CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Sportsman's Arms
Cymuned Llansannan, Conwy a Chymuned Nantglyn, Sir Ddinbych
(HLCA 1109)


CPAT PHOTO 01c192

Amgaead o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ar hen dir comin a chan gynnwys tafarn ar hyd yr hen ffordd dyrpeg o'r 19eg ganrif ar ymyl ogleddol y rhos.

Cefndir hanesyddol

Mae'r ardal o fewn plwyfi degwm 19eg ganrif, sef Henllan a Nantglyn. Ychydig o waith maes archeolegol diweddar a wnaed yn yr ardal.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Tua 2.5km² o laswelltir wedi ei wella ar ymyl ogleddol Mynydd Hiraethog, rhwng 340 a 500 o fetrau dros y Datwm Ordnans yw'r ardal nodwedd. Mae'n cynnwys copa Gorsedd Bran ac yn wynebu i'r gogledd a'r dwyrain yn bennaf. Mae nentydd sy'n llifo i'r gogledd i mewn i Afon Uchaf a Nant y Lladron, sef llednentydd system afon Elwy, yn draenio'r ardal.

Mae cyfres o dwmpathau claddu o'r Oes Efydd yn tystio i weithgarwch cynnar yr ardal, ac maent yn rhan o fynwent tomenni ar Orsedd Bran, gerllaw'r blanhigfa goed fodern ar ochr ddwyreiniol yr ardal. Mae'r tomenni i'w gweld o'r tir is tuag at Fylchau, i'r gogledd, ac mae'n ymddangos eu bod wedi eu hadeiladu gan gymunedau cynhanesyddol penodol a oedd yn defnyddio ffynonellau iseldir ac ucheldir yr ardal.

Mae'n bosibl bod anheddu wedi'i gyfyngu i anheddiad sy'n debygol o fod yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif, sef Tan-bryn-trillyn a oedd wedi ei ailenwi yn dafarn y Sportsman's Arms erbyn y 1870au. Mae'r dafarn, sydd 455m dros y Datwm Ordnans, yn honni mai hi yw'r 'Dafarn Uchaf yng Nghymru'. Mae'r anheddiad carreg, sydd bellach wedi'i rendro ac yn cynnwys sied troliau yn y cefn, yng nghanol cyfres o gaeau petryal amlwg â chloddiau sydd wedi eu gosod yn gymesur rhwng y ffordd dyrpeg o Bentrefoelas i Ddinbych o'r 19eg ganrif a ffin plwyfi Henllan a Llansannan (mae'r ffordd fodern wedi ei dargyfeirio fel ei bod yn rhedeg heibio i'r dafarn), ac mae'n bosibl ei bod wedi ei sefydlu'n benodol yn dafarn goets fawr â thir pori o'i hamgylch yn gynnar yn y 19eg ganrif i wasanaethu teithwyr, twristiaid a helwyr, a oedd yn gysylltiedig â'r llety hela o'r 20fed ganrif sydd bellach yn adfeilion, sef Gwylfa Hiraethog, mewn rhostir ychydig i'r gorllewin. Mae ffiniau eraill y caeau a ffiniau min y ffordd yn yr ardal yn rhai pyst-a-gwifrau yn bennaf. Mae llawer o chwareli bychain ar ymyl y ffordd yn dyddio o gyfnod adeiladu'r ffordd dyrpeg.

Ffynonellau


Dodd 1925

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.