CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hannesyddol
Cwm Elan

Nodweddu'r Dirwedd Hannesyddol

Cwm Elan


CYSYLLTIADAU LLENYDDOL A HYNAFIAETHOL CWM ELAN

Mae dau blasty bonedd sef Nantgwyllt a Chwm Elan, ill dau bellach dan donnau'r gronfa ddŵr, y teuluoedd a oedd yn gysylltiedig â hwy, a’r ysbrydoliaeth a roesant i sawl bardd rhamantaidd o Sais ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg yn tra-arglwyddiaethu ar hanes cwm Elan heddiw. Cafodd y cysylltiadau llenyddol, er gwaethaf eu byrhoedledd, effaith ddofn a pharhaus ar ein gwerthfawrogiad heddiw o dirwedd cwm Elan, sydd bellach dan y llyn.

CPAT PHOTO 1539.03

Olion yr ardd furiog yn Nantgwyllt, sydd fel arfer o’r golwg dan gronfa ddŵr Caban-coch, ar wahân i gyfnodau o ddŵr isel. Ysbrydolodd adfeilion y tŷ A House Under the Water gan Francis Brett Young, a gyhoeddwyd ym 1932. CPAT Llun: 1539.03.

Fel y nodwyd yn yr adran ar y stadau â thir, William Lisle Bowles, cyfaill i Thomas Grove yr hynaf o blasty Cwm Elan, oedd y cyntaf o’r beirdd i goffáu cwm Elan mewn cerdd. Mae engrafiad ‘o lun gan Mrs. Grove’ yn gysylltiedig ag argraffiad o’i gerdd mesur moel estynedig o'r enw 'Coombe-Ellen', a gyhoeddwyd ym 1801. Yng ngeiriau Desmond Hawkins dechreuai’r gerdd ag ‘invocation to the spirit of wild untamed Nature’:

‘Call the strange spirit that abides unseen
In wilds, and wastes, and shaggy solitudes,
And bid this dim hand lead thee through these scenes
That burst immense around! By mountains, glens,
And solitary cataracts that dash
Through dark ravines.’

Daeth teulu Groves i berthyn trwy briodas i deulu Bysshe Shelley, ac roedd un ohonynt yn Uchel Siryf Sir Faesyfed ym 1784. Daeth y bardd, Percy Bysshe Shelley i gwm Elan lle arhosodd am fis yn westai i’w gefnder Thomas Grove yn y ‘neat and elegant mansion’ Cwm-Elan ym 1811. Roedd hyn sawl mis ar ôl i'r bardd ifanc gael ei anfon o Rydychen am gydawdura pamffled o’r enw The Necessity of Atheism ac ymbellhau oddi wrth ei deulu yn sgîl hynny. O gofio ei enw am fod yn ecsentrig, nid oes syndod yn y byd fod pobl yn cofio hyd 1870 am ymweliad Shelley â’r ardal.

Daeth ei farn o gwm Elan, yn bennaf mewn llythyrau a ysgrifennodd tra’n aros yno, i’r amlwg mewn dau fywgraffiad a gyhoeddwyd cyn diwedd y 19eg ganrif, ar ôl ei farwolaeth ym 1822 yn 30 oed. Mewn llythyr at gyfaill, sef Elizabeth Hitchener, ysgrifennodd o Gwm Elan yng Ngorffennaf 1811,

‘This county of Wales is excessively grand; rocks piled on each other to tremendous heights, rivers formed into cataracts by their projections an valleys clothed in woods, present an appearance of enchantment but why do they enchant, why is it more affecting than a plain, it cannot be innate, is it acquired?’

Mewn nodyn at Thomas Jefferson Hogg yn ddiweddarach yr un mis, fe ysgrifennodd am ‘waterfalls midst the umbrage of a thousand shadowy trees—form the principal feature of the scenery. I am not wholly uninfluenced by its magic in my lonely walks.’

Roedd Shelley yn ôl yn y cwm gyda Harriet, ei wraig gyntaf a’i chwaer-yng-nghyfraith yn Ebrill y flwyddyn ganlynol, a'r tro hwn, roedd yn aros yn Nantgwyllt, rhyw filltir o Gwm Elan, sef y plasty yr oedd yn gobeithio ei feddiannu. Ysgrifennodd at William Godwin fis Ebrill 1812 (rhyw ddwy flynedd yn unig cyn iddo redeg i ffwrdd â Mary Wollstonecraft),

‘We are not yet completely certain of being able to obtain the house where we now are. It has a farm of two hundred acres, and the rent is but ninety-eight pounds per annum. The cheapness, beauty, and retirement make this place in every point of view desirable. Nor can I view this scenery — mountains and rocks seeming to form a barrier round this quiet valley, which the tumult of the world may never overleap.’

Mae llythyr pellach yn disgrifio’r fferm ar y pryd fel un o ryw 200 erw, 130 erw yn dir âr a’r gweddill yn goed ac yn fynydd. Ar Fai 1af, ysgrifennodd, ‘Give me Nantgwillt, fix me in this spot, so retired, so lovely, so fit for the seclusion of those who think and feel. Fate, I ask no more!’

Yr unig sôn a geir am Gwm Elan ar fydr yw cerdd o'r enw 'The Retrospect, Cwm Elan, 1812' sy'n dyddio o'r flwyddyn honno. Er ei bod yn sôn yn bennaf am faterion eraill, mae ynddi hefyd sawl darn disgrifiadol.

‘Ye jagged peaks that frown sublime,
Mocking the blunted scythe of Time,
Whence I would watch its lustre pale
Steal from the moon o’er yonder vale:
Though rock, whose bosom black and vast,
Bared to the stream’s unceasing flow,
Ever its giant shade doth cast
On the tumultuous surge below’

Ceisiodd Shelley sicrhau prydles ar y stad ar gyfer ‘trefedigaeth fechan o eneidiau goleuedig’ ond er gwaethaf trafodaethau maith ni ddigwyddodd hyn. Er gwaethaf y ffaith ei fod yn gwerthfawrogi natur ddiarffordd a phrydferth cwm Elan, cofiai amddifadedd cymdeithasol yr ardal. Ar ei ymweliad cyntaf â Chwm Elan ym 1811, blinwyd ef yn feddyliol ar ôl cyfarfod cardotyn a hawliai ei fod wedi dioddef oherwydd rhai gwell eu byd. Siaradai Shelley hefyd braidd yn waradwyddus am y gymuned leol: ‘I have been to church to-day: they preach partly in Welsh, which sounds most singularly. A christening was performed out of an old broken slop-basin’ ac mewn lle arall ‘I am all solitude, as I cannot call the society here an alternative to it’, ac yn rhywle arall mae'n sôn am lythyrau a aeth ar goll a ‘the pillage of the Rhayader mail’. Yn ddiweddarach, ym 1812, ar ôl gadael cwm Elan, ysgrifennodd y canlynol am Gymru, er nad efallai am Sir Faesyfed yn benodol:

‘It is the last stronghold of the most vulgar and commonplace prejudices of aristocracy. Lawyers of unexampled villany rule and grind the poor, whilst they cheat the rich. The peasants are more serfs, and are fed and lodged worse than pigs. The gentry have all the ferocity and despotism of ancient barons, without their dignity and chivalric distain of shame and danger.’

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i arwyddocâd diwylliannol gwerthfawrogiad Shelley o natur ddiarffordd a phrydferth cwm Elan cyn diwedd y 19eg ganrif, yn nhraethawd William Rossetti, aelod o’r Frawdoliaeth Gyn-Raffaëlaidd, sef ‘Shelley at Cwm Elan and Nantgwilt’, yn The Vale of Nantgwilt: A Submerged Valley gan Eustace Tickell. Cyhoeddwyd hwn ym 1894, yn ystod cyfnod adeiladu cronfa ddŵr cwm Elan.

Tynnid sylw at hynafiaethau Elenydd a’r ardal o’i hamgylch yn gynnar yn y 19eg ganrif, mewn dull a oedd yn cyfuno'r prydferth a'r rhamantus ag ymgais i lunio dehongliadau mwy rhesymegol a hanesyddol. Yn ail gyfrol ei History of the County of Brecknock, a gyhoeddwyd ym 1809, mae Theophilus Jones yn mentro dyfalu pwrpas nifer o’r hynafiaethau ar ran ddeheuol Elenydd ym mhlwyf Llanwrthwl.

‘A great part of this parish consists of lofty hills, bogs and commons; among the first is the Drygarn or Derwydd garn, (Mount Druid or Druid’s rock) . . . . On the top of this are many Carnau or Carneddau, large heaps of stones, as there were also upon a less elevated eminence not far from hence, called Gemrhiw [Gamriw].

On the road from Llandovery and Llangamarch to Rhayader, are seen stones placed irregularly in the ground, which have given a common, partly in this parish and partly in Llanafan, the name of Rhôs saith maen, or Seven-stone common; whether they are sepulchral, military or druidical remains, is not known, but from the name of Rhos y beddau, the common of the graves, not far from hence, nearer to the river Wye, it should seem that they commemorate a battle, most likely that of Llechryd and the slaughter in the flight of Riryd and Cadwgan.’

Yn yr un modd, fe geisiodd General History of the County of Radnor gan Jonathan Williams, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth ym 1859, gysylltu yr hyn sydd fwy na thebyg yn heneb claddu gynhanesyddol ym mhlwyf cyfagos Cwmteuddwr â digwyddiadau hanesyddol yr oeddent yn fwy cyfarwydd â hwy:

‘Near to Gwaith-y-mwynau there is a considerable tumulus, or barrow [probably the monument now known as Clap yr Arian, above the head of the Nantgwynllyn valley] . . . . from thence may distinctly be seen the Castle of Rhayader, to which fortress therefore, it must have served as an outpost to give intelligence to the garrison of the approach of an enemy.’

Tynnodd Jonathan Williams sylw hefyd, fel y gwelsom uchod, at olion maenor fynachaidd yn Cwmteuddwr, a oedd yn gysylltiedig â’r abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur.

Yn y 1840au, cyffrowyd yr Arglwyddes Charlotte Guest, cyfieithydd y Mabinogion, gymaint gan y sylweddoliad bod sôn am y garnedd a elwir yn Garn Gafallt mewn llawysgrif o’r 10fed ganrif, sef Historia Brittonum gan Nennius, a oedd yn cofnodi chwedlau cynnar a oedd yn gysylltiedig â'r chwedl Arthuraidd, fel ei bod wedi ‘prevailed upon a gentleman to undertake a pilgrimage’ . . . i gopa Cefn Carn Cavall. Cofnododd y sawl a ysgrifennai ati, sy’n parhau i fod yn anhysbys, yr hanes hwn am ei alldaith sy’n cyfuno rhamantiaeth a dehongliad rhesymegol o’r cysylltiad ag un o gŵn Arthur.

CPAT PHOTO 03-c-0687

Golwg o’r awyr o Garn Gafallt. Llun: CPAT 03c0687.
‘Carn Cavall, or, as it is generally pronounced, Corn Cavall, is a lofty and rugged mountain, in the upper part of the district anciently called Buellt, now written Builth, in Breconshire. Scattered over this mountain are several cairns of various dimensions, some of which are of very considerable magnitude, being at least a hundred and fifty feet in circumference. On one of these carns may still be seen a stone, so nearly corresponding with the description in Nennius, as to furnish strong presumption that it is the identical as to furnish strong presumption that it is the identical object referred to. It is near two feet in length, and not quite a foot wide, and such as a man might, without any great exertion, carry away in his hands. On the one side is an oval indentation, rounded at the bottom, nearly four inches long by three wide, about two inches deep, and altogether presenting such an appearance as might, without any great strain of imagination, be thought to resemble the print of a dog’s foot . . . As the stone is a species of conglomerate, it is possible that some unimaginative geologist may persist in maintaining that this footprint is nothing more than the cavity, left by the removal of a rounded pebble, which was once embedded in the stone.’

Manylwyd ar gysylltiadau mynachaidd Elenydd a chwm Elan yn y 1880au gan ymchwil Stephen Williams, y pensaer o Sir Faesyfed a gyfrannodd bennod o’r enw ‘The Grange of Cwmteuddwr’ i lyfr Eustace Tickell, The Vale of Nantgwilt, a gyhoeddwyd ym 1894. Byddai Williams a Tickell ill dau yn gweithio ar gynllun cronfa ddŵr cwm Elan, a Tickell oedd y peiriannydd sifil a oedd yn gyfrifol am adeiladu argae Penygarreg. Roedd hefyd yn awdur galluog ac yn arlunydd. Mae’r brasluniau niferus yn ei lyfr am gwm Elan cyn i’r cwm gael ei foddi gan y gronfa ddŵr, gan gynnwys golygfeydd o Gapel Nantgwyllt, a’r tai bonedd yn Nantgwyllt a Chwm Elan, yn dangos priodweddau prydferth y dyffryn. Amcan llyfr Tickell oedd

‘commemorate scenes in one of the most charming valleys in Great Britain. Scenes which are soon to be lost for ever, submerged beneath the waters of a series of lakes, which, by a colossal engineering undertaking, are about to be constructed for the purpose of supplying water to the city of Birmingham . . . Beautiful lakes they will doubtless be, winding up the valleys with sinuous margins, wooded promontories such as are seen on Derwentwater, frowning crags and screes which will remind one of Wastwater. But their construction dooms many a picturesque and interesting spot to destruction, and it would be indeed a pity if they should be allowed to pass away without some record, however inadequate.’

Ychydig o bobl ddeuai i ymweld â’r cwm, oherwydd, fel y sylwodd Tickell ‘It lies hidden away amongst the mountains and leads to nowhere. . . . The valley is visited by few, there being no inn for the tourist to put up at’. Roedd Tickell yn ymwybodol o ba mor anochel oedd cynnydd, fodd bynnag, ac wrth gyfrif y gost, dywedodd ‘it must be remembered that, sad as it is, it would be difficult to find in this island a place where more than 70 square miles of land could be taken for a public purpose without dispossessing very many more people, destroying many more homes.’

Yn yr un llyfr, fe gyflwynodd William Rossetti awyrgylch mwy melodramatig, ag Ophelia eiconaidd Millais yn weledigaeth iddo efallai, gan ddwyn ein sylw at thema a fyddai’n cael ei hailadrodd dro ar ôl tro yn nifer o nofelau rhamantaidd yr 20fed ganrif.

‘Harriet Shelley died by her own deed in the Serpentine in 1816, Shelley in the Mediterranean waves in 1822; and now a watery doom effaces the scenes of their short-lived love, Nantgwilt and Cwm Elan. A world of waters, a world of death.’

Roedd y cysylltiadau llenyddol hyn yn enwog pan ddechreuodd y gwaith ar gynllun cronfa ddŵr Birmingham, ac mae’n debyg eu bod wedi cael dylanwad cyfrwys ar sawl agwedd hardd ar ei dyluniad.

(yn ôl i’r brig)