CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Llynnoedd, Cronfeydd dwr a Phyllau

Mae nentydd, afonydd, llynnoedd naturiol a chronfeydd dwr yn elfen unigryw a phwysig yn nirwedd Mynydd Hiraethog. Llyn-y-foel-freche, Llyn Bran, Llyn Alwen a Llyn Aled yw'r llynnoedd naturiol, ac maent rhwng 2ha a 45ha o ran maint, sef cyfanswm o tua 86ha. O'r rhain, fodd bynnag, ehangwyd Llyn Aled a Llyn Bran trwy adeiladu argaeau ar ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd llyn naturiol bychan arall, o'r enw Llyn Dau-ychain, tua'r un maint â Llyn-y-foel-freche, yn yr ardal lle mae Cronfa Ddwr Alwen bellach. Roedd Llyn Alwen, y mwyaf o'r llynnoedd naturiol na ddatblygwyd mohonynt yn elfen bwysig wrth ddynodi Mynydd Hiraethog yn SoDdGA. Mae nifer o byllau llai i'w gweld ar Fynydd Hiraethog, yn enwedig ar ochr orllewinol y rhos ar Fawnog-fawr a Swch Maes Gwyn, a llawer ohonynt mewn corsydd mawn ac yn deillio o'r gwaith torri mawn a oedd yn dal i ddigwydd hyd at y 1950au a hyd yn oed yn fwy diweddar na hynny mewn ambell le.

Cronfa ddwr Alwen (150ha), Aled Isaf (28ha) a Llyn Brenig (354ha), yw'r prif gronfeydd dwr ar Fynydd Hiraethog, a thua 530 ha yw cyfanswm eu harwynebedd. Maent wedi boddi safleoedd cynhanesyddol cynharach a chaeau a ffermydd segur o darddiad canoloesol ac ôl-ganoloesol yn achos cronfeydd dwr Alwen a Brenig. Cronfa Ddwr Alwen, a adeiladwyd rhwng 1911-16, yw'r cynharaf o'r rhain, ac mae i'w gweld yn nyffryn cymharol gul afon Alwen i'r gorllewin o Bentre Llyn Cymmer. Saif yr argae uchel, crwm o flociau concrid â wynebau cerrig, a'r falfdy yn y dull Eidalaidd yn y coetir i'r dwyrain o'r argae, ac mae'r gronfa ddwr yn ymdroelli i galon y rhostir ymhellach i'r gorllewin. Islaw'r argae mae gweithfeydd trin dwr yn ogystal â gwaith hyn, tai barics a theras o dai gweithwyr a godwyd yr un pryd â'r argae. Codwyd yr argae gyntaf i gyflenwi dwr i dref Penbedw ond erbyn heddiw mae'r gronfa ddwr yn rheoli'r cyflenwad i ogledd-ddwyrain Cymru, a daw'r cyflenwad dwr o'r afonydd y mae'n eu bwydo yn hytrach nag o'r gronfa ddwr ei hun. Mae cronfa ddwr llai Aled a adeiladwyd ym 1934, ac Aled Isaf a adeiladwyd ym 1938, ychydig yn fwy diweddar. Mae gan Aled Isaf, unwaith eto, argae crwm, uchel sy'n cludo'r ffordd fodern, a falfdy concrid symlach. Crëwyd cronfeydd dwr llai Llyn Aled a Llyn Bran trwy estyn y llynnoedd naturiol oedd yno eisoes trwy osod cloddiau llawer is o bridd a cherrig i weithredu fel sarn i'r ffordd, a falfdy carreg i Lyn Aled a llifddor i Lyn Bran.

Mae Llynnoedd Aled ac Aled Isaf wedi cysylltu â'i gilydd, ac ar un adeg fe'u bwriadwyd i gyflenwi dwr i'r Rhyl a Phrestatyn ar arfordir Gogledd Cymru, er nad adeiladwyd y ddyfrbont oherwydd diffyg arian. Bellach, defnyddir y cronfeydd dwr i reoli llif y dwr i Afon Aled. Mae'r gronfa ddwr fwyaf ar Fynydd Hiraethog, a godwyd rhwng 1973 ac 1976, sef Llyn Brenig a'i hargae bridd enfawr ar draws dyffryn lletach afon Brenig, yn adlewyrchu cyfnod dylunio a pheirianneg mwy diweddar, sy'n gosod pwyslais ar symud tir ar raddfa fawr yn hytrach na defnyddio concrid. Mae'r gronfa ddwr yn darparu dwr ar gyfer cartrefi a diwydiant yng ngogledd-ddwyrain Cymru a hefyd yn helpu i reoli llif tymhorol Afon Dyfrdwy a chyflenwi Camlas Llangollen. Mae'r cyferbyniad rhwng dyluniad a graddfa Cronfa Ddwr Alwen a Llyn Brenig yn darparu darlun diddorol o'r newidiadau o ran cysyniad a dyluniad cronfeydd dwr a'u heffaith ar y dirwedd yn ystod yr 20fed ganrif, o ganlyniad i'r dechnoleg sydd ar gael i'r diwydiant adeiladu sydd, yn ei dro, wedi dylanwadu ar y math o ddyffryn y gellir adeiladu cronfa ddwr ynddo, a'r math o dirwedd sy'n cael ei chreu o ganlyniad i hynny. Mae'r rhain bellach yn ganolbwynt pwysig i'r gweithgareddau hamdden y rhoddir ystyriaeth iddynt isod.