CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Bryn y Fan
Cymuned Llanidloes Allanol, Powys
(HLCA 1194)


CPAT PHOTO 06-C-164

Bryniau amlwg i’r dwyrain o Gronfa Ddŵr Clywedog, gydag anheddiad bach amddiffynedig o’r Oes Haearn ar ysbardun is; mae caeau, sy’n rheolaidd eu ffurf yn bennaf, yn cynrychioli cau tir comin yn y 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae’n debygol bod rhan ddeheuol yr ardal yn rhan o diroedd Deupiu. Rhoddwyd rhan ohoni i abaty Sistersaidd Ystrad Marchell ger y Trallwng gan Gwenwynwyn, tywysog de Powys ar ddechrau’r 13eg ganrif. Mae’n debygol mai’r abaty oedd deiliad y tir tan ei ddiddymu tua chanol yr 16eg ganrif, pan oedd yn rhan o faenor Talerddig. Yn ddiweddarach, daeth yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Manledd ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Bryniau amlwg ag ochrau serth sydd rhwng 250 a 480 metr uwchben lefel y môr, i’r dwyrain o Gronfa Ddŵr Clywedog, sydd yma. Maent yn y cefndeuddwr rhwng systemau draenio Clywedog a Thrannon-Cerist. Yn bennaf, ceir priddoedd mân lomog neu siltiog, wedi’u draenio’n dda, dros graig. Yn hanesyddol, plannu coetir a magu da byw oedd yn gwneud orau yma.

Nodir anheddu a defnydd tir cynhanesyddol diweddarach gan fryngaer Pen-y-clun sy’n amgáu ardal o hyd at ryw hectar ar ysbardun bryn tua blaen dyffryn Cerist. Yn ôl pob tebyg, adeiladwyd y fryngaer yn ystod cyfnod Oes yr Haearn, cyn y Rhufeiniaid, a dyna pryd y bu pobl yn byw ynddi. Mae gweithgareddau chwarelu a mwyngloddio, o bosibl yn gysylltiedig â mwynglawdd Pen-y-clun sawl can metr tua’r dwyrain, wedi effeithio arni.

Caeau mawr a bychan ag iddynt ochrau syth a llociau rhostirol a welir yn bennaf. Ni chaewyd Bryn y Fan, sef tir comin ucheldirol agored yn rhan ogleddol yr ardal nodwedd, tan y ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Roedd bryniau Bryn-y-tail a Phen-y-clun yn rhan ddeheuol yr ardal yn ffurfio rhan o faenor Talerddig nad oedd wedi’i chynnwys yn y ddeddf seneddol o ran cau tir. Mae’n ymddangos iddi gael ei chau trwy gytundeb preifat, efallai erbyn dechrau’r 19eg ganrif.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Burnham 1995; Forde-Johnston 1976; Jones 1983; Comisiwn Brenhinol Henebion 1911; Richards 1969; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Spurgeon 1972; Thomas 1997; Williams 1990

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.