CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Clwyedog

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Clywedog


YR AMGYLCHEDD NATURIOL

Mae topograffeg a daeareg wedi chwarae rhan sylweddol o ran hanes defnyddio tir, anheddu a diwydiant ardal y dirwedd hanesyddol.

Topograffeg a draeniad

Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn ymestyn o’r rhostir wrth odre Pumlumon yn y gorllewin, ym mlaen dyffryn Clywedog ar uchder o tua 520 metr uwchben lefel y môr, i lawr i ddyffryn Hafren yn Llanidloes tua’r de-ddwyrain, ar uchder o tua 160 metr. Tua blaenddyfroedd Afon Clywedog, mae’r dyffryn yn agor allan yn fasn bas, cilomedr neu fwy ar ei draws. Yn is i lawr, yn nes at y man lle mae’n ymuno â dyffryn Hafren, mae’n ffurfio’r dyffryn troellog, rhewlifol dwfn, gyda llethrau serth, sydd bellach dan ddŵr ac mor ddramatig. Mae i’r dyffryn sawl can metr o ddyfnder ond 150-500 metr o led yn unig, sydd wedi ysbrydoli’r enw Ystradhynod. Cofnodwyd yr enw am y tro cyntaf yn y 1570au, yn enw ar un o’r trefgorddau sy’n cwmpasu’r dyffryn wrth iddo dorri ar draws y llwyfandir ucheldirol. Mae’r enw’n tarddu o’r ddau air ystrad (dyffryn afon) a hynod yn ôl pob tebyg. Mae nifer o ddyffrynnoedd llednentydd, sydd â llethrau yr un mor serth, yn ymuno o’r gogledd a’r gorllewin, megis Afon Bachog, Afon Lwyd, Afon Biga, Nant Felen, Nant Pen-y-banc, ac Afon Gwestyn. Tua’r gogledd-orllewin, mae Afon Twymyn a’i llednentydd, Nant y Iâr, Nant Dropyns, a Nant Bryn-moel yn draenio i’r gogledd-ddwyrain i mewn i geunant 200 metr o ddyfnder a grëwyd yn wreiddiol gan rewlifiant. Yn ddiweddarach, fe’i dyfnhawyd gan erydiad afon yn dilyn afon-ladrad yr hyn a oedd gynt yn rhan o system Afon Hafren gan system Afon Dyfi. Llednentydd Afon Trannon sy’n draenio’r ardal i’r gogledd-ddwyrain, gan gynnwys dyffryn cul Nant Cwmcarreg-ddu, a’i lethrau serth, a dyffryn lletach Afon Cerist a’i llednant Nant Gwden, a’i llethrau serth hithau.

Tybir bod enw Afon Clywedog (ynghyd â sawl afon arall yng Nghymru) yn deillio o ‘clywed’ sy’n awgrymu ei bod yn swnllyd. Mae dŵr gwyllt hefyd yn esbonio tarddiad yr enw Dylife, sy’n deillio o ‘dylif’.

Pan adeiladwyd Rheilffordd y Fan yn y 1870au, sianelwyd yr afon ac fe effeithiodd hyn ar batrymau draenio dyffryn Cerist. Mae’n eglur bod creu Cronfa Ddŵr Clywedog yn y 1960au wedi effeithio’n ddirfawr ar ddraeniad yn nyffryn Clywedog. Yn fwy lleol, effeithiwyd ar batrymau draeniad mewn nifer o ardaloedd, dros dro neu’n barhaol, o ganlyniad i greu cronfeydd llai, dyfrffosydd a llifddorau er mwyn defnyddio pŵer dŵr i gynnal gweithgareddau melino ŷd, cynhyrchu tecstilau a mwyngloddio metel, yn enwedig yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ac o ganlyniad i gynlluniau coedwigo helaeth yn yr 20fed ganrif.

Daeareg a phriddoedd

Llechfeini, sialau, grutiau, tywodfeini a cherrig llaid yn dyddio o’r cyfnodau Ordoficaidd a Silwraidd yw daeareg waelodol soled yr ardal gyfan yn bennaf. Cerrig llaid a grutiau hŷn o’r cyfnod Ordoficaidd yw’r graig waelodol yn rhai o rannau canol yr ardal, rhwng Afon Biga yn y de-orllewin, Fairdre Fawr yn y gogledd-orllewin, y Fan yn y gogledd-ddwyrain a Chwm Deildre yn y de-ddwyrain. Cerrig llaid duon meddal yw’r gwelyau uchaf; wedi hindreuliad, gallant ffurfio dyddodion tebyg i glai. Grutiau caled wedi’u rhannu â gwelyau siâl yw’r gwelyau is. Sialau duon sy’n troi’n lliw oren-felyn yn hawdd wedi hindreuliad, (oherwydd bod llawer o sylffid haearn ynddynt), a gwelyau tenau o dywodfaen a ddaw i’r wyneb yn fynych yn nyffryn Clywedog ac yng nghyffiniau Dylife yw’r rhan isaf o’r graig orchudd Silwraidd.

Mewn cyfnod diweddarach o symudiadau daear (a elwir yr orogeni Caledonaidd) codwyd y creigiau Silwraidd a’r creigiau Ordoficaidd a’u plygu. Yn sgil hyn, datblygodd nifer o ffawtiau gogledd-de a dwyrain-gorllewin ar draws yr ardal. Roedd y ffawtiau dwyrain-gorllewin, yn enwedig, yn atynnu’r broses mwneiddiad a lenwodd y gwagleoedd a achoswyd gan y ffawtio a’r hollti â mwynau plwm, sinc a chopr, megis galena, sffalerit a chalcopyrit, a oedd yn ddichonadwy’n economaidd, ynghyd â mwynau llai gwerthfawr megis cwarts, calsit a barytes. Mae dau ffawt dwyrain-gorllewin sylweddol yn croesi ardal y dirwedd hanesyddol, un tua’r gogledd-orllewin o Ddyfngwm ym mlaen dyffryn Clywedog i Ben Dylife ac yna i Ddylife ei hun, a’r llall tua’r de-ddwyrain o Westyn ac Aberdaunant yn nyffryn Nant Gwestyn i Fryntail, y Fan a Chwmdylluan a thu hwnt yn nyffryn Nant Gwden. Mae trwch y gwythiennau mwyn yn amrywio o ychydig gentimetrau hyd uchafswm o 15 medr o led yn Van. Daw’r gwythiennau i’r wyneb mewn brigiadau creigiog mewn mannau ond, yn nodweddiadol, maent yn goleddu’n serth ar hyd planau ffawt ar oleddf.

Mae drifft ffrwd-rewlifol a dyddodion llifwaddodol diweddarach wedi gorchuddio’r ddaeareg soled yn y dyffrynnoedd afon. Ceir yma amrywiaeth o fathau o bridd o ganlyniad i hindreuliad y ddaeareg soled a’r ddaeareg ddrifft. Yn hanesyddol, maent wedi effeithio’n drwm ar botensial amaethyddol y tir. Priddoedd lomog ucheldirol sy’n aml yn wlyb sydd ar y llwyfandiroedd ucheldirol yng ngorllewin a de yr ardal (yn perthyn i fath pridd Hafren), ar Fryn Moel, Pen Dylife, a Bwlch y Garreg-wen, ac ar Fynydd y Groes a Bryn Mawr, gyda haenlin fawnaidd ar y wyneb â chletir haearn tenau oddi tano. Maent yn fwyaf addas ar gyfer rhostir, porfa arw a choetir conwydd. Mae’r priddoedd ar lethrau'r bryniau ledled llawer o’r ardal (yn perthyn i fath Manod) yn briddoedd mân siltiog neu’n briddoedd mân lomog sy’n draenio’n dda, ac maent yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw ar laswelltir parhaol a phlannu coetir. Mae basn uchaf dyffryn Clywedog, ynghyd â dyffrynnoedd Afon Biga, Afon Lwyd, ac Afon Bachog, yn cynnwys priddoedd (sy’n perthyn i fath Wilcocks 2) ucheldirol lomog sy’n ddirlawn yn dymhorol. Mae ganddynt haenlin fawnaidd ar y wyneb ac maent yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw ar rostir gwlyb o werth pori cymedrol, peth glaswelltir parhaol wedi’i wella a phlannu coetir conwydd. Mae gan yr ardal yn rhannau isaf dyffrynnoedd Clywedog a Gwestyn unwaith eto briddoedd mân siltiog a chleiog (yn perthyn i gyfres Cegin), sy’n ddirlawn yn dymhorol ac yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw a ffermio llaeth ar laswelltir parhaol. Priddoedd mân lomog dros briddoedd mwy cleiog sydd eto’n ddirlawn yn dymhorol yw priddoedd yr ucheldir is i’r gogledd o Gronfa Ddŵr Clywedog, rhwng Fairdre Fawr a Bryn y Fan a dyffryn gwahanfa ddŵr Afon Cerist (sy’n perthyn i gyfres Brickfield 3). Maent wedi bod yn addas ar gyfer magu da byw a pheth ffermio llaeth ar laswelltir parhaol a pheth tyfu cnydau grawn mewn ardaloedd mwy sych.

Hanes amgylcheddol

Cafwyd peth tystiolaeth ynghylch hanes amgylcheddol yr ardal ers tua 11,000 o flynyddoedd yn ôl o astudio dilyniannau paill mewn dyddodion mawn yn ardal Pumlumon. Mae paill coed yn isel yng nghyfnod cynharaf y dilyniant (cyfnod rhewlifol hwyr), ond mae’n cynnwys gwern, pîn, bedw a chyll, rhedyn a mwsoglau. Mewn ail gyfnod, yn cyfateb o bosibl i’r cyfnod Mesolithig a dechrau’r cyfnod Neolithig, coetir derw oedd i’w weld amlaf, gyda pheth llwyf, pîn, gwern, bedw a chyll. Gan ddibynnu ar y cyfeiriad roedd yn ei wynebu, byddai coetir ar y dechrau’n ymestyn hyd at uchder o tua 6oo metr uwchben lefel y môr. Mewn cyfnod diweddarach, yn cyfateb â diwedd y cyfnod Neolithig, a chyfnodau’r Oes Efydd ac Oes yr Haearn, gwelwyd dirywiad mewn coed derw a bedw a chynnydd mewn coetir gwern a chyll, gyda pheth ffurfiant gorgors mewn ardaloedd gwlypach a chyfnodau o ychydig o glirio a ddechreuodd o bosibl ar ddiwedd y cyfnod Neolithig ac yn ystod yr Oes Efydd. Dehonglwyd newidiadau diweddarach o ran fflora a chyfrannau rhywogaethau coed a glaswellt, a thystiolaeth dros ddatgoedwigo ac adfywio coetir, fel adlewyrchiad o gyfnodau ardystiedig yn hanesyddol o ddefnyddio tir yn ystod y cyfnod canoloesol a’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.

(yn ôl i’r brig)