CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Llanidloes
Cymuned Llanidloes, Powys
(HLCA 1196)


CPAT PHOTO 06-C-131

Tref fodern yn Nyffryn Hafren, yn dyddio o’r canol oesoedd a dyfodd yn gyflym i fod yn ganolfan ranbarthol o bwys o ran diwydiant a masnach, rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Y diwydiant gwlân oedd yn gyfrifol am ddechrau hyn ac, yn ddiweddarach, fe’i cefnogwyd gan ddiwydiannau gweithgynhyrchu eraill a chan fwyngloddio metel yn ei chefnwlad a’i lleoliad strategol ar lwybrau oedd yn croesi Cymru ar hen ffyrdd y porthmyn, ffyrdd tyrpeg, rhwydwaith y rheilffyrdd a chefnffordd fodern.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn ran o drefgordd faenorol Cilmachallt a Glynhafren Iscoed ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Saif y dref fodern hon, sy’n dyddio o’r canol oesoedd, ar lawr dyffryn Afon Hafren lle mae’n ymuno ag Afon Clywedog. Mae ar uchder o tua 160-170 metr uwchlaw lefel y môr, ac yn ôl disgrifiad diweddar Richard Haslam mae’n ‘one of the nicest towns in Wales’. Mae priddoedd siltiog dwfn sy’n tarddu o lifwaddod yr afon yn gorchuddio llawr y dyffryn. Mae’n raeanog mewn mannau ac yn draenio’n dda. Yn hanesyddol, roedd y tir yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw a ffermio llaeth ar laswelltir parhaol a thymor byr, a chafwyd peth tyfu cnydau grawn lle nad oedd llawer o berygl o lifogydd. Mae’r dref wedi’i lleoli’n strategol lle y cyfarfu llwybrau cysylltiadau o bwys yn hanesyddol. Roedd y rhain yn cysylltu canolbarth Cymru a gorllewin Cymru. Mae dyffryn Hafren yn lletach yma ac mae rhyd gerllaw i groesi’r afon. Yma hefyd mae dyfroedd Afon Clywedog ac Afon Dulas yn ymuno ag Afon Hafren. Mae rhan gynharaf y dref ar deras sy’n codi’n raddol tua’r dwyrain, ar lan ddwyreiniol yr afon.

Nid oes sicrwydd ynghylch dyddiad yr anheddiad cynharaf, ond mae’r eglwys, sydd wedi’i chysegru i Sant Idloes ac sy’n gangen leol o eglwys y clas yn Llandinam, yn awgrymu tarddiad o ddechrau’r canol oesoedd. Mae’n bosibl bod y ffynnon sanctaidd a elwid Ffynnon Idloes a oedd gynt yn ardal Lower Green (gerllaw’r cae pêl-droed heddiw) yn dyddio o’r cyfnod hwn hefyd. Mae’n ymddangos ei bod yn bosibl y gallai’r eglwys fod ynghlwm â chanolfan faenorol erbyn y cyfnod canoloesol, neu wedi dod yn gysylltiedig â hi. Efallai bod cysylltiad â chastell mwnt a beili nad oes llawer o dystiolaeth ddogfennol ohono yn ardal Smithfield Street a Mount Street. Er hynny, mae’n bosibl ei fod yn gysylltiedig â’r fwrdeistref a grëwyd gan arglwyddi Powys yn ail hanner y 13eg ganrif. Daeth y dref, y cafwyd tystiolaeth ddogfennol gyntaf ohoni ym 1263, yn ganolfan weinyddol a masnachol i gwmwd Arwystli Uwchcoed. Mae’r strydoedd ar batrwm grid sy’n nodweddiadol o drefi canoloesol planedig, ac mae dwy brif echel gyda phedair ffordd yn y cynllun. Stryd y Bont Hir, Stryd y Bont Fer, Stryd y Dderwen Fawr, a Smithfield Street yw’r enwau arnynt bellach. Yn wreiddiol, roeddent yn cyfarfod ar groes y farchnad, sef safle Hen Neuadd y Farchnad bellach. Rhoddodd y Brenin Edward I yr hawl i gynnal marchnad bob wythnos a ffair ddwywaith y flwyddyn i Owain de la Pole, tywysog Powys, ym 1280. Roedd melin ŷd ar waith erbyn y 1290au. Yn ystod degawdau olaf y 13eg ganrif ac ar ddiwedd degawd gyntaf y 14eg ganrif, fe gynyddodd ei phoblogaeth yn gyflym ond mae’n bosibl na fu llawer o newid yn ystod cyfnod diwethaf y Canol Oesoedd. Fe barhaodd y dref i fod yn gymharol fach ac nid oedd ei thrigolion, Cymry yn bennaf, yn arbennig o ffyniannus. Er mai o bwys lleol yn unig oedd ei marchnadoedd a’i ffeiriau, roeddent yn syndod o broffidiol. Tybir bod y dref wedi cael amddiffynfeydd yn ystod y Canol Oesoedd ac mae’n bosibl mai ffos â phalis o bren oedd y rhain. Er nad yw eu llwybr yn bendant, mae’r enw High Gate ar yr ochr orllewinol a’r enw Severn Porte ar yr ochr ogleddol yn awgrymu o leiaf dau o’r pyrth gynt. Gwelir dwy bont dros Afon Hafren ar fap Saxton 1578. Mae’n bosibl y codwyd y ddwy o bren.

Mae’n ymddangos mai Eglwys Sant Idloes yw’r unig adeilad canoloesol sydd wedi goroesi yn y dref. Mae yna rai deunyddiau ynddi sydd wedi goroesi o’r 14eg ganrif a’r 15fed ganrif. Bu cryn ailadeiladu ar yr eglwys yng nghanol y 16eg ganrif, pan adeiladwyd y to trawst gordd a phan symudwyd rhan o’r arcêd o gorff yr abaty Sistersaidd yng Nghwmhir yno. Bu mwy o waith adfer sylweddol yno ar ddechrau’r 1880au. Mae peth tystiolaeth wedi goroesi o draddodiad ôl-ganoloesol o adeiladu â fframiau pren yn y dref, ond ceir ffasâd diweddarach o frics ar rai ohonynt. Mae yno nifer o adeiladau nodedig, yn cynnwys Hen Neuadd y Farchnad y tybir ei bod yn dyddio o tua 1600 a Pherllandy ar Heol China, sy’n dyddio o tua 1630. Ceir hefyd nifer o adeiladau gweddol uchel eu statws o’r 18fed ganrif, megis y Trewythen Arms, ond mae tafarndy’r Angel, sy’n dyddio o 1748, wedi parhau yn y traddodiad brodorol. Fe dyfodd y dref yn gyflym ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ac roedd, o ran ei maint, yn un o ddeugain tref fwyaf Cymru am gyfnod. Daeth hyn yn sgil y ffyniant oedd wedi’i seilio ar y dechrau ar ehangu’r diwydiant tecstilau ar ddechrau’r 19eg ganrif. Er hynny, fe gadwodd ei chymeriad gwledig yn ei hanfod, fel y gwnaeth y Trallwng a’r Drenewydd, sef trefi ffatrïoedd eraill Sir Drefaldwyn. Mae sawl ffatri wehyddu fechan yn y dref sy’n dangos amrywiaeth ddiddorol yn deipolegol, o weithdai bach iard gefn i’r melinau diweddarach, mwy sylweddol oedd yn harneisio pŵer dŵr Afon Hafren. Ychydig o dystiolaeth sydd o ddiwydiant llwyr ddomestig, er bod Highgate Terrace ar Penygreen yn enghraifft o bwys, gyda llofft wehyddu agored. Roedd y melinau diweddarach, oedd yn fwy eu maint, yn cynnwys Melin Wlanen Stryd y Bont Fer o 1834, y Melin Wlanen Llanidloes, Melin Glan Clywedog, Melin Phoenix a Melin y Cambrian. Ystyriwyd mai dirwasgiad economaidd dwys y diwydiant tecstilau a’r amodau gwaith gwael, y diweithdra a’r tlodi o ganlyniad i hyn oedd wrth wraidd terfysgoedd y Siartwyr yn y dref ym 1839. Er i lawer o’r rheiny oedd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y cythrwfl gael eu carcharu a’u trawsgludo, datblygodd traddodiad gwleidyddol radical yn y dref o ganlyniad i hyn, ac mae wedi parhau.

Ysgogiad arall i ehangiad y dref ar ddechrau’r 19eg ganrif oedd rhyddhau tir o ganlyniad i gau’r tir comin ar yr iseldir a elwid yn Upper Green i’r de o’r dref, a Lower Green i’r gogledd, ynghyd â llain o dir a oedd yn ymestyn at Ddol-llys, i’r gogledd o Afon Hafren, a oedd yn destun deddf cau tir. Cafodd y dref fudd hefyd o’i lleoliad fel canolfan bwysig o ran cysylltiadau, a bu’n fan i aros ar y ffordd dyrpeg i Fachynlleth ac Aberystwyth. Fe ddatblygodd hefyd yn ganolfan fasnachol oherwydd y mwyngloddiau metel niferus yn y cefndir tua’r gorllewin a’r gogledd yn ogystal â pharhau i ddatblygu’n dref farchnad ar gyfer defaid, gwartheg a chynnyrch amaethyddol, ac yn ganolfan fasnachol i’r ardaloedd cyfagos. Roedd digonedd o siopau a thafarnau, wedi’u hadeiladu at y diben, yn y dref yn y 19eg ganrif. Mae llawer ohonynt wedi goroesi heb fawr ddim newid, gan ddangos swyddogaeth economaidd y dref yn eglur. Roeddent hefyd yn arwydd o’i ffyniant. Yn benodol, mae blaen siopau sydd mewn cyflwr da yn bwysig o ran eu cyfraniad i gymeriad pensaernïol y dref.

Erbyn o leiaf y 18fed ganrif, os nad yn gynt o lawer, roedd adeiladu gweddol arddwys ar hyd y ddwy brif stryd a oedd yn cyfarfod ger neuadd y farchnad. Yn ystod y 19eg ganrif, roedd peth datblygu yn y tiroedd cefn, wrth i leiniau bwrdais, gerddi a thir agored y tu ôl i ffryntiadau strydoedd canoloesol gael eu llenwi ag adeiladau ategol i’r eiddo oedd â ffryntiadau ar y stryd. Roedd datblygu hefyd ar rai strydoedd bach ychwanegol oedd â therasau o dai gweithwyr. Hefyd, bu cryn ailadeiladu ar adeiladau cynharach a rhoi blaen newydd iddynt. Ehangwyd yr ardal adeiledig yn y 19eg ganrif y tu hwnt i’w therfynau canoloesol gwreiddiol, gyda therasau yn ymestyn ar hyd y ffyrdd a arweiniai i’r dref a datblygu mewn maestrefi tua’r de a’r dwyrain ac ar draws yr afon tua’r gogledd o Afon Hafren. Gwelwyd amrywiaeth sylweddol o ran maint tai yn ystod y cyfnod hwn. Yn nodweddiadol, byddai’r tai oedd yn agos at ganol y dref yn dai trillawr ac yn gymharol sylweddol. Ymhellach i ffwrdd, yn enwedig yn y strydoedd cefn, byddai tai teras deulawr llai yn bennaf, ac mae’n ymddangos mai cartrefi gweithwyr diwydiannol fyddai llawer o’r rhain. Roedd Foundry Terrace, a adeiladwyd tua 1860 i fod yn gartrefi ar gyfer gweithwyr ffowndri, yn rhan o ddatblygiad pwysig oedd yn cynnwys tŷ rheolwr posibl ychydig lathenni o’r gwaith rheilffordd yn Foundry Lane. Er bod y dref wedi’i lleoli ger man croesi’r afon a bod yno ddwy bont dros Afon Hafren, mae datblygu wedi’i ganolbwyntio ar hyd llwybrau trwodd, a chefn y tai sy’n wynebu’r afon fel rheol. Thomas Penson oedd dylunydd y ddwy bont dros yr afon. Pont sylweddol o garreg gyda thri bwa yw’r Bont Hir ar ochr ogleddol y dref. Fe’i lledwyd yn y 1930au. Adeiladwyd y bont yn wreiddiol ym 1826 fel rhan o’r gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg i Drefeglwys tua’r gogledd ac i Fachynlleth tua’r gogledd-orllewin. Disodlodd hon bont gynharach o bren tua 60 llath i lawr yr afon ac yn nes at yr un llinell â Stryd y Bont Hir. Mae’r Bont Fer, ar y ffordd i Langurig tua’r gorllewin, yn bont o garreg gydag un bwa a adeiladwyd ym 1850 i ddisodli pont garreg gynharach.

Mae’r maestrefi ar ymylon y dref, yn enwedig y rheiny sydd mewn lleoliad mwy prydferth tua’r gogledd a’r gorllewin, yn cynnwys nifer arwyddocaol o dai â sylwedd neu ‘filâu’ gwledig. Cafodd y rhain eu hadeiladu neu eu hymestyn gan ddiwydianwyr a oedd yn symud allan o’r dref a thirfeddianwyr gwledig oedd am gael eiddo’n agos ati. Mae’r cartrefi ar wahân hyn ger y dref, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, yn cynnwys Dol-llys Hall o 1803-13, Dolenog o 1837-39, Mount Severn, o 1826 (adeiladwyd ar gyfer maer y dref), Maenol o 1832, a Summerfield Park a adeiladwyd gan Thomas Jones, perchennog Melin y Cambrian a Spring Mills. O ganlyniad, mae dilyniant arbennig o dda o bensaernïaeth domestig a masnachol y 19eg ganrif yn y dref, ynghyd â rhai adeiladau a sefydliadau cyhoeddus o bwys, gan gynnwys y carchar o 1838-39, Gorsaf yr Heddlu, a’r Ystafelloedd Cyhoeddus o 1838 (siop Laura Ashley yn ddiweddarach), a adeiladwyd i gynnwys marchnad wlanen yn ogystal â llys ac ystafell gyngerdd. Daeth y dref yn ganolfan ranbarthol anghydffurfiaeth o bwys, gyda chapeli o amryw o wahanol enwadau. Mae yno gyfres o gapeli anghydffurfiol o bwys a adeiladwyd neu a ailadeiladwyd ym 1862, 1872-4, 1876, 1878.

Dengys yr adeiladu yn y dref ddilyniant datblygu diddorol yn bensaernïol o ran defnyddio deunyddiau yn ystod y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif. Disodlwyd fframiau pren gan garreg a fyddai’n aml wedi’i rendro, a chan frics a ddefnyddiwyd fwyfwy yn ystod y 19eg ganrif. Galwai arddull bensaernïol gwâr ar ddechrau’r 19eg ganrif am ddefnyddio rendro. Byddai weithiau wedi’i leinio i efelychu maen nadd, ond o tua chanol y ganrif ymlaen, roedd mwy o ‘onestrwydd’ o ran defnyddio deunyddiau yn y dref. Fe wnaeth hyn feithrin diddordeb cynyddol mewn nodweddion addurniadol brics a llechi. Er bod yno ystod o ddeunyddiau a manylion, gan gynnwys amrywiaeth nodedig o ran lliwiau’r brics, mae cryn unffurfiaeth o ran arddull gyda manylion a chymesuredd Sioraidd yn dal i gael eu defnyddio ymhell i’r 19eg ganrif. Er hynny, gall Llanidloes ymfalchïo hefyd mewn dehongliadau afrad o’r arddull gothig domestig. Ceir enghreifftiau nodedig yn 7-11 Cambrian Place, Brynderwen a Woodlands Road ac mae eu toreth yn awgrymu hyder sylweddol wrth fabwysiadu’r arddull hon. Mae’n bosibl y gall y newid yn y bensaernïaeth o draddodiadau brodorol i draddodiadau gwâr fod yn ddangosydd diddorol o ran lefelau ffyniant a soffistigeiddrwydd, wrth iddynt hwythau godi. Roedd y ffurfiau traddodiadol ar gynllunio, megis y cynllun mynedfa drwy lobi oedd yn nodweddiadol o’r rhanbarth, yn dal i’w gweld yn y 18fed ganrif, ond daeth y ffurfiau gwâr ar bensaernïaeth yn fwyaf cyffredin yn y 19eg ganrif. Gwelir y newid hwn hefyd mewn altradau i’r tai oedd eisoes yn bodoli, megis gosod tu blaen newydd o frics ar adeiladau ffrâm bren, er enghraifft, neu eu hailwampio’n fwy gynhwysfawr fel y gwelir yn 40-42 Stryd Fawr, a ddechreuodd fel rhes o fythynnod ffrâm bren un llawr.

Er bod rhai enghreifftiau o dai wedi’u cynllunio’n rhanbarthol neu’n frodorol yn y dref, (Perllandy, tafarndy’r Angel, 4-6 Stryd y Bont Fer, tafarndy’r Royal Head, Stryd y Bont Fer), mae llawer o’r bensaernïaeth ar ffurf tai tref ar arddull drefol, yn enwedig rhesi o derasau. Mae’r rhesi hyn yn dystiolaeth o broses adeiladu drefnus, gymharol ffurfiol a gysylltir â datblygu trefol yn y 19eg ganrif: cyflawnwyd hyn naill ai trwy ailadrodd unedau yr un fath yn union, trwy godi parau oedd yn adlewyrchu ei gilydd neu drwy ymdrechion eraill i gael cymesuredd. Roedd yno hefyd rai enghreifftiau o dai cefn-wrth-gefn, er enghraifft ym Mrynhafren ar Ffordd Penygreen, sydd unwaith eto yn ardystio rôl Llanidloes fel tref ddiwydiannol. Mae blaen unedig rhai terasau, er enghraifft yn Stryd y Bont Hir, yn cuddio hanes adeiladu mwy cymhleth o lawer sydd i’w weld yn y cefn. Mae hyn yn awgrymu bod y terasau hyn o bosibl yn ganlyniad i gyfuno daliadau oedd unwaith yn fwy tameidiog. Er mai’r teras sydd i’w weld amlaf, mae yno rai enghreifftiau pwysig o dai trefol unigol, gan gynnwys Gwesty’r Trewythen Arms gynt, a adeiladwyd yn dŷ preifat ar ddiwedd y 18fed ganrif ond a ddaeth yn dafarndy yn ddiweddarach. Roedd Castle House, Stryd y Bont Fer yn dŷ trefol arall o ddiwedd y 18fed ganrif. Fe’i rhannwyd yn ddau eiddo o bosibl ym 1837, fel tai eraill yn y dref. Gwnaed hyn, mae’n debyg, oherwydd twf y dref yn ystod y 19eg ganrif a’r newidiadau yn ei strwythur economaidd a chymdeithasol.

Datblygodd ac ehangodd diwydiannau peiriannol yn ystod y 19eg ganrif ac ar ddechrau’r 20fed ganrif, wedi diwedd y diwydiant tecstilau. Roeddent wedi seilio’n arbennig ar hen Ffowndri Haearn Llanidloes a oedd yn arbenigo mewn cynhyrchu cyfarpar amaethyddol a chyfarpar mwyngloddio, a Ffowndri’r Rheilffordd a gynrychiolai ddatblygiad diwydiannol sylweddol yn y dref. Roedd diwydiannau sylweddol eraill yn y dref ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif yn cynnwys yr hen ffatri ledr yn nhanerdy a gwaith lledr Spring Mills a oedd wedi cymryd safle hen felin wlân, melin flawd, bragdai a’r hen waith nwy ar Victoria Avenue. Roedd y rhain yn defnyddio glo a ddeuai i mewn ar y trên. Daeth argraffu yn ddiwydiant o bwys yn y dref ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif pan ddatblygodd y dref enw da fel canolfan lenyddol weithgar. Roedd amryw o weithfeydd argraffu, fel rheol ar safleoedd bach yn y dref, yn ymwneud â chynhyrchu cyfnodolion a gweithiau eraill o naws crefyddol ar gyfer nifer o enwadau anghydffurfiol, yn enwedig yn y Gymraeg, cerddoriaeth gorawl Gymreig, arweinlyfrau teithio ar gyfer y farchnad dwristiaeth oedd yn gynyddol ffynnu yng Nghanolbarth Cymru, a phapurau newydd lleol.

Cwblhawyd rheilffordd Llanidloes a’r Drenewydd ym 1859. Nid oedd yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol am flwyddyn neu ddwy, oedd braidd yn anarferol, ond fe’i cysylltwyd o’r diwedd ym 1861, pan gwblhawyd y llinell o’r Trallwng i’r Drenewydd. Agorwyd Rheilffordd Canol Cymru tua’r de o Lanidloes i Raeadr Gwy ac ymlaen i Builth Road a Three Cocks hefyd ym 1864. Yn ddiweddarach, unodd â Chwmni Rheilffordd y Cambrian. Adeiladwyd gorsaf reilffordd drawiadol, oedd yn anarferol o fawr ac yn bencadlys Cwmni Rheilffordd y Cambrian, yn ne-ddwyrain canol y dref ym 1864. Mae’r orsaf yno o hyd ond bellach mae llawer o’r hen strwythurau a’r adeiladau rheilffordd eraill wedi mynd, gan gynnwys sied nwyddau, sied injans a throfwrdd.

Oherwydd cystadleuaeth gynyddol traffig ffyrdd erbyn canol yr 20fed ganrif, caewyd llinell y Drenewydd i Lanidloes i deithwyr, i’r de o Gyffordd Moat Lane ger Caersws ym 1963, er iddi barhau i gludo rhai nwyddau tan 1967. Fe’i cedwid ar agor i gludo deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu cronfa ddŵr Clywedog, i’r gorllewin o Lanidloes, a gwblhawyd ym 1966. Codwyd y syniad o ffordd osgoi i Lanidloes, ar ochr ddwyreiniol y dref, yn gyntaf ar ddiwedd y 1960au oherwydd tagfeydd traffig ac fe’i hagorwyd ym 1991. Mae rhan ohoni mewn trychfa newydd a grëwyd ar lwybr yr hen reilffordd, ar lefel oedd cryn dipyn yn is na’r hen orsaf.

Yn ystod yr 20fed ganrif, fe ddirywiodd llawer o’r diwydiannau oedd wedi cynnal y dref. Fe gollodd ei statws bwrdeistref ym 1974 oherwydd ad-drefnu llywodraeth leol.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anthony 1995; Barton 1997; Beresford 1988; Carr 1992; Carter 1965; Davies 1861; Davies 1973; Davies 1985; Davies 2005; Evans 1812; Hamer 1872-76; Haslam 1979; Horsfall-Turner 1908; Howell 1875-83; Jenkins 1969; Jervoise 1936; Jones 1954; Jones 1984; Jones 1985; Lewis 1833; Miles a Suggett 2003; Morgan 1983; Morgan et al. 1991; Morris 1967-68; Morris 1993; O’Neil 1934; Owen 2003; Parliamentary Gazetteer 1843; Pennant 1783; Rees et al. 2007; Richards 1969; Robinson 2006; Silvester 1992; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Soulsby 1983; Smith 1975; Spurgeon 1966; Thomas 1955-56; Vaughan Owen 1969-70

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.