CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clywedog
Map o'r ardal cymeriad hon
Mwy Ffotograffau

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog: Gorn Hill
Cymunedau Llanidloes a Llanidloes Allanol, Powys
(HLCA 1197)


CPAT PHOTO 2273-03

Ymylon serth bryn i’r de o ddyffryn Hafren, gyda ffermydd gwasgaredig iawn, planhigfeydd coetiroedd yn tarddu o’r 19eg ganrif a thirwedd caeau, rheolaidd yn bennaf sydd, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli cau hen dir pori ucheldirol a thir comin gynt yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Cilmachallt ym mhlwyf degwm Llanidloes, Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif.

Nodweddion Allweddol y Dirwedd Hanesyddol

Ymylon serth bryn i’r de a’r dwyrain o ddyffryn Hafren, rhwng 170 metr a 320 metr uwchben lefel y môr, sy’n tremio dros Llanidloes. Gwelir dyffrynnoedd ag ochrau serth nentydd yn torri ar ei draws, yn cynnwys nant Lletty Cochnant. Mae priddoedd mân cleiog a siltiog sy’n araf athraidd ac yn ddirlawn yn dymhorol, ac sy’n tarddu o ddyddodion drifft o garreg llaid a siâl, yn gorchuddio rhannau isaf yr ardal. Yn hanesyddol, roedd y tir yno yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw a ffermio llaeth ar laswelltir parhaol, a thyfu grawn mewn rhai ardaloedd oedd yn draenio’n well. Mae rhannau uchaf yr ardal wedi’u gorchuddio â phriddoedd mân lomog neu siltiog, wedi’u draenio’n dda dros graig. Yn hanesyddol, magu da byw oedd yn gwneud orau yma, gyda choetir ar y llethrau mwy serth. Roedd rhannau sylweddol o’r tir uwch, gan gynnwys Berth-lwyd Coppice, eisoes wedi’u gorchuddio â phlanhigfeydd coetiroedd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ers hynny, cwympwyd rhannau ohonynt ac mae’r tir unwaith eto’n borfa arw. Mae ardaloedd troellog o brysg a choetir llydan-ddeiliog lled-naturiol yn goroesi ar hyd rhai dyffrynnoedd serth nentydd ac ar lethrau serth eraill yn yr ardal.

Nifer fechan yn unig o enwau lleoedd sydd wedi’u cofnodi yn yr ardal hon, ond mae’n debyg bod arwyddocâd i’r ffaith bod nant Lletty Cochnant, llednant Afon Hafren yn Llanidloes, yn cynnwys yr elfen ‘llety’, sy’n arwydd o anheddau bychain a oedd, mae’n bosibl, yn breswylfeydd tymhorol gynt. Ychydig o safleoedd archaeolegol a gofnodwyd yn yr ardal nodwedd; gwelir yn bennaf hen chwareli carreg bychain, gwasgaredig. Mae'n debygol eu bod wedi cyflenwi deunyddiau adeiladu ar gyfer Llanidloes a’r cyffiniau.

Nodweddir tirwedd y caeau gan gaeau mawr a bach ag ochrau syth ar y tir uwch. Mae’n debygol eu bod yn cynrychioli cau tir pori oedd gynt yn agored, o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen. Ar y llethrau is, gwelir caeau bach afreolaidd sy’n cynrychioli,yn ôl pob tebyg, proses fwy graddol o glirio a chau ers o leiaf y cyfnod canoloesol. Caewyd rhannau o’r ardal o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans; Anthony 1995; Barton 1997; Beresford 1988; Carr 1992; Carter 1965; Davies 1861; Davies 1973; Davies 1985; Davies 2005; Evans 1812; Hamer 1872-76; Haslam 1979; Horsfall-Turner 1908; Howell 1875-83; Jenkins 1969; Jervoise 1936; Jones 1954; Jones 1984; Jones 1985; Lewis 1833; Miles a Suggett 2003; Morgan 1983; Morgan et al. 1991; Morris 1967-68; Morris 1993; O’Neil 1934; Owen 2003; Parliamentary Gazetteer 1843; Pennant 1783; Rees et al. 2007; Richards 1969; Robinson 2006; Silvester 1992; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Soulsby 1983; Smith 1975; Spurgeon 1966; Thomas 1955-56; Vaughan Owen 1969-70

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk.