CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog: Cronfa Ddwr Alwen
Cymuned Nantglyn Sir Ddinbych, a Chymunedau Cerrigydrudion, Pentrefoelas a Llansannan, Conwy
(HLCA 1111)


CPAT PHOTO cs012908

Cronfa ddwr gynharach o'r 20fed ganrif ar dirwedd wedi ei hamgáu o'r canol oesoedd a chyfnod cynharach.

Cefndir hanesyddol

Ardal plwyfi degwm y 19eg ganrif Cerrigydrudion, Nantglyn, Tiryrabad-isaf (Pentrefoelas) a Henllan. Fe foddodd cronfa ddwr o ddechrau'r 20fed ganrif y caeau isel a oedd yn perthyn i ffermydd Ty-isaf, Creigiau'r-bleddiau a Hafod-y-llan-uchaf ar ochr ogleddol afon Alwen a'r rhostir amgaeëdig ar ochr ddeheuol yr afon yn ogystal â nifer o bontydd troed a chorlannau.

Nodweddion allweddol y tirlun hanesyddol

Mae'r gronfa ddwr, a adeiladwyd rhwng 1911 ac 1916 yn cwmpasu tua 1.7km² mewn dyffryn cymharol gul ar ymyl ddeheuol Mynydd Hiraethog ar uchder o tua 360m dros y Datwm Ordnans uwchlaw'r argae a rhyw 330 islaw'r argae. Ffurfiwyd y gronfa ddwr trwy gronni Afon Alwen, sef un o lednentydd system afon Dyfrdwy.

Mae olion gweithgarwch cynnar yn yr ardal i'w gweld mewn cylch cerrig neu gylch cytiau hanesyddol a blaen gwaywffon o'r Oes Efydd. Daeth y ddau i'r golwg yn ystod cyfnod adeiladu'r gronfa ddwr.

Codwyd yr argae crom o flociau concrid â falfdy yn y dull Eidalaidd rhwng 1911 a 1916 i gyflenwi dwr i Benbedw ond bellach mae'n cyflenwi dwr i ogledd-ddwyrain Cymru. Ymhlith yr elfennau cyfoes eraill islaw'r argae mae'r ty hidlo hyn o frics wedi'i rendro islaw'r gweithfeydd modern â ffrâm ddur, olion y barics a godwyd i'r adeiladwyr, teras o chwech o dai brics i'r gweithwyr, a nodweddion eraill yn y dirwedd o amgylch y gronfa ddwr ei hun, gan gynnwys gatiau haearn bwrw a ffensys haearn. Fel Cronfa Ddwr Llyn Brenig, mae'n ffurfio adnodd cyfoes pwysig ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys canolfan hyfforddi sgïo dwr, mannau pysgota, teithiau cerdded a mannau picnic.

Ffynonellau


Cofnod o Safleoedd a Henebion YACP;
Davies 1929;
Hollett 2000;
Hubbard 1986;
Lynch 1993.

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.