CPAT logo
Cymraeg / English
Adref Eto
Tirwedd Hanesyddol Maelor Saesneg

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Maelor Saesneg


YR AMGYLCHEDD NATURIOL

Topograffeg

Rhan o'r tir is marianol yng ngogledd y gororau yw Maelor Saesneg; mae'n ymestyn o ogledd Swydd Amwythig i dde Sir Gaer, ac mae'n gorwedd rhwng oddeutu 10 a 100m uwchben y Datwm Ordnans. Yn dopolegol, mae'n bosibl ymrannu'r ardal yn nifer o wahanol fathau o dirweddau - yr orlifdir a'r tir is yn ymyl Afon Dyfrdwy yn y gogledd a'r gogledd-ddwyrain, yr ardal donnog ganolog y mae cymoedd nentydd bychain yn torri ar ei thraws, dyffryn mwy rhychog Nant Wych ar hyd ymyl ogleddol yr ardal ac, yn olaf, cyforgors helaeth Fenn's Moss ar y ffin dde-ddwyreiniol â Swydd Amwythig.

Daeareg

Tywodfaen Coch Newydd o'r cyfnod Triasig yw'r ddaeareg solet waelodol, sy'n cynnwys tywodfeini wedi'u staenio'n goch, a phridd cleiog, gweddol feddal. Mae clog-glai yn gorchuddio rhan helaeth o'r ardal, sydd wedi deillio o glog-glai tywodlyd a chlog-glai cleiog a ddaeth o'r gogledd neu Fôr Iwerddon yn wreiddiol.

Priddoedd

Mae priddoedd a hydroleg wedi effeithio yn sylweddol ar botensial defnydd tir mewn gwahanol rannau o ardal y dirwedd hanesyddol. O bryd i'w gilydd, bydd gorlifdir gwastad afon Dyfrdwy i'r gogledd o Wrddymbre [Worthenbury] yn dioddef gan lifogydd, a cheir priddoedd glei llifwaddodol yno sy'n addas ar gyfer glaswelltir parhaol. Ar y gerlan yn ymyl afon Dyfrdwy i'r gogledd ac i'r de o Fangor, ac i'r gorllewin o Owrtyn, ceir ardaloedd o briddoedd brown siltaidd llifwaddodol sy'n draenio'n dda a phriddoedd brown priddgleiog sy'n addas ar gyfer glaswelltir a thir âr lle nad oes perygl mawr o lifogydd. Ceir band cul tebyg o bridd brown dwfn i'r gorllewin o Horseman's Green. Mae priddoedd priddgleiog mân sy'n draenio'n araf ac sydd dan ddwr yn dymhorol, a phriddoedd cleiog, yn gorchuddio'r rhan fwyaf o weddill yr ardal, sy'n nodweddiadol o glog-gleiau'r rhanbarth, ac mae'r rhain yn addas ar gyfer glaswelltir tymor byr a pharhaol a thir âr mewn ardaloedd mwy sych.

Afonydd, nentydd, llynnoedd a chorsydd

Nentydd sy'n rhedeg i'r gogledd a'r gorllewin sy'n draenio'r rhan fwyaf o ardal Maelor Saesneg, ac mae'r nentydd hyn yn bwydo Afon Dyfrdwy sy'n amffinio ochr orllewinol yr ardal. Tua'r gorllewin mae Mill Brook sy'n codi i'r de o Lightwood Green, yn ymylu ochr ddwyreiniol Bangor Is-coed, ac yn ymuno ag afon Dyfrdwy ger Neuadd Dongray. Mae cyfres o nentydd sy'n codi ar hyd ffin ddeheuol yr ardal ger Llannerch Banna [Penley] yn draenio'r rhan fwyaf o ganol Maelor Saesneg, ac mae'r nentydd hyn yn symud tuag at yr ymylon dwyreiniol ger Parc Iscoyd gan ymuno ger Halchdyn [Halghton] a rhedeg i'r gogledd fel Nant Emral. Yn Wrddymbre [Worthenbury] mae Nant Emral yn ymuno â Nant Wych sy'n codi fel Red Brook ger Fenn's Moss, yng nghornel dde-ddwyreiniol Maelor Saesneg. Mae'r ddwy nant yn nodi'r ffin genedlaethol rhwng Cymru a Lloegr. Mae Nant Emral a Nant Wych yn rhedeg i'r gogledd o Wrddymbre [Worthenbury] fel Worthenbury Brook, sy'n ymuno ag Afon Dyfrdwy ychydig i'r gorllewin o Shocklach Green, Sir Gaer. Yr afonigau sy'n draenio i Shell Brook sy'n draenio'r ardal dde-orllewinol, ac mae'r rhain hefyd yn nodi'r ffin genedlaethol ac yn ymuno ag afon Dyfrdwy uwchben Erbistog [Erbistock]. Mae nentydd sy'n bwydo Afon Roden yn Swydd Amwythig yn draenio'r gornel dde-ddwyreiniol, i'r de o Fenn's Moss.

Mae astudiaethau ystumiau afonydd yn nyffryn Dyfrdwy wedi dangos bod safle Afon Dyfrdwy ychydig ar ôl y rhewlifiant diwethaf yn agos i'w lleoliad presennol, ac wedi torri i mewn i'r clog-glai gwaelodol, wedi creu amrywiaeth o dirffurfiau a gwaddodion, gan gynnwys o leiaf dau gerlan, ac wedi gadael casgliad bylchog o sianeli afon segur, cilfaeau ystumiau ac ystumllynnoedd. Mae tystiolaeth archeolegol a thystiolaeth waddodol yn awgrymu bod hynt yr afon wedi bod yn weddol sefydlog ers y cyfnod cynhanesyddol hwyr neu oes y Rhufeiniaid. Mae nifer o'r cilfaeau ystumiau wedi'u mewnlenwi ers y canol oesoedd a cheir tystiolaeth o reolaeth gynyddol ar y llif ers oddeutu 1700.

Hanes llystyfiant

Mae rhywfaint o hanes ôl-rewlifol llystyfiant Maelor Saesneg yn hysbys o ganlyniad i astudiaethau paill a gynhaliwyd ar fawn Fenn's Moss yng nghornel dde-ddwyreiniol yr ardal, y safle ôl-rewlifol hwyr yn Chelford ym masn Sir Gaer, ac astudiaethau ystumiau afon segur Afon Dyfrdwy yn yr ardal rhwng Wrddymbre [Worthenbury] a Holt. Hyd yma, nid oes llawer o dystiolaeth fanwl o hanes newid o ran llystyfiant a hanes defnydd tir o'r astudiaethau paill ar gyfer cyfnodau cynhanesyddol hwyrach a chyfnodau mwy diweddar, er bod astudiaethau ar hen ystumiau'r afon ger Wrddymbre [Worthenbury] yn awgrymu, mewn cyfnod cynhanesyddol hwyrach o bosibl, mai coed derw a chyll agored oedd y llystyfiant naturiol yn yr amgylchoedd mwy sych. Hefyd, roedd ardaloedd o goed gwern neu ffeniau helyg mwy llaith ger y gorlifdir neu mewn dyffrynnoedd cyfagos, yn ogystal ag enghreifftiau achlysurol o goed palalwyf, llwyf a chelyn, ac mae grug yn awgrymu bod rhai ardaloedd lleoledig o rostir yn agos i'r safle. Daeth amaethyddiaeth âr ac amaethyddiaeth fugeiliol yn bwysig yn y tir o amgylch gorlifdir afon Dyfrdwy. Tyfwyd grawnfwyd yn cynnwys gwenith, haidd a cheirch; roedd ceirch yn nodweddiadol o'r oes Rufeinig-Brydeinig a chyfnodau diweddarach. Hefyd, daethpwyd o hyd i baill cywarch, a dyfwyd ar gyfer ffibrau rhaffau yn fwy na thebyg, a hynny cyn dechrau'r 18fed ganrif mae'n debyg.

Coetir

Heddiw, mae coetiroedd naturiol llydan-ddeiliog gweddilliol neu goetiroedd hynafol a ailblannwyd wedi'u cyfyngu yn bennaf i'r tir mwy serth ar hyd lannau a hen gerlannau afon Dyfrdwy, ar hyd dyffrynnoedd i'r de o Lightwood Green a Halchdyn [Halghton], ar hyn Red Brook ger Parc Iscoyd a Nant Wych i'r dwyrain o Tallarn Green ac yn yr ardal o amgylch Bettisfield Park, i'r de o Hanmer. Ceir planhigfeydd bychain yma ac acw, a phlanhigfeydd llydan-ddeiliog a chonifferaidd mwy helaeth ar y rhostir ar ymylon Fenn's Moss yng nghornel dde-ddwyreiniol yr ardal.

Fel y nodwyd uchod, mae tystiolaeth paill yn awgrymu mai coed derw a chyll agored oedd y llystyfiant naturiol cynharach yn yr amgylchoedd mwy sych, a bod ardaloedd o goed gwern neu ffeniau helyg mwy llaith ger y gorlifdir neu mewn dyffrynnoedd cyfagos. Mae enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg yn nodi bod ardal mwy helaeth o goetir naturiol i'w gael yn y gorffennol, yn enwedig ar hyd ffiniau deheuol a gogledd-ddwyreiniol yr ardal. Mae nifer o'r ffynonellau yn weddol hwyr, ond mae'n debygol bod rhai ohonynt yn dyddio o'r canol oesoedd cynnar, efallai'r 7fed neu'r 8fed ganrif. Ymhlith enwau Eingl-Sacsonaidd sy'n fwy na thebyg yn dynodi llanerchau yn y coetir mae Lightwood Green o'r Hen Saesneg leoht 'llachar, golau', ac mae Penley yn deillio o'r enw Penda a'r Hen Saesneg leah 'coed neu lannerch', sydd hefyd yn bresennol yn lleol ar y ffurf Gymraeg, sef Llannerch Banna. Mae'n bosibl bod enw Musley, sydd i'r gorllewin o Lightwood, hefyd yn cynnwys yr elfen leah. Mae arolwg Domesday, a gynhaliwyd ym 1086, yn cofnodi bod ardal helaeth o goetir yn Llys Bedydd [Bettisfield], tair lîg wrth ddwy lîg ar draws, sef ardal bron i 7 cilomedr wrth 5 cilomedr ar draws (cyfrifir yn gyffredinol bod lîg yn gyfartal i oddeutu milltir a hanner). Mae dwy elfen yr enw Cymraeg Bangor Is-coed hefyd yn arwyddocáu coetir; mae bangor yn golygu 'lloc plethwaith' ac mae'r ôl-ddodiad is-coed yn gwahaniaethu'r lle rhwng lleoedd eraill yng Nghymru â'r enw bangor.

Yn sicr, roedd coetiroedd yn parhau i gael eu clirio yn gyflym o lanerchau cychwynnol yn ystod y canol oesoedd, wrth i adnoddau'r coetiroedd hynafol gael eu defnyddio fel tanwydd a deunyddiau adeiladu, yn ogystal ag asartio i ddiwallu'r angen am fwy o dir ffermio. Gwnaed ymgais i annog Saeson i ymgartrefu ym mwrdeistref newydd Owrtyn [Overton] yn oes Brenin Edward. Er enghraifft, ym 1293 cynigwyd pren i adeiladu yn rhad ac am ddim i'r rhai a oedd yn bwriadu ymgartrefu yno, a pfren fu'r prif ddeunydd adeiladu yn yr ardal nes i friciau ddod ar gael yn fwy cyffredin o ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen. Nifer fach o gofnodion o gwympo coed ym Maelor Saesneg yn ystod y cyfnod hwn sydd wedi goroesi, ond ceir cofnodion o gwympo ardaloedd helaeth o goetiroedd cynhenid yn ardal Northwood yng ngogledd Swydd Amwythig, ychydig i'r de o Lannerch Banna [Penley], rhwng diwedd y 15fed ganrif a dechrau'r 17eg ganrif, gan adael ar ôl y clytwaith o goetiroedd sydd i'w weld yn yr ardal hyd heddiw. Mae'n amlwg bod llawer mwy o goed wedi bod yn ardal cymdogaeth Threapwood, ar ffin ogleddol Maelor Saesneg, yn y gorffennol. Mae'n arwyddocaol bod enw'r ardal yn cynnwys yr elfen threpen o'r Saesneg Canol, sy'n golygu 'coedwig ddadleuol neu amheus', oherwydd ei bod yn pontio'r ffin rhwng tiriogaethau traddodiadol Cymru a Lloegr, ac roedd yr ardal yn dal i gael ei hystyried yn lle digyfraith ac amhlwyfol nes canol y 18fed ganrif. Soniodd Thomas Pennant, yn ei gyfrol Tour in Wales a gyhoeddwyd ym 1784, yn benodol am y coed derw hybarch, sef gweddillion coedwig hynafol ger Threapwood. Mae enwau ffermydd sy'n cynnwys y 'wood' Saesneg neu'r 'celli' Cymraeg, gan gynnwys Wood Farm, Middle Wood Farm, Upper Wood Farm, Y Gelli, Fferm Gelli, a The Woodlands, wedi'u hetifeddu yn nodedig o'r coetiroedd a arferai bod yn yr ardal hon.

Rhoddwyd enwau Cymraeg neu Saesneg sy'n gysylltiedig â choed ar ffermydd mewn mannau eraill, fel Althrey Woodhouse i'r de o Fangor, Argoed i'r gogledd o Owrtyn [Overton], ill dau ar lannau afon Dyfrdwy, a Phlas yn Coed i'r gogledd o Lightwood Green. Mae'n debygol bod pob un o'r sefydliadau hyn yn bodoli erbyn diwedd yr 17eg ganrif, pan oedd y coetiroedd hynafol wedi'u lleihau mwy na heb i'r gweddillion sydd wedi goroesi hyd heddiw.

Ceir nifer o lonydd, sy'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg, ag enwau Saesneg sy'n dynodi coeden rhywogaeth benodol o lwyn, fel yn Holly Bush Lane a Birch Lane. Mae yna nifer o ffermydd a thai diweddarach ag enwau Saesneg sy'n dynodi rhywogaethau gwyllt neu amaethyddol penodol, gan gynnwys Holly Bush Farm, Oak Farm, Broad Oak Farm, Yew Tree Farm, Cherrytree Farm, Peartree Farm, a The Elms. Adeiladau â ffrâm bren o'r 17eg ganrif gynnar yw ffermdai Oak Farm a Peartree Farm ac, yn arwyddocaol, roedd Peartree Farm a Holly Bush Farm yn disodli maenordai cynharach â ffosydd o'u hamgylch.

Amgyffrediad hanesyddol o dirwedd Maelor Saesneg

Dechreuodd disgrifiadau a darluniau o dirwedd Maelor Saesneg ymddangos ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ac, er bod y rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â'r golygfeydd ar hyd afon Dyfrdwy ger Bangor Is-coed ac Overton Bridge, maent yn rhoi rhyw awgrym o ddefnydd tir sy'n dyddio, yn ôl pob tebyg, o'r newid mawr o ffermio âr i ffermio bugeiliol a aeth rhagddo yn nifer o rannau o'r ardal, mae'n ymddangos, yn ystod y canol oesoedd hwyr a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Dyma sut y disgrifiodd Samuel Lewis Bangor Is-coed:

'The adjacent scenery in many places is beautiful and richly picturesque, the noble sweeps of the Dee being frequently overshadowed by thick hanging woods, which fringe its elevated bank',

ac mae ei ddisgrifiad o Overton Bridge yn cyflwyno amgyffrediad cyfoes o ddefnydd tir a defnydd tir posibl:

'The surrounding scenery is beautifully picturesque, being composed of a great diversity of features in pleasing combination and agreeable contrast. From a ridge near the village is seen, on one side, an extensive plain of verdant meadows, enlivened by the windings of the River Dee, skirted in front by fertile and richly wooded slopes'.

Mae Thomas Pennant, ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn cyfeirio at weddillion coetir hynafol a oedd i'w weld yn ardal Threapwood, ac mae'n disgrifio ardal Hanmer fel a ganlyn:

'the part about the little town of Hanmer is extremely beautiful; varied with a lake of fifty acres, bounded on all sides with small cultivated eminences, embellished with woods'.

Mae Pennant yn dwyn sylw arbennig i'r ardal o amgylch Willington Cross, i'r de o Tallarn Green, gan nodi bod y tir 'which hitherto had been uncommonly wet and dirty, now changes to a sandy soil; and becomes broken into small rising'. Mae Lewis yn dwyn sylw tebyg at y gwahaniaethau mewn defnydd tir wrth iddo ddisgrifio'r ardal o amgylch Wrddymbre [Worthenbury]:

'The soil of the higher grounds is in general good loamy clay, producing superior crops of wheat and rich pasturage; that in the lower grounds, which is subject to partial floods from the river and some tributary brooks which intersect it, is formed of alluvial earth'