CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Clywedog


CPAT PHOTO 06-C-246

Rhagarweiniad

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Mae Afon Clywedog yng Nghanolbarth Cymru yn draenio llethrau gogledd ddwyrain Mynyddoedd Cambria, y torrwyd ei dyffryn cul, troellog yn ddwfn i mewn iddynt. Mae Afon Clywedog yn un o is afonydd Afon Hafren, sydd lawer yn fwy, ac mae’n ymuno â hi yn Llanidloes. O safle’r dref farchnad hanesyddol, nodedig a darluniadwy hon, mae’r bryniau a’r esgeiriau bob ochr i Ddyffryn Clywedog yn codi’n raddol o 300m uwchben SO i gyrraedd 500m uwchben SO ger Dylife, ychydig y tu hwnt i’r cefn deuddŵr yn y gogledd orllewin. Cysylltir ffyniant Dyffryn Clywedog a’i ddalgylch a nodir yma fel arfer gyda’r diwydiannau cyferbyniol o fwyngloddio am blwm a gwlân, a gafodd effaith sylweddol ar y tirwedd.

Dangosir pwysigrwydd cynnar mwyn plwm lleol gan y fryngaer fawr, o ddiwedd Oes yr Efydd/Oes yr Haearn, yn Ninas, y tybir bod ei maint a’i lleoliad yn ganlyniad i ddymuniad i warchod a manteisio ar y cyfoeth o adnoddau naturiol. Ceir hefyd aneddiadau llai Oes yr Haearn sy’n amgylchynu ymylon yr ardal hon. Fodd bynnag, mae datblygiad diweddarach yr ardal, a’i phatrymau o ddefnydd tir ac aneddiadau, wedi’u cysylltu’n annatod â mwyngloddio plwm. Y dystiolaeth gynharaf yw gwaith Rhufeinig posibl yn Nylife, sy’n gorwedd gerllaw’r gaer Rufeinig ym Mhenygrocbren, ond dechreuodd y prif gyfnod mwyngloddio yn ystod yr 17eg ganrif a pharhaodd tan yn gynharach y ganrif hon. Mae’r pentref ei hun yn enghraifft dda o aneddiad mwyngloddio bychan sydd heb newid ryw lawer yn y blynyddoedd diwethaf. Mae dylanwad cloddio yn dal i fod yn amlwg, gydag olion siafftiau, tramffyrdd a dwy gronfa ddwˆ r oedd yn darparu pwˆ er ar gyfer y lloriau dresin.

Mae Dylife yn ganolbwynt sawl chwedl, gyda’r mwyaf enwog ohonynt yn dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif ac yn ymwneud ag un o’r llofruddiaethau mwyaf erchyll yn hanes Cymru, pan lofruddiodd y gof lleol ei deulu a thaflu eu cyrff i lawr un o’r tyllau mwyngloddio. Cafodd y weithred ei darganfod yn fuan a phan gafwyd y gof yn euog fe’i gorfodwyd i wneud cewyll pen a chorff ar gyfer ef ei hun a haearn y grocbren. Yn y 1930au, darganfuwyd y gawell pen haearn gyda’r benglog yn dal i fod y tu mewn iddi ym Mhenygrocbren, sef lleoliad y grocbren, a bellach fe’i cedwir yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd.

Mae’r clwstwr mwyngloddio arall yn ymestyn mewn band o’r dwyrain i’r gorllewin i’r gogledd o Lanidloes, sy’n cynnwys mwyngloddiau Y Fan Dwyreiniol, Y Fan, Bryntail a Phenyclun. Roedd y rhain i gyd yn weithredol yn ystod ail hanner y 19eg ganrif gan fwyaf. Bryd hynny mwynglawdd Y Fan oedd y mwyaf yn y byd, ac mae llawer o’r tirwedd mwyngloddio yn parhau er gwaethaf gweithgareddau adennill tir. Rhwng 1870 a 1878, cynhyrchodd Sir Drefaldwyn rhwng 7000 a 9000 o dunelli o fwyn plwm y flwyddyn, a daeth y cwbl bron o gymhlethfa Fan-Dylife. Ym 1879, gostyngodd cynnyrch plwm Cymru yn gyflym, oherwydd darganfyddiadau mwy o fwyn mewn mannau eraill, a dim ond 200 tunnell y cynhyrchodd Y Fan y flwyddyn honno.

Mae gwreiddiau Llanidloes wedi’u gosod yn gadarn yn y cyfnod canoloesol, gydag Edward I yn cyflwyno siarter i’r dref ym 1280. Ynghanol y dref saif neuadd y farchnad â’i ffrâm bren sy’n dyddio o tua 1600, sef y gwychaf o’i math yng Nghymru. Cysylltir ffyniant y dref yn hanesyddol â ffyniant y diwydiant gwlân a gwau a’r ardal fwyngloddio bwysig i’r gogledd orllewin. Yn ystod y 1830au Llanidloes oedd un o ganolfannau mwyaf gweithgar mudiad y Siartwyr ac yn anterth y terfysgoedd meddiannwyd y dref gan wehyddwyr lleol am bum diwrnod cyn iddynt gael eu gorchfygu.

Mae cronfa ddŵr Clywedog yn ffurfio canolbwynt modern i’r tirwedd. Yn ogystal â darparu dŵr yfed i ddefnyddwyr o Lanidloes i Fryste, ei phrif swyddogaeth yw unioni’r amrywiadau naturiol yn y glawiad a fyddai fel arall yn achosi llif anghyson, ac felly lleihau’r perygl o orlifo yn ardaloedd is pen uchaf dyffryn Hafren. Cwblhawyd strwythur 72m o uchder y prif argae ym 1966, gan ddefnyddio mwy na 200, 000m ciwbig o goncrid a dyma’r argae màs concrid mwyaf ym Mhrydain. Yn fwy diweddar, datblygodd yr argae a’i gronfa ddwˆ r yn atyniad poblogaidd i dwristiaid.

Llunio Tirwedd Dyffryn Clywedog

Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn.

Yr Amgylchedd Naturiol

Y Dirwedd Weinyddol

Defnydd Tir ac Anheddu Gwledig

Tarddiad a Thwf Llanidloes

Diwydiant

Trafnidiaeth a Chysylltiadau

Ffynonellau Gwybodaeth Eraill

Gellir darganfod gwybodaeth bellach am Dyffryn Clywedog mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi.

Ffynonellau cyhoeddig

Ardaloedd nodwedd

Diffiniwyd yr ardaloedd nodwedd tir hanesyddol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd nodwedd a ddiffinnir yn Nhirlun Hanesyddol Dyffryn Clywedog


CPAT PHOTO 06-C-214

1187 Ardal nodwedd Dylife. Llwyfandir ucheldirol â nentydd yn torri ar ei draws. Roedd ar un adeg yn rhan o faenor fynachaidd ganoloesol. Ceir llechfeddiannau cynnar, o bosibl yn deillio o aneddiadau tymhorol. Caewyd rhannau ohono o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif. Mae’n bosibl bod olion mwyngloddio metel o gyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol yno, ynghyd ag olion mwy helaeth o fwyngloddio metel yn y 19eg ganrif, a thystiolaeth o aneddiadau cysylltiedig. Llun: CPAT 06-C-214. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 06-C-184

1188 Ardal nodwedd Penffordd-las. Basn ucheldirol ym mlaen Afon Clywedog, gyda chlwstwr o henebion claddu cynhanesyddol cynharach. Roedd yr ardal yn rhan o faenor fynachaidd ganoloesol. Gwelir peth tystiolaeth o anheddu tymhorol sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol hyd ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol ar yr ucheldir, ynghyd â chlwstwr llac o ffermydd ucheldirol, capeli anghydffurfiol, eglwys a mynwent gynnar y Crynwyr. Daeth y rhain i’r amlwg ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ar hen ffordd y porthmyn a’r ffordd dyrpeg rhwng Llanidloes a Machynlleth. Adeiladwyd pentref coedwigol ym 1949/50 pan blannwyd Coedwig Hafren. Llun: CPAT 06-C-184. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 06-C-221

1189 Ardal nodwedd Coedwig Hafren. Coetir conwydd helaeth a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ar lwyfandir ucheldirol ac ar ymylon y bryniau o 1937/38 ymlaen. Roedd yr ardal yn rhan o faenor fynachaidd ganoloesol. Cyn ei choedwigo, roedd yn cynnwys ffermydd ucheldirol gwasgaredig yn dyddio o bosibl o’r cyfnod canoloesol a’r canol oesoedd cynnar, rhai ohonynt efallai yn deillio o aneddiadau tymhorol. Mae ardal ar wahân o olion mwyngloddio metel yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Llun: CPAT 06-C-221. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 06-C-243

1190 Ardal nodwedd Llyn Clywedog. Argae o goncrid a chronfa ddŵr a adeiladwyd yn ystod y 1960au ym mhen uchaf dyffryn Clywedog â’i ochrau serth, i reoli cyflenwadau dŵr yn nyffryn Hafren. Llun: CPAT 06-C-243. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 06-C-174

1191 Ardal nodwedd Lluest-y-dduallt. Ymylon y bryniau a chopaon amlwg y bryniau o bobtu ochr ogleddol Cronfa Ddŵr Clywedog. Mae’n cynnwys bryngaer fawr gynhanesyddol Dinas, sy’n dyddio o gyfnod diweddarach, a chaeau sy’n cynrychioli’n bennaf cau tir comin gynt yn y 19eg ganrif. Mae yno rai aneddiadau cynharach, tymhorol o bosibl, a llechfeddiannau sydd wedi arwain at ffermydd gwasgaredig iawn. Llun: CPAT 06-C-174. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 06-C-191

1192 Ardal nodwedd Banc y Groes. Llwyfandir ucheldirol ac ymylon bryniau i’r de a’r gorllewin o Gronfa Ddŵr Clywedog. Mae yno ffermydd gwasgaredig iawn yn dyddio o bosibl o’r cyfnod canoloesol neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Maent yn gysylltiedig â chaeau afreolaidd ac â chau tir comin oedd yn bodoli ar y pryd ac ar gyfnod cynharach yn helaeth yn y 19eg ganrif. Mae yno dirweddau mwyngloddio ar wahân. Llun: CPAT 06-C-191. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 06-C-163

1193 Ardal nodwedd Faidre. Llwyfandir ucheldirol, ymylon bryniau a dyffrynnoedd nentydd coediog, gyda ffermydd gwasgaredig yn tarddu o’r canol oesoedd. Maent wedi’u cysylltu â phatrymau caeau afreolaidd ynghyd ag ardaloedd o batrymau caeau mwy rheolaidd yn cynrychioli cau tir comin gynt yn y 19eg ganrif. Llun: CPAT 06-C-163. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 06-C-164

1194 Ardal nodwedd Bryn y Fan. Bryniau amlwg i’r dwyrain o Gronfa Ddŵr Clywedog, gydag anheddiad bach amddiffynedig o’r Oes Haearn ar ysbardun is; mae caeau, sy’n rheolaidd eu ffurf yn bennaf, yn cynrychioli cau tir comin yn y 19eg ganrif. Llun: CPAT 06-C-164. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 06-C-145

1195 Ardal nodwedd Manledd. Llawr dyffrynnoedd, godre bryniau ac ymylon serth bryniau o gwmpas rhannau isaf Afon Clywedog a blaen Afon Cerist a’u llednentydd; ffermydd gwasgaredig, rhai ohonynt yn tarddu o’r canol oesoedd a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, sy’n gysylltiedig â phatrymau caeau afreolaidd; rhwng y rhain, tir comin gynt wedi’i gau ar raddfa helaeth yn y 19eg ganrif, a gynrychiolir gan batrymau caeau mwy rheolaidd ac sy’n gysylltiedig â llechfeddiannu gynt ac â ffermydd newydd; olion mwyngloddio eang, yn bennaf yn dyddio o’r 19eg ganrif hyd ddechrau’r 20fed ganrif, ar hyd gwythïen Van, a safleoedd hen felinau gwlân o’r 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif ar hyd glannau Afon Clywedog. Llun: CPAT 06-C-145. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 06-C-131

1196 Ardal nodwedd Llanidloes. Tref fodern yn Nyffryn Hafren, yn dyddio o’r canol oesoedd a dyfodd yn gyflym i fod yn ganolfan ranbarthol o bwys o ran diwydiant a masnach, rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Y diwydiant gwlân oedd yn gyfrifol am ddechrau hyn ac, yn ddiweddarach, fe’i cefnogwyd gan ddiwydiannau gweithgynhyrchu eraill a chan fwyngloddio metel yn ei chefnwlad a’i lleoliad strategol ar lwybrau oedd yn croesi Cymru ar hen ffyrdd y porthmyn, ffyrdd tyrpeg, rhwydwaith y rheilffyrdd a chefnffordd fodern. Llun: CPAT 06-C-131. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

CPAT PHOTO 2273-03

1197 Ardal nodwedd Gorn Hill. Ymylon serth bryn i’r de o ddyffryn Hafren, gyda ffermydd gwasgaredig iawn, planhigfeydd coetiroedd yn tarddu o’r 19eg ganrif a thirwedd caeau, rheolaidd yn bennaf sydd, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli cau hen dir pori ucheldirol a thir comin gynt yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Llun: CPAT 2273-03. (yn ôl i’r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal nodwedd

Cliciwch yma am fap o’r ardal nodwedd

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.