CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyedog

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Clywedog


Y DIRWEDD WEINYDDOL

Ffiniau secwlar

Y grŵp gwleidyddol cynharaf y gwyddys amdano yn yr ardal yw’r llwyth brodorol o’r enw yr Ordofigiaid a oedd yn byw yng nghanol Cymru ar adeg y goncwest Rufeinig yn y ganrif 1af AD.

Nid oes unrhyw dystiolaeth o sefydlu gweinyddiaeth sifil yn ystod cyfnod rheolaeth y Rhufeiniaid rhwng canol i ddiwedd y ganrif 1af OC a dechrau’r 5ed ganrif, ac mae’n bosibl mai byddin y Rhufeiniaid oedd yn gweinyddu’r ardal gydol y cyfnod hwn.

Ymddengys ei bod yn bosibl bod y rhan fwyaf o’r ardal yn rhan o deyrnas fechan neu gantref Arwystli erbyn dechrau’r cyfnod canoloesol. Fe’i cofnodwyd gyntaf yn Llyfr Domesday 1086 fel cantref Arvester. Roedd y rhan ogledd-orllewin yn rhan o gwmwd Cyfeiliog yn nheyrnas Powys.

Yn ystod y cyfnod canoloesol cynharach, gorweddai teyrnas fechan Arwystli rhwng dwy deyrnas fwy pwerus, sef Gwynedd i’r gorllewin a Phowys i’r dwyrain. Bu’n destun anghydfodau treisgar rhwng y ddwy deyrnas. Digon aneglur yw ei hanes cynnar ond erbyn diwedd yr 11eg ganrif, Roger de Montgomery, sef iarll Normanaidd oedd y deiliad. Roedd wedi cyfeddiannu’r diriogaeth o’i ganolfan grym ymhellach i’r dwyrain ond fe’i dychwelwyd i ddwylo teyrnlin frodorol yn ystod hanner cyntaf y 12fed ganrif. Bu brenhinoedd Gwynedd a Phowys yn ymladd yn ffyrnig dros Arwystli am gyfnod o tua chanrif a hanner, a chofnodwyd llawer o ladd a dinistrio adeiladau yn y cyfnod hwn. Er mai rhostir yn unig oedd llawer o’r cantref, roedd yn cynnwys peth tir ffrwythlon prin mewn dyffrynnoedd. Roedd hyn yn cynnwys dyffryn Hafren a’i llednentydd, Afon Cerist ac Afon Clywedog, yn ardal y dirwedd hanesyddol. Roedd dyffryn Hafren a dyffryn Clywedog hefyd o beth arwyddocâd strategol o ran darparu coridor cysylltiadau rhwng canol Cymru a'r Gororau. Roedd llanw a thrai o ran teyrngarwch yn y cyfnod hwn rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Gwynedd, rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Powys, rhwng brenhinlin Powys a Choron Lloegr, a hyd yn oed rhwng teyrnasoedd cystadleuol Gwynedd a Phowys. Parhaodd hyn tan gyfnod o sefydlogrwydd cymharol yn dilyn concwest Edward I o Gymru yn y 1280au, pan ddychwelwyd yr ardal i Gruffudd ap Gwenwynwyn oedd yn rheoli Powys ar y pryd.

Roedd y rhan fwyaf o ardal y dirwedd hanesyddol, ar wahân i’r gornel ogledd-orllewin a oedd yn rhan o gwmwd Cyfeiliog, yn rhan o gwmwd mwyaf dwyreiniol Arwystli, o’r enw Arwystli Uwchcoed. Stiwardiaid oedd yn ei weinyddu o ddechrau’r 13eg ganrif yn ôl pob tebyg. Daeth Talgarth, ym mhlwyf Trefeglwys, sydd bellach yn fferm tua thraean o gilomedr i’r gogledd o ardal y dirwedd hanesyddol, yn ganolfan faenorol Arwystli Uwchcoed erbyn diwedd y 1290au.

Yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, cafodd Arwystli ei ailfeddiannu gan y teulu Cherlton, arglwyddi Powys, ym 1401, ynghyd ag arglwyddiaeth Cyfeiliog ac arglwyddiaeth Caereinion, oddi wrth Syr Edmund Mortimer oedd yn arglwydd amlwg y Mers, a oedd wedi’u meddiannu cyn hynny. Yn ddiweddarach, daeth yn arglwyddiaeth i ddwylo’r teulu Dudley, trwy’r teulu Tiptoft, ac fe werthwyd yr arglwyddiaethau i’r Goron yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII.

Ar adeg y Ddeddf Uno ym 1536, daeth arglwyddiaeth Arwystli yn Gantref Arwystli a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gantref Llanidloes, rhan o Sir Drefaldwyn. Fe’i rhannwyd yn ddwy ranbarth, sef uchaf ac isaf, a oedd yn cyfateb yn fras i gymydau canoloesol Arwystli Uwchcoed ac Arwystli Iscoed. Rhannwyd y ddwy ranbarth yn drefgorddau maenorol a oedd yn tarddu, yn ôl pob tebyg, o ddechrau’r cyfnod canoloesol a’r cyfnod canoloesol ac a fu’n arwyddocaol tan ganol y 19eg ganrif. Trefgorddau Penegoes Uwchycoed, Esgeiriaeth, Ystradhynod, Glyntrefnant, Brithdir, Manledd, Dolgwden, Glynhafren Iscoed, a Chilmachallt oedd yn ardal y dirwedd hanesyddol.

Mae ardal y dirwedd hanesyddol heddiw yn bennaf yng nghymunedau Llanbrynmair, Trefeglwys, Llanidloes Allanol, a Llanidloes. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, mae’r cymunedau hyn yn rhan o sir newydd Powys, a ddaeth yn awdurdod unedol ym 1996.

Ecclesiastical boundaries

Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi eglwysig y 19eg ganrif, sef Llanidloes, Trefeglwys, Llanbrynmair a Phenegoes yn neoniaeth Arwystli yn esgobaeth Bangor.

Saif un eglwys ganoloesol yn ardal y dirwedd hanesyddol, sef eglwys Sant Idloes yn Llanidloes. Cofnodwyd yr eglwys gyntaf fel capella de Lanidloes yn y Norwich Taxation ym 1254. Fodd bynnag, credir ei bod yn tarddu o ddechrau’r canol oesoedd a’i bod yn gangen leol o eglwys y clas yn Llandinam.

Crëwyd plwyf eglwysig newydd ym 1856 allan o blwyfi Llanbrynmair, Darowen, Penegoes a Threfeglwys, yn canolbwyntio ar Eglwys Dewi Sant, Dylife, a ddymchwelwyd ym 1962.

(yn ôl i’r brig)