CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


ADEILADAU YN Y DIRWEDD

Mae adeiladau yn rhan bwysig o wead tirwedd hanesyddol Maelor Saesneg. Nifer gymharol fach o adeiladau sydd wedi goroesi o'r cyfnod canoloesol, er bod olion strwythurol nodedig yn cynnwys rhannau o Eglwys y Santes Fair, Owrtyn [Overton] ac Eglwys Sant Dunawd, Bangor Is-coed. Mae rhannau o'r rhain yn dyddio o'r 14eg ganrif ac efallai mai dyma'r unig waith cerrig canoloesol sydd wedi goroesi yn yr ardal tirwedd hanesyddol.

Mae'n amlwg mai pren, yn hytrach na cherrig, oedd y deunydd a ddefnyddiwyd yn fwyaf mynych ar gyfer adeiladau seciwlar yn y canol oesoedd ac mae nifer o strwythurau gweddol uchel eu statws wedi goroesi, fel neuaddau o'r 15fed a'r 16eg ganrif yn Horseman's Green (Hanmer), Althrey (Bangor Is-coed) a Penley Old Hall. Ymddengys bod y rhain, i raddau helaeth, yn olynwyr i safleoedd maenorol cynharach â ffos, gyda gorwel cynharach o adeiladau pren, ond nid oes unrhyw olion o'r rhain wedi goroesi. Yn nhy fferm Horseman's Green, roedd trawst ystlysog dros y neuadd yn drawst agored canolog, â rhywfaint o waith pren wedi'i fowldio yn addurnedig. Yn gyffelyb, adeiladwyd Althrey Hall fel neuadd ystlysog ac roedd yn cynnwys nenfforch a'r trawst spere. Yn wreiddiol, roedd yno aelwyd agored ganolog, ac mae tystiolaeth archeolegol yn awgrymu i'r neuadd gael ei hadeiladu ar safle adeilad cynharach. Mae'n debyg bod y ty presennol yn dyddio o ddechrau'r 16eg ganrif, ac roedd yn dy teg yn ôl disgrifiad John Leland yn ystod y 1530au. Mae'n debyg iddo gael ei adeiladu i Richard ap Howel. Credir mai darlun o fab Richard, Elis ap Richard (bu farw 1558) gyda'i briod Jane Hanmer, yw darlun ar ffurf murlun yn y ty sy'n dyddio o ganol yr 16eg ganrif. Hefyd, ymddengys bod Penley Old Hall wedi bod yn dy neuadd, â dau fae mae'n debyg, yn agored hyd y to gyda ffenestri pren myliynog, ac efallai simnai ochrol. Roedd y tu mewn i'r neuadd wedi'i addurno yn afrad, gyda chwyrliadau ac amrywiaeth o fotiffau trompe l'oeil eraill, gan gynnwys yr hyn sy'n ymddangos i fod yn dorsh wal wedi'i gosod mewn braced. Mae olion neuaddau eraill â nenfforch, â statws cymharol uchel, yn goroesi mewn mannau eraill, fel Llan-y-cefn (Owrtyn [Overton]). Mae natur yr adeiladau hyn yn fynegiant clir o'r cyfoeth roedd ffermio yn ei gynhyrchu yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ystod yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, y dechneg adeiladu â ffrâm focs bren oedd y dechneg y parhawyd i'w defnyddio fwyaf ar gyfer adeiladau statws uchel, fel Knolton Hall (Owrtyn [Overton]) ac Willington Cross (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) yn ogystal ag amrywiaeth o adeiladau â statws is. Ymhlith y rhain mae nifer o ffermdai wedi'u gwasgaru ledled yr ardal, a ddeilliodd o strwythurau ffrâm bren, fel Buck Farm, Fferm Glandeg, Oak Farm, The Fields (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Chapel Farm, New Hall Farm, a Thy Maeslwyn (Bronington), Fferm Gwalia ac efallai Lightwood Farm (Owrtyn [Overton]), Top Farmhouse, Knolton Bryn (De Maelor), The Cumbers a'r Bryn (Hanmer). Ymhlith tai a bythynnod ffrâm bren gweithwyr, â statws llai, sydd wedi goroesi mae White Cottage (De Maelor), a Bridge Cottages (Willington Wrddymbre [Worthenbury]). Adeiladwyd adeiladau eraill ffrâm bren mewn trefi a phentrefi yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys Magpie Cottage (Hanmer), The Stableyard (Bangor), a'r bwthyn bach ffrâm bren ger y fynwent yn Owrtyn [Overton]. Mae'n bosibl mai siop oedd hwn yn wreiddiol. Ymhlith adeiladau ffrâm bren nodedig llai eu maint yn Owrtyn [Overton] mae nifer ar y Stryd Fawr a Stryd Pen-y-llan, lle mae'n bosibl gweld y fframiau pren o'r drychiad cefn, a Quinta Cottage. Mae'n debygol mai to gwellt oedd ar y rhan fwyaf o adeiladau cynnar, a tho gwellt Magpie Cottage (Hanmer) yw un o'r enghreifftiau prin sydd wedi goroesi.

Hefyd, mae'n amlwg bod pren wedi cael ei ddefnyddio'n aml ar gyfer ysguboriau, ac mae'r strwythur â nenfforch yn Stryd Lydan (Llannerch Banna [Penley]) yn enghraifft bwysig sy'n dyddio o oddeutu 1550. Roedd hwn yn sefyll ar silff garreg ac mae'n siwr ei fod yn nodweddiadol o nifer o ysguboriau sydd wedi diflannu. Mae bellach wedi'i ailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Ymhlith ysguboriau ffrâm bren diweddarach, y mae nifer sylweddol ohonynt wedi'u cofnodi ym Maelor Saesneg, mae ysgubor mawr yn Althrey Woodhouse (Bangor), sy'n dyddio o'r 17eg ganrif yn ôl pob tebyg, a'r adeiladau fferm sy'n cynnwys beudy neu stablau yn Fferm Gwalia a'r stablau yn Llan-y-cefn (Owrtyn [Overton]).

Byddai'r paneli ffrâm bren wedi'u mewnlenwi â phlethwaith a dwb yn bennaf ond, fel y nodwyd isod, mae'n bosibl bod mawn wedi cael ei ddefnyddio at y diben hwn yn eithaf helaeth yn y canol oesoedd hwyr a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol yn ardal y corsydd dros y ffin yn Swydd Amwythig, er na cheir cofnod o hyn yn digwydd yng Nghymru.

O ddiwedd yr 17eg ganrif, defnyddiwyd brics coch a brown ar led, mewn cyfuniad â thoeau llechi yn gyffredinol. Ymddengys i'r deunyddiau hyn gael eu defnyddio yn gyntaf i godi adeiladau newydd â statws gweddol uchel, ond yna cawsant eu defnyddio i roi wyneb newydd i nifer o'r adeiladau pren o bob math a oedd eisoes yn bodoli, a'u hehangu, ac i fewnlenwi paneli nifer o'r adeiladau ffrâm bren a gadwodd eu drychiadau pren. Ymhlith adeiladau brics cynnar a nodedig mae Halghton Hall (Hanmer), a adeiladwyd ym 1662 o frics â cherrig wedi'u naddu, ffrâm drws mawr a cholofnweddau Dorig, a Bettisfield Old Hall (Bronington). Byddai'r rhain wedi'u rendro weithiau (fel y cafodd Plas yn Coed, Owrtyn [Overton]). Yn ystod y 18fed ganrif, daeth brics i fod yn brif ddeunydd adeiladu llawer mwy o adeiladau, gan gynnwys amrywiaeth eang o adeiladau, o ran statws a swyddogaeth gymdeithasol, yn dai'r bonedd a bythynnod gweithwyr, ac yn cynnwys y rhesi o dai trefol a bythynnod gweithwyr sy'n elfen mor bwysig ar dirwedd lled-drefol Sioraidd Owrtyn [Overton].

Ymhlith tai bric statws uchel pwysig o'r 18fed ganrif mae Parc Iscoyd (Bronington), a adeiladwyd oddeutu 1740, Hanmer Hall, ty fferm mawr o frics sy'n dyddio o oddeutu 1756, a The Vicarage, Hanmer sydd ger y llyn, Hollybush Lane Farmhouse, strwythur mawr â dau lawr ynghyd â phum bae y tu blaen iddo. Mae rhai o dai'r cyfnod hwn, fel Ty Gwydyr yn Owrtyn [Overton] a Ffermdy Argoed (Owrtyn [Overton]) yn cynnwys manylion fel talcennau â mur o gerrig, sy'n mynegi bod traddodiadau adeiladu cynhenid wedi'u coethi yn sgîl y cynnydd o ran ffyniant a buddsoddiad yn y dref, a'r cefn gwlad, yn ystod y cyfnod hwn. Adeiladwyd Mulsford Hall (Wilington Wrddymbre [Worthenbury]), sydd â chonglfeini o garreg a meini clo rhychog, ar ran o stad Emral, ac mae'n cynnwys yr arysgrif 'This house was built by C. Mathews, tenant of J. Puleston Esq. 'Tis for my landlord's good, and my own desire. AD 1746'. Credir mai'r un pensaer a luniodd y neuadd ag eglwys Sant Deiniol, a adeiladwyd o frics ym 1736 yn Wrddymbre [Worthenbury]. Oherwydd ei cherrig wedi naddu ar gyfer colofnweddau, terfyniadau yrnau, colofnresi a meini clo, dyfynnwyd mai hon yw'r eglwys Sioraidd orau a mwyaf cyflawn yng Nghymru.

Yn sgîl twf y stadau yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, adeiladwyd nifer o blastai bric newydd, ac adeiladau fferm, yn ogystal ag amrywiaeth o adeiladau cysylltiedig fel porthdai, bythynnod stad, elusendai ac adeiladau eraill o natur dyngarol. Hefyd, adeiladwyd nifer o'r plastai mwy sy'n deillio o'r cyfnod hwn o frics, fel Bryn-y-Pys (Owrtyn [Overton]) a Neuadd Emral (Willington Wrddymbre [Worthenbury]). Dymchwelwyd Bryn-y-Pys ym 1956 a dymchwelwyd Neuadd Emral ym 1936, ond ailgododd Clough Williams-Ellis rannau o'r adeilad ym Mhortmeirion. Ymhlith plastai eraill nodedig yn yr ardal a oedd hefyd yn ganolfan stadau, ond sydd hefyd wedi'u dymchwel, mae Gwernheylod (Owrtyn [Overton]), Broughton Hall (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), a Gredington (Hanmer). Weithiau, mae'n bosibl gweld cofadeiladau arunig i'r hen blastai a stadau hyn, ar ffurf porthdai, blociau stabl, gerddi a buarthau â wal, rhewdai (Neuadd Emral) ac ardaloedd o barcdir gynt. Yn fwy aml na pheidio, adeiladau ffrâm bren oedd y porthdai, bythynnod stad a'r elusendai o'r 19eg ganrif, neu dewiswyd arddull neo-Gothig o garreg i adeiladau o'r fath. Ymhlith adeiladau nodweddiadol o'r math hwn mae porthdy Neuadd Emral (un o'r tri phorthdy gwreiddiol), porthdai Y Gelli, Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Swyddfa Stad Bryn-y-Pys yn Owrtyn [Overton], pâr o fythynnod stad yn Mannings Green (Bronington) mewn arddull Duduraidd â simneiau bric wedi'u haddurno yn fanwl, pâr o fythynnod tebyg ond mwy plaen yn Frog Lane, Wrddymbre [Worthenbury], porthdai Bryn-y-Pys mewn arddull neo-werinol, rhes o wyth o fythynnod bric â drysau a ffenestri bwa yn Ffordd Wrecsam, Owrtyn [Overton], a'r Ystafell Ddirwest Methodistaidd ac Elusendai Kenyon yn Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]). Mae tri hen elusendy maen nadd mewn arddull gothig yn Salop Road, Owrtyn [Overton], eto yn cynnwys yr arysgrifiad 'A.D. 1848. These almshouses were erected to the memory of Caroline Bennion, late of Wrexham Fechan by her affectionate sisters. Faithful in the unremitting exercise of charity to the poor and every Christian virtue, she departed this life on 6th February 1847'.

Adeiladwyd tai a phlastai eraill yn ystod y 19eg ganrif, mewn arddull cynhenid diwygiadol, gan gynnwys enghreifftiau nodedig o waith y pensaer John Douglas a ymgymerodd â gwaith ar ran y teulu Kenyon, ac ymhlith ei adeiladau mae rheithordy Bangor Is-coed, persondy Tallarn Green, Y Gelli (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) a Llannerch Panna. Mae pob un o'r rhain yn cynnwys ffrâm bren a gwaith brics, wedi'u cyfuno yn gyffredinol â llinellau toeau amrywiol a chynllun anghymesur. Mae cynllun hardd dechrau'r 19eg ganrif yn amlwg yn achos nifer o dai dosbarth canol yn Owrtyn [Overton], fel The Quinta, â ffenestri oriel, estyll tywydd addurnol a ffenestri bwaog, a lleoliad tai fel The Brow a Min-yr-afon (Owrtyn [Overton]) sy'n manteisio ar leoliadau ar lan afon Dyfrdwy.

Yn sgîl diwygiad crefyddol y 19eg ganrif, datblygodd nifer o eglwysi a chapeli anghydffurfiol newydd, sy'n elfen wahanredol a nodweddiadol yn y dirwedd wledig yn enwedig, ac yn amrywio o arddull gothig Eglwys Santes Fair Magdalen, Llannerch Banna [Penley], a ailadeiladwyd mewn tywodfaen yn y 1870au, ac arddull Sioraidd hwyr Capel Methodistaidd Chequer (Bronington) i'r eglwys genhadol o haearn rhychog yn Knolton (Owrtyn [Overton]). Mae Eglwys y Drindod Sanctaidd, Bronington, yn fwy anarferol; eglwys o frics ydyw a droswyd o ysgubor gynharach ym 1836.