CPAT logo


Cymraeg / English
Adref Eto
Tirweddau Hanesyddol

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


Mae'r disgrifiad canlynol, a godwyd o'r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi'r themâu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Click for landscape description

Ardaloedd cymeriad a ddiffinnir yn Nhirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg


Mae Maelor Saesneg yn cynrychioli tirwedd hanesyddol amrywiol sydd wedi’i chadw yn dda. Daw’r disgrifiad canlynol o’r Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru (Cadw 2001, 16-19), ac mae’n nodi themâu hanfodol tirwedd hanesyddol sydd i’w canfod yng nghymeriad hanesyddol yr ardal sy’n cael eu hystyried mewn mwy o fanylder yn yr adrannau sy’n dilyn.

Yn ddaearyddol, Maelor Saesneg yw’r rhan honno o’r hen Sir y Fflint cyn 1974 i’r de ddwyrain o Afon Dyfrdwy, a adwaenid fel Sir y Fflint Ar Wahân, ac sy’n ffinio â gorllewin Swydd Amwythig a gwastadedd De Sir Gaer. Yn dopograffaidd, nid yw’r tirwedd yn nodweddiadol o Gymru, ac ychydig iawn o ucheldir amlwg a geir, ac mae arwyneb y gwastadedd, sydd fel arall yn wastad neu ychydig yn donnog, yn adlewyrchu presenoldeb gwaddodion defnyddiau tanddaearol helaeth a adawyd ar ôl Oes yr Iâ mewn sawl man. Mae arwyneb y gwastadedd yn disgyn, bron yn ddiarwybod, o 80m uwchben SO mewn rhai mannau ar hyd ffiniau deheuol yr ardal a ddisgrifir yma, i 15m uwchben SO ar wastadedd llifogydd yr Afon Dyfrdwy sy’n ymylu’r ardal yn y gogledd a’r gorllewin. Mae gan aneddiadau ac economi’r ardal ddyled fawr hefyd i ddylanwadau o’r tu hwnt i’r ffin yn Sir Gaer, ac yn sgîl hyn, mae cymeriad hanesyddol y tirwedd yn anghyffredin o fewn y cyd-destun Cymreig, ac yn fwy nodweddiadol o’r Gororau nag o Gymru ac yn llawer mwy Seisnig na Chymreig - fel y mae’r enw yn ei awgrymu. Yn hanesyddol, byddai’r rhan helaethaf o Maelor Saesneg wedi gostwng i batrymau tebyg o ddefnydd tir drwy rannu caeau agored yn stribedi o amgylch aneddiadau bach canoloesol. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, amlygwyd gwahaniaeth rhwng economi’r gorllewin sydd yn fugeiliol yn bennaf a’r caeau âr yn y dwyrain. Mae llawer o’r tirwedd wedi newid o ganlyniad i ffermio âr, wrth i ffiniau gael eu clirio i greu caeau mwy ac wrth i aredig lefelu holl olion gwaith cloddiog y cyfundrefnau caeau blaenorol. O achos hynny, yng ngorllewin yr ardal a ddisgrifir yma y diogelwyd cywirdeb y tirwedd hanesyddol gorau. er hynny, o fewn y cyd-destun Cymreig mae’r ffaith bod cymaint o’r patrwm caeau ac amaethu canoloesol hwn wedi goroesi yn gwneud y tirwedd yn un prin a gwerthfawr iawn. Mae’r ardal yn cwmpasu nifer o aneddiadau hanesyddol sydd yn dyddio o’r cyfnodau canoloesol neu ganoloesol cynnar. Ceir trefi bach Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton] yn y gorllewin (wedi’i nodi fel safle posibl ar gyfer Burh Sacsonaidd, sydd yn beth prin iawn yng Nghymru) ac mae Wrddymbre [Worthenbury] ar yr ochr ogleddol; Llannerch Banna [Penley] a Lightwood Green i’r de; a Horseman’s Green a Tallarn Green i’r dwyrain. Tuedda llawer o’r aneddiadau bychain hyn i fod yn ddatblygiadau bach hirfain, wedi’u lleoli’n agos at ei gilydd ar ochr yr hyn y gellir tybio iddo fod yn rwydwaith ffyrdd blaenorol. Nodwedd llawer ohonynt yw’r tai a’r bythynnod bric coch sy’n nodweddu’r 18fed a’r 19eg ganrifoedd yn lleol. Fodd bynnag, ceir un neu ddau adeilad du a gwyn â ffrâm bren yn y rhan fwyaf o’r pentrefi, sy’n dynodi gwreiddiau cynharach, a awgrymir hwyrach gan bresenoldeb y cyfundrefnau caeau sy’n amgylchynu llawer o’r pentrefannau hyn. Eithriad i’r patrwm hwn yw Bangor Is-Coed sydd o dras llawer hyn, er bod nifer o’i nodweddion archeolegol yn debyg i adeiladau canoloesol yma ac acw o amgylch y dref ac mae pont gerrig urddasol o’r 15fed ganrif yn croesi Afon Dyfrdwy; erbyn heddiw mae’r dref yn fwyaf enwog am ei chae rasio ceffylau, yr unig un yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal â’r aneddiadau hyn, ceir sawl neuadd fawreddog o ddiwedd y Canol Oesoedd megis Althrey a Hen Neuadd Llannerch Banna, ynghyd â nifer o safleoedd wedi’u hamgylchynu â ffos o ddechrau’r Canol Oesoedd, er enghraifft Halghton Lodge a Peatree Lane. Statws maenor oedd i’r rhan fwyaf o’r safleoedd a amgylchynwyd â ffos, am eu bod yn dai i arglwyddi neu i’w stiwardiaid, neu o bryd i’w gilydd yn eiddo i sefydliadau eglwysig. Mae tystiolaeth ddyddio yn dynodi i’r ffurf neilltuol hwn o aneddiad gael ei gyflwyno i’r ardal yn y 12fed ganrif gyda chynnydd yn nifer y safleoedd yn y 13eg ac ar ddechrau’r 14eg ganrifoedd, ac roeddent yn dal i gael eu hadeiladu a’u defnyddio tan y 16eg ganrif. Nid oedd unrhyw werth amddiffynnol iddynt, ac ymddengys mai eu swyddogaeth oedd datgan statws uchel eu deiliaid, ac y defnyddid y ffosydd, yn fwyaf tebygol, i gadw pysgod ac adar helai ddyfrhau’r stoc ac fel addurn. Fodd bynnag, nodwedd fwyaf neilltuol y tirwedd hwn yw ei etifeddiaeth amaethyddol ganoloesol. Patrwm defnydd y tir ar hyn o bryd yw caeau gyda gwrychoedd bach iddynt, wedi’u trefnu mewn stribedi cul yn aml, gyda llawer ohonynt wedi cadw’r gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi amaeth canoloesol. Deilliodd gwaith cloddiog o’r fath o amaethu âr yn ystod y cyfnod canoloesol pan rannwyd y tir a oedd yn amgylchynu’r aneddiadau yn stribedi o fewn caeau mawr agored a gâi eu trin ar y cyd gan y pentrefwyr. Er y crëwyd y gwrymiau a’r cwysi sydd i’w gweld heddiw drwy aredig y tir, ffurfiwyd y patrwm o gaeau amgaeëdig bychan a gwrychoedd iddynt yn ddiweddarach. Gydag amser, caewyd y caeau agored i mewn, gyda ffiniau newydd y caeau yn aml yn adlewyrchu ffurf y stribedi blaenorol, gan greu’r caeau hir cul nodweddiadol. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd megis y rhai i’r gogledd o Bandy Lane ac yn agos i Mulsford, mae’r patrymau amaethu âr yn fwy cymhleth ac yn aml, nid ydynt yn cyfateb â ffiniau diweddarach. Mae’r amaethu a oedd yn bennaf yn fugeiliol yn ystod canrifoedd mwy diweddar wedi ffosileiddio patrymau’r caeau sy’n cadw’r gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi a’r caeau diweddarach â gwrychoedd, gan rhoi gwedd ganoloesol neilltuol i’r tirwedd. Mae llawer o’r caeau hyn yn cynnwys pyllau bach, ac er nad yw eu tarddiad na’u defnydd yn glir, gallant fod yn dyllau clai a oedd o bosibl yn darparu defnydd adeiladu ar gyfer adeiladu lleol canoloesol. Ni ddylid ystyried y cyfundrefnau caeau hyn ar eu pennau eu hunain, gan fod yr aneddiadau y maent yn perthyn iddynt yn gymaint rhan o’r tirwedd hanesyddol â hwy. Gyda’r eithriad o Fangor Is-Coed ac Owrtyn [Overton], mae’r patrwm aneddiadau yn parhau i fod yn un o bentrefi a phentrefannau cnewyllol nad ydynt wedi newid rhyw lawer ers eu tarddiadau canoloesol, sy’n ychwanegu cydlyniad a chywirdeb i gymeriad hanesyddol y tirwedd anghyffredin iawn, sydd yn dal i ffynnu ac sy’n amaethyddol yn bennaf.

Themâu tirwedd hanesyddol yn Maelor Saesneg

Yr Amgylchedd Naturiol

Ffiniau Gweinyddol

Aneddiadau

Amaethyddiaeth A Defnydd Tir

Adeiladau Yn Y Dirwedd

Tranidiaeth A Chysylltiadau

Diwydiant

Gweithgareddau Milwrol

Chwaraaeon A Difyrrwch

Parciau A Gerddi

Ardaloedd cymeriad

CPAT PHOTO 85c221

1114 Ywern ardal cymeriad. Ystumiau afon Dyfrdwy ger Wern. Photo: CPAT 85-C-221. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1323-16

1115 Bangor Is-y-coed ardal cymeriad. Pont, pentref ac eglwys Bangor Is-coed, o’r gorllewin. Photo: CPAT 1323-16. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1323-18

1116 Brynhovah ardal cymeriad. Tirwedd cefnen a rhych i’r dwyrain o Fangor Is-coed, yn cynrychioli trin caeau agored yn y canol oesoedd. Photo: CPAT 1323-18. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1324-00

1117 Bryn-y-Pys ardal cymeriad. Rhodfa goed a phorthdy hen Neuadd Bryn-y-Pys, ychydig i’r gogledd o Owrtyn [Overton]. Photo: CPAT 1324-00. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1324-03

1118 Owrtyn [Overton] ardal cymeriad. Canol Owrtyn [Overton] yn dangos bwthyn ffrâm bren o’r 17eg ganrif a thai a siopau o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif wedi’u hadeiladu o frics. Photo: CPAT 1324-03. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1324-07

1119 Knolton ardal cymeriad. Ystafell Genhadol Knolton, yn ffurfio rhan o’r anheddiad gwasgaredig yn Knolton Bryn. Ymddengys ei fod wedi datblygu yn sgîl lledaenu’r anheddiad gan orchuddio hen gae agored o’r canol oesoedd. Photo: CPAT 1324-07. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 85c0208

1120 Halchdyn [Halghton] ardal cymeriad. Safle â ffos, system caeau tirwedd cefnen a rhych a phyllau marl Peartree Lane. Photo: CPAT 85c0208. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1323-19

1121 Emral ardal cymeriad. Ffensys pyst a weiren modern yn rhannu’r hen barcdir sy’n amgylchu Neuadd Emral, a’r coetir y tu hwnt yn ymyl Nant Emral. Dymchwelwyd y neuadd yn y 1930au, ac roedd ar safle’r ‘Embers-hall’ canoloesol. Crëwyd y parcdir, yn rhannol o leiaf, yn sgîl cau tir yr hen gaeau agored canoloesol. Photo: CPAT 1323-19. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1322-10

1122 Mulsford ardal cymeriad. Olion tirwedd cefnen a rhych ger Sarn Bridge Farm. Photo: CPAT 1322-10. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1324-18

1123 Llannerch Banna [Penley] ardal cymeriad. Rhan o hen Ysbyty Byddin UDA a’r Ysbyty Pwylaidd dilynol yn Llannerch Banna, sydd bellach yn cael eu defnyddio fel parc diwydiannol. Sefydlwyd yr ysbyty yn gyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd mewn parcdir a oedd yn gysylltiedig â Penley Hall. Photo: CPAT 1324-18. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 85c0196

1124 Gredington ardal cymeriad. Hen dirwedd cefnen a rhych mewn rhan o Gredington Park. Photo: CPAT 85c0196. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1328-07

1125 Eglwys Cross ardal cymeriad. Lonydd troellog yn ffurfio rhan o’r dirwedd a amgaewyd yn hynafol ger Hanmer Hall Farm. Photo: CPAT 1328-07. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1321-24

1126 Higher Lanes ardal cymeriad. Hen bwll marl ger Shift Farm. Photo: CPAT 1321-24. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1321-16

1127 Iscoyd ardal cymeriad. Parc Iscoyd. Photo: CPAT 1321-16. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1328-02

1128 Stimmy Heath ardal cymeriad. Caeau a phlanhigfeydd diweddar ger The Conery. Photo: CPAT 1328-02. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1329-17

1129 Fenn's Moss ardal cymeriad. Coetir bedw a chors mawn ger Oaf’s Orchard. Photo: CPAT 1329-17. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

CPAT PHOTO 1329-02

1130 Llys Bedydd [Bettisfield] ardal cymeriad. Camlas Shropshire Union yn Llys Bedydd [Bettisfield]. Photo: CPAT 1329-02. (Nôl i'r map)

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am yr ardal Cymeriad Tirwedd Hanesyddol hon

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


I gael gwybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys yn y cyfeiriad hwn neu ewch i wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru' yn www.ccw.gov.uk.

1125 1125 1125 1129 1129 1128 1128 1128 1128 1126 1126 1126 1126 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1121 1120 1120 1120 1120 1120 1120 1122 1122 1124 1124 1124 1130 1130 1130 1130 1114 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1118 1118 1118 1118 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1123 1123 1123 1123 1123 1123 1123 1123 1115 1115 1115 1115 1115