CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Mynydd Hiraethog

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mynydd Hiraethog


Yr Amgylchedd Naturiol

Mae Mynydd Hiraethog a adnabyddir hefyd fel Rhostir Dinbych, yn ffurfio ucheldir mawr rhwng dau ddyffryn o bwys yng Ngogledd Cymru, sef Dyffryn Conwy i'r gorllewin a Dyffryn Clwyd i'r dwyrain. Mae'n ffurfio llwyfandir tonnog uchel, llawer ohono uwchlaw 400m uwch y dyffryn Datwm Ordnans (OD), ac mae pantiau nentydd yn rhedeg ar ei draws gan lifo i'r gogledd-ddwyrain i afon Conwy, i'r gogledd i afonydd Elwy a Chlwyd, ac i afonydd Alwen a Dyfrdwy i'r de a'r dwyrain.

Mae'r afonydd a'r nentydd hyn yn rhannu'r rhostir ymhellach yn nifer o flociau a'u nodweddion topograffigol eu hunain. Mae Afon Alwen, llyn blaenddwr naturiol Llyn Alwen, a nifer o bantiau nentydd sy'n bwydo "Afon Cledwen" ar ochr ogledd-orllewinol y rhostir yn gwahanu ardaloedd deheuol a gogleddol y rhostir. Mae crib uchel sy'n rhedeg o gopaon Foelasfechan a Moel Seisiog i'r gorllewin yn tremio dros ochrau deheuol a gorllewinol y rhostir trwy Foel Rhiwlug a Phen-yr-orsedd i Fwdwl-eithin i'r dwyrain. Mae'r olaf 532m dros OD, a dyma'r pwynt uchaf ar y rhostir.

Mae ochr ogleddol y rhostir yn rhannu yn nifer o flociau ar wahân, yn rhannol ar sail topograffeg ac yn rhannol ar sail defnydd tir modern. Mae yna un bloc mawr rhwng dyffrynnoedd Afon Cledwen i'r gorllewin ac Afon Aled a llyn blaenddwr Llyn Aled i'r dwyrain, gan gynnwys Creigiau Llwydion, Llys Dymper, Bryn Euryn, Bryn Mawr a Moel y Gaseg Wen. Mae ail floc yn cynnwys yr ardal i'r gogledd o afon Alwen, i'r dwyrain o afon Aled ac i'r gorllewin o Lyn Brenig, gan gynnwys Moel Bengam, Bryn Trillyn, Gorsedd Bran a Bryn-y-gors-goch.

Mae ochr ddwyreiniol y rhostir yn cynnwys copaon Tir Mostyn a'r Foel Goch, yn disgyn i uchder o tua 330m dros OD islaw argaeau cronfeydd dwr Alwen a Brenig ac yn diflannu i Goedwig Clocaenog i'r dwyrain. Mae cronfeydd dwr bellach yn meddiannu dau ddyffryn pwysig a dorrai ar draws y rhostir. Mae dyffryn Alwen, sy'n gymharol gul ag ochrau serth yn cyferbynnu â dyffryn Brenig sy'n lletach ac yn fwy bas, ac mae'r ddau ddyffryn sy'n cyfuno yng nghymer Afon Alwen ac Afon Brenig ychydig y tu hwnt i ffiniau'r ardal tirwedd hanesyddol. Roedd llyn mawr naturiol wedi ymgasglu yn nyffryn Brenig yn ystod cyfnod diweddar y rhewlifoedd, ac fe ddihangodd yn y pen draw trwy geunant cul trwy ddrymlin oedd yn cau porth y dyffryn i'r de, tua safle'r argae modern.

Cymysgedd o greigiau gwaddod gan gynnwys grutiau Silwraidd, tywodfeini, cerrig llaid a siâl sy'n ffurfio daeareg Mynydd Hiraethog. Mae rhan helaeth o'r ardal wedi'i chuddio gan glog-glai a drymlinau, yn enwedig ar ochr ogleddol y rhostir (yn ardaloedd nodwedd Creigiau Llwydion, Moel Bengam, Bryn-y-gors-goch a Maen-llwyd). Mae daeareg a hydroleg wedi arwain at dri math sylfaenol o bridd o wahanol ansawdd yn y rhostir: pridd lom ucheldiroedd ag uwchbridd mawnog dros greigiau (Hafren) yn cynnal cynefinoedd rhostir a glaswelltir o werth cymedrol o ran pori; pridd dwrlawn yn ysbeidiol, sydd wedi gleio ac sy'n fawnog dros ddyddodion clog-glai (Wilcocks 2) yn cynnal porfa rostirol wleb a pheth glaswelltir parhaus o werth cymedrol o ran pori; a phridd mawn amrwd sy'n barhaol wlyb dros ffurfiannau mawn gorgors a basn (Crowdy 2) yn cynnal rhostir gwlyb a chynefinoedd gwlyb o werth cymedrol i isel o ran pori. Glaswelltir (Nardus strictus), ffurfiannau mawn a brwyn yn y pantiau, ac eangderau o rug yw'r llystyfiant helaethaf erbyn heddiw. Mae'r glawiad cyfartalog yn fwy na 1250mm y flwyddyn. Ar yr wyneb, o leiaf, mae enwau lleoedd ar Fynydd Hiraethog yn gwbl nodweddiadol o gymeriad rhostirol yr ardal, ac mae enwau cyfeiriadau topograffig yn rhemp, gan gynnwys yr elfennau canlynol: moel/foel, bryn/bryniau, clogwyn, craig/graig a creigiau, bron, cefn, rhiw, esgynfa a llech. Disgrifir lliw y nodweddion hyn yn aml, er enghraifft gwen/wen/wyn, du/ddu/duon, llwyd/llwydion, coch a rhudd neu maint y nodweddion, e.e. mawr/fawr, fechan a hir. Ymhlith y disgrifiadau eraill sy'n cynnwys enwau lliwiau ceir glas a llaethog, wrth ddisgrifio porfa a ffynnon. Ambell waith, disgrifir siâp nodwedd dopograffig unigryw trwy gyfeirio at ymadroddion megis braich, swch a thrwyn, a mwdwl (sydd o bosibl yn cyfeirio at siâp conigol y bryn). Mae nifer gyfyngedig o ymadroddion yn nodi'r defnydd a wneir o'r tir neu gyflwr y tir, gan gynnwys waen, ffridd/ffrith, fawnog, a nodir llystyfiant y rhostir yn y geiriau eithin, onen/onnen a criafolen. Cyfeirir at ddwr a ffynonellau dwr, megis rhaeadr, ffynnon, pwll, llyn, nant ac afon. Nodir nodweddion penodol eraill ar y dirwedd â tharddiad naturiol neu artiffisial ag ymadroddion fel maen, a gelwir hynafolion eraill yn boncyn, groes a carnedd/garnedd. Nodir yr aneddiadau â'r ymadroddion tai/ty, hafod/hafotty/fotty, a llys yn ogystal â defnyddio enwau mwy penodol, fel Hen Ddinbych, a nodir y mannau cyfarfod â'r ymadrodd gorsedd/orsedd. Nodir cyfeiriad aneddiadau neu berthynas aneddiadau a'i gilydd â'r ymadroddion isaf, uchaf, tan a pellaf. Ar wahân i nifer o enwau priod, cyfeirir at bobl â chymeriad chwedlonol fel Merddyn, derwydd, heilyn (y sawl sy'n cludo'r cwpan) a clochydd. Nodir perchnogaeth â'r ymadrodd tir, ac efallai cynefir (?cynefin) a terfyn, a nodir trefniadau cysylltiadau â naid-y-march a bwlch. Nodir anifeiliaid ac adar â'r geiriau tarw, march, gaseg, ci, dafad, bleiddiau, brân, hydd (carw), hwyad ac alarch. I orffen, pwysleisir natur agored y tir yn yr ymadroddion haul a llannerch ac ymdeimlad atgofus o lymdra yn amlwg yn yr enw hiraethog ei hun, er bod peth amheuaeth ynglyn â tharddiad yr enw.

Mae modd olrhain ambell enw topograffig, fel Wauneos (gwenn eneas) a Moel Seisiog (Moel-seissiauc) i ddiwedd y 12fed ganrif, a'r enw Hiraethog ei hun i Hir 'hadok ar ddiwedd y 13eg ganrif, ond mae ansicrwydd ynglyn â tharddiad y rhan fwyaf o enwau, rhai ohonynt yn ymddangos am y tro cyntaf ar fapiau degwm y 1840au neu ar y mapiau a gyhoeddodd yr Arolwg Ordnans yn y 1870au a'r 1880au. Mae gan rai safleoedd archeolegol enwau sydd yn eithaf hen. Enwir nifer o'r twmpathau claddu o'r Oes Efydd, gan gynnwys Boncyn Arian, o bosibl oherwydd bod pobl yn credu bod twmpathau fel hyn yn cuddio claddfannau trysorau. Mae Boncyn Crwn, Boncyn Cynefir Cleirrach, a Boncyn Melyn yn henebion angladdol cynhanesyddol a enwyd, ynghyd ag enwau ardaloedd megis "Pen-y-garnedd" a "Phen yr orsedd" a allai fod ag arwyddocâd tebyg. Mae'n bosibl mai yn y groes sydd ar fin un o'r traciau hynafol sy'n cyfarfod ym mlaen Afon Fechan y mae tarddiad yr enw Bryn yr Hen-groes, neu fe allai fod yn gyfeiriad at loches â thair coes i ddefaid a godwyd gerllaw. Mae nifer o enwau lleoedd neu enwau ar hynafiaethau yn ymddangos yn eithaf diweddar, fodd bynnag. Rhoddwyd yr enw Hen Ddinbych ar yr anheddiad canoloesol amgaeëdig ar ochr ddwyreiniol y rhos yn y 1860au. Sarn Helen yw'r enw a roddir heddiw ar y sarnau ar draws nant Aber Llech-Damer ger Hen Ddinbych ond a roddwyd cyn hynny ar ffurf Llwybr Elen neu Sarn Elen, i drac pwysig ar hyd ddyffryn Brenig ymhellach i'r gorllewin.