CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Canol Dyffryn Gwy


Tirluniau Gweinyddol

Credir fod ardal y tirlun hanesyddol yn rhan o diriogaeth y Silures, llwyth cyn-Rufeinig oedd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'n debyg fod y drefn lwythol yn y cyfnod hwn yn cael ei gynrychioli yn lleol gan nifer o fryngaerau ar hyd a lled yr ardal, gan gynnwys y rhai ym Mhen-rhiw-wen a Hillis ar ochr orllewinol yr ardal, a Phendre a Chastell Dinas tua'r de. Fe goncrwyd yr ardal gan y byddinoedd Rhufeinig ar ddiwedd y ganrif gyntaf, a chynrychiolir cyfnod y goncwest Rufeinig gan un neu ddwy gaer dros dro ar lan ogleddol afon Gwy i'r de o Gleirwy. Mae'n debyg fod yr ardal wedi cael ei threchu ac wedi dod yn rhan o'r ymerodraeth Rufeinig tua 70OC, ac wedi aros dan reolaeth y Rhufeiniaid hyd at ddechrau'r 5ed ganrif.

Erbyn dechrau'r oesoedd canol roedd yr ardal i'r gogledd o afon Gwy yn rhan o dywysogaethau Cymreig cynnar y daethpwyd i'w hadnabod fel Elfael a Rhwng Gwy a Hafren, ac roedd yr ardal i'r de o'r afon yn rhan o deyrnas Brycheiniog. Roedd Brycheiniog wedi ymddangos fel un o'r teyrnasoedd Brythonig cynnar yng Nghymru erbyn yr 8fed ganrif, ac mae'r traddodiadau cyn-Normanaidd yn awgrymu cysylltiad rhwng brenhinoedd Brycheiniog a Thalgarth ar y pryd. Mae'r chwedlau sylfaenol hyn o'r 11eg ganrif yn nodi mai Tewdrig oedd brenin y deyrnas tua'r 5ed ganrif efallai. Roedd Tewdrig, oedd yn hawlio ei fod yn ddisgynnydd Rhufeiniwr bonheddig, yn byw mewn lle o'r enw Garth Matrun, a chadarnheir mai'r garth, sef esgair y mynydd, yw'r bryn amlwg o'r enw Mynydd Troed, i'r de o Dalgarth, ac mai Garth Matrun yw Talgarth ei hun, 'talcen y garth' islaw Mynydd Troed. Yn ôl y traddodiad, fe sefydlwyd teyrnas Brycheiniog gan gymeriad chwedlonol o'r enw Brychan, wyr i Tewdrig, yn ôl pob golwg drwy ehangu teyrnas ei daid, a chreu canolfan weinyddol yn Nhalgarth yn nyffryn ffrwythlon afon Llynfi. Roedd Llyswen hefyd yn ganolfan o awdurdod seciwlar ar hyd yr echel hon yn y cyfnod cyn-goncwest, gyda chysylltiadau hanesyddol â Rhodri Mawr yn y 9fed ganrif.

Ymddengys fod gwrthdaro wedi bod rhwng teyrnas Brycheiniog a theyrnas newydd Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru erbyn y 9fed ganrif, a bod arweinwyr Brycheiniog yn ddiweddarach yn ystod y ganrif wedi ceisio cymorth y Brenin Alfred i'w hamddiffyn. Fe barhaodd y ddibyniaeth hon ar goron Lloegr hyd at y 10fed ganrif, a bu brenhinoedd Brycheiniog yn mynychu llys brenhinol Lloegr yn y 930au, er fod y deyrnas erbyn diwedd y 10fed ganrif yn cydnabod goruchafiaeth teyrnas y Deheubarth yn ne-orllewin Cymru. Ar ddechrau'r 10fed ganrif, fe unwyd teyrnasoedd Gwynedd a Phowys, gan gynnwys Rhwng Gwy a Hafren, o dan arweiniad Hywel Dda. Yn dilyn concwest y Deheubarth yn ystod teyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn, tua canol yr 11eg ganrif, teyrnas Gwynedd oedd yn rheoli is-deyrnasoedd Brycheiniog a Rhwng Gwy a Hafren, dros dro.

Fe chwaraeodd dyffryn Gwy, yn yr un modd â dyffrynnoedd afon Wysg, Hafren a Dyfrdwy, ran bwysig yng nghoncwest Normanaidd dwyrain Cymru. Fe goncrwyd teyrnas Brycheiniog gan un o arglwyddi'r mers, Bernard de Neufmarché yn yr 1080au a'r 1090au. Pan drechodd Neufmarché Rhys ap Tewdwr, oedd yn rheoli De Cymru ac yn uwch-arglwydd ar Frycheiniog, roedd hynny'n achlysur o bwys mawr, ac fe'i diffiniwyd gan groniclwyr cyfoes fel 'diwedd oes y brenhinoedd yng Nghymru'. Wedi hynny, fe rannwyd Canol Dyffryn Gwy yn arglwyddiaethau llai a'u cyflwyno'n rhodd i farchogion oedd wedi rhoi gwasanaeth i arglwydd y mers, a hwythau yn eu tro yn rhoi tir i fewnfudwyr o Loegr. Roedd arglwyddiaethau Aberhonddu, Blaenllynfi, Talgarth, Y Clas ar Wy, Dinas ac Elfael ymhlith y tiriogaethau newydd a grëwyd ar ryw adeg neu'i gilydd yn y wlad a goncrwyd. Am gyfnod bu Elfael, rhan o hen diriogaeth Rhwng Gwy a Hafren, yn naliadaeth mân-benaethiaid Brythonaidd o dan warchodaeth yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth, ond yn y diwedd daeth Elfael hefyd yn rhan o deyrnas arglwyddi'r mers, a oedd yn ddarostyngedig i frenin Lloegr ond a oedd ar yr un pryd yn rheoli darn o dir ar wahân rhwng Cymru a Lloegr oedd yn annibynnol ar strwythur sefydliadol a chyfreithiol brenhiniaeth Lloegr.

Fe gyflwynodd Neufmarché Y Gelli i William Revel, y gwr a adeiladodd y castell pridd cyntaf yn ôl pob tebyg yn Y Gelli, castell a fyddai'n parhau i fod yn un o'r elfennau pwysicaf yn y gwaith o reoli'r diriogaeth oedd newydd ei choncro. Fe rannwyd llawer o weddill yr iseldir yn fân arglwyddiaethau neu'n rhoddion i farchogion y byddai eu gwasanaeth yn parhau yn ddyledus, gan gynnwys cyfeillion Normanaidd neu aelodau o'r teulu megis Walter Clifford, a dderbyniodd stad fawr ym Mronllys, ac i denantiaid o'u hystadau Seisnig a ymfudodd i'r ardal wedi hynny.

Erbyn y 13eg ganrif, roedd amryw o'r arglwyddiaethau o fewn ardal y tirlun hanesyddol, fel nifer o arglwyddiaethau eraill y mers, wedi cael eu rhannu yn unedau Cymreig a Seisnig a oedd yn cydnabod y gwahaniaeth diwylliannol a oedd wedi parhau i wneud y mewnfudwyr Seisnig yn wahanol i'r boblogaeth gynhenid Gymreig. Cafodd amryw o faenorau ffiwdal yn dilyn cynllun y rhai Seisnig eu creu ar y tir isel a oedd yn haws ei drin, a phatrymau anheddiad a defnydd tir brodorol yn ymddangos ar y bryniau oddi amgylch. Roedd y brodoriaethau Cymreig a Seisnig a ymddangosodd yn arglwyddiaethau Talgarth a'r Gelli ar ôl y goncwest Normanaidd, yn allweddol i barhau'r gwahaniaethau rhwng arferion Cymreig a Seisnig o ran y gyfraith, etifeddu, dal tir, gweinyddiaeth sifil, dyledion a rhenti hyd at ymhell i mewn i'r 16eg ganrif.

Rhan gymharol fechan a gymerwyd gan diriogaethau Canol Dyffryn Gwy yn rhyfeloedd annibyniaeth diwedd y 13eg ganrif a hefyd yng ngwrthryfel Glyndwr ym mlynyddoedd cynnar y 15fed ganrif. Wedi'r Ddeddf Uno ym 1536, fe rannwyd yr ardal rhwng arglwyddiaethau Aberhonddu, Blaenllynfi a'r Gelli, a lyncwyd gan sir newydd Brycheiniog, ac arglwyddiaeth Elfael, a ddaeth yn rhan o sir newydd Maesyfed. Felly fe rannwyd canol dyffryn Gwy rhwng cantref Castell Paen yn Sir Faesyfed i'r gogledd a chantref Talgarth yn Sir Frycheiniog yn y de. Arhosodd rhan ddeheuol plwyf Y Clas ar Wy, i'r de o afon Gwy, yn rhan o Sir Faesyfed hyd at ganol y 19eg ganrif. Wedi hynny, cafodd ei uno â Thregoed a Felindre i greu plwyf sifil newydd Tregoed a Felindre. Fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 fe unwyd Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed o fewn sir newydd Powys.

Ceir amrywiaeth mawr yn y math o bridd o fewn ardal y tirlun hanesyddol, yn dibynnu ar hydroleg, y ddaeareg o dan yr wyneb a phresenoldeb dyddodion drifft neu lifwaddod. Ar wahân i rannau lle mae'r draeniad yn cael ei rwystro gan briddoedd stagnoglei cambig, yn uchel ar droed tarren y Mynydd Du, mae priddoedd brown sy'n draenio'n weddol dda yn gorchuddio'r rhan fwyaf o droedfryniau'r Mynydd Du a'r bryniau is i'r gogledd a'r gorllewin, ac mae hyn wedi caniatáu i'r tir gael ei drin ar gryn uchder uwchben lefel y môr. Mae mwy o amrywiaeth lleol mewn mathau o bridd ar hyd gwaelod dyffrynnoedd Llynfi a Gwy, ac yn ei hanfod mae hyn yn dibynnu a ydynt yn gorwedd ar bridd cleiog, dyddodion graean neu lifwaddod o'r afon. Mae'r rhan fwyaf o'r priddoedd ar y tir is yn hawdd eu gweithio, er fod llifogydd a dwr sy'n sefyll ar rai adegau o'r flwyddyn yn effeithio arnynt.

Dim ond ychydig o ddadansoddiad paleo-amgylcheddol a wnaed ar ddyddodion o fewn ardal y tirlun hanesyddol ei hun, ond mae'r gwaith a wnaed yng Nghomin Rhosgoch a nifer o safleoedd tir uwch a gwaelod dyffryn yn y rhanbarth yn dangos, erbyn tua 6000 CC y byddai'r ardal wedi ei gorchuddio â choedlannau derw, gyda llawer o goed palalwyf, llwyfenni, ynn, bedw, cyll ac ysgaw yn digwydd ar raddfa leol, a'r coedlannau'n ymestyn i uchder o 600m efallai uwchlaw Datwm yr Ordnans. Ceir arwyddion fod y gorchudd coediog naturiol hwn eisoes yn cael ei effeithio gan weithgarwch dynol erbyn y cyfnod Mesolithig, a cheir tystiolaeth o drin tir lleol ar gyfer cynhyrchu grawn yn y cyfnod Neolithig cynnar, o tua 4000 CC ymlaen. Bu clirio cyson ar y coed drwy gydol y cyfnodau cynhanesyddol, y cyfnodau Rhufeinig a chanol oesol, ac mae'n edrych yn debyg fod y gorchudd coed yn edrych rywbeth yn debyg i heddiw erbyn cyfnod y canol oesoedd diweddar, gyda darnau o goedlannau collddail cymysg lled-naturiol wedi'u cyfyngu i'r llechweddau mynyddig a'r dyffrynnoedd mwy anghysbell.