Cymraeg / English
|
Nodweddu’r Dirwedd HanesyddolCwm Elan
RhagarweiniadMae'r disgrifiad canlynol, a ddaw o'r Gofrestr Tirluniau Hanesyddol, yn nodi’r themâu hanesyddol hanfodol yn ardal tirlun hanesyddol cwm Elan.Mae’r ardal anghysbell hon yn cynnwys y rhan fwyaf o ddalgylch Afon Elan a’i his afon, Afon Claerwen, sy’n draenio ochr de ddwyreiniol Mynyddoedd y Cambria yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n cynnwys ardal eang o wastadedd uwchdir hynod ddyranedig rhwng tua 400 a 550m uwchben SO, gyda chymoedd rhiciog dwfn Elan a Chlaerwen yn darparu’r unig lwybrau o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws yr ardal hon o Gymru, sydd fel arall yn ddiarffordd ac yn wag. Syrthia lloriau’r cymoedd o dros 300m uwchben SO yn y gorllewin i 200m uwchben SO yn y dwyrain, o ble mae’r Afon Elan yn parhau i lifo am bellter byr y tu hwnt i’r ardal a ddisgrifir yma, i ymuno ag Afon Gwy i’r de o’r Rhaeadr. Mae’r ardal hon yn enghraifft wych yng Nghymru o dirwedd sy’n dangos ymdrech ddynol ar raddfa fawr, gan ei bod wedi’i newid yn sylweddol gan gynlluniau peirianneg sifil mawr a oedd yn eiddo i’r diwydiant dŵr a’r stad o dan ei reolaeth yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrifoedd. Mae’r cynlluniau yn cwmpasu adeiladu cyfres o argaeau enfawr a gweithiau atodol yr ymgymerwyd â hwy mewn dau gam pwysig rhwng diwedd y 19eg a chanol yr 20fed ganrifoedd. Roedd y cam cyntaf yn un o gyflawniadau peirianneg sifil mwyaf y 19eg ganrif drwy Brydain gyfan, a bu sôn amdanynt unwaith fel ‘wythfed rhyfeddod y byd’. Dechreuwyd adeiladu’r gyfres o argaeau, a adwaenir yn gyffredinol fel Cwm Elan, gan Gorfforaeth Birmingham, er mwyn cyflenwi dŵr i’r ddinas, ym 1893,gan ddechrau gydag Argae Caban-coch. Disgrifiwyd y strwythur enfawr hwn a’i dri is-argae mewn adroddiad swyddogol cyfoesol fel ‘of cyclopean rubble embedded in concrete and faced upstream and down-stream with shaped stones arranged in snecked courses’. Erbyn pryd eu cwblhawyd ym 1904, roedd y Gorfforaeth wedi adeiladu nid yn unig yr ystod ddisgwyliedig o dyrau hidlo a falfiau, tanciau setlo, gwelyau hidlo a thai peiriannau a generaduron oedd yn angenrheidiol er mwyn rheoli lefel y dŵr a chynnal ei lif parhaus, ond roedd hefyd wedi amgáu’r rhan fwyaf o’r tir cyfagos oddi-amgylch y cronfeydd gyda chyfres o waliau cerrig enfawr a ffiniau cymhleth er mwyn diogelu’r dŵr rhag ei lygru. Roedd uchder y cronfeydd yn golygu bod dŵr yn gallu cyrraedd cyrion Birmingham drwy ddisgyrchiant yn unig, heb gost pwmpio, ar hyd cyfundrefn anhygoel o ddyfrbontydd wedi’u claddu, sy’n 126km o hyd. Cyflogodd Corfforaeth Birmingham lafur uniongyrchol ar gyfer y cynllun a oedd yn cynnwys adeiladu rheilffordd er mwyn cludo deunyddiau o Reilffyrdd Cambria yn Rhaeadr, a bu’n rhaid adeiladu mwy na 50km o drac er mwyn gwasanaethu’r safleoedd adeiladu amrywiol. Rhwng 1906 a 1909, adeiladwyd gardd-bentref bychan, o ansawdd uchel, yn yr arddull Celf a Chrefft nodedig, oedd yn cynnwys casgliad taclus o dai ar wahân ac o dai pâr o gerrig wedi’u gosod ar hyd lan daheuol Afon Elan, wrth droed y brif argae fel cartrefi i’r rheini a fyddai’n gweithio ac yn cynnal peiriannau ac offer cymhlethfa’r argae. Roedd y pentref yn cynnwys ysgol, siop a swyddfa stad. Mae llawer o’r dirwedd urddasol hon wedi goroesi fwy neu lai yn ddigyfnewid ers troad y ganrif gan i’r stad gael ei rheoli’n llym, er mwyn cadw purdeb y dŵr, gan fyrddau a chwmnïau dŵr y naill ar ôl y llall. Mae’r dirwedd, felly, wedi osgoi nifer o’r tueddiadau diweddar o ran coedwigaeth ar raddfa fawr a gwelliannau amaethyddol eraill ar uwchdiroedd. Gwnaed darpariaeth ar gyfer ehangu’r cynllun gwreiddiol yn y dyfodol wrth adeiladu Argae Claerwen yn y cwm nesaf yn ystod 1948–52, gan wneud cymhlethfa Cwm Elan yn un o’r cynlluniau cyflenwi dŵr yfed mwyaf ym Mhrydain gyda chynhwysedd cyfunol o fwy na 100 biliwn litr o ddŵr. Ers preifateiddio’r cwmnïau dŵr, trosglwyddwyd perchenogaeth a rheolaeth Stad Cwm Elan i ymddiriedolaeth elusennol sy’n gyfrifol am ddiogelu treftadaeth unigryw’r ardal a pharhau i’w rheoli’n gydymdeimladol. Bydd hyn, gobeithio, yn cadw awyrgylch a thawelwch unigryw’r dirwedd Gwasgarwyd carneddau claddu a meini hirion trawiadol Oes yr Efydd yn helaeth ar draws yr ardaloedd uwchdir anghysbell ac anhygyrch sy’n amgylchynu’r cronfeydd dŵr, tra bod gwersyll ymdeithio Rhufeinig yn Esgair Perfedd. Yn y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal yn rhan o stad helaeth Cwmteuddwr o dir pori comin a daliadau anghysbell a oedd yn eiddo i’r Abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur, Ceredigion. Mae ffermydd ôl-ganoloesol yma hefyd, a nifer sylweddol o fwynfeydd a henebion diwydiannol o ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrifoedd. Er bod thema’r dirwedd llawer yn fwy trawiadol na’r safleoedd eilradd hyn, mae llawer o’r safleoedd hyn wedi eu diogelu cystal gan y stad fel eu bod yn ffurfio atodiad hanesyddol gwerthfawr i dirwedd sydd fel arall yn fodern. Mae gan yr ardal hefyd gysylltiadau pwysig â P. B. Shelley a fu’n mawrygu rhinweddau ei chymeriad tra’n barddoni yn Nant Gwyllt. Llunio Tirwedd Cwm ElanEr bod cynllun cronfa ddŵr Corfforaeth Birmingham yng Nghwm Elan yn gynrychioliadol o dirwedd a ddyluniwyd yn ei hanfod yn null oes Fictoria a dechrau’r cyfnod Edwardaidd, roedd wedi’i arosod ar dirwedd lawer mwy hynafol a oedd wedi datblygu dros gyfnod o lawer o filoedd o flynyddoedd. Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd arbennig hon yn yr adrannau sy’n dilyn. Amgylcheddau, Ffiniau a Chanfyddiadau Anheddu Cynnar a Defnyddio Tir Defnyddio Tir ac Anheddu yn y Canoloesoedd a’r Ôl-ganoloesoedd Cynnar Stadau â Thir a Gwelliannau Amaethyddol yn y 18fed a’r 19eg Ganrif Mwyngloddio Metel ar Ddiwedd y 18fed a’r 19eg Ganrif Cymdeithasau Llenyddol a Hynafiaethol Ffynonellau Gwybodaeth EraillGellir darganfod gwybodaeth bellach am Gwm Elan mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi. Ffynonellau gwybodaeth cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi Gwefannau eraill â gwybodaeth am Gwm Elan Ardaloedd nodweddDiffiniwyd yr ardaloedd nodwedd tir hanesyddol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad yma neu ewch i mewn i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn www.ccw.gov.uk. |