CPAT logo
Cymraeg / English
Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol Cwm Elan:
Yn ôl i’r disgrifiad

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Cwm Elan: Cronfeydd Dwr Cwm Elan
Ffotograffau o'r ardal nodwedd


CPAT PHOTO 03-c-0616 Caeau a ffermydd o amgylch ymylon y cronfeydd dwr

Caeau amgaeedig ger Alltgoch a fferm Penygarreg, gydag argae Penygarreg yn y blaendir. Rhed hynt yr hen reilffordd i fyny at argae Craig Goch ar hyd lan bellaf y gronfa ddwr. Llun: CPAT 03-C-0616.

CPAT PHOTO 1527.26 Caeau amgaeedig ger fferm Tynllidiart, ar lan orllewinol cronfa ddwr Garreg-ddu, a Moelfryn ar y gorwel. Mae cloddiau'r hen gaeau i'w gweld ar hyd draethlin y gronfa pan fydd y dwr yn isel. Llun: CPAT 1527.26.

CPAT PHOTO 1527.06 Fferm Rhiwnant yng nghwm Claerwen, a Waun Lydan yn y cefndir. Llun: CPAT 1527.06.

CPAT PHOTO 03-C-0613 Tirweddau'r cronfeydd dwr yng Nghwm Elan

Pen gogleddol cronfa ddwr Garreg-ddu, gan edrych tua'r gogledd. Llun: CPAT 03-C-0613.

CPAT PHOTO 03-C-0620 Argae a chronfa ddwr Craig Goch ar flaen cwm Elan, o'r de-orllewin. Dechreuodd y gwaith ar argae Craig Goch ym 1897, dair blynedd ar ôl i'r gwaith gychwyn ar argae Caban-coch, sef yr argae isaf ar draws afon Elan. Llun: CPAT 03-C-0620.

CPAT PHOTO 1528-23. Golygfa pel o argae Graig Goch. Photo: CPAT 1528.23.

CPAT PHOTO 1526.14. Twr falf y Foel a chronfa ddwr Garreg-ddu ar gyfnod pan roedd y dwr yn isel. Bydd dwr o gronfeydd Cwm Elan yn cychwyn ar ei siwrnai i Birmingham o'r twr. Rhoddwyd yr enw 'Baróc Birmingham' ar arddull bensaernïol unigryw yr argaeau a thyrau'r falfiau yng nghwm Elan. . Llun: CPAT 1526.14.

CPAT PHOTO 1538.08. Adeiladau a strwythurau ategol

Rhan o'r Ganolfan Ymwelwyr islaw argae Caban-coch, ar hen safle adeiladau cynllun cronfeydd dwr cwm Elan. Llun: CPAT 1538.08.

CPAT PHOTO 1540.01. O'r chwith i'r dde: ffordd fodern ar lan y llyn, hynt yr hen reilffordd i waelod argae Penygarreg, a chwrs yr hen reilffordd i argae Craig Goch ger pen gogleddol cronfa ddwr Carreg-ddu. Gwelir arwyneb gyda gorchudd o garreg neu bren ar gloddiau'r hen reilffyrdd. Llun: CPAT 1540.01.

CPAT PHOTO 1527.15. Traphont Carreg-ddu a chronfa ddwr Caban-coch yn y blaendir, ar gyfnod pan fo'r dwr yn isel. Fel arfer, mae'r gored ar waelod y draphont wedi'i chuddio. Erbyn heddiw, trafnidiaeth y ffyrdd sy'n defnyddio'r draphont, a ddefnyddid yn ystod cyfnod adeiladu'r argae i gynnal rheilffordd i mewn i gwm Claerwen. Llun: CPAT 1527.15.

CPAT PHOTO 1528.08. Tirweddau cynharach, sydd fel arfer ynghudd dan y dwr.

Golygfa o argae Craig Goch o bell, o'r de-ddwyrain, gyda chronfa ddwr Penygarreg yn y blaendir, ar gyfnod pan roedd y dwr yn isel. Ar y gwaelod ar y chwith, gellir gweld olion Ty-nant, a ddymchwelwyd pan adeiladwyd y gronfa. Mae'r rhain dan ddwr fel arfer. Yn y pellter gwelir Esgair Rhiwlan. Llun: CPAT 1528.08.

CPAT PHOTO 1528.34. Argae a thwr falf cromennog Craig Goch, o gyfeiriad y gorllewin ar gyfnod pan roedd y dwr yn isel. Mae'r llwyfan o gerrig a physt unionsyth, olion caban gweithwyr a ddefnyddiwyd yn ystod cyfnod adeiladu'r argae, i'w gweld yn y blaendir. Fe fyddai'r caban wedi bod yn debyg i'r un sydd yn dal i'w weld ger Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan. Mae'r bwâu ar hyd ben yr argae yn cynnal ffordd gul. Llun: CPAT 1528.34.

CPAT PHOTO 1539.13. Mae olion gardd gaerog plasty Nantgwyllt, i'w gweld yn ystod cyfnod pan roedd y dwr yn isel. Mae argae Caban-coch i'w weld yn y pellter. Llun: CPAT 1539.13.