CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


AMAETHYDDIAETH A DEFNYDD TIR

Heddiw, bugeiliol yw prif ddefnydd tir ym Maelor Saesneg yn bennaf, ond yn ystod blynyddoedd diweddar mae pwyslais cynyddol wedi bod ar ffermio âr yn rhan ddwyreiniol yr ardal, felly collwyd ffiniau i greu caeau mwy. Mae'r ffynonellau tystiolaeth ar gyfer hanes amaethyddiaeth a defnydd tir ym Maelor Saesneg yn niferus ac yn amrywiol ac yn cynnwys hanes aneddiadau, siapau a meintiau caeau, tirwedd cefnen a rhych a phyllau marl (dwy nodwedd arbennig o wahanredol yn nhirwedd Maelor Saesneg), presenoldeb ffosydd a chloddiau draenio, a dosbarthiad coetiroedd. Mae tystiolaeth paill yn atodi'r rhain, yn ogystal â thystiolaeth o ffynonellau dogfennol, enwau lleoedd ac enwau caeau, a'r gwahanol fathau o adeiladau amaethyddol sy'n bresennol.

Mae topograffeg a phriddoedd nifer o ardaloedd wedi galluogi pobl i'w haddasu i naill ai amaethyddiaeth âr neu amaethyddiaeth fugeiliol, ac mae'n amlwg eu bod wedi newid o un drefn i'r llall ambell waith, a bod ffermio âr wedi bod ar waith mewn ardal llawer yn fwy helaeth ar un adeg. Mewn ardaloedd eraill, mae posibiliadau defnydd tir wedi bod llawer yn fwy cyfyngedig, fel yn y corsydd yn rhan dde-ddwyreiniol yr ardal, llethrau serth afonydd a nentydd â choed arnynt, yn enwedig ar hyd y ffiniau gogleddol a de-orllewinol, a'r dolydd gwlyb sy'n ymylu afon Dyfrdwy.

Mae patrymau presennol caeau yn balimpsest sy'n cynrychioli patrwm cymhleth o ddatblygiad dros nifer o ganrifoedd, ac mae'n amlwg bod nifer o wahanol fathau o gaeau yn dynodi nifer o wahanol brosesau. Mae patrymau caeau bach a mawr afreolaidd, a gysylltir yn aml â ffermydd gwasgaredig, yn nodweddiadol o aneddiadau arloesol neu waith clirio a chau coetiroedd a rhostir bob yn dipyn, a hynny ers y canol oesoedd cynnar. Mae grwpiau o gaeau llain, rhai ohonynt yn ffurfio systemau gweddol helaeth ac eraill yn gymharol fach ac arunig, yn cynrychioli hen gaeau agored a oedd unwaith yn gysylltiedig â systemau maenorau'r canol oesoedd. Mewn nifer o achosion mae'r caeau mawr, ac afreolaidd yn aml, sy'n ymylu afon Dyfrdwy, yn ôl pob tebyg yn cynrychioli cau ardaloedd o ddolydd a fu'n rhan o dir comin gynt. Efallai bod ardaloedd o gaeau mawr neu gaeau ag ymylon syth yn cynrychioli cau hen gomins y rhostir neu gorsydd yn gymharol ddiweddar, cynlluniau gwella tir neu, mewn rhai achosion, trosi hen barcdir.

Amaethyddiaeth gynnar

Hyd yma, ni ddaethpwyd o hyd i lawer o dystiolaeth uniongyrchol o ddefnydd tir cynnar yn yr ardal er, fel y gellid disgwyl, mae tystiolaeth paill yn darparu rhywfaint o dystiolaeth o ddilyniant cyffredinol, a oedd yn cynnwys clirio coetiroedd yn ystod diwedd y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod Rhufeinig o bosibl, ac yna creu amgylcheddau glaswelltir a choetiroedd, ond nid yw'n dangos y drefn gronolegol fanwl-gywir. Mae prinder cyffredinol tystiolaeth o aneddiadau cynnar yn awgrymu bod amaethyddiaeth wedi'i chyfyngu i ardaloedd cymharol arwahanol o goetiroedd wedi'u clirio, ond mae'n bosibl bod ecsbloetio dwys y dirwedd a fu yn ystod y canol oesoedd a chyfnodau diweddarach wedi cuddio tystiolaeth o anheddu a defnydd tir cynharach.

Defnydd tir yn y canol oesoedd cynnar

Bede sy'n gyfrifol am y cyfeiriad cynharaf at ddefnydd tir ym Maelor Saesneg, oherwydd iddo sylwi y byddai'r mynachod a berthynai i'r gymuned fynachaidd Frythonig ym Mangor Is-coed ar ddechrau'r 7fed ganrif yn byw drwy lafur eu dwylo eu hunain. Er nad yw maint y gymuned hunangynhaliol hon yn hysbys, efallai ei bod yn cynnwys cannoedd o bobl, a gellir tybio eu bod yn gweithio tir y gymuned, ond nid oes mwy o dystiolaeth wedi dod i'r amlwg ynglyn â natur neu faint y gweithgaredd amaethyddol hwn.

Fel y nodwyd uchod, mae'n ymddangos bod tystiolaeth enwau lleoedd Eingl-Sacsonaidd o'r 8fed ganrif neu'r 10fed ganrif, arolwg Domesday ddiwedd yr 11eg ganrif, a thystiolaeth ddogfennol arall o ddiwedd y 13eg ganrif, oll yn dynodi bod ardaloedd cymharol helaeth o goetiroedd wedi goroesi hyd ddechrau'r Canol Oesoedd o leiaf. Hyd yma, nid oes unrhyw dystiolaeth o aneddiadau Brythonig aneglwysig sy'n gyfoes â mynachlog Bangor Is-coed wedi'i datgelu, ond mae'n debygol bod nifer o aneddiadau bach amaethyddol gwasgaredig eisoes wedi dod i'r amlwg erbyn dechrau'r cyfnod canoloesol, ond nid yw'r ffaith bod enwau lleoedd Cymraeg cynnar yn yr ardal yn brin iawn, heblaw am ardal Bangor ei hun, yn gynorthwyol yn hyn o beth.

Mae'r astudiaeth o elfennau Eingl-Sacsonaidd enwau lleoedd, sy'n dyddio o gyfnod rhwng yr 8fed ganrif a'r 10fed ganrif yn ôl pob tebyg, yn cynnig darlun mwy eglur o natur a maint aneddiadau'r canol oesoedd cynnar ac, fel y gwelwyd uchod, mae'r rhain yn cynnwys Bronington, Brychdyn [Broughton], Gredington, Halchdyn [Halghton], Knolton, Owrtyn [Overton], Tybroughton, Willington, Wallington ac Wrddymbre [Worthenbury], ac mae'n debygol bod pob un o'r rhain yn ganolbwynt i gymuned a oedd yn ffermio. Fodd bynnag, o'r aneddiadau hyn Owrtyn [Overton], ac efallai Wrddymbre [Worthenbury], yn unig a fyddai'n datblygu o ran eu maint yn ystod y Canol Oesoedd, ac ymddengys yn debygol nad oeddynt yn cynrychioli mwy na chlwstwr o dyddynnod a'u caeau cysylltiedig yn ystod y cyfnod cynnar hwn, ynghyd ag ardaloedd coediog o wahanol feintiau rhyngddynt. Yn wir, mae'n debygol bod patrymau cymhleth defnydd tir eisoes wedi dechrau dod i'r amlwg erbyn y dyddiad hwn, rhwng y tir mwy addas i aredig, y tir mwy addas i bori yn yr haf neu'r gaeaf, a'r tir mwy anhydrin a fyddai'n parhau i fod yn goetir, yn rhostir neu'n llaid.

Amaethyddiaeth ar adeg Concwest y Normaniaid

Daw darlun cliriach o ecsbloetio'r ardal yn amaethyddol i'r amlwg yn sgîl arolwg Domesday ym 1086, a gynhyrchwyd gan y brenin Normanaidd, William y Cyntaf. Mae'r arolwg yn dynodi bodolaeth nifer o stadau amaethyddol a oedd yn cwmpasu ardal gryno o Faelor Saesneg ymhell cyn concwest y Normaniaid ym 1066, wedi'u rhannu rhwng yr eglwys ac Edwin, iarll Sacsonaidd Mersia. Roedd y rhain yn cynnwys maenorau yn Wrddymbre [Worthenbury], Llys Bedydd [Bettisfield], ac Iscoyd, ac efallai y gwnaeth eu holynwyr Normanaidd feddiannu'r stadau hyn â chyn lleied o chwalfa â phosibl, ynghyd â daliadau helaeth eraill a oedd eisoes yn bodoli na chafodd eu cofnodi yn yr arolwg Domesday yn ôl pob tebyg. Roedd maenor Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld) yn cynnwys digon o dir ar gyfer 8 o dimau aredig, roedd maenor Iscoyd (Burwardestone) yn cynnwys digon o dir ar gyfer 14 o dimau aredig ac roedd maenor Wrddymbre [Worthenbury] (Hurdingberie) yn cynnwys digon o dir ar gyfer 10 o dimau aredig. Efallai bod pob tîm aredig (caruca) yn cynrychioli oddeutu (40 hectar) 100 erw o dir âr ac, yn achos maenor Wrddymbre [Worthenbury], er enghraifft, mae hyn yn awgrymu bod rhwng 30-50 y cant o dir y faenor yn cael ei drin ar yr adeg honno. Mae'n syndod nad oes rhyw lawer o gyfeirio at ddolydd ym Maelor Saesneg yn ystod y cyfnod hwn - hanner erw yn Llys Bedydd [Bettisfield] ac un erw yn Wrddymbre [Worthenbury] - ac ymddengys yn debygol bod hyn yn dangynrychiolaeth llwyr. Dywedir bod pob un o'r tair faenor a gofnodwyd ym Maelor Saesneg wedi'u chwalu adeg Concwest y Normaniaid, efallai o ganlyniad i'r math o ddifrodi cosbol a oedd yn cael ei ddosbarthu yn Sir Gaer a'r gororau gogleddol yn ystod cyfnod y goncwest. Fodd bynnag, mae'n debygol bod yr effaith yn weddol fyrhoedlog, oherwydd mae'n amlwg bod trefn wedi dychwelyd i'r maenorau hyn erbyn diwedd yr 11eg ganrif, pan gynhyrchwyd arolwg Domesday.

Nid yw'r ffaith nad yw arolwg Domesday yn cyfeirio at stadau yn rhannau eraill Maelor Saesneg yn golygu, o anghenraid, bod pob un o'r rhain yn goedwig neu'n dir gwastraff ar yr adeg hon. Mewn rhai achosion, efallai bod stadau eraill yn cynnwys y tiroedd hyn, er bod y ffaith nad oes stadau wedi'u henwi yn rhan ganolog yr ardal yn awgrymu mai datblygiad diweddarach oedd yr ardaloedd oedd wedi'u trin yn helaeth ac y mae systemau cefnen a rhych yn dyddio o'r Canol Oesoedd ymlaen yn eu nodweddu. Efallai, bod trin tir yn yr ardaloedd hyn wedi'i gyfyngu i ganolbwyntiau bach yr anheddu y mae tystiolaeth enwau lleoedd Eingl-Sacsonaidd yn ei awgrymu.

Ehangu amaethyddol yn dilyn y goncwest Edwardaidd

Hyd yma, nid oes unrhyw dystiolaeth archeolegol na dogfennol ar gael o amaethyddiaeth ganoloesol ym Maelor Saesneg ar gyfer y ddau gan mlynedd rhwng arolwg Domesday ar ddiwedd yr 11eg ganrif a diwedd y 13eg ganrif, neu mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn brin iawn. Mae'n amlwg bod tirwedd newydd a gwahanol wedi dod i'r amlwg mewn nifer o rannau o'r ardal erbyn y dyddiad hwn. Er hynny, fel rydym eisoes wedi gweld, roedd safleoedd â ffosydd a chaeau agored helaeth i'w gweld bobman yn y dirwedd ac mae'n bosibl bod hyn yn golygu bod yr ardal wedi'i ffermio'n fwy helaeth yn sgîl y goncwest Edwardaidd yn fuan ar ôl 1284.

Rhoddwyd tiroedd a atafaelwyd oddi wrth gefnogwyr y tywysogion Cymreig a ddiorseddwyd i fewnfudwyr Seisnig, ac ymddengys eu bod wedi disodli'r ffurfiau dal tir a rheoli tir a oedd eisoes yn bodoli ac wedi sefydlu system o faenorau â chaeau agored ar sail model Seisnig cyfarwydd. Dogfennwyd cyfleoedd eraill y manteisiwyd arnynt i ehangu yn amaethyddol yn dilyn y goncwest ac roedd y rhain yn golygu bod y boblogaeth Gymreig leol yn cael ei hamddifadu o'i hawliau arferol i borfeydd a choedwigoedd, yn syth ar ôl y goncwest Edwardaidd, a hynny yn anghyfreithlon yn aml. Cyfeiriwyd uchod at Edward yn rhoi caniatâd i gwympo coetir sylweddol posibl o'r bwlch yn Redbrook at ddibenion strategol yn ystod y 1280au, a cheir enghreifftiau eraill lle honnwyd pan wnaeth y brenin orchymyn lledu ffyrdd, aeth beili'r Frenhines Eleanor yn rhy bell pan gliriodd lleiniau mawr o dir a'u troi yn dir âr, hyd yn oed lle nad oedd gan y frenhines unrhyw hawl i'r ardal.

Fel y nodwyd uchod, ymddengys bod dosbarthiad safleoedd â ffos ym Maelor Saesneg yn cadarnhau'r awgrym eu bod yn cynrychioli cyfnod ehangu arloesol ar ddiwedd y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif. Ymddengys bod tystiolaeth enwau lleoedd yn awgrymu bod hyn yn gysylltiedig yn agos iawn â systemau cefnen a rhych y canol oesoedd, a'i fod yn osgoi aneddiadau cnewylledig a oedd eisoes yn bodoli - efallai wedi'u creu o hen ardaloedd porfa a choedwig. I ddechrau, roedd y dyhead i roi hwb i'r cyllid o diroedd y goron yng Nghymru yn rhannol gyfrifol am symbylu'r ehangu hyn, ac roedd agor marchnadoedd newydd, fel yr un a sefydlwyd yn Owrtyn [Overton], yn gymorth yn hyn o beth.

Caeau âr agored a chefnen a rhych

Er nad oes llawer o dystiolaeth ddogfennol gynnar wedi goroesi mewn cysylltiad â systemau maenorol amaethyddiaeth a defnydd tir ym Maelor Saesneg, mae goroesiad eang tirweddau cefnen a rhych, yn ogystal â phatrymau gwahanredol caeau llain sy'n amlwg yn y dirwedd fodern ac ar fapiau cynnar, yn darparu tystiolaeth o gaeau agored canoloesol a oedd yn gysylltiedig â chanolfannau maenorol â ffos, ond mae dal angen astudio nifer o'r rhain yn fanwl. Yn ddiamau, mae rhai tirweddau cefnen a rhych, gan gynnwys rhywfaint o'r cefnau mwy cul, yn rhai diweddar, ac efallai nad ydynt yn gysylltiedig â thrin caeau agored, ond mae'n bosibl ei bod yn rhesymol tybio, o ystyried ffynonellau dogfennol, cyd-destun a ffurf, bod patrwm cyffredinol tirwedd cefnen a rhych wedi dechrau yn ystod y canol oesoedd a'i fod yn cynrychioli caeau âr agored a oedd yn gysylltiedig â maenorau canoloesol, efallai ar ffurf wahanol i'r ffurf glasurol a ddatblygodd yng Nghanoldir Lloegr.

Mae'n debygol nad yw'r holl dirwedd cefnen a rhych sy'n dyddio o'r canol oesoedd ym Maelor Saesneg yn dangos graddau'r ti âr a oedd wedi datblygu erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, gan osgoi yn gyffredinol tir llai ffrwythlon, llethrau mwy serth y nentydd ac afonydd a thir a oedd yn tueddu i orlifo. Hyd yma, daethpwyd o hyd i oddeutu 1,995 hectar (4,929 erw) o dirwedd cefnen a rhych ym Maelor Saesneg trwy awyrluniau ac arolygon maes, yn enwedig yn rhan orllewinol yr ardal, sy'n cynrychioli ychydig yn llai na 17 y cant o'r holl ardal. Mae cyfran llawer uwch yn amlwg mewn cymunedau fel Willington Wrddymbre [Worthenbury] a rhan orllewinol De Maelor lle mae'n cyfrif am 40 y cant o'r ardal, ond mewn cymunedau eraill fel rhan ogleddol Bronington mae'n digwydd mewn systemau arwahanol llai.

Mae hyn yn cymharu â rhai ardaloedd tirwedd cefnen a rhych clasurol yng Nghanoldir Lloegr lle mae hyd at 90 y cant o ardaloedd rhai trefgorddau yn dir âr, ond mewn rhannau gorllewinol Sir Gaer, ystyrir bod 75 y cant yn ffigur mwy nodweddiadol. Fel yn achos systemau caeau helaeth Canoldir Lloegr, mae tirwedd cefnen a rhych Maelor Saesneg yn cynrychioli yn bennaf cytundeb deiliadol lle cafodd daliadau â lleiniau bychain wedi'u cydgymysgu eu gwasgaru mewn cae agored. Yma, fel ym mannau eraill, yn gyffredinol roedd y cefnennau yn rhedeg i lawr y dirwedd, gan redeg ar draws y cyfuchliniau, ac roedd y rhychau rhwng y cefnennau hefyd yn ddraeniau gan ddarparu ffiniau rhwng y lleiniau. Cafodd y cefnennau eu creu dros amser wrth i'r aradr droi'r pridd âr i mewn yn gyson. Yn y system cae agored a oedd yn nodweddiadol o Ganoldir Lloegr, roedd y cefnennau, a adwaenid hefyd fel 'lands', yn ffurfio ystadennau ac roedd y rhain yn eu tro yn ffurfio caeau. Fel arfer, byddai tri chae yn sylfaen i system gylchdro a gynlluniwyd i sicrhau ffrwythlondeb parhaus y tir, oherwydd byddai un o'r caeau yn ei dro yn cael ei adael yn fraenar am flwyddyn.

Er enghraifft, awgrymwyd bod yna dri, neu efallai mwy, o gaeau canoloesol agored ym Mangor Is-coed, Owrtyn [Overton] a Hanmer, ond efallai nad oes tystiolaeth o fwy nag un yn Wrddymbre [Worthenbury], a cheir tystiolaeth ddogfennol o gaeau comin agored yn nhrefgorddau Gredington, Llys Bedydd [Bettisfield] ac, yn fwy na thebyg yn Tybroughton a Brychdyn [Broughton]. Hefyd, ymddengys bod cyfeiriadau at leiniau agored yn ystod y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif yn Althrey, Knolton, a Llannerch Banna [Penley], ond mae'n bosibl bod y rhain, fel rhai mewn mannau eraill, wedi ffurfio grwpiau bychain o leiniau aredig yn hytrach na chaeau âr wedi'u trefnu yn dda.

Yn ddiamau, mae cyfran o'r hen dirweddau cefnen a rhych wedi'u colli oherwydd aredig a gwastatáu diweddarach. Mae'n amlwg bod perthynas gymharol agos rhwng siapiau rhai caeau a thirwedd cefnen a rhych sydd wedi goroesi. Mae hyn i'w weld yn arbennig yn achos hen gaeau llain y mae mapiau cynharach yn eu dangos, yn ogystal â rhai mathau eraill o gaeau rheolaidd, ac ymddengys bod hyn yn helpu i leoli nifer o systemau caeau agored mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw dystiolaeth wedi'i chofnodi o dirwedd cefnen a rhych. Mewn rhai achosion, mae'r rhain yn cyfateb i'r dystiolaeth enwau caeau ac felly'n awgrymu bod caeau agored yn arfer bodoli yno, fel yn achos Maes Mawr a Maes y Groes, a gofnodwyd gyntaf yn ffynonellau o ddiwedd yr 16eg ganrif a dechrau'r 17eg ganrif, sy'n cyfateb i weddillion caeau llain yng ngogledd-ddwyrain a de Bangor Is-coed.

Mae'n amlwg bod y dopograffeg leol a'r draenio naturiol yn bwysig wrth bennu patrwm yr ystadennau: felly, ar lethrau esmwyth yn aml ceir ystadennau hir, sy'n cynnwys nifer o gefnennau cyflin, ond ar dir tonnog ceir patrymau cymhleth o ystadennau bach a chefnennau yn mynd i nifer o gyfeiriadau. Efallai bod y system a oedd ar waith ym Maelor Saesneg yn fwy tebyg i'r hyn a oedd ar waith yn Sir Gaer, lle ymddengys bod y caeau âr agored yn cynnwys nifer o unedau neu ystadennau bach, ond nid oes llawer o dystiolaeth bod yr ystadennau'n ffurfio caeau agored mawr fel yng Nghanoldir Lloegr. Efallai gellir ystyried bod yr ystadennau, mewn rhai achosion, fel mewn rhannau eraill o ogledd-orllewin Lloegr, yn unedau o goetir a rhostir a adenillwyd ac efallai eu bod wedi parhau mewn rhai cymunedau mor ddiweddar â'r 15fed ganrif neu'r 16eg ganrif, mewn rhai achosion.

Efallai bod elfennau o'r patrwm hwn yn adlewyrchu patrwm dwys o drin tir y credir iddo fod ar waith o ddyddiad cynnar mewn rhannau o ogledd-orllewin Lloegr. Roedd yn cynnwys cyfnod byr o adael tir yn fraenar rhwng y cynhaeaf a hau'r grawn yn y gwanwyn dilynol. Efallai bod yr arfer o ddaliadau unigol yn ffurfio grwp cydgyfnerthedig o leiniau mewn rhannau o'r caeau comin, yn hytrach na gwasgaru lleiniau yn eang, yn nodwedd arall a allai wahaniaethu rhwng caeau agored Maelor Saesneg, ac ardaloedd cyfagos gogledd-orllewin Lloegr, a system Canoldir Lloegr. Efallai bod hyn wedi deillio o gyfnewid a chyfnerthu patrwm a fu unwaith yn fwy gwasgaredig, a hynny ar ddyddiad cymharol gynnar yn y canol oesoedd, efallai o ganlyniad i ardal lle ymddengys bod anheddu yn ardal graidd Maelor Saesneg wedi bod yn wasgaredig mewn pentrefannau yn hytrach nag wedi canolbwyntio ar bentrefi cnewylledig, a oedd yn fwy nodweddiadol yng Nghanoldir Lloegr.

Yn ddiamau, grawnfwydydd fyddai'r cnydau a fyddai'n cael eu tyfu yn fwyaf cyffredin yn ystod y canol oesoedd, ond mae'n hysbys bod pys a ffa wedi cael eu trin yn y caeau agored yn ardaloedd cyfagos Lloegr. Hefyd, cyflwynwyd cywarch a llin o ddyddiad cynnar, er ei bod yn bosibl bod y rhain yn cael eu tyfu ar gaeau amgaeëdig yn bennaf. Hefyd, ceir tystiolaeth yr ystyrir ei bod yn fwy addas gwneud rhannau o'r caeau âr agored yn ddolydd, a'u torri i gynhyrchu gwair yn hytrach na'u haredig.

Fel mewn mannau eraill, roedd caeau agored Maelor Saesneg yn rhan o system defnydd tir mwy helaeth a oedd yn cefnogi economi ffermio cymysg. Roedd y system yn cynnwys dolydd a dorrwyd yn draddodiadol i gynhyrchu gwair i fwydo anifeiliaid yn y gaeaf a lle byddai stoc yn pori yn yr hydref, porfeydd comin lle byddai stoc yn pori yn yr haf, yn ogystal â'r caeau agored eu hunain a oedd, mae'n debyg, hefyd yn bwysig i'w pori yn yr haf a'r hydref pan roeddent yn fraenar. Ymddengys bod cyfeiriadau dogfennol at, er enghraifft, dôl Althrey a oedd yn amlwg yn ddôl comin, yn nhrefgordd Bangor Is-coed ar ddechrau'r 16eg ganrif, yn ardal Cae Rasio Bangor heddiw. Fel yn nhrefgorddau cyfagos Sir Gaer, daeth y dolydd helaeth, a oedd yn wlyb yn dymhorol, ar hyd rhan isaf afon Dyfrdwy yn bwysig wrth ddatblygu ffermio stoc yn y rhanbarth yn ystod y Canol Oesoedd. Byddai gwahanol bobl yn berchen ar y lleiniau, ac yn draddodiadol byddai stanciau neu gerrig yn nodi'r ffiniau. Byddent yn cael eu torri ar gyfer gwair ac yna'n cael eu defnyddio fel porfeydd comin. Yn gyffredinol nid yw'r lleiniau bellach i'w gweld ar y llawr, oherwydd na fyddent yn cael eu haredig. Efallai bod y dirwedd cefnen a rhych ar y tir sy'n debygol o orlifo ar lannau Afon Dyfrdwy i'r gogledd o Wrddymbre [Worthenbury] yn un o'r gwahaniaethau rhwng systemau'r ardal hon a systemau caeau Canoldir Lloegr. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu patrwm sydd i'w weld yn rhannau cyfagos o ddyffryn isaf afon Dyfrdwy yng ngorllewin Sir Gaer ac yn nyffryn afon Hafren islaw'r Drenewydd yn Sir Drefaldwyn. Ond ystyrir bod y batrwm hwn yn cynrychioli system 'hwsmonaeth drosadwy', lle y gallai tir a oedd yn fwy addas fel dôl yn ystod y tymor gwlyb ddod yn dir âr yn ystod cyfnod hir o dywydd sych, yn hytrach na chynrychioli dolydd dyfredig.

Mae tirwedd cefnen a rhych yn elfen wahanol a phwysig yn nhirwedd hanesyddol Maelor Saesneg ac mae'n bwysig ein bod yn ei chofnodi, ei dadansoddi, ei dehongli a'i gwarchod. Mewn rhai ardaloedd, mae'r olion hyn o amaethyddiaeth âr ganoloesol yn parhau i ildio i amaethyddiaeth fodern fecanyddol, o ganlyniad i waith gwella porfeydd ac ail-hau, a byddant yn cael eu colli oherwydd datblygiadau tai ar ymylon nifer o aneddiadau fel Wrddymbre [Worthenbury], Bronington, a Horseman's Green.

Twf ffermio rhyddfraint yn y canol oesoedd a'r cyfnod ôl-ganoloesol

Fel yn ardaloedd cyfagos Canoldir Lloegr, mae'n debygol y cliriwyd y tir ar ymylon y caeau agored, sef y rhan fwyaf o'r tir fferm mewn nifer o drefgorddau, gan unigolion a ffermwyr oedd yn eu ffermio yn hytrach na'r maenorau. Er enghraifft, mewn ardaloedd cyfagos yn Swydd Amwythig mae'n amlwg bod gwaith clirio neu asartio coetir ac adennill rhostir ar waith yn rheolaidd o'r 12fed ganrif hyd yr 16eg ganrif o bosibl, yn ddiamau yn rhannol ar draul hen borfeydd comin, ac felly'n arwain at ffermydd dan berchnogaeth unigolion, â mwy o ddibyniaeth ar fugeilyddiaeth yn ôl pob tebyg. Fel y nodwyd uchod, arweiniodd y broses clirio bob yn dipyn hon at batrymau afreolaidd o gaeau mawr a bach, yn aml yn gysylltiedig â ffermydd gwasgaredig, sydd heddiw yn nodweddu ychydig yn llai na 50 y cant o dirwedd Maelor Saesneg.

Ymddengys bod colli gweithwyr o ganlyniad i'r Pla Du, a arweiniodd at ddirwasgiad tiroedd wedi'u trin mewn rhai ardaloedd, ynghyd â thwf y fasnach wlân, wedi rhoi gwaith trin y caeau comin agored dan bwysau. Hefyd, o ganol y 14eg ganrif, ymddengys bod maint caeau agored Maelor Saesneg, ynghyd â chaeau agored ardaloedd cyfagos Sir Gaer a Swydd Amwythig, yn graddol leihau oherwydd proses cau tir bob yn dipyn, trwy gytundebau preifat. Fel yn Sir Gaer, nid oedd y senedd yn gyfrifol am gau tir ym Maelor Saesneg oherwydd bod gwaith cau tir yn mynd rhagddo yn gyson rhwng y 14eg ganrif a'r 18fed ganrif. Arweiniodd hyn at ffosileiddio'r hen gaeau agored y mae tirwedd cefnen a rhych a chaeau siâp llain yn eu cynrychioli yn y dirwedd wledig. Erbyn y 15fed ganrif a'r 16eg ganrif, roedd nifer o stadau cynnar yn amsugno rhannau o hen gaeau agored, fel y lleiniau agored a ddaeth i feddiant Llannerch Panna, hen stad yn nhrefgordd Llannerch Banna [Penley] (De Maelor), y cyfeiriwyd ati yn ystod y 1470au. Daeth tirwedd cefnen a rhych a oedd yn cynrychioli rhan o gaeau agored yn barcdir yn Emral (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) a Gredington (Hanmer) oddeutu'r dyddiad hwn.

Un o fuddiannau hanfodol system caeau agored y canol oesoedd o drin tir oedd bod cylchdroi cnydau a gadael tir yn fraenar yn sicrhau bod y pridd yn parhau yn ffrwythlon. Nid yw'n hysbys i ba raddau y chwalodd y duedd i gau tir y dulliau traddodiadol hyn, ond mae'n amlwg bod pryderon ynghylch dirywiad yn ffrwythlondeb y tir wedi cael eu cofnodi erbyn yr 17eg mewn ardaloedd cyfagos yng ngogledd-orllewin Lloegr. Ceir cofnodion o arfer marlio, sef palu'r isbridd a'i ychwanegu at yr uwchbridd i wella ffrwythlondeb, o'r 12fed ganrif a'r 13eg ganrif ymlaen yn Swydd Amwythig a Sir Gaer, ac mae nifer o ffynonellau cynnar yn pwysleisio gwerth marlio'r tir cyn hau gwenith. Fodd bynnag, efallai bod y rhan fwyaf o byllau marl gogledd Swydd Amwythig, Maelor Saesneg a gorllewin Sir Gaer yn dyddio o ddechrau'r cyfnod cau tir, rhwng yr 16eg ganrif a'r 18fed ganrif. Er ei bod yn amlwg bod proses mewnlenwi barhaus wedi bod ar waith am fwy na chanrif, mae'r hen byllau marl yn dal i fod yn elfen arwyddocaol a gwahanredol yn nhirwedd y rhanbarth, ac yn aml mae yna gymaint â 60 ohonynt fesul cilomedr sgwâr a bydd un neu fwy ohonynt mewn cae. Maent hefyd yn cynrychioli gorwel gwahanredol yn hanes tirwedd yr ardal.

Defnyddiwyd amrywiaeth eang o glog-gleiau a thywod Triasig, cleiau a marlau ar gyfer marl yn y rhanbarth, a hynny o gyfnodau cynnar, er mwyn gwella cyfansoddiad, gwead a strwythur y pridd. Er enghraifft, yn ôl un ysgrifennwr yn negawd cyntaf y 19eg ganrif, ystyriwyd bod marl 'unquestionably one of the most important of the Cheshire manures. . . found in many parts of England, but in particular abundance in Cheshire'. Daethpwyd o hyd i farlau calchaidd a marlau di-galchaidd yn yr ardal. Pan ychwanegwyd marl calchaidd at bridd cleiog, roedd y cynnwys calch (hyd at 15 y cant yn garbonad calsiwm yn lleol) yn gwella strwythur y pridd, ac yn ei wneud yn haws i'w ddraenio a'i drin. Pan fyddai'n cael ei ychwanegu at bridd tywodlyd, byddai'r cynnwys clai yn gwella gallu'r pridd i ddal dwr a byddai'n gwrthweithio asidrwydd naturiol y pridd, gan warchod cydrannau organig a mwynol y pridd a fyddai'n cael eu golchi allan fel arall. O'r herwydd, byddai pridd yn dod yn fwy ffrwythlon. Roedd effaith marlau di-galchaidd yn debyg, er mai newid gwead y pridd yn unig roeddent yn ei wneud.

Yn aml, mae'r hen byllau marl wedi llenwi â dwr, ac mae eu hymylon yn serth. Yn gyffredinol, byddant yn mesur oddeutu 5-15 metr ar draws a bydd coed neu lwyni o'u hamgylch yn aml. Fel arfer, roedd ramp ar un ochr iddynt er mwyn i gerti allu eu cyrraedd, ac roeddynt yn aml yng nghanol caeau, mae'n debyg er mwyn ei gwneud yn haws cludo'r marl. Ond mewn nifer o achosion roeddynt ar ffiniau caeau (neu ffiniau hen gaeau sydd bellach wedi diflannu) neu lle mae tri neu bedwar o gaeau yn cyfarfod, efallai er mwyn gallu eu cyrraedd o nifer o wahanol gaeau. Yn aml, mae'r pyllau hyn yn hirgul neu'n ymddangos mewn grwpiau o ddau neu fwy yn yr un ardal, gan awgrymu bod cloddio wedi bod ar nifer o achlysuron, gan osgoi pyllau a oedd eisoes wedi llenwi â dwr. Yn rhan ddeheuol Maelor Saesneg ceir nifer o byllau mwy sydd wedi llenwi â dwr ger ffermydd neu ffyrdd, sy'n awgrymu, o bosibl, bod marl yn cael ei gludo i gaeau pell i ffwrdd, efallai yn fasnachol. Yn aml, ystyriwyd bod pyllau sydd wedi llenwi â dwr yn beryglus, a chofnodwyd achosion o foddi mewn pyllau marl yn y rhanbarth o'r canol oesoedd ymlaen.

Gellir gweld bod nifer o'r pyllau marl yn torri trwy'r systemau caeau cefnen a rhych cynnar, ac felly ymddengys bod y rhan fwyaf o'r pyllau yn y rhanbarth yn dyddio o gyfnod ar ôl i system caeau agored y canol oesoedd ddod i ben. Fodd bynnag, mae dosbarthiad cyffredinol pyllau marl yn cyfateb yn agos i dirwedd cefnen a rhych a chaeau llain mewn nifer o ardaloedd, ac mae'r ddwy nodwedd yn arwyddion cyffredinol o hen gaeau agored canoloesol. Mewn nifer o achosion, awgryma hyn bod pyllau marl yn cynrychioli gwaith gwella'r hen gaeau agored yn ystod y cyfnod cau tir cynnar, efallai o'r 16eg ganrif ymlaen. Fodd bynnag, mae dosbarthiad pyllau marl yn ymestyn y tu hwnt i ardal hysbys tirwedd cefnen a rhych a chaeau llain, ac oherwydd y cysylltir marlio yn gyffredinol â thir âr, er ei fod, yn amlwg, weithiau wedi bod yn rhan o waith gwella porfeydd, efallai bod dosbarthiad cyffredinol pyllau marl ym Maelor Saesneg yn arwydd o faint y tir âr rhwng yr 16eg ganrif a'r 18fed ganrif mewn tirwedd y mae ardaloedd helaeth o borfa yn ei nodweddu heddiw.

Ymddengys bod calchu wedi disodli arfer marlio yn gyflym ar ddechrau'r 19eg ganrif, yn enwedig pan ddaeth cludiant camlas ar gael i gludo calch i'r rhanbarth o chwareli yn y bryniau i'r gorllewin o afon Dyfrdwy. Adeiladwyd odynau i drosi carreg galch yn galch ar hyd Camlas Ellesmere yn Llys Bedydd [Bettisfield] yn ystod y cyfnod hwn, ac roeddynt yn sicr yn cyflenwi eu cynnyrch i ffermydd lleol. Yn eu tro, daeth gwrteithion cemegol i ddisodli calch amaethyddol, pan ddaethant ar gael yn rhwyddach tua diwedd y 19eg ganrif.

O'r 2,200 a mwy o byllau marl a gofnodwyd ym Maelor Saesneg, mae cyfran ohonynt wedi'u mewnlenwi ac ar fapiau cynharach yr Arolwg Ordnans yn unig y gellir eu gweld. Mae'r pyllau'n cynrychioli cyfnod gwahanredol o arferion amaethyddol a defnydd tir yn y gorffennol, efallai'n dechrau yn y Canol Oesoedd, ond yn arbennig o nodweddiadol o'r cyfnod pan ddaeth cau tir i ben rhwng y 16eg ganrif a'r 18fed ganrif. Yn anffodus mae nifer ohonynt yn dal i gael eu llenwi â sbwriel, er bod rhai'n cael eu trosi yn nodweddion addurnol i'r ardd. Yn ogystal â darparu elfen hanesyddol weledol bwysig yn y dirwedd fodern, mae pyllau sydd wedi llenwi â dwr a phyllau wedi'u mewnlenwi hefyd yn cynrychioli adnodd ecolegol a phalaeoamgylcheddol.

Draenio a chau tir y corsydd

Daw cyfeiriadau at dirfeddianwyr yn draenio ac yn adennill tir gwlyb mewn ardaloedd cyfagos yn Swydd Amwythig yn fwy cyffredin yn ystod y cyfnod rhwng 1550-1650, ac er bod llai o gofnodion wedi goroesi mewn perthynas â chorsydd ardaloedd Cymreig, ceir nifer o gyfeiriadau, fel un ym 1582 mewn perthynas â thorri mawn a phalu ffos draenio. Fodd bynnag, ymddengys mai'r cyfnod o ddechrau'r 18fed ganrif oedd prif gyfnod adennill tir, pan ddechreuwyd rhoi grymoedd i gau tir rhannau o'r corsydd. Yn aml ar ôl draenio'r rhostiroedd a oedd yn ymylu'r corsydd, daethant i fod yn weddol gynhyrchiol, ac arweiniodd y broses draenio a chau tir at dirwedd wahanredol caeau pori mawr a bach unionlin a ffosydd yn eu ffinio, â ffermydd cymysg a thyddynnod, a pheth tir âr ar y tywod a'r graean oedd wedi'i ddraenio yn well. Yn dilyn hyn, troswyd rhai o'r ardaloedd hyn yn blanhigfeydd conifferaidd, fel yn Fenn's Wood, a blannwyd yn y 1960au.

Gwelliannau amaethyddol yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif

Yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, cyflwynwyd nifer o welliannau amaethyddol, yn enwedig wrth i'r tirfeddianwyr mwy geisio gwella cyllid eu stadau. Er enghraifft, datblygwyd stad Bryn-y-Pys yn sylweddol ar ôl i Edmwnd Peel ei phrynu yng nghanol y 19eg ganrif. Er gwaethaf y newidiadau hyn, byddai'r rhan fwyaf o dirwedd caeau'r canol oesoedd a'r cyfnod ôl-ganoloesol yn parhau bron iawn yn gyfan er y ceir rhywfaint o dystiolaeth bod caeau wedi'u cyfnerthu a'u hehangu a bod ffiniau caeau wedi'u haildrefnu mewn rhai ardaloedd.

Hefyd, roedd gwelliannau i adeiladau amaethyddol yn gyffredin, yn arbennig ar ffermydd â thenantiaid. Mae'r gymysgedd o adeiladau fferm ar Buck Farm, Halchdyn [Halghton] (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) yn nodweddiadol o'r cyfnod, gydag asgell ffrâm bren o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif â mynedfeydd caeëdig i gerti, ysgubor o'r 19eg ganrif â pheiriannau roedd belt yn eu gyrru, a pharlwr godro bric coch o'r 19eg ganrif.

Hefyd yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif gwelwyd cynnydd yn nifer y mentrau amaethyddol byrhoedlog ar dir ymylol, fel ffermio cwningod yn ôl tystiolaeth enwau lleoedd fel The Conery a Conery Lane ger Fenn's Wood a The Warren ger Parc Iscoyd (y ddau yn Bronington).

Tirwedd caeau presennol

Mae amrywiaeth o batrymau caeau yn amlwg yn y tirweddau caeau presennol, fel rhai y soniwyd amdanynt uchod, ac efallai ei bod yn bosibl eu gosod mewn fframwaith hanesyddol eang. Ymddengys bod ardaloedd o gaeau mawr afreolaidd a chaeau bach afreolaidd (at ddibenion yr astudiaeth hon, dosbarthwyd caeau mawr yn rhai mwy na 3 hectar a chaeau bach yn rhai llai na 3 hectar) wedi'u creu yn ôl pob tebyg o ganlyniad i glirio coetir bob yn dipyn a chau rhostir, efallai o'r canol oesoedd yn bennaf. Efallai bod hyn hefyd yn cynnwys cau tir ardaloedd a oedd yn goetir comin a phorfeydd comin ac yn awgrymu daliadaeth rhyddfraint. Fodd bynnag, cysylltir nifer o gaeau o'r math hwn â thystiolaeth trin tir cefnen a rhych, sy'n awgrymu bod nifer o gaeau o'r siapiau hyn wedi datblygu o gau tir yr hen gaeau agored canoloesol. Mae'n debyg, mewn nifer o achosion, bod caeau o ddosbarthwyd yn gaeau gorlifdir, sydd yn gyffredinol yn ymylu afon Dyfrdwy ac yn aml yn dioddef gan orlifo nawr neu wedi dioddef gan orlifo yn y gorffennol, yn cynrychioli cau tir hen ddolydd comin a oedd eisoes yn cael eu defnyddio yn ystod y Canol Oesoedd, a gafodd eu cau, yn ôl pob tebyg, ddiwedd y canol oesoedd neu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Weithiau mae'r caeau hyn yn cynnwys ystumllynnoedd neu gilfaeau afonydd. Fel y nodwyd uchod, weithiau ceir y rhain mewn cysylltiad â thrin tir cefnen a rhych, sy'n dynodi eu bod wedi'u defnyddio yn gyfnodol fel caeau âr agored yn ystod y canol oesoedd. Mae perthynas agos rhwng caeau llain gwahanredol, a ddosbarthwyd yn gyffredinol yn grwpiau o gaeau cymharol hir a thenau (â chymhareb hyd : lled >3:1), ac ardaloedd trin tir cefnen a rhych sydd wedi goroesi, ac ymddengys eu bod wedi datblygu o uno a chau tir caeau llain agored canoloesol. Maent yn elfen o'r hyn sy'n ymddangos i fod yn gaeau agored canoloesol bach a mawr, ac yn aml maent mewn cyfuniad â phatrymau caeau eraill sydd yn debygol (fel yn achos caeau a ddosbarthwyd yn gaeau llain wedi'u haildrefnu) neu'n bosibl (fel yn achos caeau a ddosbarthwyd yn gaeau rheolaidd) hefyd wedi datblygu o gaeau llain canoloesol. Yn aml, mae patrymau caeau a ddosbarthwyd yn gaeau mawr ag ochrau syth ac yn gaeau bach ag ochrau syth (eto, dosbarthwyd caeau mawr yn rhai mwy na 3 hectar a chaeau bach yn rhai llai na 3 hectar), yn ymddangos yn debyg i'r tir amgaeëdig ôl-ganoloesol neu fodern cynnar, ac yn aml yn cynrychioli naill ai cau rhostiroedd yn weddol ddiweddar neu aildrefnu tirwedd yn weddol ddiweddar, fel yn achos dosrannu hen barcdir, er enghraifft. Yn olaf, ceir rhai caeau bach gwahanredol a ddosbarthwyd yn badogau/closydd sydd, yn gyffredinol, yn fach ag ochrau syth ac yn gysylltiedig â thyddynnod neu ffermydd.

Mae gwrychoedd syml yn nodi ffiniau'r rhan fwyaf o gaeau modern, ac mae ffensys postyn a weiren bellach hefyd yn gymorth i allu cadw stoc yn y cae neu allan ohono. Mae'n amlwg bod plygu gwrychoedd wedi bod yn arfer cyffredin yn y gorffennol, ac mae’n parhau yn gyfnodol mewn rhai ardaloedd. Mae nifer o’r gwrychoedd yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau collddail a chelyn, ac yn aml bydd coed derw aeddfed yno hefyd. Yn gyffredinol, mae gwrychoedd sy’n gysylltiedig â chau tir hen gaeau agored yn weddol syth, ond mae ffiniau afreolaidd i'w gweld yn amlwg mewn rhai ardaloedd, sydd wedi datblygu, yn ôl pob tebyg, yn sgîl clirio coed a chau tir bob yn dipyn. Mewn rhai ardaloedd, fel ardal nodwedd Eglwys Cross, ceir glasleiniau gyda’r ffiniau caeau sy’n dynodi amaethyddiaeth âr yn y gorffennol. Mewn rhai ardaloedd, mae llinellau o goed derw aeddfed wedi datblygu mewn glaswelltir oherwydd y broses cael gwared ar wrychoedd ac uno caeau. Mae gwrychoedd sy’n cynnwys un rhywogaeth a ffensys pyst a weiren diateg yn fwy nodweddiadol mewn rhai ardaloedd fel ardaloedd nodwedd Stimmy Heath a Llys Bedydd [Bettisfield] a gafodd eu hadennill a’u cau yn fwy diweddar.