CPAT logo
Cymraeg / English
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg
Map o'r ardal cymeriad hon

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg: Iscoyd
Cymunedau Bronington ac Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
(HLCA 1127)


CPAT PHOTO 1321-16 Tirwedd wledig ag olion coetir hynafol a chaeau agored canoloesol, â ffermydd gwasgaredig a phlasty a pharc tirluniedig Iscoyd Park sy'n dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif.

Cefndir hanesyddol

Mae'r twmpath claddu sy'n dyddio o Oes yr Haearn yn ôl pob tebyg, sef Warren Tump i'r gorllewin o Barc Iscoyd, ynghyd â bwyell o Oes yr Haearn a ddarganfuwyd yn nhiroedd Parc Iscoyd yng nghanol y 19eg ganrif, yn arwydd o anheddu a defnydd tir yn yr ardal yn y cyfnod cynhanesyddol cynnar. Nid oes unrhyw dystiolaeth enwau lleoedd sicr bod anheddiad Eingl-Sacsonaidd yn yr ardal, er ystyriwyd ei bod yn debygol bod maenor 'coll' Burwardestone, sy'n cael ei enwi yn arolwg Domesday 1086, o fewn ardal Iscoyd. Bu'r faenor ym meddiant Edwin, iarll Sacsonaidd Mersia ac, er i'r ardal gael ei disgrifio fel 'gwastraff' adeg concwest y Normaniaid ym 1066, ymddengys bod cymuned amaethyddol ddatblygedig eisoes wedi'i sefydlu yn yr ardal erbyn y dyddiad hwnnw. Ym 1086, roedd tenantiaid y faenor yn cynnwys dau farchog (miles) a oedd yn meddu ar dir yn gyfnewid am wasanaeth milwrol yn ôl pob tebyg. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd strategol Maelor Saesneg yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ogystal â nodi bod digon o dir âr i 14 aradr, mae arolwg Domesday hefyd yn nodi bod ty halen (salina), yn ymelwa ar y gwlâu halen Triasig roedd Nant Wych wedi'u dinoethi. Mae enw'r nant ac enwau lleoedd lleol, gan gynnwys Upper a Lower Wych yn cynnwys yr elfen wic o'r Hen Saesneg sydd yn gyffredin yn cyfeirio at waith halen. Ymddengys bod y gwaith wedi parhau i fodoli hyd ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif, er eu bod ar raddfa llawer yn llai na'r canolfannau cynhyrchu halen cynnar yn Sir Gaer. Er na ymddengys bod llawer o dystiolaeth ddogfennol wedi goroesi, mae'n debygol bod canolfan faenorol ganoloesol wedi'i sefydlu ar y safle â ffos yn Wolvesacre Hall, efallai mor gynnar â diwedd y 13eg ganrif. Roedd yn rhagflaenu'r ty ôl-ganoloesol sydd yno heddiw. Efallai bod ail safle â ffos wedi bodoli gyferbyn â Fferm Maes-y-groes. Hefyd, dywedir bod ty canoloesol sylweddol ei faint wedi bodoli ar safle Parc Iscoyd, efallai ar safle parc cynharach. Mae'r ty presennol, y parc tirluniedig a'r ardd bleser yn dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif pan roeddynt yn ffurfio stad a oedd ym meddiant cangen o'r teulu Hanmer, a bu ym meddiant nifer o bobl eraill yn ystod y 19eg ganrif. Meddiannwyd y parcdir i greu ysbyty milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ymddengys bod Whitewell Lodge, llety hela mawr o frics sy'n dyddio o'r 19eg ganrif sydd yng nghornel ddeheuol yr ardal nodwedd, yn gysylltiedig â Pharc Iscoyd.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Mae'r ardal yn rhan o ymyl ogleddol Maelor Saesneg yn rhedeg ar hyd Nant Wych a Red Brook, ac yn disgyn yn raddol i lawr at y nentydd hyn sy'n ffurfio'r ffin â Sir Gaer. Yn gyffredinol, mae rhwng 30 a 90 metr uwchben y Datwm Ordnans ac mae cymoedd nifer o nentydd yn torri ar ei thraws, fel Nant Iscoyd a Shoothill Brook, llednentydd Nant Wych. Yn aml mae coetir llydan-ddeiliog hynafol neu goetir llydan-ddeiliog sydd wedi'i ailblannu neu blanhigfeydd conwydd bach yn ymylu'r nentydd hyn. Mae defnydd tir modern yn gymysgedd o borfa wedi'i gwella a rhywfaint o dir âr, ar gyfer cnydau porthiant yn bennaf. Gwrychoedd aml-rywogaeth yw ffiniau'r rhan fwyaf o gaeau, rhai ohonynt yn cynnwys digonedd o gelyn. Ceir coed derw aeddfed wedi'u gwasgaru ar hyd gwrychoedd a llinellau hen wrychoedd.

Mae tirwedd y caeau yn cynnwys cymysgedd o gaeau afreolaidd bach a mawr, yn aml ar y tir mwy tameidiog ar hyd gyrsiau dwr, ynghyd ag ardal o gaeau llain a chaeau llain sydd wedi'u haildrefnu yn ôl pob tebyg, ynghyd â rhywfaint o dirwedd cefnen a rhych sydd wedi goroesi i'r gogledd a'r gorllewin o Wolvesacre Hall. Ymddengys bod y rhain wedi datblygu yn sgîl cau tir caeau agored canoloesol. Efallai bod nifer o enwau lleoedd yn yr ardal, fel Maes-y-groes a Crossfield, hefyd wedi datblygu o gaeau agored canoloesol. Mae goroesiad enwau lleoedd 'green' fel Kil neu Kiln Green, Hall Green a Mannings Green, yn awgrymu bod ardaloedd porfa comin yno yn y canol oesoedd, er ei bod yn amlwg nad oedd unrhyw un o'r rhain yn ganolbwynt aneddiadau a oedd yn lledaenu, sy'n nodweddiadol o rai ardaloedd eraill ym Maelor Saesneg.

Mae ffermydd gwasgaredig yn cynrychioli'r anheddu presennol, yn ogystal â'r plastai ym Mharc Iscoyd a Whitewell. Adeiladau brics o ddiwedd yr 17eg ganrif a dechrau'r 18fed ganrif yw nifer o'r ffermdai fel Maes-y-groes a Phen-y-bryn, er bod Y Gelli yn cynrychioli gorwel adeiladau cynharach, a ddatblygodd o dy gweddol sylweddol ei faint, dau lawr, ffrâm bren yn yr 17eg ganrif. Mae pâr o fythynnod dan yr unto sy'n dyddio o'r 19eg ganrif yn Mannings Green, â simneiau brics wedi'u haddurno yn fanwl, yn nodweddiadol o fythynnod stad y cyfnod hwn, a adeiladwyd ar gyfer stad Parc Iscoyd yn ôl pob tebyg.

O ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen sefydlwyd cyfres o felinau yd dwr ar hyd Nant Wych gan gynnwys Dymock Mill, Melin Wych, Melin Llethr a Wolvesacre Mill, rhai ohonynt o bosibl yn dyddio o gyfnod cynharach na hyn. Ymhlith eu holion mae cafnau melinau a phyllau melinau yn ogystal â thystiolaeth strwythurol sydd wedi goroesi.

Ffynonellau

Cadw 1995
Davies 1949
Hubbard 1986
Pennant 1784
Pratt 1964
Pratt & Pratt 2000
Sawyer & Hacker 1981
Silvester et al. 1992
Spurgeon 1991
Listed Buildings lists
Regional Sites and Monuments Record

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.