CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Manledd
Cymunedau Trefeglwys, Llanidloes a Llanidloes Allanol, Powys
(HLCA 1195)


CPAT PHOTO 06-C-145

Llawr dyffrynnoedd, godre bryniau ac ymylon serth bryniau o gwmpas rhannau isaf Afon Clywedog a blaen Afon Cerist a’u llednentydd; ffermydd gwasgaredig, rhai ohonynt yn tarddu o’r canol oesoedd a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, sy’n gysylltiedig â phatrymau caeau afreolaidd; rhwng y rhain, tir comin gynt wedi’i gau ar raddfa helaeth yn y 19eg ganrif, a gynrychiolir gan batrymau caeau mwy rheolaidd ac sy’n gysylltiedig â llechfeddiannu gynt ac â ffermydd newydd; olion mwyngloddio eang, yn bennaf yn dyddio o’r 19eg ganrif hyd ddechrau’r 20fed ganrif, ar hyd gwythïen Van, a safleoedd hen felinau gwlân o’r 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif ar hyd glannau Afon Clywedog.

Cefndir Hanesyddol

Roedd peth o ganol yr ardal yn rhan o diroedd Deupiu (sef Penyclun) ynghyd â thir o’r enw Hirard (sef Hiriaeth). Rhoddwyd rhan ohoni i abaty Sistersaidd Ystrad Marchell ger y Trallwng gan Gwenwynwyn, tywysog de Powys ar ddechrau’r 13eg ganrif. Mae’n debygol mai’r abaty oedd deiliad y tir tan ei ddiddymu tua chanol yr 16eg ganrif, pan roedd yn rhan o faenor Talerddig. Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Brithdir, Manledd, a Glanhafren Iscoed ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn y 19eg ganrif a threfgordd faenorol Dolgwden ym mhlwyf degwm Trefeglwys, Sir Drefaldwyn.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Yma gwelir llawr dyffrynnoedd, godre bryniau ac ymylon serth bryniau rhannau isaf Afon Clywedog a’i llednant, Nant Gwestyn sy’n draenio i’r de-ddwyrain, ac Afon Cerist a’i llednant, Nant Gwden, sy’n draenio tua’r gogledd-ddwyrain, ar uchder cyffredinol o rhwng 150 metr a 300 metr uwchben lefel y môr. Yn bennaf, priddoedd mân lomog neu siltiog wedi’u draenio’n dda dros graig sy’n gorchuddio llethrau’r bryniau. Yn hanesyddol, plannu coetir a magu da byw oedd yn gwneud orau yma. Mae priddoedd mân cleiog a siltiog sy’n araf athraidd ac yn ddirlawn yn dymhorol ac sy’n tarddu o ddyddodion carreg llaid a siâl yn gorchuddio rhannau isaf dyffrynnoedd Afon Clywedog a Nant Gwden, ynghyd â dyffrynnoedd Afon Gwestyn ac Afon Cerist. Yn hanesyddol, bu’r tir yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw a ffermio llaeth ar laswelltir parhaol, a thyfu grawn mewn rhai ardaloedd oedd wedi draenio’n well. Mae ardaloedd creiriol o brysg a choetir llydan-ddeiliog lled-naturiol yn goroesi ar rai o lethrau mwyaf serth y bryniau ac ochrau dyffrynnoedd Nant Gwden, blaen Afon Cerist, ac yn ffinio â rhan isaf dyffryn Clywedog, ychydig i’r gorllewin o Lanidloes ac yn ffinio â dyffryn Hafren i’r gogledd o Lanidloes. Mae’n ymddangos bod peth o’r coetir cymysg a’r coetir conwydd ar lethrau serth dyffryn Clywedog i’r gorllewin o Lanidloes yn cynrychioli coetir hynafol a ailblannwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif yn dilyn cau rhannau o’r ardal hon o ganlyniad i ddeddf seneddol.

Ceir peth tystiolaeth mewn enwau lleoedd o hanes anheddu a defnyddio tir yn yr ardal nodwedd. Mae’r enw Cae-garw yn cynnwys yr elfennau ‘cae’ a naill ai ‘carw’ neu ‘garw’, ac mae enwau eraill yn cynnwys elfennau sy'n ymwneud â magu da byw. Mae Pwll-yr-ebol yn cynnwys yr elfennau ‘pwll’ ac ‘ebol’ ac mae Bron-y-geifr yn cynnwys yr elfen ‘geifr’. Mae Bidffald (Bitfal gynt) yn deillio o’r Saesneg pinfold, sef ffald anifeiliaid. Dengys yr elfennau ‘dol’ yn Dolgwden (a gofnodwyd yn gyntaf yn y 1570au) a’r elfen ‘gwaun’ yn Ty’n-y-waen dir pori. Mae’r fferm Lluest-wen, i’r gogledd o’r Fan yn cynnwys yr elfen ‘lluest’ sy’n awgrymu ei bod wedi tarddu o drigfan bach, oedd o bosibl yn un dros dro. Mae enwau lleoedd yn yr ardal sy’n cynnwys yr elfen ‘coed’ yn niferus, er enghraifft Coed Cefnpennarth, Coed Cwmeryr, Coed y Glyn, Cringoed, a Choed Glangwden. Mae’r rhan fwyaf yn cyfeirio at ardaloedd o goetir hynafol oedd yn bodoli neu a ailblannwyd, er y gall eraill, yn ôl pob tebyg, gyfeirio at ardaloedd o goetir hynafol gynt, megis Cefngoleugoed, sydd bellach wedi diflannu.

Mae bwyell efydd a ddarganfuwyd yn Hiriaeth yn cynrychioli gweithgaredd yr Oes Efydd. Dengys llociau cloddweithiau amddiffynnol yn Nolgwden a Phen-y-castell ar fryniau isel i’r gogledd o’r Fan anheddu a defnyddio tir diweddarach yn yr ardal yn y cyfnod cynhanesyddol. Mae’r naill yn amgáu ardal o hyd at 0.3 hectar a’r llall ardal o 1 hectar.

Mae’r ardal nodwedd yn cynnwys amrywiaeth o wahanol fathau o dirwedd o ran y caeau, sy’n cynrychioli nifer o batrymau pendant defnyddio tir a’i gau. Ceir caeau nodweddiadol afreolaidd, yn fawr ac yn fach eu maint, yn enwedig ar y tir is a’r llethrau llai serth fel y gwelir yn nyffryn Clywedog a blaen dyffryn Cerist. Yn aml, maent yn clystyru o amgylch ffermydd a allai, o bosibl, fod yn tarddu o’r canol oesoedd neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae’n debygol eu bod yn cynrychioli proses raddol o glirio coetir a chau tir sy’n dyddio o leiaf o ddechrau’r canol oesoedd neu’n fuan wedi hynny. Gellir cysylltu trin y tir yn yr ardal yn y Canol Oesoedd â’r dystiolaeth dros felin flawd â bwerwyd gan ddŵr a ddaeth mewn dyfrffos o Afon Cerist, ym Melin-y-wern yn y Fan. Fe’i cofnodwyd gyntaf yn y 1290au. Roedd melin flawd yn dal i weithredu yma yn y 1670au. Fe’i troswyd yn bandy yn y 1840au ond roedd wedi’i chau erbyn y 1880au, oherwydd, mae’n debyg, y gwaith prosesu mwynau yn yr un ardal.

Goroesodd tua chwarter yr ardal, fodd bynnag, yn borfa tir comin heb ei gau tan y deddfau cau tir ar ddechrau’r 19eg ganrif a lyncodd, yn ôl pob tebyg, nifer o lechfeddiannau cynharach. Roedd hyn yn cwmpasu’n enwedig y coetir a’r tir uchel a’r tir mwy serth, gan gynnwys y gefnen yn rhedeg tua’r gogledd o Lanidloes i Gellilefrith, Garth Hill tua’r de i Gringoed yn nyffryn Clywedog a’r llethrau i’r gogledd o’r Fan ac o gwmpas blaen dyffryn Nant Gwden. Mae’r patrymau caeau pendant, rhai ohonynt yn fawr a rhai yn fach ag ochrau syth yn yr ardaloedd lle gwelwyd caeau mwy afreolaidd (yn cynrychioli proses gynharach o gau tir bob yn dipyn) yn adlewyrchu hyn. Caewyd peth tir agored yn rhan orllewinol yr ardal, rhwng Bryntail a Phenyclun, oedd yn rhan o faenor Talerddig, trwy gytundeb preifat gan nad oedd wedi’i gynnwys yn y ddeddf seneddol o ran cau tir. Mae’n ymddangos bod y patrwm o gaeau ag ochrau syth yn nyffryn Cerist yn cynrychioli proses o ad-drefnu’r dirwedd yn dilyn sianelu’r afon pan adeiladwyd Rheilffordd y Fan ym 1871.

Mae’r ardal nodwedd yn cynnwys cyfres bwysig o olion archeolegol sy'n ymwneud ag echdynnu a phrosesu mwynau metel. Mae gwaith pwdlo hynafol, o bosibl yn dyddio o’r canol oesoedd, ymysg y dystiolaeth gynharaf. Fe saif ger Nant Gwden, i’r de o Fferm Cwmbernant, ac mae’n debygol ei fod wedi defnyddio mwyn haearn gwaddodol lleol o gorsydd, sef rhywbeth fyddai’n cael ei wneud yn helaeth yn ucheldiroedd Prydain wrth gynhyrchu haearn. Cofnodir bod mwynglawdd haearn ar waith yn y 1290au yng nghwmwd Arwystli Uwchcoed, er nad yw ei leoliad yn hysbys.

Roedd mwyngloddio diweddarach am fwynau metel, yn enwedig yn ail hanner y 19eg ganrif, yn cynnwys cynhyrchu plwm yn ogystal â rhywfaint o gopr, sinc a barytes. Sail y diwydiant oedd ecsbloetio gwythïen gyfoethog o fwynau a redai ar draws yr ardal am 6 cilomedr, waeth beth oedd y dopograffeg. Rhedai o fwynglawdd Aberdeunant yn nyffryn Nant Gwestyn yn y de-orllewin, trwy fwynglawdd Bryntail yn nyffryn Clywedog, i fwyngloddiau’r Glyn a Phenyclun, mwynglawdd Van yn nyffryn Cerist a mwynglawdd East Van (mwynglawdd Cwmdylluan) yn nyffryn Nant Gwden a’i llednentydd yn y gogledd-ddwyrain. Mae olion yr hen ddiwydiant mwyngloddio wedi’u gwasgaru’n eang dros tua 180 hectar o’r hyn sydd bellach yn ei hanfod yn dirwedd amaethyddol.

Gweithiwyd mwynglawdd Aberdaunant, oedd yn cynhyrchu mwynau plwm a mwynau copr, o ddiwedd y 18fed ganrif hyd ddiwedd y 1870au. Mae hefyd peth tystiolaeth o rai lefelau cynnar a chloddfeydd arbrofol o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, cyfnod y Rhufeiniaid neu’r canol oesoedd. Mae olion gweladwy, sy’n dyddio’n bennaf o ddiwedd y 19eg ganrif, yn cynnwys nifer o geuffyrdd a siafft i’r injan, llithryn mwyn, cafn olwyn, dyfrffos ac olion peiriandy ac adeilad swyddfa’r mwynglawdd. Roedd olwyn ddŵr a dderbyniai ddŵr a gludwyd mewn dyfrffos yn darparu’r pŵer. Mewn mannau, roedd y ddyfrffos o Nant Gwestyn wedi’i thorri trwy graig. Byddai’n pweru mathrwyr creigiau, gogrwyr a cherwyni, er ychydig olion o’r rhain sydd i’w gweld heddiw.

Roedd mwynglawdd Bryntail, sy’n Henebyn dan Warchodaeth Cadw, ar waith rhwng diwedd y 18fed ganrif hyd ddiwedd y 1860au, gan gynhyrchu mwyn plwm a barytes. Mae’r gweithfeydd sydd i’w gweld yn dyddio’n bennaf o’r 19eg ganrif. Maent yn cynnwys 3 phrif siafft a cheudwll dwfn, olion inclein o gloddwaith mewn cyflwr da, gwely traciau tramffordd a dyfrffos oedd ar un adeg yn cludo dŵr a dynnwyd ymhellach i fyny afon Clywedog. Gwelir olion sylweddol o adeiladau, gan gynnwys strwythurau oedd yn gartref i beiriannau pwmpio a weindio, melin barytes, swyddfa’r mwynglawdd, gefail a storfa ac arfdy crwn ar gyfer ffrwydron. Ceir hefyd olion cafnau olwynion ar gyfer peiriannau weindio a mathru, biniau mwynau, ffyrnau chwilboeth a thanciau dyddodi, lleoliadau gogrwyr, ardal o lawr golchi a hel, cerwyni a phydewau llaid.

Roedd mwynglawdd y Glyn, rhwng mwyngloddiau Bryntail a Phenyclun yn weithredol rhwng 1870 a’r 1930au ac yn cynhyrchu mwyn plwm a barytes a broseswyd yn bennaf ym Mryntail. Mae olion gweladwy’n cynnwys dwy siafft, cloddfeydd agored, siafftiau arbrofol, ychydig o olion hen beiriandy a chronfa ddŵr fechan.

Gorwedda mwynglawdd Penyclun mewn tirwedd o iseldir wedi’i gau ar lethr sy’n wynebu tua’r dwyrain, islaw rhagfuriau bryngaer Penyclun. Cynhyrchwyd mwyn plwm yno rhwng y 1860au a’r 1930au. Ar un adeg, hwn oedd y mwynglawdd mwyaf cynhyrchiol yn Sir Drefaldwyn. Mae llawer o’r hen dirwedd fwyngloddio ym Mhenyclun, yn enwedig yr ardaloedd prosesu mwyn, bellach wedi’u cuddio gan gynllun adfer tir ond mae’r safle o ddiddordeb arbennig oherwydd bod simnai a pheiriandy bach o fath Cernywaidd prin wedi goroesi. Mae’r safle, sy’n cynnwys y brif siafft, ceuffordd gysylltiol a strwythurau eraill, gan gynnwys dwy gronfa ddŵr, yn cwmpasu arwynebedd o tua 1.5 hectar.

Mae olion helaeth mwyngloddio yn Van ac fe’i gweithiwyd er mwyn cynhyrchu mwynau plwm a sinc rhwng 1850 a 1920. Mae’r olion, yn rhai gweladwy ac yn rhai claddedig, yn cynnwys 5 siafft, 3 cheuffordd a lefelau, a rhai cloddfeydd arbrofol cynnar, incleiniau i gludo mwynau i’r ardaloedd prosesu a glo i beiriandy; cafn olwyn ddŵr sydd wedi goroesi a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i bwmpio ac yn ddiweddarach i bweru mathrwr; gweddillion peiriandai a ddefnyddiwyd ar gyfer pwmpio, weindio a phweru peiriannau prosesu gan gynnwys tai mathru, melinau malu, gogrwyr a cherwyni; a melin mwynau amhur a adeiladwyd yn y 1870au i ailbrosesu’r tomenni gwastraff, pydewau llaid a chynhyrchwr nwy a godwyd ym 1916. Byddai dŵr i bweru’r peiriannau a phrosesau eraill yn cael ei gludo mewn dyfrffos o Afon Cerist a’r llyn naturiol ar waelod y dyffryn yn Llyn y Fan ac o’r gronfa ddŵr a grëwyd tua blaen y dyffryn tua chilomedr i’r gorllewin, y tu hwnt i Fanledd-uchaf. Roedd strwythurau eraill yn cynnwys melin lifio, cytiau glo, gweithdy saer, swyddfa’r mwynglawdd a chilfannau llwytho neu gynhwysydd ymchwydd i ddal y mwyn oedd yn dod allan o’r brif geuffordd ar dram. Ailddefnyddiwyd rhan o’r safle yn y 1930au ar gyfer gweithfeydd paent. Cafodd Rheilffordd y Fan, sef cysylltiad rheilffordd lled safonol i Gaersws sydd wedi’i datgymalu, ei chreu ym 1871. Cangen o Reilffordd y Cambrian oedd hi, i gludo mwyn wedi’i brosesu yn ogystal â theithwyr. Mae cryn dipyn o lwybr y lein hon i’w weld o hyd, yn dilyn y ffordd heibio Van Terrace a ger ffiniau’r caeau ar hyd Afon Cerist a gafodd ei sianelu a’i sythu yn y cyfnod hwn. Roedd yr hen orsafoedd ar y lein yn yr ardal nodwedd, ger Penisafmanledd a Garth ac roedd Gorsaf Van ger y Fan.

Gweithiwyd mwynglawdd East Van (Cwmdylluan) am fwyn plwm yn nyffryn Nant Gwden a’i llednentydd i’r gogledd-ddwyrain o’r Fan yn y cyfnod rhwng 1870 a 1882. Mae’r olion gweladwy yn cynnwys 3 siafft, ynghyd â cheuffordd hir a 4 lefel. Mae sylfeini peiriandy a boelerdy ynghyd â chwt glo posibl, a adeiladwyd ar ddechrau’r 1870au, yno o hyd. Mae yno hefyd simnai o frics i’r dwyrain o fferm Pwll-yr-ebol a stablau’r mwynglawdd a adeiladwyd o frics a gefail bosibl, sydd bellach yn cael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol. Nid oes unrhyw weddillion prosesu wedi goroesi. Mae’n debygol mai ym mwynglawdd Van y gwnaed hyn.

Roedd y diwydiant gwlân ar waith yn rhannau isaf dyffryn Clywedog, i’r gorllewin o Lanidloes ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, yn manteisio ar bŵer yr afon. Roedd ffrwd felin oedd yn cychwyn tua hanner cilomedr i fyny’r afon yn bwydo hen Ffatri Wlanen Glynne, ger Glynne Cottages. Yn yr un modd, roedd dyfrffos yn bwydo hen Ffatri Wlanen Cribynau, ger Cribynau Mill Cottage. Dangosir cae deintur wedi’i derasu ar lethr bryn serth, sy’n wynebu tua’r de, gerllaw’r ffatri ar argraffiad 1af map yr Arolwg Ordnans yn y 1880au. Fe’i gwelir hefyd mewn ffotograffau o’r cyfnod. Cafodd yr ardal o goetir yn Allt Goch, i’r gogledd o Lanidloes, ei datblygu’n fan amwynder, sy’n eiddo i gyngor y dref.

Datblygodd adeiladau a phatrymau anheddu heddiw yn ardal y dirwedd hanesyddol o gyfres gymhleth o ddylanwadau. Yn ôl pob tebyg, mae patrwm gwaelodol o ffermydd a bythynnod gwasgaredig iawn sy’n gysylltiedig â chaeau afreolaidd oedd wedi’u cau’n gynharach, yn deillio o’r canol oesoedd a diwedd y cyfnod canoloesol. Roedd o leiaf rhai ohonynt, megis Hiriaeth, yn bodoli erbyn dechrau’r 13eg ganrif fan bellaf. Nid oes yr un adeilad o’r canol oesoedd neu ddiwedd y cyfnod canoloesol wedi goroesi yn yr ardal nodwedd. Er hynny, mae nifer o hen adeiladau neu rai sydd wedi goroesi o ddiwedd y canol oesoedd a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol yn dynodi traddodiadau ffrâm bren cynharach a welid yn yr ardal yn y canol oesoedd. Mae’n cynnwys y rheiny a gofnodwyd yng Nglangwden, Pant-yr-ongle, Cwmeryr-bach a Hiriaeth. Mae Hiriaeth, sy’n dyddio o 1722, yn enghraifft gymharol ddiweddar.

Mae’n ymddangos i garreg ddisodli defnyddio pren yn raddol, yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif yn ôl pob tebyg. Mae’n bosibl y bu cyfnod o newid pan ddefnyddiwyd cyfuniad o’r ddau ddeunydd. Mae adeiladau carreg o’r cyfnod hwn wedi’u hadeiladu o rwbel garw. Weithiau byddai’r adeiladau wedi’u rendro a/neu eu gwyngalchu, yn enwedig yn achos adeiladau domestig. Mae’n ymddangos mai cymharol fach oedd y ffermydd (tai 2-3 uned). Byddent weithiau wedi’u cynllunio’n un rhes neu’n glwstwr syml. Roedd y rhan fwyaf o’r lle yn yr adeiladau fferm hŷn ar gyfer gwartheg yn bennaf, megis y fferm yng Nghwmdylluan, ychydig i’r gogledd-ddwyrain o’r Fan. Mae’n debygol bod y ffermdy’n dyddio o’r 17eg ganrif, gydag adeiladau fferm cynnar yn cynnwys ysgubor a beudy. Cyn y 19eg ganrif, roedd y rhan fwyaf o’r adeiladau yn yr ardal nodwedd yn bendant yn nhraddodiadau adeiladu brodorol. Mae’n bosibl mai’r ffermdy yng Nglyn Clywedog oedd yr unig eithriad. Roedd hwn yn adeilad o bwys o gyfnod y Dadeni, a adeiladwyd yn ôl pob tebyg yn borthdy i blasty'r teulu Glynne na chafodd, mae’n debyg, mo’i adeiladu.

Dechreuodd rai llechfeddiannau ymddangos, mae’n debyg, ar yr ardaloedd o diroedd comin nad oedd wedi’u cau, o leiaf o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif ymlaen. Er ei bod bellach yn anodd nodi enghreifftiau penodol o breswylfeydd o’r math hwn sydd wedi goroesi, gellir bod bron yn bendant mai dyma darddiad yr hen fwthyn Potatoe Hall ar y bryniau tua’r gogledd o Lanidloes, sydd wedi’i ddymchwel yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae’n bosibl yr adeiladwyd hwn a bythynnod llechfeddiannu eraill o’r fath o dywyrch a chlai, fel yr awgrymwyd yn achos hen breswylfa ar ochr y ffordd a elwid Clod Hall ger Bidffald, y soniwyd amdano yn hanes Hamer o Lanidloes.

Daeth y cyfle i wella ffermydd oedd yn bodoli gyda chau’r tir comin. Crëwyd ffermydd newydd ‘wedi’u gwella’ gan nifer o’r stadau o ganlyniad i’r cau. Adeiladwyd y fferm yng Ngellilefrith, a’i ffermdy o frics a’i threfniant tebyg i gwrt o adeiladau fferm, o’r newydd mewn ardal o dir comin nad oedd wedi’i gau ar y bryniau i’r gogledd o Lanidloes. Gwnaed hyn yn y cyfnod rhwng mabwysiadu’r ddeddf cau tir ym 1826 ac arolwg y degwm ym 1846. Mae i ffermdy ac adeiladau fferm Garth, ychydig i’r de o’r Fan ac yn dyddio o 1870, gymeriad stad amlwg. Unwaith eto, gorweddant ar dir a gafodd ei gau ar ddechrau’r 19eg ganrif. Roedd y fferm yn eiddo i Iarll Vane, prydleswr mwyngloddiau plwm Van, ac mae’n rhoi darlun diddorol o’r berthynas rhwng diwydiant ac amaeth yn yr ardal ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae nifer o ffermydd llai eraill yn ardal y Fan, megis Penisafmanledd sydd eto ar fin y tir comin gynt, yn awgrymu buddsoddi mewn amaethyddiaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae tai a oedd yn bodoli erbyn y 19eg ganrif sydd â’r elfen ‘newydd’ yn eu henw, er enghraifft yn New House a Thŷ Newydd, yn awgrymu aneddiadau newydd eraill ar fin tiroedd comin nad oeddent wedi’u cau gynt.

Deuai’r gweithlu yn ystod cyfnodau cynharach y diwydiant mwyngloddio metel yn yr ardal nodwedd naill ai o’r ffermydd a’r pentrefi o amgylch neu o Lanidloes, gan deithio bob dydd. Ni ddarparodd y cwmni mwyngloddio dai wedi’u hadeiladu at y diben tan gyfnodau diweddaraf y diwydiant, o’r 1870au a’r 1880au, a hynny ar gyfer cyfran gymharol fechan o weithwyr yn unig. Mae Van Terrace yn enghraifft arwyddocaol o fythynnod mwyngloddwyr sydd wedi goroesi. Mae yno un rhes o tua 18 anheddle deulawr syml, wedi’u hadeiladu gerllaw’r rheilffordd a’r gwaith prosesu. Collwyd peth o ffurfioldeb ac undod y rhes oherwydd y paentio a’r rendro amryfath dros adeiladwaith y brics gwreiddiol. Mae adeiladau eraill oedd yn rhan o’r anheddiad mwyngloddio gwasgaredig hwn wedi goroesi, gan gynnwys tai a ddarparwyd ar gyfer rheolwr y mwynglawdd a’r peirianwyr, a dau gapel anghydffurfwyr. Capeli’r Methodistiaid Calfinaidd a’r Methodistiaid Wesleaidd oedd y rhain o ran enwad ac roedd llyfrgell yn wreiddiol yng nghapel y Wesleaid. Nid oedd perchnogion y mwynglawdd yn caniatáu agor tafarn yn yr anheddiad.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Barton 1997; Bick 1977; Bick 1990; Burt, Waite a Burnley 1990; Carr 1992; Cozens 1953; Cozens, Kidner a Poole 2004; Foster-Smith 1978; Grimes 1951; Hamer 1872; Jenkins 1989; Jones 1922; Jones 1954; Jones a Moreton 1977; Jones, Walters a Frost 2004; Morgan 2001; Thomas 1955-56; Richards 1969; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 1911; Smith 1975; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991; Spurgeon 1972; Thomas 1997; Walters 1994; Williams 1990; Williams a Bick 1992

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.