CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol
Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg
Yn ôl i’r disgrifiad

Nodweddu'r Dirwedd Hanesyddol

Dwyrain Fforest Fawr and Mynydd-y-glôg: Garreg-fawr
Ffotograffau o'r ardal nodwedd


CPAT PHOTO 2509-106 Caeau amgaeedig yn dyddio o bosibl o ddiwedd y cyfnod canoloesol neu ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, wedi'u diffinio gan gloddiau carega a ffensys modern pyst-a-gwifrau ar ochrau dwyreiniol rhan uchaf dyffryn Mellte, islaw Gwaun Cefnygarreg, yn edrych tua'r gogledd. Llun: CPAT 2509-106.

CPAT PHOTO 2509-111 Wal o gerrig sychion sy'n dyddio, yn ôl pob tebyg, o'r cyfnod o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau'r 19eg ganrif ar hyd ffin y caeau ar ochrau dwyreiniol rhan uchaf dyffryn Mellte, a'r porfeydd ucheldirol wedi'u cau ar Waun Cefnygarreg, gydag ardal o goetir conwydd a gwympwyd yn ddiweddar yn y tu blaen ar y chwith. Llun: CPAT 2509-111.

CPAT PHOTO 08-C-19 Golygfa o'r awyr o gaeau a ffermydd yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol ym Mhen-fathor, yn uchel ar ymylon gorllewinol dyffryn Mellte, o'r gorllewin. Gellir gweld rhostir Mynydd y Garn heb ei gau y tu hwnt. Dengys rai o'r ffermydd a'r ffiniau caeau ar fap stad yr Anrhydeddus George Venables Vernon, â'r dyddiad 1776. Isafonydd afon Dringarth yw'r nentydd ar y chwith; mae Cronfa Ddwr Ystradfellte, a adeiladwyd i gyflenwi dwr i Gastell-nedd rhwng 1907 a 1914, ar flaen yr afon hon. Gorwedda'r trac sy'n rhedeg rhwng y ddwy fferm yn y pellter canol ar gwrs y rheilffordd a oedd yn cyflenwi deunyddiau adeiladu yn ystod cyfnod adeiladu'r gronfa ddwr, ond sydd bellach yn segur. Llun: CPAT 08-C-19.

CPAT PHOTO 08-C-26 Caeau ger fferm Garreg-Fawr, i'r chwith, ar ymyl ogleddol dyffryn Mellte o'r de-orllewin, gyda'r sgarp serth a sgrïau ar hyd ymyl orllewinol brigiad tywodfaen Gwaun Cefnygarreg yn y cefndir ar y dde. Gellir gweld cip ar glwstwr o chwareli bach ac odynau calch, yn dyddio yn ôl pob tebyg o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif, ar y llethr y tu ôl i fferm Garreg-fawr. Llun: CPAT 08-C-26.