheldirol yng Nghymru. Fe’i hystyriwyd yn enghraifft brin o integreiddio daliadau’r ucheldir a daliadau’r iseldir yn un strwythur taeog yn ystod y cyfnod canoloesol. Yn ddiweddarach, roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Esgeiriaeth ym mhlwyf degwm Trefeglwys, Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Ceir yma lwyfandir ucheldirol ac ymylon bryniau sydd ar y cyfan rhwng 300 metr a 445 metr uwchben lefel y môr. Mae dyffrynnoedd ag ochrau serth nentydd sy’n llifo tua’r gogledd i Afon Trannon, gan gynnwys Nant Cwmcarreg-ddu, yn torri ar eu traws. Mae rhan orllewinol yr ardal wedi’i gorchuddio â phriddoedd mân lomog neu siltiog, wedi’u draenio’n dda, dros graig. Yn hanesyddol, plannu coetir a magu da byw oedd yn gwneud orau yma. Gorchuddir rhan ddwyreiniol yr ardal yn bennaf â phriddoedd mân lomog sy’n araf athraidd ac yn ddirlawn yn dymhorol. Maent yn tarddu o ddyddodion drifft o siâl a charreg llaid. Yn hanesyddol, roedd y tir yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw a rhywfaint o ffermio llaeth ar laswelltir parhaol neu dymor byr, a pheth tyfu cnydau. Mae darnau mawr troellog o goetiroedd llydan-ddeiliog, lled-naturiol a hynafol yn goroesi ar hyd ochrau serth dyffrynnoedd y nentydd ar ochr ogleddol yr ardal.

Mae’r ddwy fferm gyfagos, sef Fairdre Fawr a Fairdre Fach, yn cynnwys yr elfen ‘maerdre(f)’ yn eu henwau. Awgryma hyn fodolaeth ‘pentrefan’ canoloesol oedd ynghlwm â llys pennaeth (ynghyd â’r elfennau ‘fawr’ a ‘fach’), sy’n cadarnhau’r cysylltiad â phatrymau anheddu canoloesol a nodwyd uchod. Mae’r enw ‘Sofl-ceirch’ sydd ar fferm fechan tuag ochr ddwyreiniol yr ardal yn tarddu o’r elfennau ‘sofl’ a ‘ceirch’ ac yn awgrymu cysylltiad traddodiadol â thyfu grawn. Ardal fugeiliol yw hon yn bennaf erbyn heddiw ond nodwyd ardaloedd bychan o dyfu grawn, yn gysylltiedig â’r prif ffermydd, yn arolwg y degwm ar ganol y 19eg ganrif.

Hapddarganfuwyd bwyell forthwyl ger Fairdre Fawr sy’n awgrymu gweithgaredd cynhanesyddol cynnar yn yr ardal. Mae’n dyddio, yn ôl pob tebyg, o’r Oes Efydd.

Caeau afreolaidd mawr a bach sydd bennaf ar y tir is tua’r gogledd a’r dwyrain. Mae’n debyg eu bod yn cynrychioli proses raddol o glirio a chau coetir gynt, o bosibl ers y cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanoloesol. Ceir caeau mawr ag ochrau syth ar y tir uwch tua’r de a’r gorllewin sydd, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli cau tir pori oedd gynt yn agored. Caewyd ardal o gaeau ag ochrau syth tuag ochr orllewinol yr ardal o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Ffermydd gwasgaredig sy’n cynrychioli anheddu modern, gan gynnwys rhai o darddiad canoloesol yn ôl pob tebyg, sef Fairdre Fawr a Fairdre Fach. O edrych ar enw Borfa-newydd, mae’n bosibl ei fod wedi deillio o lechfeddiannu ar fin yr hen dir comin ucheldirol ar Fryn-y-Fan, a gaewyd o ganlyniad i ddeddf cau tir Arwystli ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans ; Evans 1949-50; Jones 1964; Jones 1983; Morgan 2001; Richards 1969; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.