CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol
Dyffryn Llangollen

Nodweddu’r Dirwedd Hanesyddol

Llunio Tirwedd Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg


TRAFNIDIAETH A CHYSYLLTIADAU

Mae Dyffryn Llangollen wedi darparu llwybr pwysig trwy’r mynyddoedd ers y cyfnod cynnar, gan gysylltu ardal y gororau â thiroedd canol Cymru ymhellach i’r gorllewin. Mae croesi afon Dyfrdwy yn Llangollen hefyd wedi darparu cysylltiad pwysig i’r gogledd tuag at Ddyffryn Clwyd.

Pontydd ar afon Dyfrdwy

Bu pont ar draws yr afon yn Llangollen ers o leiaf y 13eg ganrif, ac mae tystiolaeth ddogfennol fod y bont yn y fan hon wedi’i hatgyweirio ym 1284. Dywedir bod pont ddiweddarach wedi’i chodi gan John Trevor yng nghanol y 14eg ganrif, ond mae’n debyg mai o oddeutu 1500 y mae’r bont bresennol yn dyddio. Cafodd ei hatgyweirio’n helaeth ym 1656, ac ychwanegwyd bwa ychwanegol ym 1863 dros y rheilffordd. Mae’r bont wedi’i lledu ddwywaith ar yr ochr uchaf, unwaith ym 1873 ac unwaith ym 1968–69. Roedd Tour in Wales Thomas Pennant a gyhoeddwyd ym 1783 yn cofnodi mai hi oedd un o ‘Tri Thlws Cymru, or three beauties of Wales’. Mae’r bont hefyd yn ymddangos yn y pennill anhysbys o’r enw The Seven Wonders of Wales.
Pistyll Rhaeadr and Wrexham Steeple, Snowdon’s mountain without its people, Overton yew trees, Gresford bells, Llangollen bridge and St Winifred’s well
Dymchwelwyd hen ffoli castellog Fictoraidd ger pen gogleddol y bont ym 1939.

Yn ddiamau, gellid croesi afon Dyfrdwy ar fferi neu drwy ryd hefyd yn y cyfnod cynnar. Dywedir bod fferi yng Nghysyllte ar ddiwedd y 14eg ganrif. Adeiladwyd y bont gerrig ymhellach i lawr yr afon ym Mhont Cysyllte yn y 1690au, ac ail-luniwyd hi yn sylweddol ar ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y bont gadwyn gyntaf ym Merwyn, i’r gorllewin o Langollen, a adeiladwyd gan Exuperius Pickering ym 1814 i gludo glo dros afon Dyfrdwy i’w anfon i Gorwen a’r Bala yn groesfan hynod arall. Yn ymarferol, adeiladwyd Pont y Brenin o gerrig yn ei lle ym 1906, a disodlwyd y bont gadwyn wreiddiol â phont grog ym 1929.

Ffyrdd Tyrpeg

Cafwyd gwelliannau sylweddol i’r prif lwybrau i’r gorllewin tuag at Gorwen ac i’r gogledd dros Fynydd Llantysilio i Ruthun gan yr ymddiriedolaethau tyrpeg yn ystod ail hanner y 18fed ganrif. Mae Thomas Pennant yn ei Tour of Wales a gyhoeddwyd ym 1783, er enghraifft, yn sôn am yr ‘excellent turn-pike road leading to Ruthyn’, heibio i Biler Eliseg. Dyma’r hen lwybr dros y mynyddoedd trwy Bentredwr, drwy fwlch yr oedd Pennant yn ei adnabod fel Bwlch y Rhiw Velen. Ym 1808, yn ôl yr hynafiaethydd Richard Fenton
The Road ascending from the Vale, is . . . prodigiously steep, and continues so for a mile and a half. Then we come to a Mountain track and open an extensive View. See the Arrennig, our old acquaintances, and have a clear View of Snowdon’.
Ym 1811, torrwyd ffordd dyrpeg hwylusach, sef Bwlch yr Oernant sydd bellach yn enwog (A542), i osgoi’r llethr serth yma ac roedd arni gerrig milltir a chlwyd tyrpeg ychydig i’r gogledd o Dafarn y Britannia.

Lôn Bost Caergybi Telford

CPAT PHOTO 1766-374

Un o gerrig milltir Ffordd Caergybi Telford a gwblhawyd ym 1826. Llun: CPAT 1766-374.
Cafodd yr A5 presennol ei gwella’n sylweddol fel rhan o’r gwelliannau mawr a wnaed rhwng 1815–26 ar ffordd Caergybi i Lundain — the Great Irish Road — gan gryfhau’r cysylltiadau ffisegol rhwng y canolfannau llywodraeth yn Whitehall a Dulyn yn y blynyddoedd yn dilyn Deddf Uno 1800 rhwng Lloegr ac Iwerddon, a hynny fel mater o hwylustod gwleidyddol. Roedd hyn yn un o gynlluniau adeiladu ffordd mwyaf uchelgeisiol a dylanwadol y 19eg ganrif. Roedd yn orchest bwysig o ran peirianneg sifil y cyfnod, a gwnaed y rhaglen yn bosibl trwy’r arian hael a ddyfarnwyd gan y Senedd. Gellid dadlau mai dyma’r rhaglen torri ffyrdd gyntaf o bwys a ariannwyd gan y wladwriaeth yn y cyfnod modern. Cymharol fyr y parodd anterth Lôn Bost Caergybi yn yr 1820au hwyr a’r 1830au, fodd bynnag, a disodlwyd hi gan reilffordd Llundain i Gaergybi at ddibenion teithio yn bell, yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ddiamau, fe gyfrannodd y dirywiad ym mhwysigrwydd y ffordd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg at oroesiad hynod llawer o’r gwaith gwreiddiol. Cafodd y ffordd adfywiad ers dyfeisio’r peiriant tanio mewnol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, a heddiw ystyrir hi yn heneb ddiwydiannol fyw sy’n gweithio, i’w choleddu a’i rheoli â chydymdeimlad yn ei rhinwedd ei hun. Trist yw nodi bod llawer o gymeriad gwreiddiol ffordd Telford wedi’i niweidio gan ‘welliannau’ ansensitif dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae rhai darnau o’r waliau gwreiddiol ar ochrau’r ffordd, waliau cynnal y ffordd a nifer o gerrig milltir nodweddiadol gyda phlatiau haearn bwrw wedi’u gosod mewn pileri tywodfaen wedi goroesi.

Camlas Llangollen

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y gamlas sy’n rhedeg trwy Ddyffryn Llangollen ym 1795, a gorffennwyd ef ym 1808, er ei bod ar agor i rai mathau o drafnidiaeth ym 1805. Yn ôl y plac haearn bwrw ar un o bileri Traphont ddwr Pontcysyllte, y syniad oedd y byddai ‘for the mutual benefit of agriculture and trades’. Roedd yn ffurfio rhan o system camlas yn cysylltu afon Merswy ag afonydd Dyfrdwy a Hafren. Camlas Llangollen yw enw’r darn o Welsh Frankton yn Swydd Amwythig i gored Rhaeadr y Bedol yn Llantysilio i’r gorllewin o Langollen, sef enw na chafodd ei ddefnyddio’n gyffredin tan y 1940au. Dyma’r fan lle rhedai’r dwr o afon Dyfrdwy i mewn iddi. Rhoddodd y gamlas fynediad i lofeydd Rhiwabon, gan ysgogi twf yr odynnau calch a’r gweithfeydd crochenwaith ym Mroncysyllte a Thref-y-nant, basn helaeth a rheilffyrdd hyd lofeydd a gweithfeydd cemegion Acrefair i weithfeydd haearn Plas Kynaston a chwareli cerrig Cwm Mawr.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar Draphont Ddwr Pontcysyllte ym 1795 a gorffennwyd ef ym 1805, at ddibenion cludo’r gamlas dros Afon Dyfrdwy. Dyluniwyd y campwaith peirianneg hwn, sef y draphont ddwr orau ym Mhrydain ym marn llawer, gan Thomas Telford a oedd yn gweithio dan William Jessop, peiriannydd camlesi mwyaf toreithiog y cyfnod. Mae pileri cerrig tal a main a bwâu yn cynnal cafn haearn dros 300 metr o hyd, ychydig dan 40 metr uwchlaw Afon Dyfrdwy sy’n llifo oddi tani. Roedd angen technegau arloesol i sicrhau uchder y draphont ddwr, i ddisodli’r technegau adeiladu trwm cynharach a oedd yn dibynnu ar haenau dwbl o gerrig gyda chlai pwdlo yn ei selio. Yn lle hynny, cafn a gafodd ei wneud o blatiau haearn bwrw wedi bolltio at ei gilydd oedd yn cludo’r draphont ddwr, gydag asennau haearn bwrw yn ei chynnal. Roedd William Hazledine, a fu’n gyfrifol am fwrw’r haearn yng Ngweithfeydd Haearn Plas Kynaston, tua 450 metr i’r dwyrain o Lanfa Trefor, yn un o brif feistri haearn y cyfnod. Adeiladwyd Gweithfeydd Haearn Plas Kynaston yn gyntaf i gyflawni’r contract hwn. Mae’r arglawdd ar ochr ddeheuol y draphont ddwr yn un o’r argloddiau camlas mwyaf a godwyd erioed, wedi’i adeiladu o ddeunyddiau a gloddiwyd i ffurfio trychfa’r gamlas a’r twnnel ger Y Waun, tua 5 cilometr i’r de. Byddai rheilffordd o’r glofeydd gerllaw a gweithfeydd haearn Plas Kynaston yn gwasanaethu Glanfa Trefor lle roedd glanfeydd eang ar gyfer glo, pren a chalch. Mae’r adeiladau a’r strwythurau atodol sydd wedi goroesi yn cynnwys dociau sych, gwesty camlas, cyn warws a thy fforddiolwr.

Mae’r rhan fwyaf o’r pontydd ffordd sy’n croesi’r gamlas o fewn yr ardal dirwedd hanesyddol yn rhai crymion, a llawer ohonynt wedi eu gwneud o friciau neu gerrig neu gyfuniad o’r ddau, yn ogystal â phont godi ychydig i’r de o Draphont Ddwr Pontcysyllte. Bwriadwyd y gamlas yn wreiddiol fel dull o gludo cynnyrch amaethyddol, ond daeth yn ffactor pwysig yn natblygiad diwydiannol yr ardal. Daeth y gamlas i fod yn atyniad ymwelwyr o’i blynyddoedd cynharaf. Roedd y Parch. Bingley, er enghraifft, ymhlith y cyntaf i ysgrifennu am y draphont ddwr mewn dyddlyfr a gadwodd yn ystod ei daith yng ngogledd Cymru ym 1798, hyd yn oed cyn i’r pileri gael eu cwblhau, a chyn i’r cafn haearn gael ei ychwanegu at y brig.

Rheilffordd Dyffryn Llangollen

Arosfan Ffordd Llangollen yn Whitehurst, i’r gogledd o’r Waun, a agorodd ym 1849 ar Reilffordd Amwythig a Chaer oedd yn gwasanaethu Llangollen yn wreiddiol. Byddai’r teithwyr yn trosglwyddo i goetsys i deithio ar hyd Ffordd Caergybi. Agorwyd y rheilffordd yn wreiddiol ym 1861 o Riwabon i Langollen dan yr enw Rheilffordd Dyffryn Llangollen, a oedd yn fforchio o Reilffordd Amwythig a Chaer i’r de i Riwabon, ac yn rhedeg trwy Acrefair a Threfor. Estynnwyd y rheilffordd wedi hynny i’r gorllewin dan yr enw Rheilffordd Llangollen a Chorwen. Cyrhaeddodd hon Gorwen ym 1865 trwy Dwnnel Berwyn, a gymerodd flwyddyn i’w gwblhau, ac yna aeth ymlaen i arfordir gogledd Cymru yn Y Rhyl ar hyd Rheilffordd Dyffryn Clwyd, oedd yn fforchio yng Nghorwen erbyn 1864, ac i arfordir gorllewin Cymru ar Reilffordd Y Bala a Dolgellau erbyn diwedd 1868.

Am gyfnod o bron i ganrif, y rheilffordd oedd yn gyfrifol am gludo llawer o’r nwyddau a fyddai’n cael eu cludo’n flaenorol ar y ffordd neu ar y gamlas. Daeth yn fodd pwysig o allforio llechi, calchfaen a phren a chasglu mewnforion bwydydd, haidd a brag ar gyfer bragdai Llangollen, ac o gludo ymwelwyr. Roedd twristiaid wedi ffafrio Dyffryn prydferth Afon Dyfrdwy, â mynyddoedd y Berwyn, Llantysilio a Rhiwabon o’i amgylch ers diwedd y 18fed ganrif, ac roedd y rheilffordd yn cynnig un o’r llwybrau mwyaf prydferth yn y wlad o Riwabon i Abermo trwy Langollen a’r Bala.

Daeth yr holl wasanaethau cludo nwyddau i ben ym 1964, ar wahân i’r gwasanaeth o Riwabon i Langollen, a daeth hwnnw i ben ym 1968. Mae’r lein rhwng Llangollen a Charrog i’r gorllewin bellach yn cael ei rhedeg yn breifat gan Gymdeithas Rheilffordd Llangollen, ond mae argloddiau, trychfeydd, croesfannau ac ategwaith pontydd wedi’u cadw yn dda mewn mannau eraill ar hen hynt y lein. Mae hyn yn nodwedd hanesyddol arwyddocaol sy’n ymwneud â hanes trafnidiaeth yn yr ardal.

(yn ôl i’r brig)