CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg
Yn ôl i’r disgrifiad

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg: Cefn Cadlan – Cefn Sychbant – Mynydd-y-glôg
Ffotograffau o'r ardal nodwedd


CPAT PHOTO 2509-.32 Cefn Cadlan o'r gogledd-orllewin, gyda charnedd gladdu arunig o Oes yr Efydd yn nyffryn Hepste yn y tu blaen. Llun: CPAT 2509-32.

CPAT PHOTO CS07-06-29 Wal caeau creiriol ar ochr chwith y pellter canol ar lethrau deheuol Cefn Cadlan, o'r de. Llun: CPAT CS07-06-29.

CPAT PHOTO 08-C-71 Golygfa o'r awyr o weithiau segur chwarel galchfaen a hen odynau calch ychydig i'r gogledd o Gadair Fawr, o'r gorllewin mewn tirwedd wedi'i chreithio â llyncdyllau. Yn y cefndir ar y dde mae'r briffordd (A4059) rhwng Penderyn ac Aberhonddu a ddechreuodd fel ffordd dyrpeg ar ddechrau'r 19eg ganrif. Llun: CPAT 08-C-71.

CPAT PHOTO 08-C-63 Golygfa o'r awyr o fferm fechan ar ymyl dyffryn nant i'r gogledd o Nant-moel-Uchaf, ar ochr ddeheuol Mynydd-y-glog, o'r de. Mae'r fferm, sydd o bosibl yn deillio o ddiwedd y cyfnod canoloesol neu ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, eisoes i'w gweld yn segur ar fap yr Arolwg Ordnans ym 1885. Llun: CPAT 08-C063.