CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Pen Isaf Dyffryn Elwy


CPAT PHOTO 83-C-223

Mae'r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Nodir terfynau’r tirwedd cynwysedig hwn gan geunant yr Afon E lwy wrth iddo amgy l c hy nu Cefn Meiriadog, esgair isel ar ymy l o n dwyreiniol Bryniau’r Rhos yng ngogledd Sir Ddinbych,ac fe’i l l eolir i’r de orllewin o Lanelwy ar ochr orllewinol Dyffryn Clw y d . Mae llawr cul y dyffryn yn esgyn yn raddol o tua 30m uwchben SO yn y dwyrain i tua 50m uwchben SO yn y gorllewin,tra bod ei lethrau coediog trwchus yn esgyn yn serth neu yn glogwynog mewn mannau wrth iddynt dorri drwy’r bryniau a’r esgeiriau isel o amgylch sydd tua 100 a 150m uwchben SO.

Mae’n debyg y ffurfiwyd y dyffryn gan wyriad rhewlifol yr Afon Elwy, o bosibl yn ystod y cyfnod Pleistoseniadd Canol, cyn 250,000 mlynedd yn ôl.Ceir sawl clogwyn calch serth ar hyd ochr gogledd ddwyreiniol y dyffryn ac mae’r ardal o amgylch Cefn yn cynnwys un o’r grwpiau o ogofâu Palaeolithig a diweddarach a’r llochesau dan graig pwysicaf ym Mhrydain sy’n cynnwys gwaddodion daearegol ac archaeolegol Cwaternaidd o bwys rhyngwladol.Mae’r ogofâu yn cynnwys Pontnewydd,Cefn,Cae Gronw, Galltfaenan a Brasgyll.

Erbyn y 1530au roedd yr ogofâu yn nyffryn Elwy eisoes yn enwog ac fe’u nodir gan yr hynafiaethwr John Leland ar ei daith o 1536–39,ond nid archwiliwyd adnoddau cudd eu harwyddocâd archaeolegol tan 1830,pan ymwelodd y Parchedig Edward Stanley (Esgob Norwich yn ddiweddarach) â Hen Ogof Cefn a nododd ‘human as well as animal bones,together with stags horns,and I believe, some remains of ancient weapons, have been found’.Daliodd Stanley ati i archwilio Ogof Newydd Cefn,gan wneud canfyddiadau tebyg,ac erbyn yr 1870au roedd yr Athro Boyd Dawkins,anthropolegydd ac archaeolegwr amlwg iawn yn Oes Fictoria, wedi hysbysu’r darganfyddiadau yn nwy ogof y Cefn,ac ym Mhontnewydd,ble daeth ymchwiliadau gan yr Athro McKenny Hughes o hyd i lawer o weddillion anifeiliaid a gweddillion dynol ac offerynnau cerrig cysylltiedig.

Mae’r ogof ym Mhontnewydd,sydd wedi dod yn enwog yn ddiweddar yn sgîl canfod gweddillion Neanderthaliaidd yno, yn cynrychioli’r safle mwyaf gogledd orllewinol o’r cyfnod hwn sy’n hysbys yn Ewrop, rhai o’r gweddillion dynol cyntaf yn Ynysoedd Prydain a’r preswyliad cyntaf sy’n hysbys yng Nghymru. Mae gwaith cloddio yn yr ogof gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru o’r 1970au i’r 90au wedi canfod amrywiaeth eang o arteffactau cerrig ac esgyrn anifeiliaid ac, yn bwysicaf oll,dannedd dynol a darnau o esgyrn sawl unigolyn sy’n dangos bod yr hil ddynol yn defnyddio’r ogof hon tua chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r gyfres o waddodion yr ogof a oedd yn cynnwys y dystiolaeth bwysig a diddorol hon yn gymhleth,ond ymddengys bod preswyliad yn yr ogof ar ddiwedd y cyfnod cynhesach,neu ar ddechrau’r rhan oer ddilynol yn ystod Oes yr Iâ.Dyddiwyd y gwaddodion yn wyddonol i rywbryd tua 225,000 mlynedd yn ôl. Mae estyniadau ac enciliadau eraill o iâ wedi ailfodelu topograffeg y dyffryn,ac mae canlyniadau’r cloddio yn awgrymu bod safle wyneb y graig a cheg yr ogof ar adeg y preswyliad gryn dipyn ymhellach ymlaen na’u safle presennol.Buasai’r rhan fwyaf o dystiolaeth am breswyliad y safle wedi diflannu o ganlyniad i hindreuliad wyneb y graig,yn enwedig tystiolaeth o geg yr ogof, ond beth bynnag ymddengys y cafodd y gwaddodion a ganfuwyd yn y rhan o’r ogof sydd wedi goroesi eu hysgubo i mewn fel dylifiadau mwd ac yn ffodus fe ddygodd ac fe warchododd ddeunydd gweddilliol a oedd yn deillio o breswyliad y safle.

I’r gogledd o Ogof Pontnewydd,ceir olion cyfundrefnau caeau o’r Canol Oesoedd ar ffurf glasleiniau sydd yn rhoi arlliw o economi amaethyddol canoloesol yr ardal,ac yng nghysgod y llethr coediog yn union uwchben llawr y dyffryn i’r dwyrain ceir adfeilion ffynnon sanctaidd ganoloesol a chapel y Ffynnon Fair sy’n dystiolaeth o fywyd cyfoes crefyddol yr ardal.

Mae’r dyffryn heddiw yn cyflwyno tirwedd o ddiddordeb hanesyddol cydlynus,ac er ei fod yn fach o’i gymharu â’r ardaloedd tirwedd eraill a nodir yn y Gofrestr hon,mae’n syndod o gyflawn,oherwydd yn ogystal â’r dystiolaeth archaeolegol gynnar bwysig iawn a geir yn yr ogofâu,mae ffurfiau’r tir eu hunain yn darparu’r allwedd i ddehongli hanes gwaddodol hir yr ardal ynghyd â rhoi cipolwg pryfoclyd o amgylchedd y preswylydd cyntaf o Gymru.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad, hwn neu cysylltwch â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru ' ar www.ccw.gov.uk.